The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Credydwr yn tynnu arian allan o’ch cyfrif banc
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â thynnu arian o’ch cyfrif banc
Os yw eich credydwr wedi cymryd camau yn eich erbyn yn y llys am ddyled, mae’n bosib bod ganddynt ddyfarniad llys sirol (CCJ) neu orchymyn llys arall yn eich erbyn. Mae gorchymyn llys yn golygu bod yn rhaid i chi ad-dalu’r arian naill ai mewn rhandaliadau neu’n mewn un taliad erbyn dyddiad penodol.
Os nad ydych yn cydymffurfio â thelerau’r gorchymyn llys, mae gan eich credydwr nifer o wahanol opsiynau i geisio adennill eu harian.
Os yw eich credydwr yn meddwl bod gennych yr arian i’w talu a’ch bod yn gwrthod, neu os ydych yn disgwyl arian a fyddai’n talu’r ddyled, gallant wneud cais am orchymyn llys arall. Gelwir hyn yn gorchymyn dyled trydydd parti. Mae gorchymyn dyled trydydd parti yn caniatáu credydwr i gymryd yr arian sy’n ddyledus yn uniongyrchol oddi wrth bwy bynnag sydd gyda’r arian.
Eich banc neu gymdeithas adeiladu sydd fel arfer yn cadw’r arian ar eich cyfer. Fodd bynnag, os ydych yn disgwyl cyfandaliad megis trefniant colli swydd, etifeddiaeth neu arian o bolisi yswiriant, gall eich credydwr ofyn i’ch cyflogwr, cyfreithiwr neu gwmni yswiriant am yr arian. Dim ond digon o arian i glirio’r ddyled y gallant ei dynnu o’ch cyfrif banc.
Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn ddylech ei wneud os yw credydwr yn ceisio cael gorchymyn dyled trydydd parti yn eich erbyn, gan gynnwys sut i geisio atal y gorchymyn a’r hyn i’w wneud os yw eich cyfrif banc wedi’i rewi a’ch gadael heb unrhyw arian.
Mae’r mathau o ddyledion y mae’n bosib y bydd eich credydwr yn ceisio cael dyled gorchymyn trydydd parti ar eu cyfer yn cynnwys arian sy’n ddyledus ar fenthyciadau personol, cardiau credyd, gorddrafftiau neu drefniadau hurbrynu.
Mae gorchymyn dyled trydydd parti yn wahanol i orchymyn atafael cyflog, lle mae eich credydwr yn cael gorchymyn llys i gymryd arian o’ch cyflog.
Am fwy o wybodaeth am bryd all eich credydwr geisio am orchymyn atal cyflog, gweler Credydwr yn didynnu arian o’ch cyflog.
Am fwy o wybodaeth am y mathau eraill o gamau all eich credydwr eu cymryd i geisio adennill eu harian, gweler Cymorth ychwanegol.
Sut mae eich credydwr yn ceisio am orchymyn dyled trydydd parti
I ddarganfod p’un ai bod gennych gynilion neu daliad yn ddisgwyliedig, gall eich credydwr gael manylion eich cyfrifon banc a gwybodaeth ariannol arall. I wneud hyn, gallant wneud cais i’r llys am orchymyn i gael gwybodaeth. Bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys i dyngu llw er mwyn rhoi’r wybodaeth hon.
Os ydych yn gweithio, bydd eich credydwr hefyd am wybod pryd cewch eich pae fel ei fod yn gallu sicrhau bod y gorchymyn trydydd parti yn cyrraedd y banc ar y diwrnod pryd telir eich cyflog a’ch bod yn fwy tebygol o gael arian i’w dalu.
Nid oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag codi arian o’ch banc neu gyfrif cynilion os ydych yn meddwl bod credydwr yn mynd i geisio am orchymyn dyled trydydd parti. Fodd bynnag, mae’n bosib na fyddwch yn ymwybodol o’r gorchymyn tan ar ôl iddo gael ei wneud.
Am fwy o wybodaeth am sut all eich credydwr gael gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol, gweler Sut all credydwr gael gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol.
Rhewi eich cyfrif banc
Os yw eich credydwr am gael gorchymyn dyled trydydd parti, y cam cyntaf yw ceisio am orchymyn dros dro o’r enw gorchymyn dyled trydydd parti dros dro. Mae’r gorchymyn yn dweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu i rewi eich cyfrif. Bydd eich cyfrif yna yn cael ei rewi ond ni fydd unrhyw arian yn cael ei dalu i’ch credydwyr tan fod y barnwr wedi penderfynu ar y camau nesaf yn y gwrandawiad terfynol. Dylid cynnal y gwrandawiad terfynol o leiaf 28 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn dros dro.
Nid oes yn rhaid i’r credydwr roi manylion penodol am eich cyfrif banc i geisio am orchymyn dyled trydydd parti dros dro ond mae’n rhaid iddynt gael rheswm da dros feddwl bod gennych gyfrif gyda’r banc hwnnw.
Os ydych eisoes wedi ysgrifennu sieciau neu wedi talu eich credydwr drwy archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol, gallai hyn fod yn ddigon o dystiolaeth iddynt geisio am orchymyn.
Pan gaiff gorchymyn dros dro ei wneud, bydd y llys yn anfon copi i’ch credydwr a’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Maen nhw’n derbyn copi saith diwrnod cyn caiff ei anfon atoch chi fel nad ydych yn codi arian o’r cyfrif.
Bydd y banc yna yn rhewi eich cyfrif, hyd at y swm sy’n ddyledus i’ch credydwr. Mae’n bosib y byddant yn codi tâl am hyn.
Gall gorchymyn dyled trydydd parti dros dro achosi llawer o broblemau. Pan gaiff ei wneud, ni chewch fynediad i’r arian sydd yn eich cyfrif. Gallai hyn olygu nad ydych yn gallu talu biliau hanfodol, dyledion eraill neu hyd yn oed rheoli eich costau byw dyddiol.
Os bydd y gorchymyn yn eich gadael heb unrhyw arian ac mae hyn yn achosi caledi ariannol, mae’n bosib y gallwch geisio i’r llys am gymorth.
Os ydych yn cael rhybudd o orchymyn dyled trydydd parti dros dro, mynnwch gyngor ar unwaith gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw rhewi eich arian yn achosi caledi ariannol
Os yw eich arian wedi’i rewi, gallai achosi caledi ariannol oherwydd nad ydych yn gallu talu eich costau byw dyddiol. Os yw hyn yn wir yn eich achos chi, gallwch wneud cais i’r llys am orchymyn taliad caledi.
Defnyddiwch ffurflen N244 ar gyfer eich cais. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen oddi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk.
Pan ydych wedi ei llenwi, cymrwch y ffurflen i’ch llys gyda thystiolaeth ysgrifenedig o’ch caledi. Gall y dystiolaeth hon gynnwys:
- copïau o slipiau cyflog
- cyfriflenni banc
- manylion eich cyfrif morgais
- eich llyfr rhent
- unrhyw ddogfennau sy’n dangos eich sefyllfa ariannol.
Os bydd rhewi eich cyfrif yn effeithio ar aelodau eraill eich teulu, er enghraifft, plant neu berson hŷn sy’n byw gyda chi, esboniwch sut byddant yn cael eu heffeithio. Fe fydd yn helpu’r llys i ddod i benderfyniad teg ynghylch eich sefyllfa.
Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu am y cais hwn. Fodd bynnag, mae’n bosib nad oes yn rhaid i chi dalu’r ffi neu efallai caiff ei leihau oherwydd bod eich arian wedi’i rewi. Gofynnwch i’r llys am hyn pan ydych yn cyflwyno’r ffurflen.
Bydd barnwr yn delio â’ch achos ar yr un diwrnod yr ydych yn cyflwyno’ch ffurflen. Gallant wneud gorchymyn taliad caledi sy’n gorchymyn y banc i ryddhau swm penodol o arian i chi neu i rywun arall, megis eich partner. Bydd y gorchymyn yn cael ei ffacsio i’r banc a bydd copïau yn cael eu hanfon i’ch credydwr.
Ni fydd eich arian yn cael ei gymryd os yw’r llys yn gwneud gorchymyn dros dro. Mae’n rhaid bod gorchymyn terfynol ar gyfer hyn. I wneud gorchymyn dros dro yn orchymyn terfynol, mae’n rhaid cael gwrandawiad llys. Cewch wybod pryd caiff ei gynnal.
A allwch atal gorchymyn dyled trydydd parti rhag cael ei wneud
Gwneir gorchymyn dyled trydydd parti dros dro yn derfynol os na allwch ddangos rhesymau da dros beidio â’i wneud.
Mae’n bosib bod gennych resymau da dros ddadlau pam na ddylid ei wneud yn derfynol. Er enghraifft, gallech ddadlau:
- bod eich arian mewn cyfrif ar y cyd ac nid oes gan ddeiliad arall y cyfrif arian yn ddyledus
- bod y ddyled ar gyfer swm bach. Gallwch ddadlau bod gorchymyn trydydd parti yn gam rhy ddifrifol a bod modd ad-dalu’r ddyled yn gyflym mewn rhandaliadau. Gall barnwr wrthod gwneud gorchymyn dyled trydydd parti yn derfynol os ydynt yn ystyried bod y swm sy’n ddyledus yn rhy fach i’w gyfiawnhau
- bydd gwneud gorchymyn yn achosi llawer o galedi i chi a’ch teulu
- eich bod wedi gordynnu o’ch cyfrif
- mai arian rhywun arall sydd yn eich cyfrif
- bod eich arian mewn cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd a bydd gennych lai na £1 yn weddill pan gaiff y ddyled ei thalu. Nid yw hyn yn berthnasol i gyfrifon banc eraill.
Mae yna resymau cyfreithiol eraill a allech eu defnyddio i ddadlau yn erbyn gwneud y gorchymyn dros dro yn derfynol. Mae o hyd yn syniad da i gael cyngor ymgynghorydd profiadol os yw eich credydwr yn ceisio am orchymyn dyled trydydd parti.
Gallwch gael help i ddadlau yn erbyn gorchymyn dyled trydydd parti terfynol gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth sy'n digwydd os yw'r gorchymyn dyled trydydd parti yn cael ei wneud yn derfynol
Os yw’r gorchymyn dyled trydydd parti yn cael ei wneud yn derfynol a bod yr arian yn cael ei gymryd o’ch cyfrif banc, mae’n rhaid i’r banc dalu eich credydwr naill ai:
- y swm yn eich cyfrif banc ar ddyddiad y gorchymyn dros dro neu
- ddigon i dalu’r swm sy’n weddill ar y dyfarniad llys sirol neu orchymyn llys arall.
Bydd y gorchymyn dyled trydydd parti yn effeithio ar yr arian yn eich cyfrif banc ar y dyddiad pan dderbyniodd y banc gopi o’r gorchymyn dros dro. Nid yw’n rhewi arian a delir i mewn i’r cyfrif yn hwyrach.
Os ydych wedi gordynnu o’ch cyfrif ar y diwrnod y caiff y gorchymyn trydydd parti ei anfon at eich banc, ni fydd eich credydwyr yn cael eu harian oherwydd ni fydd digon o arian i dalu’r ddyled. Os telir arian i mewn i’ch cyfrif ar ôl y dyddiad hwn, ni ellir ei ddefnyddio i ad-dalu’r ddyled.
Cymorth ychwanegol
Ar Adviceguide
- Credydwr yn mynd â chi i’r llys am ddyled
- Newid gorchymyn llys am ddyled
- Beilïaid
- Credydwr yn didynnu arian o’ch cyflog
- Gorchmynion arwystlo
- Sut all credydwr gael gwybodaeth ynglyn â’ch arian
- Cyllidebu
- Cymorth gyda dyled









