The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Gorchmynion arwystlo
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â gorchmynion arwystlo
Os yw eich credydwr wedi mynd â chi i’r llys oherwydd dyled, mae’n bosib bod ganddynt ddyfarniad llys sirol (CCJ) neu orchymyn llys arall yn eich erbyn. Dyma pan fydd y llys yn eich gorchymyn i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych. Mae gorchymyn llys yn golygu eich bod naill ai yn gorfod gwneud taliadau rheolaidd i’ch credydwr neu ad-dalu’r ddyled gyfan erbyn dyddiad penodol.
Os nad ydych yn cydymffurfio â thelerau’r gorchymyn llys, mae gan eich credydwyr opsiynau eraill i’ch gorchymyn i dalu. Un o’r rhain yw cael gorchymyn arall o’r enw gorchymyn arwystlo. Mae gorchymyn arwystlo yn gwarantu’r ddyled yn erbyn eich cartref neu eiddo arall. Mae hyn yn gwneud y ddyled yn ddifrifol iawn. Mae’n golygu y gallech golli eich cartref os nad ydych yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Unwaith y bydd gorchymyn arwystlo yn cael ei wneud, gall eich credydwr wneud cais am orchymyn arall i’ch gorfodi i werthu eich cartref. Gelwir hyn yn orchymyn gwerthu.
Mae’n bosibl rhwystro gorchymyn arwystlo yn eich erbyn ac y mae yna sawl dadl y gallwch eu rhoi gerbron y barnwr i geisio’u perswadio nad yw gorchymyn arwystlo yn angenrheidiol.
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth mae gwneud os yw eich credydwr yn ceisio cael gorchymyn arwystlo yn eich erbyn a beth allwch ei wneud i geisio atal hynny rhag digwydd. Mae hefyd yn esbonio beth sy’n digwydd pan wneir gorchymyn arwystlo, ac os all credydwr eich gorfodi i werthu’ch eiddo.
Os ydyw’ch credydwr yn ceisio cael gorchymyn arwystlo, fe ddylech chi gael cymorth ar frys oddi wrth ymgynghorydd dyled arbenigol yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â CCJs a gorchmynion llys pan mae arnoch chi arian, gweler Mynd â chi i’r llys oherwydd dyled.
Pryd all eich credydwr wneud cais am orchymyn arwystlo
Gall eich credydwr wneud cais am orchymyn arwystlo dim ond os ydyn nhw eisoes wedi cael dyfarniad llys sirol (CCJ) neu orchymyn llys arall yn eich erbyn a chwithau heb gadw at delerau’r gorchymyn. Er enghraifft:
- efallai eich bod wedi’ch gorchymyn i ad-dalu'r ddyled i gyd erbyn dyddiad arbennig, a heb wneud hynny. Gelwir hyn yn ddyfarniad ar unwaith
- efallai eich bod wedi methu un neu ddau daliad i’ch credydwr.
Rhaid i gredydwr fynd â chi i’r llys i gael gorchymyn arwystlo.
Beth os nad ydw i wedi torri telerau’r CCJ?
Os yw credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo a chwithau heb dorri unrhyw un o delerau’r CCJ neu orchymyn llys arall, mae’n bwysig cael rhywfaint o gyngor ynglŷn â beth i’w wneud. Os ydych chi yn y sefyllfa hon rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad lle gwneir y gorchymyn a dangos tystiolaeth i’r barnwr eich bod wedi cadw at delerau’r gorchymyn llys gwreiddiol. Os na wnewch chi hyn, fe allech chi gael eich gorfodi i werthu’ch cartref hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud dim byd o’i le.
Beth allaf ei wneud ynglyn â dyfarniad ar unwaith?
Mae rhai credydwyr yn gofyn am ddyfarniad ar unwaith oherwydd eu bod yn gwybod na fyddwch yn gallu talu erbyn y dyddiad ar y gorchymyn. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ofyn am orchymyn arwystlo yn gyflym iawn ar ôl i’r CCJ gael ei roi ac efallai gorfodi gwerthiant eich eiddo. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu harian yn ôl er efallai yn annheg i chi oherwydd petaech chi wedi cael mwy o amser i ad-dalu’ch dyled, fe allech wneud hyn heb golli’ch cartref.
Os rhoddir dyfarniad ar unwaith i chi a chwithau’n credu y gallech chi ad-dalu’r ddyled o gael mwy o amser, efallai y gallech gael y dyfarniad ar unwaith wedi’i newid. Bydd angen i chi weithredu’n gyflym iawn.
Mae’n well cael cymorth oddi wrth ymgynghorydd arbenigol i wneud hyn. Fe allan nhw eich helpu i roi’ch dadleuon am newid y gorchymyn ar unwaith gerbron y barnwr.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael gorchymyn llys wedi’i newid, gweler Newid gorchymyn llys am ddyled.
Fe allwch chi gael help i newid gorchymyn llys oddi wrth ymgynghorydd dyled arbenigol yn eich swyddfa Cyngor ar bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth yw gorchymyn arwystlo
Mae gan gais am orchymyn arwystlo bob amser ddau gam. Y rhain yw gorchymyn dros dro a gorchymyn terfynol.
Fel arfer rhoddir gorchymyn dros dro gan y llys i’ch rhwystro chi rhag gwerthu’ch eiddo cyn gallu gwneud y gorchymyn terfynol a hynny heb yn wybod i’ch credydwr.
Os yw llys yn rhoi gorchymyn terfynol i’ch credydwr, mae hyn yn golygu os ydych chi’n gwerthu’ch eiddo bod yn rhaid i chi dalu’r credydwr allan o’r enillion.
Os yw’ch credydwr yn cael gorchymyn arwystlo terfynol, nid yw hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi werthu’ch eiddo. Os ydyw’ch credydwr am eich gorfodi i werthu’ch eiddo, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud cais i’r llys am orchymyn pellach a elwir yn orchymyn gwerthu.
Fe allwch chi ddadlau yn erbyn i’ch credydwr gael gorchymyn arwystlo terfynol neu orchymyn gwerthu. Fe allwch hi hefyd ofyn am gysylltu amodau wrth y gorchymyn arwystlo terfynol fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r credydwr i orfodi gwerthiant.
Gorchmynion arwystlo dros dro
Fel arfer gwneir gorchymyn arwystlo dros dro yn awtomatig ac anfonir copi i chi. Bydd y llys yn penderfynu yn y fan hon pa bryd y bydd gwrandawiad llawn yn digwydd.
Nid yw gorchymyn arwystlo dros dro yn golygu fod gorchymyn arwystlo wedi’i wneud yn eich erbyn. Bydd angen gwrandawiad o hyd er mwyn gwneud y gorchymyn arwystlo yn un terfynol ac fe gewch chi gyfle o hyd i ddadlau yn ei erbyn.
Yn y gwrandawiad terfynol bydd y llys yn penderfynu ynglŷn â gwneud y gorchymyn arwystlo dros dro yn un terfynol ai peidio. Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynychu’r gwrandawiad.
Dylai’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad terfynol fod o leiaf 21 diwrnod ar ôl i chi dderbyn y gorchymyn arwystlo dros dro. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i chi i baratoi’ch dadleuon ynglŷn â pham na ddylai’r gorchymyn arwystlo ddigwydd.
Os ydych chi am wrthwynebu gorchymyn arwystlo terfynol, rhaid i chi anfon tystiolaeth ysgrifenedig at y llys a’ch credydwr yn nodi’ch dadleuon. Rhaid i chi wneud hyn o leiaf saith diwrnod cyn y gwrandawiad llys. Anfonwch eich holl ddogfennau trwy ddosbarthiad a gofnodwyd fel bod gennych gofnod rhag ofn i bethau fynd ar goll.
Pan fydd eich credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo dros dro, rhaid iddyn nhw roi tystiolaeth mai chi sy berchen yr eiddo y maen nhw am y gorchymyn arwystlo ar ei gyfer, cadarnhau bod gennych ôl-ddyledion gyda’ch CCJ a hefyd fanylion am yr holl gredydwyr eraill y gwyddant amdanynt.
Os nad oes ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen, fe allan nhw fynd â chi i’r llys i gael gorchymyn i gael gwybodaeth. Os gofynnir i chi am fynd i’r llys, fe fydd yn rhaid i chi ateb llawer o gwestiynau am eich sefyllfa ariannol a thyngu llw bod y wybodaeth a roddir gennych yn wir.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gall credydwr gael gorchymyn i gael gwybodaeth, gweler Sut y gall credydwr gael gwybodaeth am eich arian.
Pan fydd eich credydwr yn gwneud cais am orchymyn dros dro, fe fyddan nhw hefyd yn cofrestru rhybudd ar eich eiddo gyda’r Gofrestrfa Tir. Mae hyn yn golygu na ellir gwerthu’r eiddo heb yn wybod i’ch credydwr.
Os allwch chi ad-dalu’r ddyled i gyd yn y fan hon fe allwch gael y gorchymyn wedi’i symud o’r Gofrestrfa Tir.
Fe allwch chi gael cyngor ynglŷn â chael gorchymyn wedi’i symud o’r Gofrestrfa Tir oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gorchmynion arwystlo terfynol
Bydd gwrandawiad llys i benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn arwystlo terfynol ai peidio.
Rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad. Os nad ewch chi i’r gwrandawiad, fe wneir gorchymyn arwystlo terfynol yn awtomatig.
Yn y gwrandawiad, bydd y barnwr yn edrych ar y dystiolaeth a anfonwyd gennych i ddweud pam nad ydych am i orchymyn arwystlo cael ei wneud.
Fe fyddan nhw hefyd yn edrych ar ddadleuon eich credydwr.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth ar y ddwy ochr, bydd y barnwr yn penderfynu pa un ai i wneud gorchymyn arwystlo terfynol ai peidio.
Os gwneir gorchymyn arwystlo terfynol, gall eich credydwr naill ai aros hyd nes y byddwch chi’n gwerthu’ch eiddo neu wneud cais i’r llys am orchymyn gwerthu. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud cais am orchymyn gwerthu os ydyn nhw am i chi werthu’ch eiddo ar unwaith.
Mae amryw ddadleuon y gallwch eu defnyddio i berswadio’r barnwr i beidio â rhoi gorchymyn arwystlo i’ch credydwr.
Efallai y gallwch chi hefyd berswadio’r barnwr i gysylltu amodau â’r gorchymyn arwystlo sy’n golygu na all eich credydwr eich gorfodi i werthu’ch eiddo neu sy’n ei gwneud yn anoddach iddynt i wneud hyn.
Fe allwch chi gael help i roi’ch dadleuon gerbron y llys ac i ofyn am amodau i gael eu cysylltu â’r gorchymyn arwystlo oddi wrth ymgynghorydd profiadol yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Allwch chi atal gorchymyn arwystlo terfynol rhag digwydd
Yn y gwrandawiad ar gyfer gorchymyn arwystlo terfynol, rhaid i’r llys ystyried holl amgylchiadau’r achos cyn penderfynu rhoi’r gorchymyn ai peidio ac mae’ch sefyllfa bersonol chi’n bwysig iawn.
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio un o’r dadleuon canlynol i berswadio’r barnwr na ddylid rhoi gorchymyn arwystlo.
Mae gennych ychydig iawn neu dim ecwiti yn eich eiddo
Ecwiti ydyw’r cyfanswm elw fyddwch chi’n ei wneud ar eich eiddo ar ôl ei werthu ac ad-dalu’r morgais. Os mai ychydig neu dim ecwiti o gwbl sydd yn yr eiddo, fydd eich credydwr ddim yn cael eu harian yn ôl os gwerthir ef. Gall hyn fod yn berthnasol lle mae’n rhaid talu’n ôl y morgais a benthyciadau eraill wedi’u gwarantu yn gyntaf neu lle mae gwerth eich eiddo yn isel.
Nid yw credydwyr eraill yn gofyn am orchymyn arwystlo
Os oes gennych fwy nag un credydwr, gall y lleill fod wedi cytuno i’ch gadael i ad-dalu eu dyledion mewn rhandaliadau, yn hytrach na gofyn am orchymyn arwystlo. Efallai y gallwch ddadlau na ddylech chi orfod rhoi gorchymyn arwystlo i un credydwr os nad oes un o’r lleill yn credu ei fod yn angenrheidiol - yn enwedig os oes arnoch chi fwy o arian i’r lleill.
Mae gan gredydwyr eraill flaenoriaeth
Efallai bod gennych gredydwyr eraill y mae’n rhaid eu talu’n gyntaf allan o enillion gwerthu’ch tŷ. Gall hyn adael ychydig neu dim arian ar ôl i ad-dalu’r credydwr sy’n gofyn am orchymyn arwystlo ac felly ni fyddai pwynt iddynt gael gorchymyn arwystlo.
Mae gorchymyn arwystlo yn annheg i'r bobl sy'n byw gyda chi
Efallai y gallwch chi ddadlau y byddai pobol eraill sy’n byw gyda chi, megis plant, person hŷn neu rywun ag anabledd, yn cael eu heffeithio’n ddirfawr petai’n rhaid gwerthu’ch cartref.
Mae yna ffyrdd eraill i ad-dalu'r ddyled
Efallai y bydd hi’n bosibl dadlau fod yna ffyrdd eraill o ad-dalu’r ddyled yn hytrach na thrwy orchymyn arwystlo. Fe allai rhai o’r rhain fod yn well i chi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae ffyrdd eraill o ad-dalu’r ddyled yn cynnwys:
- gorchymyn rhandaliad, lle rydych chi’n ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych mewn rhandaliadau
- gorchymyn atafaelu enillion, lle didynnir arian sy’n ddyledus allan o’ch cyflog. Byddai hwn yn ddefnyddiol dim ond os ydych chi’n gyflogedig a’ch cyflogaeth heb fod mewn perygl
- gorchymyn gweinyddu. Fe allech chi ofyn am hwn os oes arnoch ddyledion credyd sy’n llai na £5000 i fwy nag un credydwr. Mae gorchymyn gweinyddu yn caniatáu i chi wneud un taliad rheolaidd i’r llys. Mae swm y taliadau yn dibynnu ar yr hyn y gallwch fforddio’i dalu. Mae’r llys wedyn yn rhannu’r arian ac yn talu i’ch credydwyr y swm mwyaf teg yn eu barn hwy. Cyhyd â’ch bod yn cadw i wneud taliadau, ni all eich credydwyr gymryd unrhyw gamau pellach yn eich erbyn, er fe allan nhw ofyn am gael adolygu’r penderfyniad
- gorchymyn Amser. Mae hwn yn orchymyn sy’n ymestyn hyd yr amser sydd gennych i dalu’r ddyled. Fe allwch chi hefyd newid y swm yr ydych yn ei dalu bob mis. Mae gorchmynion amser yn ddefnyddiol iawn os ydych chi am stopio neu leihau cyfanswm y llog yr ydych yn ei dalu ar ben eich dyled. Rhoddir gorchmynion amser ar ddyledion credyd megis cardiau credyd neu fenthyciad arall yn unig.
Fe allai fod yna ddadleuon eraill y gallwch eu defnyddio i berswadio barnwr i beidio rhoi gorchymyn arwystlo terfynol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol cyn y gwrandawiad.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorchmynion atafaelu enillion, gweler Credydwr yn tynnu arian allan o’ch cyfrif banc.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorchmynion gweinyddu, gweler Opsiynau ar gyfer delio â dyled.
Fe allwch gael help i gyflwyno’ch achos mewn gwrandawiad gorchymyn arwystlo oddi wrth ymgynghorydd profiadol yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth allwch ei wneud ar ôl i'r gorchymyn arwystlo terfynol gael ei wneud
Os bydd y llys yn penderfynu rhoi gorchymyn arwystlo terfynol, fe allwch chi:
- wneud cais am roi’r gorchymyn o’r neilltu
- ofyn am gysylltu amodau â’r gorchymyn arwystlo
- gael y gorchymyn arwystlo wedi’i newid.
Gwneud cais am i’r gorchymyn arwystlo gael ei roi o’r neilltu
Os yw’r gorchymyn arwystlo terfynol wedi’i wneud, efallai y gallwch chi wneud cais i’r llys am iddo gael ei roi o’r neilltu. Mae hyn yn golygu fod y ddyled yn mynd yn ôl i’r cam dyfarnu a bydd yn rhaid i’ch credydwr wneud ail gais i’r llys os ydynt am gymryd camau pellach. Fe all hyn roi mwy o amser i chi i ad-dalu’r ddyled.
Fe allwch chi wneud hyn hefyd os ydych chi’n credu nad yw’r llys wedi ystyried eich amgylchiadau yn gywir. Rhaid i chi wneud y cais hwn cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl i’r gorchymyn arwystlo ddod yn derfynol.
Er mwyn gwneud cais, defnyddiwch ffurflen llys N244. Fe allwch chi lawrlwytho ffurflenni’r llys o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk.
Fe all fod yn anodd iawn cael y gorchymyn arwystlo wedi’i roi o’r neilltu. Fe allwch chi gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud, yn ogystal â chymorth i lenwi ffurflen y llys, oddi wrth ymgynghorydd yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnoch i roi’ch dadleuon gerbron y llys a gofyn am i amodau gael eu cysylltu â’r gorchymyn arwystlo. Fe allwch gael cyngor ynglŷn â hyn oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gofyn am i amodau gael eu cysylltu â’r gorchymyn arwystlo
Efallai y byddwch yn gallu perswadio’r barnwr i gysylltu amodau wrth y gorchymyn arwystlo, sy’n golygu na all eich credydwr eich gorfodi i werthu’ch eiddo ar unwaith. Er enghraifft, fe allwch ofyn:
- am i’ch eiddo beidio cael ei werthu tra bydd eich plant yn dal yn yr ysgol, neu
- am i’r gorchymyn terfynol gael ei ddileu cyhyd ag y byddwch chi’n cadw at gynllun talu y cytunwyd arno.
Fe allai fod amodau eraill y gallwch ofyn amdanynt, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnoch i roi’ch dadleuon gerbron y llys a gofyn am i amodau gael eu cysylltu â’r gorchymyn arwystlo. Fe allwch gael cyngor ynglŷn â hyn oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Newid gorchymyn arwystlo terfynol
Os oes amodau wedi’u cysylltu wrth y gorchymyn arwystlo, efallai y byddwch yn gallu gofyn i’r llys am eu newid os ydyw’ch amgylchiadau ariannol yn newid.
Er enghraifft, fe all y gorchymyn arwystlo ddweud fod yn rhaid i chi ad-dalu’ch credydwr mewn rhandaliadau. Fe allwch ofyn i’r llys am newid swm y rhandaliadau neu ddyddiad y rhandaliad olaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael gorchymyn llys wedi’i newid, gweler Newid gorchymyn llys am ddyled.
Fe allwch gael cyngor ynglŷn â sut mae newid gorchymyn arwystlo, yn cynnwys cymorth i lenwi’r ffurflen llys, oddi wrth ymgynghorydd yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth sy’n digwydd os oes gorchymyn gwerthu
Unwaith y byddan nhw wedi cael gorchymyn arwystlo terfynol, gall eich credydwr wneud cais am orchymyn gwerthu. Gorchymyn llys ydyw hwn sy’n eich gorfodi i werthu’ch eiddo ac ad-dalu’r hyn sydd arnoch i’ch credydwr allan o elw’r gwerthiant.
Bydd angen gwrandawiad llys arall, ac y mae’n bwysig iawn i chi fynychu hwn. Mae i fyny’r llys i benderfynu rhoi gorchymyn gwerthu ai peidio.
Pam mae credydwr yn penderfynu gwneud cais am orchymyn gwerthu
Unwaith y byddan nhw wedi cael gorchymyn gwerthu, bydd rhai credydwyr yn barod i aros i chi i werthu’ch cartref pa bryd bynnag y byddwch chi’n barod, rhywbryd yn y dyfodol. Sut bynnag, bydd eraill yn gwneud cais am orchymyn gwerthu ar unwaith. Fe all hyn fod yn wir hyd yn oed os oes arnoch chi swm bychan o arian iddynt o’i gymharu â gwerth eich cartref.
Mae p’un a yw credydwr yn barod i aros ai peidio yn dibynnu ar ba mor gyflym y maen nhw am eu harian yn ôl. Fe allan nhw hefyd gymryd un o’r pethau canlynol i ystyriaeth:
- os ydych chi’n gallu ad-dalu’r arian o fewn amser rhesymol mewn ffordd arall. Er enghraifft, efallai y gallwch chi wneud taliadau rheolaidd neu godi cyfandaliad i glirio’r ddyled. Ond os rhoddwyd amser i chi i ad-dalu’r arian pan wnaed y gorchymyn arwystlo terfynol a chwithau heb gadw at eich cytundeb, mwy na thebyg y byddan nhw’n gwneud cais am orchymyn gwerthu
- os oes morgeisi eraill neu fenthyciadau wedi gwarantu i’w had-dalu yn gyntaf, allan o enillion y gwerthiant. Os oes yna ddyledion eraill sydd angen eu had-dalu yn gyntaf, efallai na fydd eich credydwr yn ennill dim byd wrth eich gorfodi i werthu’ch cartref
- faint o ecwiti sydd yn yr eiddo. Ecwiti ydyw’r cyfanswm elw fyddwch chi’n ei wneud ar eich eiddo ar ôl ei werthu ac ad-dalu’r morgais. Os mai ychydig neu dim ecwiti o gwbl sydd yn yr eiddo, efallai na fydd yn werth i’ch credydwr eich gorfodi i werthu’ch cartref
- os ydyn nhw’n credu eich bod yn fwriadol wedi gwrthod ad-dalu’r ddyled er eich bod yn gallu gwneud hynny
- os ydyn nhw’n credu mai’ch gorfodi chi i werthu’ch eiddo ydyw’r unig ffordd realistig o gael eu harian yn ôl.
Sut fydd y llys yn penderfynu rhoi gorchymyn gwerthu ai peidio
Os bydd eich credydwr yn penderfynu gwneud cais am orchymyn gwerthu, fe ofynnir i chi am fynd i’r llys. Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r gwrandawiad llys er mwyn iddyn nhw wybod am eich sefyllfa.
Ceisiwch gael rhywfaint o gyngor cyn gynted ag sy’n bosibl cyn diwrnod y gwrandawiad llys am orchymyn gwerthu. Os allwch chi, ewch â chynrychiolydd cyfreithiol gyda chi megis ymgynghorydd arbenigol. Efallai y cewch chi gymorth gyda’ch costau cyfreithiol.
Gall y sefyllfa gyfreithiol fod yn gymhleth iawn ac efallai y gallwch chi gyflwyno nifer o ddadleuon cyfreithiol personol pam na ddylid gwerthu’r eiddo.
Gall y llys orchymyn gwerthiant lle:
- mae’r ddyled yn eich enw chi’n unig a chi ydyw unig berchennog yr eiddo, neu
- mae’r ddyled yn enwau'r rhai sy’n berchen yr eiddo ar y cyd.
Os ydyw’r ddyled yn eich enw chi’n unig a’r eiddo yn enwau ar y cyd, gall y credydwr wneud cais am orchymyn gwerthu er mwyn sicrhau eu buddiant yn yr eiddo. Fe fydd gan eich credydwr fuddiant yn eich rhan chi o’r eiddo pan wnaed y gorchymyn arwystlo terfynol.
Os oes perchnogion ar y cyd o’r eiddo ond bod y ddyled yn eich enw chi’n unig, fe all fod yn fwy anodd i gredydwyr gael gorchymyn gwerthu. Dyna pam mae’n holl bwysig i bob perchen ar y cyd i fynd i’r gwrandawiad llys am orchymyn gwerthu, er mwyn iddynt esbonio’i sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys gŵr neu wraig sy ddim yn berchennog ar y cyd, ond a fydd â buddiant llesiannol yn yr eiddo.
Gall y llys benderfynu os ydyw’n annheg i orfodi rhywun sy ddim yn gyfrifol am y ddyled i adael eu cartref.
Bydd hefyd yn edrych ar les yr holl deulu a phenderfynu os ydyw’r rhain yn bwysicach na rhai’r credydwr. Bydd rhai o’r pethau a gymerir i ystyriaeth yn cynnwys:
- oes digon o ecwiti yn yr eiddo i dalu’r morgais, a dyled y gorchymyn arwystlo? Os nad oes, efallai na fydd yn werth i’ch gorfodi i werthu’ch cartref.
- y rhesymau pam y prynoch chi’ch cartref. Ai’r bwriad oedd iddo fod yn gartref i’r teulu dros dymor hir, neu i berson hyn fyw yno yn ystod eu bywyd?
- lles unrhyw blant. Oes yna bethau arbennig i’w hystyried megis oedran, anabledd neu salwch? Beth fyddai'r effaith ar y plant o orfod symud ac oes angen sefydlogrwydd yn yr ysgol
- mae yna ffyrdd eraill o ad-dalu’r ddyled. Megis gyda gorchymyn rhandaliadau, gorchymyn gweinyddu, neu orchymyn atafaelu enillion.
Os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, fe ddylech wneud yn siŵr fod y llys yn gwybod amdanynt.
Fe allwch ddal i gynnig taliad yn y fan hon a gofyn i’r llys i beidio gorchymyn gwerthu cyhyd â’ch bod chi yn cadw at y taliadau. Fe ddylech ddarparu datganiad ariannol llawn o’ch amgylchiadau. Fe allwch chi ofyn i’r llys am ohirio’r achos gorchymyn gwerthu, neu i atal y gorchymyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â darparu datganiad ariannol, gweler Sut i weithio allan eich cyllideb. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu ar-lein i gwblhau’r datganiad ariannol.
Beth os fydd y llys yn rhoi gorchymyn gwerthu
Os gwneir y gorchymyn gwerthu ac nid ei atal, fel arfer rhoddir 28 diwrnod i chi dalu’r ddyled neu adael yr eiddo. Os nad ydych chi’n talu’r ddyled neu adael yr eiddo o fewn 28 diwrnod, gall eich credydwr wneud cais i’ch gorfodi i adael yr eiddo. Gelwir hwn yn warant meddiannu.
Os byddwch chi’n colli’ch eiddo, efallai y bydd angen cyngor arnoch ynglŷn âg ail-gartrefu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd os oes gwarant meddiannu am eich eiddo, gweler Ôl-ddyledion Morgeisi.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dod o hyd i lety a chael eich ail-gartrefu, gweler Dod o hyd i lety.
Sut mae gorchymyn arwystlo yn effeithio’r bobol sy’n byw gyda chi?
Os ydych chi’n berchen ar eich eiddo ar y cyd gyda rhywun megis gŵr neu bartner sifil ac mae’r ddyled yn enwau’r ddau ohonoch, bydd y llys yn gallu gwneud gorchymyn arwystlo neu orchymyn gwerthu ar yr eiddo i gyd.
Os ydyw’r ddyled yn eich enw chi’n unig a’r eiddo yn enwau’r ddau ohonoch, gall y llys wneud gorchymyn arwystlo ar eich rhan chi o’r eiddo yn unig.
Gall pobol eraill sy’n byw gyda chi, megis gŵr, gwraig neu bartner sifil sy ddim yn berchen ar yr eiddo, ddatgan buddiant llesiannol yn yr eiddo. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i’r llys ystyried sut y bydd gwneud gorchymyn arwystlo neu orchymyn gwerthu yn eu heffeithio hwy.
Mae angen i’r llys ystyried sut y bydd gwneud gorchymyn arwystlo yn effeithio pob un o’r bobol sy’n byw gyda chi ac os byddai hyn yn achosi caledi neu ddioddefaint iddynt. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n llai posibl i gredydwr gael gorchymyn arwystlo neu orchymyn gwerthu. Dyna pam y mae’n bwysig iawn i’r llys wybod am y bobol hyn.
Mae’n bwysig iawn hefyd i’r bobol sy’n byw gyda chi i wybod am y gwrandawiadau llys. Fe ddylid rhoi’r cyfle i berchennog ar y cyd, gŵr, gwraig neu bartner sifil i fynd i’r gwrandawiad llys a dweud wrth y barnwr sut y byddai gorchymyn arwystlo yn eu heffeithio hwy neu unrhyw aelodau o’r teulu sy’n byw gyda nhw.
Mae’r pethau y gallai person sy’n byw gyda chi ddweud wrth y llys yn cynnwys:
- pam ddylen nhw golli eu cartref pan nad y nhw sy mewn dyled
- mae yna blant, neu berson hŷn neu anabl yn byw yn yr eiddo. Fe allwch chi ofyn i’r llys am i’r gorchymyn arwystlo gynnwys amod sy’n atal yr eiddo rhag cael ei werthu hyd nes bydd y plant wedi tyfu i fyny
- yr angen i aros yn agos at y gwaith neu ysgol a’r anhawster i ddod o hyd i lety addas i symud iddo yn yr ardal
- os mai nhw dalodd y blaendal i brynu’r cartref
- os ydyn nhw wedi bod yn talu’r taliadau morgais.
Talu gorchymyn arwystlo
Os ydych chi’n talu’r swm sy’n ddyledus gennych o dan y gorchymyn arwystlo, fe allwch chi wneud cais i’r llys i’r gorchymyn gael ei ryddhau. Gofynnwch i’r llys am dystysgrif diwallu ar eich dyfarniad llys sirol gan gynnwys tystiolaeth o’ch taliad.
Fe allwch chi wedyn ddefnyddio’r dystysgrif i gael newid y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon. Dylai hyn ei gwneud hi’n haws i chi gael credyd.
Mae’n arferol i gredydwyr i hysbysu’r Gofrestrfa Tir fod y gorchymyn arwystlo dros dro a’r gorchymyn arwystlo terfynol wedi’u rhyddhau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â newid cofnod yng Nghofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon, gweler Sut mae dyfarniadau llys sirol yn effeithio ar eich sgôr credyd [
41 KB].
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Credydwr yn mynd â chi i’r llys oherwydd dyled
- Newid gorchymyn llys am ddyled
- Beilïaid
- Credydwr yn didynnu arian o’ch cyflog
- Credydwr yn tynnu arian allan o’ch cyfrif banc
- Sut y gall credydwr gael gwybodaeth am eich arian
- Cyllidebu
- Cymorth gyda dyled
- Cymorth i bobol ddigartref









