Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Beth sy’n digwydd os yw beilïaid yn cael mynediad

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Beth sy’n digwydd os yw beilïaid yn cael mynediad

Os oes gennych arian yn ddyledus, mae gan eich credydwr amryfal opsiynau i’w cymryd er mwyn adennill ei arian. Un o’r opsiynau hyn yw gofyn i feilïaid gymryd eich eiddo.

Os nad yw beilïaid wedi bod yn eich cartref o’r blaen, y rheol gyffredinol yw na allant gael mynediad oni bai bod ganddynt eich caniatâd chi neu oedolyn arall. Nid oes raid i chi roi caniatâd iddynt. Fodd bynnag, mae gan feilïaid yr hawl i gael mynediad heb eich caniatâd os allant fynd i mewn heb ddefnyddio grym. Gelwir hyn yn mynediad heddychol.

Os yw beilïaid yn cael mynediad i’ch cartref, mae’n rhaid iddynt ddilyn rheolau penodol cyn mynd â’ch pethau i ffwrdd. Mae rhai o’r rheolau yn dechnegol iawn ac mae’n bosib y bydd angen cyngor arbenigol arnoch i herio’r beilïaid ynghylch y rheolau hyn.

Mae’n rhaid bod y beilïaid wedi’u hawdurdodi i gymryd camau yn eich erbyn. Pan ydynt yn ymweld â chi, mae’n syniad da i ofyn i weld y dogfennau sy’n dangos yr awdurdod hwn. Yna gall y beilïaid:

  • chwilio eich cartref
  • benderfynu pa bethau i’w cymryd a’u gwerthu. Gelwir hyn yn atafaelu eich nwyddau. Mae yna reolau ynglŷn â beth all y beilïaid eu hatafaelu a’r pethau mae’n rhaid iddynt eu gadael. Mae yna hefyd reolau ynglŷn â sut mae’n rhaid i’r beilïaid ymddwyn.
  • roi eich nwyddau dan glo. Term technegol yw hwn. Dyma pan mae’r beilïaid yn rhoi’r nwyddau dan reolaeth y gyfraith.

Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn sy’n digwydd pan gaiff y beilïaid fynediad, gan gynnwys:

Nôl i’r brig


Pa bethau all y beiliaid eu cymryd

Gall y beiliaid gymryd:

  • pethau sy’n berchen i chi, oni bai am eitemau amddiffynedig
  • weithiau, pethau yr ydych yn berchen arnynt ar y cyd
  • mewn rhai achosion, arian neu sieciau ar gyfer arian sy’n ddyledus i chi.

Yn y mwyafrif o achosion, dim ond y pethau sy’n eiddo i chi gall y beilïaid eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys pethau yr ydych yn berchen arnynt ar y cyd gyda pherson arall.

Ni all beilïaid gymryd nwyddau eich partner. Weithiau gall beilïaid honni bod unrhyw beth sy’n eiddo i’ch partner yn eiddo i’r ddau ohonoch ac felly gallant gymryd y nwyddau wrthoch. Os yw hyn yn digwydd, mynnwch gyngor.

O ran ôl-ddyledion y dreth gyngor, gall y beilïaid gymryd nwyddau (gan gynnwys pethau yr ydych yn berchen arnynt ar y cyd) sy’n eiddo i’r person sydd wedi’i enwi ar y gorchymyn atebolrwydd.

Nôl i’r brig


Pethau nad oes hawl gan y beilïaid eu cymryd

Nid oes hawl gan y beilïaid gymryd

Eitemau amddiffynedig

Yn y mwyafrif o achosion, nid oes hawl gan y beilïaid i gymryd yr eitemau amddiffynedig canlynol:

  • dillad
  • dillad gwely
  • offer hanfodol y cartref
  • celfi angenrheidiol ar gyfer eich anghenion domestig sylfaenol
  • offer, llyfrau, cerbydau a chyfarpar arall sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith.

Ni ellir cymryd darnau gosod a gosodiadau megis cwpwrdd dillad gosod.

O ran y dreth incwm a TAW, nid oes unrhyw nwyddau amddiffynedig ond mae’n rhaid i Gyllid a Thollau EM (HMRC) gydymffurfio â’r rheolau uchod.

Os yw’r beilïaid yn atafaelu nwyddau amddiffynedig, neu nwyddau sy’n eiddo i berson arall, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Mae yna wahanol reolau ac eitemau amddiffynedig ar gyfer ôl-ddyledion rhent. Mae defnyddio beilïaid ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn anghyffredin iawn.

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent ac os defnyddir beilïaid, mynnwch gyngor ar unwaith gan ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Eiddo plant

Nid yw’r beilïaid yn gallu cymryd pethau sy’n eiddo i’ch plant.

Pethau a brynir trwy gytundeb hurbwrcasu a gwerthu amodol

Ni all beilïaid gymryd nwyddau a brynir trwy gytundeb hurbwrcasu neu werthu amodol oherwydd nad ydych yn berchen arnynt tan eich bod wedi talu’r rhandaliad olaf. Bydd angen i chi ddangos y cytundebau credyd i’r beilïaid i brofi eu bod yn berchen i’r cwmni hurbwrcasu.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n berchen ar nwyddau sy’n cael eu prynu trwy gytundeb hurbwrcasu, gweler Hurbrynu a gwerthu amodol sale.

Nôl i’r brig


A allwch roi pethau i ffwrdd

Os ydych yn rhoi eiddo i ffwrdd cyn bod beilïaid yn ymyrryd, gellid dadlau nad oes hawl ganddynt i gymryd yr eiddo hwnnw. Fodd bynnag, pan fydd beilïaid yn ymyrryd, ni fydd hawl gennych i roi eich eiddo i ffwrdd. Os ydych yn gwneud hyn, bydd yr eitem yn cael ei drin fel petai’n eiddo i chi a bydd y beilïaid yn gallu ei gymryd.

Nôl i’r brig


Profi pwy sy’n berchen ar bethau

Gwnewch yn glir i’r beilïaid pwy sy’n berchen ar y pethau os nad eich rhai chi ydynt. Mae’n bosib y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o berchenogaeth, er enghraifft, bil neu ddanfoneb cerdyn credyd. Neu, gall y perchennog lofnodi datganiad i ddweud mai ef/hi sy’n berchen arnynt.

Bydd beilïaid fel arfer yn mynd ati a chymryd y nwyddau a’ch dyletswydd chi yw dweud nad chi sy’n berchen arnynt a ni ddylent fod wedi cael eu hatafaelu (er enghraifft, oherwydd eu bod yn nwyddau amddiffynedig).

Os ydych yn dadlau gyda’r beilïaid ynglŷn â pherchenogaeth neu os ydych yn credu eu bod wedi atafaelu’r nwyddau anghywir, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Faint o bethau y byddant yn eu cymryd

Dylai’r beilïaid gymryd dim ond digon o nwyddau i dalu’r swm sy’n ddyledus.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae beilïaid wedi cymryd nwyddau sy’n fwy gwerthfawr na’r ddyled. Er enghraifft, maen nhw wedi cymryd y nwyddau heb brisio’r eitem yn unigol. Os yw hyn yn digwydd i chi, mae’n bosib y byddwch yn gallu cwyno.

Os yw beilïaid y llys sirol yn ymyrryd, gallwch ofyn i’r llys am orchymyn sy’n gofyn iddynt gyflwyno rhestr o’r nwyddau y maen nhw wedi eu cymryd ac amcangyfrif o werth y nwyddau.

I gael rhagor o wybodaeth am gwyno, gweler Cwyno am feilïaid.

Os yw beilïaid yn atafaelu nwyddau sy’n werth mwy na’r ddyled hyd yn oed os ydynt yn rhai ail-law, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


A fydd y beilïaid yn cymryd y pethau i ffwrdd yn y fan a’r lle

Pan fydd y beilïaid wedi adnabod y nwyddau y maen nhw am eu cymryd, (atafaelu’r nwyddau), mae’n rhaid iddynt gymryd cam pellach o’r enw rhoi’r nwyddau dan glo. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhoi’r nwyddau dan reolaeth y gyfraith ac nid oes gennych chi bellach unrhyw reolaeth drostynt.

Mae yna dair ffordd wahanol o roi nwyddau dan glo, ond yr un fwyaf cyffredin yw cael cytundeb meddiannau cerdded. Bydd y beilïaid yn ysgrifennu rhestr o’r nwyddau y maen nhw wedi atafaelu arnynt a gofyn i chi lofnodi’r cytundeb.

Pan gaiff y cytundeb meddiannau cerdded ei lofnodi, bydd gan y beilïaid reolaeth o’ch nwyddau. Gallant ddychwelyd i’ch cartref i’w cymryd rywbryd eto. Gallant hyd yn oed dorri i mewn i’ch cartref i gymryd y nwyddau.

Os ydych yn gwrthod llofnodi cytundeb meddiannau cerdded, gall y beilïaid symud y nwyddau y maen nhw wedi atafaelu arnynt yn syth. Y trydydd opsiwn yw gadael beili tu allan i’ch cartref i wneud yn siŵr nad ydych yn symud y nwyddau. Gelwir hyn yn cymryd meddiant o’ch nwyddau trwy sefyll ar yr eiddo tan i chi dalu ond mae’n anghyffredin oni bai bod gennych eiddo gwerthfawr yn eich cartref.

Os gofynnir i chi lofnodi cytundeb meddiannau cerdded

Dyma rhai pethau y dylech fod yn wyliadwrus ohonynt os gofynnir i chi lofnodi cytundeb meddiannau cerdded:

  • peidiwch â’i lofnodi os nad chi sydd wedi ei enwi ar y cytundeb, y warant neu’r gorchymyn atebolrwydd
  • peidiwch byth â llofnodi cytundeb meddiannau cerdded os nad yw’r beilïaid wedi gweithredu’n gywir i atafaelu eich nwyddau. Er enghraifft, os yw’r pethau ar y rhestr tu fewn eich cartref, mae’n rhaid bod beilïaid wedi bod yn eich cartref. Ni allant lunio cytundeb meddiannau cerdded wrth edrych trwy’r ffenestr
  • ni ddylech lofnodi cytundeb meddiannau cerdded sydd wedi cael ei bostio trwy eich drws
  • cyn i chi lofnodi’r cytundeb, darllenwch y rhestr nwyddau yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth na ddylai fod arni
  • peidiwch â llofnodi’r cytundeb os oes nwyddau amddiffynedig wedi’u cynnwys ar y rhestr.

Os gofynnir i chi lofnodi cytundeb meddiannau cerdded ac os ydych yn credu bod y beilïaid heb weithredu’n gywir neu os oes rhywbeth o’i le ar y rhestr nwyddau, mynnwch gyngor pellach gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Beth os nad ydych yn llofnodi cytundeb meddiannau cerdded

Os nad ydych wedi llofnodi cytundeb meddiannau eiddo ac os nad ydynt yn symud y nwyddau yn syth, gellwch ddadlau bod y beilïaid wedi gadael y nwyddau. Gallai hyn olygu eu bod wedi rhoi’r gorau i’w casglu ac nid oes ganddynt yr hawl i ddychwelyd i gymryd eich eiddo.

Mae hyn yn gymhleth a bydd angen cyngor pellach arnoch os ydych am ddweud bod hyn wedi digwydd.

Os yw’n ymddangos bod y beilïaid wedi gadael y nwyddau, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Os yw’r beilïaid yn cymryd eich nwyddau

Mae’n rhaid i’r nwyddau sy’n cael eu cymryd gael eu storio mewn man diogel tan iddynt gael eu gwerthu. Cyfrifoldeb y beilïaid yw gofalu am eich nwyddau a gallech eu cymryd i’r llys am esgeulustod os nad ydynt yn cyflawni’r ddyletswydd hon. Os hoffech wneud hyn, mynnwch gyngor yn gyntaf.

Os yw’r beilïaid yn esgeulus, mynnwch gyngor pellach gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Pwy sy’n berchen ar y nwyddau

Pan fod beilïaid yn atafaelu nwyddau, yn ôl y gyfraith, nid ydynt bellach yn eiddo i chi. Os yw’r beilïaid yn gadael pethau dan gytundeb meddiannau cerdded, gallwch dal eu defnyddio. Fodd bynnag, ni ddylech:

  • difrodi’r nwyddau
  • eu cymryd i ffwrdd
  • eu gwerthu.

Os ydych yn gwneud un o’r pethau hyn, mae yn erbyn y gyfraith a gallwch gael eich cymryd i’r llys am anufuddhau. Gelwir hyn yn ddirmyg llys.

Nôl i’r brig


Beth os nad oes gennyf ddigon o nwyddau addas

Gall gwerth nwyddau ail-law fod yn isel iawn felly mae’n bosib na all y beilïaid gymryd nwyddau oherwydd nad yw eu gwerth yn ddigon i dalu’r ddyled. Os dyma’r achos, byddant yn cymryd yr hyn allant a cheisio cytuno ar gynllun ad-dalu er mwyn i chi fedru talu gweddill y ddyled ac unrhyw gostau eraill.

Os na allwch ddod i gytundeb, byddant yn adrodd yn ôl i’w cyfarwyddwyr ynglŷn â pham nad oeddent yn gallu cymryd digon o nwyddau i dalu’r ddyled gyfan.

Mae’n bosib nad yw gwerth eich nwyddau yn ddigon i dalu cost y beilïaid, y fan a symud a gwerthu’r eiddo. Yn yr achos hwn, ni ddylent gymryd unrhyw beth a bydd angen iddynt ysgrifennu adroddiad.

Yn y ddau achos hyn, ni fydd y beiliaid yn cymryd camau pellach a bydd yn rhaid i’r credydwr feddwl am ffyrdd eraill o geisio adennill eu harian.

Nôl i’r brig


A allwch gael y nwyddau yn ôl ar ôl iddynt gael eu cymryd

Os nad oedd y beilïaid wedi dilyn y rheolau cywir pan oeddent yn atafaelu neu’n rhoi eich nwyddau dan glo, mae’n bosib gallwch gymryd camau yn y llys i’w cael yn ôl cyn iddynt gael eu gwerthu. Mynnwch gyngor arbenigol cyn i chi gymryd camau yn y llys.

Os nad oedd y beilïaid wedi dilyn y rheolau atafaelu a rhoi eich nwyddau dan glo, mynnwch gyngor pellach gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Cewch hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, drwy glicio ar CAB agosaf.

Os na allwch ei fforddio, gallwch geisio prynu eich nwyddau yn ôl yn yr arwerthiant.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Cyllid a Thollau EM(HMRC)

HMRC yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am gasglu treth a TAW. Cewch wybodaeth bellach am waith yr HMRC, gan gynnwys sut i gysylltu â’ch swyddfa dreth leol, ar wefan HMRC. Ewch at: www.hmrc.gov.uk.

Rate this page Give feedback