The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Gwerthu eich nwyddau
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gwerthu eich nwyddau
Os oes gennych arian yn ddyledus, mae gan eich credydwr amryfal opsiynau i geisio cael ei arian yn ôl. Un o’r opsiynau hyn yw cael beilïaid i gymryd eich eiddo.
Swydd beili yw cymryd eiddo sy’n berchen i berson sydd ag arian yn ddyledus. Caiff y pethau eu gwerthu a defnyddir yr arian i ad-dalu’r dyledion.
Ni all beilïaid, fel arfer, orfodi ei hun i mewn i’ch cartref. Fodd bynnag, os ydynt wedi cael mynediad i’ch cartref a chymryd rheolaeth gyfreithiol o’ch eiddo, bydd y nwyddau yn cael eu cymryd a’u gwerthu os nad ydych yn gallu dod i drefniant i dalu’r ddyled i gyd neu ychydig ohoni. Bydd yr arian o’r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i dalu costau’r beiliaid a’r ddyled i gyd neu ran ohoni.
Ac eithrio ceir a cherbydau eraill, nid yw’r rhan fwyaf o nwyddau ail-law yn werthfawr ac yn aml ni fydd y ddyled yn cael ei thalu’n llwyr ar ôl eu gwerthu. Mewn sawl achos, ni fydd gwerthu eich nwyddau o fudd sylweddol i’ch credydwr, er mae’n bosib bydd bygwth gwerthu eich nwyddau yn eich sbarduno i dalu.
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut caiff y nwyddau eu gwerthu a beth sy’n digwydd wedi hynny gan gynnwys:
- Pam dylid gwerthu’r nwyddau a
- beth sy’n digwydd os nad yw gwerthu’r nwyddau yn codi digon o arian i glirio’r ddyled.
Pa mor fuan bydd y nwyddau yn cael eu gwerthu
Fel arfer bydd o leiaf pum niwrnod cyn y gwerthiant oni bai bod llys wedi gorchymyn fel arall. Yn y mwyafrif o achosion, bydd y nwyddau yn cael eu gwerthu trwy arwerthiant cyhoeddus.
Beth os ydych yn talu’r ôl-ddyledion cyn y gwerthiant
Os ydych yn talu’r ôl-ddyledion a’r costau eraill yn llawn cyn dyddiad y gwerthiant, ni fydd eich nwyddau yn cael eu gwerthu a bydd angen i chi eu casglu.
Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu costau cludiant, costau hysbysebu a ffioedd prisio.
Pris y nwyddau
Mae’n rhaid i’r beilïaid gael y pris gorau am y nwyddau. Gallwch ofyn am brisiad annibynnol o’r nwyddau. Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu costau’r prisiwr sy’n gallu fod yn ddrud iawn.
Mae gan feilïaid brofiad o amcangyfrifo gwerth nwyddau ac fel arfer ni fydd angen prisiad annibynnol arnoch.
A allwch brynu’r nwyddau yn ôl
Mae gennych chi a’r credydwr yr hawl i brynu’r nwyddau yn yr arwerthiant, ar yr amod eich bod yn talu’r pris gorau posibl amdanynt.
Beth sy’n digwydd i’r arian a godwyd
Bydd yr arian a godwyd ar ôl gwerthu’r nwyddau yn cael ei ddefnyddio i dalu eich dyled a chostau’r beiliaid. Os oes unrhyw arian yn weddill, mae’n rhaid iddo gael ei roi i chi.
Beth os nad yw’r gwerthiant yn codi digon o arian
Os nad yw’r gwerthiant yn codi digon o arian i dalu’r ddyled a’r costau i gyd, bydd costau’r beilïaid yn cael eu talu yn gyntaf. Bydd yn dal yn rhaid i chi dalu gweddill y ddyled i’ch credydwr.
Yn gyffredinol, os ydych yn gofyn i’r llys, mae’n rhaid i chi gael dadansoddiad manwl o faint o arian a godwyd ar ôl gwerthu eich nwyddau a sut mae’r arian wedi cael ei ddyrannu.
Os ydych yn anfodlon gyda’r gwerthiant, er enghraifft, os nad ydych yn credu cafodd y beilïaid y pris gorau posibl, mae’n bosib y gallwch gwyno neu gymryd camau yn erbyn y beilïaid.
Os ydych am herio’r swm a godwyd yn yr arwerthiant, mynnwch gyngor arbenigol.
Cewch gyngor gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad yw’r ddyled yn cael ei thalu, gall eich credydwr barhau i gymryd camau i adennill gweddill y ddyled. Gallai’r credydwyr neu’r llys hefyd ystyried dileu gweddill y ddyled. Mae gwerth gofyn iddynt wneud hyn.
Am fwy o wybodaeth am ddelio â dyledion, gweler Help gyda dyled.
Taliadau Beilïaid
Gall y beiliaid godi tâl arnoch am symud a gwerthu nwyddau, gan gywnnys costau:
- cludiant
- hysbysebu’r gwerthiant
- prisio’r nwyddau, os ydych yn gofyn amdano
- storio.
Am fwy o wybodaeth am gostau beilïaid, gweler Taliadau Beilïaid.
Cymorth ychwanegol
- Ynglyn â beilïaid
- Sut i atal gweithredu gan feilïaid
- Gadael beilïaid i mewn i’ch cartref
- Beth sy’n digwydd os yw’r beilïaid yn cael mynediad
- Taliadau Beilïaid
- Cwyno am beilïaid
- Help gyda dyled
- Ôl-ddyledion y dreth gyngor
- Ôl-ddyledion rhent









