Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Gadael beilïaid i mewn i’ch cartref

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â gadael beilïaid i mewn i’ch cartref

Os oes gennych ddyled ariannol, mae gan eich credydwr amrywiaeth o opsiynau i geisio cael eu harian yn ôl. Mae rhoi cyfarwyddyd i feilïaid i gymryd eich eiddo yn un o’r opsiynau hyn.

Mae beili yn berson sydd â’r gwaith o gymryd pethau sy’n perthyn i bobol sydd â dyled ariannol. Gwerthir y pethau hyn wedyn a defnyddir yr arian i dalu’n ôl y dyledion.

Os nad yw’r beilïaid wedi mynd i mewn i’ch cartref o’r blaen, y rheol sylfaenol yw na allant ddod i mewn oni bai eich bod chi neu oedolyn arall yn eu gadael i mewn. Fe allwch chi ddewis gwrthod eu gadael i mewn. Sut bynnag fe all y beilïaid ddod i mewn heb eich caniatâd os allan nhw wneud hynny heb ddefnyddio trais. Er enghraifft, os allan nhw ddod i mewn trwy ddrws sydd heb ei gloi neu ffenestr agored. Gelwir hyn yn fynediad heddychol (neu weithiau yn fynediad heddychlon).

Unwaith y byddan nhw wedi llwyddo i gael mynediad heddychol trwy fynediad allanol, fe allan nhw dorri ar agor ddrysau ystafelloedd eraill neu gypyrddau wedi’u cloi.

Mae’r dudalen hon yn sôn wrthych am hawliau'r beilïaid i ddod i mewn i’ch cartref, gan gynnwys:

Nôl i’r brig


All y beilïaid wthio’u ffordd i mewn

Yn gyffredinol nid oes rhaid i chi adael y beilïaid i mewn i’ch cartref oni bai eu bod wedi bod i mewn o’r blaen. Fel arfer ni chaniateir iddynt wthio’u ffordd i mewn i’ch cartref ac ni allant ddod i mewn:

  • trwy dorri drws neu ffenestr
  • trwy wthio heibio i chi os ydych chi wedi agor y drws ond eich bod wedi ei wneud yn glir nad ydych am iddynt ddod i mewn
  • trwy fwrw i lawr ffensys neu giatiau
  • trwy agor ffenestr sy ddim eisoes yn gil agored (hyd yn oed os nad ydyw wedi’i chloi)

Mae yna rai eithriadau [link to heading When can a bailiff force entry] pan gall beilïaid wthio’u ffordd i mewn i’ch cartref ac felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pa reolau sy’n berthnasol i’ch sefyllfa chi.

Nôl i’r brig


Pryd mae’n rhaid i chi eu gadael i mewn

Weithiau, caniateir i feilïaid i dorri i mewn i’ch cartref, hyd yn oed os na roddwch chi ganiatâd iddynt wneud hynny. Mae hyn yn wir os yw’r:

  • beilïaid yn casglu dirwyon sydd heb eu talu. Fe allan nhw wthio’u ffordd i mewn i’ch cartref os ydyn nhw wedi bod i mewn yn symud nwyddau o’r blaen ai peidio. Sut bynnag rhaid iddynt wneud hyn dim ond os yw’n rhesymol. Yn ymarferol, fe allan nhw dorri i mewn pan fetho popeth arall yn unig.
  • beilïaid wedi llwyddo i gael mynediad heddychol eisoes. Fe allan nhw wthio’u ffordd yn ôl i’ch cartref i symud nwyddau maen nhw eisoes wedi’u hatafaelu os ydych chi’n ceisio’u rhwystro rhag dod i mewn.
  • beilïaid yn feilïaid llys sirol, yn mynd i mewn i eiddo masnachol. Ond fe allan nhw wneud hyn dim os nad oes llety byw ynghlwm wrth yr eiddo. Mae angen caniatâd arbennig y llys arnynt i dorri i mewn i eiddo masnachol hyd yn oed os nad oes llety byw yn rhan o’r adeilad.
  • beilïaid yn casglu treth incwm neu TAW ac mae ganddynt ganiatâd oddi wrth y llys i wneud hynny. Efallai y caniateir hyn os ydyn nhw cyn hynny wedi methu cael mynediad heddychol.

Adeiladau eraill sy’n rhan o’ch eiddo

Gall beilïaid wthio’u ffordd i mewn i adeiladau eraill sy’n rhan o’ch eiddo, cyn belled â’u bod ar wahan i’ch cartref. Er enghraifft, fe allan nhw dorri i mewn i’ch sied yn yr ardd neu i mewn i’ch garej ar wahân.

Os ydych chi’n byw mewn fflat

Os ydych chi’n byw mewn fflat, efallai y bydd gan y beilïaid yr hawl i dorri i lawr eich drws unwaith y byddan nhw wedi llwyddo dod trwy'r brif fynedfa i’r bloc. Sut bynnag nid yw’r sefyllfa gyfreithiol mor amlwg â hynny, ac felly os ydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau, mynnwch gyngor arbenigol os ydych chi’n gwybod fod y beilïaid yn dod.

Fe allwch gael cyngor ynglŷn â sut mae delio â’r beilïaid oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Awgrymiadau ynglŷn â sut mae cadw’r beilïaid allan

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i osgoi gadael y beilïaid i mewn i gymryd eich nwyddau:

  • peidiwch ag agor y drws iddynt. Siaradwch trwy ddrws caeedig neu rhowch y tsaen ymlaen os oes gennych un
  • peidiwch â gadael eich ffenestri ar agor os ydych yn gwybod fod y beilïaid ar fin dod
  • peidiwch â’u gadael i mewn o gwbl, hyd yn oed i gael sgwrs neu ddefnyddio’r tŷ bach
  • rhybuddiwch eich teulu a’ch plant rhag ofn iddyn nhw agor y drws yn ddamweiniol iddynt. Ni chyfrifir plant yn bobol gyfrifol ar gyfer y pwrpas o roi caniatâd i’r beilïaid i ddod i mewn i’ch cartref. Felly os yw plentyn yn gadael y beilïaid i mewn, ni chyfrifir hyn fel mynediad heddychol i mewn i’ch cartref.

Cofiwch drin y beilïaid mewn dull trefnus pan fyddan nhw’n galw. Dywedwch wrthynt yn gwrtais nad ydych am eu gadael i mewn ac y byddwch chi’n ceisio datrys eich dyled mewn ffordd arall.

Rhaid i chi beidio ymosod ar y beilïaid er mwyn eu rhwystro rhag dod i mewn i’ch cartref. Mae hyn yn drosedd.

Nôl i’r brig


Beth os yw’r beilïaid yn gwthio’u ffordd i mewn

Caniateir i feilïaid wthio’u ffordd i mewn i’ch eiddo mewn sefyllfaoedd arbennig. Os ydyn nhw’n gwthio’u ffordd i mewn pan na ddylent, mae’r camau y gallwch eu cymryd yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y gallwch:

  • gwyno wrth y person gyfarwyddodd y beilïaid
  • wneud cais i’r llys sirol i dynnu tystysgrif beili preifat oddi wrtho.
  • roi gwybod i’r heddlu am y mater
  • ddefnyddio hunanamddiffyniad, cyhyd â’ch bod ddim yn defnyddio grym afresymol. Fe allech gael eich cyhuddo o drosedd os defnyddiwch chi rym afresymol.
  • gwyno wrth y corff proffesiynol sy’n gyfrifol am y beilïaid penodol
  • cymryd achos llys i gael eich nwyddau yn ôl. Gelwir hyn yn replefin

Fel arfer bydd angen cyngor arbenigol arnoch cyn cymryd un o’r camau hyn.

Os ydyw’r beilïaid yn gwthio’u ffordd i mewn, fe ddylech gael cyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


All beilïaid ymweld pryd y mynnant

Mae gan y mwyafrif o feilïaid yr hawl cyfreithiol i ddod i’ch cartref unrhyw bryd o’r dydd neu nos i geisio cymryd eich pethau. Sut bynnag, yn ymarferol ni ddylai beilïaid ddod ar yr adegau canlynol oni bai fod y llys wedi gorchymyn yn benodol iddynt wneud hynny:

  • cyn 6am
  • ar ôl 9pm
  • Dydd Sul
  • gwyliau banc
  • Gwener y Groglith
  • Dydd Nadolig
  • Gwyliau crefyddol eraill, yn ôl yr hyn sy’n briodol.

Mae rheolau eraill ynglŷn â phryd y gall beilïaid ddod i’ch cartref yn berthnasol i sefyllfaoedd penodol:

  • mae gan feilïaid llys sirol bolisi sy’n dweud y dylent ddod ar awr resymol a dim ar Ddydd Sul, Gwener y Groglith na Dydd Nadolig.
  • mae angen caniatâd oddi wrth y llys ar feilïaid Uchel Lys os ydyn nhw am fynd â nwyddau ar Ddydd Sul
  • ar gyfer ôl-ddyledion rhent, gall beilïaid ddod i’ch cartref dim ond rhwng codiad a machlud haul, a dim ar ddydd Sul
  • ar gyfer ôl-ddyledion treth incwm, os oes gan y beilïaid ganiatâd i wthio’u ffordd i mewn, fe allan nhw wneud hynny yn ystod y dydd yn unig. Mae gan Dollau a Chyllid EM bolisi i beidio cymryd nwyddau rhwng codiad a machlud haul, ar ddydd Sul neu ar wyliau cyhoeddus neu wyliau banc, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael caniatâd oddi wrth y llys i wthio’u ffordd i mewn.

Os ydyw’r beilïaid yn dod i’ch cartref ar adeg pan na ddylent, gellir ystyried hyn yn aflonyddu. Fe ddylech gael cyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth os symudwch chi bethau fel na fydd y beilïaid yn gallu eu cael

Cyhyd â bod y gorchmynion llys cywir yn eu lle, gall y beilïaid fel arfer gymryd eich pethau o unrhyw le yn Lloegr a Chymru. Felly os symudwch chi eich pethau i dŷ ffrind neu i adeilad eich busnes, gall y beilïaidddod yno i’w casglu.

Yn gyffredinol ni all y beilïaid wthio’u ffordd i mewn i eiddo rhywun arall i gymryd pethau sy’n eiddo i chi. Bydd angen mynediad heddychol arnynt. Eithriad yw beilïaid yr Uchel Lys sydd â chaniatad i dorri i mewn i eiddo person arall os cymerwyd eich pethau chi yno’n fwriadol i osgoi’r beilïaid. Ond mae’n rhaid iddynt ofyn am gael eu gadael i mewn yn gyntaf, cyn y gallant wthio’u ffordd i mewn.

Ar gyfer ôl-ddyledion treth incwm, polisi HMRC ydyw peidio mynd i mewn i adeilad trydydd parti i gymryd nwyddau sy’n perthyn i’r person sydd â’r ddyled treth incwm. Ar gyfer TAW gellir cymryd nwyddau sy’n perthyn i’r person sydd â dyled TAW o unrhyw le.

Yn ymarferol, gall fod yn anodd i feilïaid wybod eich bod chi wedi symud nwyddau i rywle arall oni bai eu bod wedi’ch gweld yn gwneud hynny. Nid oes rhaid i chi ateb cwestiynau beilïaid.

Hefyd os bydd y beilïaid yn llwyddo i gael mynediad i rywle arall hyd yn oed heb wthio’u ffordd i mewn, ac fel mae’n digwydd doedd dim nwyddau yno, fe fyddant yn ymddwyn yn erbyn y gyfraith. Gallai perchennog y tŷ eu herlyn am dresbasu.

Nôl i’r brig


All beilïaid fynd â cherbyd o’r tu allan

Yn gyffredinol, os oes gennych gar neu gerbyd arall y tu allan i’ch eiddo, gall beilïaid ei gymryd lle bynnag mae wedi’i barcio. Er enghraifft fe allan nhw fynd â’r car o’ch dreif neu o’r ffordd.

Fe allwch gael cyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Ceir ar gytundeb hurbwrcas

Os ydych chi’n dal i dalu am eich car trwy gytundeb hurbwrcas, ni ddylai beilïaid fynd ag ef oddi wrthych. Fe allwch brofi nad chi sy berchen y car trwy ddangos eich cytundeb hurbwrcas i’r beili.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phwy sy berchen nwyddau a brynwyd trwy hurbwrcas, gweler Hurbrynu a gwerthu amodol sale.

Os yw’r beilïaid yn clampio’ch cerbyd

Os yw’r beilïaid yn clampio neu symud cerbyd sy ddim ar ffordd gyhoeddus ac maen nhw’n codi ffî am ryddhau’r cerbyd, rhaid iddynt gael trwydded oddi wrth Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA). Os yw hyn yn digwydd i chi, gofynnwch am gael gweld eu cofrestriad SIA.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd os ydych chi’n cuddio nwyddau fel na fydd y beilïaid yn dod o hyd iddynt

Yn gyffredinol, nid ydych yn troseddu os ydych yn symud nwyddau o’ch tŷ, neu’n eu cuddio, cyn i’r beilïaid ddod, onid yw’r beilïaid yn dod oherwydd ôl-ddyledion rhent. Os ydych yn penderfynu gwneud hyn, dylech geisio trafod gyda’r credydwr neu’r beilïaid i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus.

Am wybodaeth bellach, gweler Sut i atal camau’r beilïiaid.

Cofiwch unwaith mae’r beilïaid wedi cael mynediad i’ch cartref, caniateir iddynt dorri ar agor unrhyw gwpwrdd neu ddrws mewnol. Ni allant eich chwilio chi.

Os na fydd y beilïaid yn gallu dod o hyd i unrhyw nwyddau i’w cymryd ar ôl chwilio, maen nhw’n dod yn dresbaswyr, ac fe ddylen nhw adael ar unwaith. Os nad yw’r beilïaid yn gadael ar ôl amser rhesymol, fe allech chi gymryd achos cyfreithiol yn eu herbyn. Mynnwch gyngor arbenigol os bydd hyn yn digwydd i chi.

Os ydych yn cael traffeth cytuno ar eich cynllun ad-dalu, mae cyngor ar gael, gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd os na all y beilïaid fynd i mewn i’ch eiddo

Os na all y beilïaid fynd i mewn i’ch eiddo, efallai y byddan nhw:

  • yn rhoi ffurflen a elwir yn ddatganiad o fodd trwy’r blwch llythyron. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gyda manylion am eich incwm a gwariant a bydd y beilïaid yn ei dychwelyd i’r llys. Bydd yn llys yn defnyddio’r wybodaeth i benderfynu ar amserlen ad-dalu rhesymol. Nid oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen ond os na wnewch fe allai eich effeithio’n ddiweddarach os yw’r llys yn credu eich bod wedi bod yn amharod i dalu.
  • yn ceisio dadlau eu bod i bob diben wedi cymryd nwyddau y gellir eu gweld, trwy ffenestr er enghraifft. Nid oes rhaid i chi gymryd sylw o hyn oherwydd mae’r Uchel Lys wedi rheoli fod yn rhaid i’r beilïaid fynd i mewn i’r adeilad er mwyn cymryd nwyddau. Ni allant atafaelu dim mewn gwirionedd a welir trwy’r ffenestr yn unig.
  • yn ceisio eto. Mae’r canllawiau i feilïaid y llys sirol yn nodi, hyd yn oed os nad oes nwyddau i’w cymryd, fe ddylai beilïaid wneud ymweliadau pellach er mwyn ceisio cael taliad llawn neu rhan o daliad. Fel arfer ni ddylai beilïaid ymweld mwy na thair gwaith, ac ni ddylent ymweld ymhellach ar ol yr un cyntaf os ydyw hi’n amlwg nad oes golwg am daliad yn dod. Mae’r canllawiau hefyd yn argymell y dylai’r beilïaid ymweld ar ddiwrnodau gwahanol ac amserau gwahanol er mwyn cynyddu eu siawns o’ch dal chi yn y tŷ.
  • rhoi’r gorau iddi. Fel arfer bydd beilïaid yn gwneud fwy nag un ymdrech i gael mynediad i’ch eiddo. Os na lwyddan nhw, yn y diwedd fe fyddan nhw’n rhoi’r gorau iddi a chyfeirio’ch dyled yn ôl i bwy bynnag ofynnodd iddynt am ei gasglu. Gall y benthyciwr neu’r llys gymryd achos pellach yn eich erbyn, er enghraifft, eich gorchymyn i ddod i’r llys i esbonio pam nad ydych wedi talu.

Os gorchmynnir chi i ddod yn ôl i’r llys, fe allwch gael cymorth ynglŷn â beth i’w wneud nesaf oddi wrth ymgynghorydd, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ffîoedd am gymryd nwyddau

Gall beilïaid godi ffîoedd am eu gwaith yn ceisio adfeddiannu’r arian sy’n ddyledus gennych. Os na all y beilïaid fynd i mewn i’ch cartref i gymryd eich pethau, efallai bydd yn rhaid I chi dalu eu ffioedd hyd yn oed wedyn. Gall hyn ddibynnu ar ba lys sy’n gorfodi’r ddyled. Er enghraifft, ni all beilïaid yr Uchel Lys godi tâl arnoch os na chymerir unrhyw nwyddau. Bydd yn rhaid i’r credydwr dalu eu ffîoedd. Ond os yw’r Llys Sirol wedi cyhoeddi gorchymyn llys i awdurdodi’r beilïaid (a elwir yn warant i weithredu), bydd yn rhaid i chi dalu’r ffî am hyn pa un ai a gymerir nwyddau ai peidio. Lle mae ôl-ddyledion treth gyngor yn y cwestiwn, codir tâl arnoch am yr ymweliad cyntaf neu’r unig un, ac eto am yr ail ymweliad, hyd yn oed os na chymerir unrhyw nwyddau.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Tollau a Chyllid EM (HMRC)

Adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am gasglu treth incwm a TAW ydyw HMRC. Fe allwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â beth mae HMRC yn ei wneud yn cynnwys manylion sut i gysylltu â’ch swyddfa treth leol, o wefan HMRC. Ewch i: www.hmrc.gov.uk

Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA)

SIA yw’r sefydliad sy’n rheoli y diwydiant diogelwch. Fe allwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â beth mae’n ei wneud, yn cynnwys ei god ymarfer ar sut y dylai cwmniau diogelwch ymddwyn, o wefan SIA. Ewch i: www.SIA.org.uk

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback