Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Sut i atal gweithredu gan feilïaid

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â sut i atal gweithredu gan feilïaid

Os oes arian gennych yn ddyledus, mae gan eich credydwr amryfal opsiynau i’w cymryd i geisio adennill ei arian. Un o’r opsiynau hyn yw gorchymyn beilïaid i gymryd eich pethau.

Byddwch fel arfer yn cael rhybudd os yw credydwr yn mynd i ddefnyddio beilïaid. Mae yna sawl peth allwch wneud i stopio hyn rhag digwydd cyn ac ar ôl i’r beilïaid ymweld â chi.

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut allwch stopio’r beilïaid, gan gynnwys:

Nôl i’r brig


Newid y gorchymyn llys

Y ffordd fwyaf effeithiol o atal gweithredu gan feilïaid yw cael y llys i ddileu awdurdodiad. Gall hyn ddigwydd fel y ganlyn:

  • gorchmynion y llys sirol (CCJs): gellir gohirio gwarantau gweithredu a gwarantau danfon gan y llys
  • gorchmynion yr Uchel Lys: gellir gohirio gwrit fi-fa
  • y dreth gyngor: gallai’r awdurdod lleol gytuno i ddileu’r warant gweithredu a dod i drefniant arall Nid oes gan y llys unrhyw bŵer i stopio’r warant.

Nôl i’r brig


Gohirio gwarant y llys sirol

Os oes gennych ddyfarniad llys sirol (CCJ) yn eich erbyn, gall y credydwr wneud cais i’r llys am ganiatâd i anfon y beilïaid i gymryd eich nwyddau. Bydd y llys yn cyhoeddi gwarant gweithredu neu warant danfon nwyddau.

Ar ôl cyhoeddi’r warant, mae gan feilïaid yr awdurdod cyfreithiol i gymryd eich pethau. Fel arfer, mae’n rhaid i’r beilïaid roi rhybudd i chi sy’n eich hysbysu bod y warant wedi cael ei chyhoeddi, gan ofyn am daliad o fewn saith diwrnod.

Mae gennych yr hawl i wneud cais i’r llys ohirio’r warant hon. Mae hyn yn golygu na fydd yn cael ei gweithredu cyhyd â’ch bod yn cydymffurfio â thelerau’r llys. Er enghraifft, gallai’r llys benderfynu gohirio gwarant cyhyd â’ch bod yn talu swm penodol bob mis. Os nad ydych yn talu, caiff y warant ei gweithredu.

Os hoffech gael warant y llys sirol wedi’i gohirio, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen N245 y llys. Cewch gopi o’r ffurflen hon ar wefan Gwasanaeth Llys EM.

Os ydych yn gwneud cais i ohirio gwarant, bydd angen i chi dalu ffi. Mae’ bosib y gallwch gael y ffi wedi’i roi heibio neu ei leihau os ydych ar incwm isel.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen i gynnig ad-dalu’r ddyled mewn rhandaliadau. Os yw’r credydwr yn derbyn eich cynnig, bydd y llys yn gohirio’r warant. Mae’n bosib gohirio warant mwy nag unwaith. Fodd bynnag, os yw’r llys yn credu bod hyn wedi digwydd yn rhy aml, ym mhen hir a hwyr bydd yn gwrthod eich cais

Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i ad-dalu, gweler Help gyda dyled.

Cewch gymorth ynglyn â sut i wneud cais i ohirio gwarant gan ymgynghorydd yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwneud cais i ohirio gwrit yr Uchel Lys

Os oedd y gorchymyn llys ar gyfer cyfandaliad (y gorchymyn mwyaf cyffredin yn yr Uchel Lys), a’ch bod am dalu mewn rhandaliadau, gallwch wneud cais i ohirio’r gorchymyn. Gelwir hyn yn gwneud cais am atal gweithrediad.

Gallwch wneud cais drwy lenwi ffurflen gais N244. Cewch gopi o’r ffurflen hon ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn: www.hmcourts-service.gov.uk/HMCSCourtFinder/FormFinder.do.

Bydd angen i chi ysgrifennu’r geiriau hyn ar y ffurflen:

“Gofynnaf fod y gweithrediad yn cael ei atal ar yr amod bod y ddyled dyfarniad yn cael ei thalu fesul rhandaliad o £....bob.....”.

Bydd hefyd angen i chi ddarparu datganiad o’ch amgylchiadau ariannol. Gelwir hyn yn affidafid ynghylch modd (datganiad ar lw) neu ddatganiad gan dyst, lle rydych yn llofnodi datganiad gwirionedd.

Mae yna ffi ar gyfer gwneud cais am atal gweithrediad. Mae’n bosib y gallwch gael y ffi wedi’i roi heibio neu ei leihau os ydych ar incwm isel.

Mynnwch gyngor cyn i chi lenwi’r ffurflenni hyn.

Mynnwch gyngor gan ymgynghorwr profiadol ynglŷn â sut i lenwi ffurflen N244, er enghraifft, drwy gysylltu â Chanolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os oedd yr Uchel Lys yn wreiddiol wedi eich gorchymyn i ad-dalu’r ddyled mewn rhandaliadau, mae’n bosib y gallwch newid hyn os yw eich amgylchiadau ariannol yn newid. Mynnwch gyngor ynglyn â sut i wneud hyn.

Cewch gyngor ynglŷn â sut i wneud cais i newid gorchymyn yr Uchel Lys gan ymgynghorwr profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ad-dalu’r ddyled yn llawn

Os yw’r beilïaid yn ymyrryd, bydd angen i chi dalu eu ffioedd a’u costau a chostau ychwanegol y llys, ynghyd â’r ddyled wreiddiol. Gallai’r costau hyn fod yn ddrud iawn felly os ydych yn gallu fforddio talu’r ddyled yn llawn, mae’n werth gwneud cyn gynted â phosibl.

Hyd yn oed os yw’r beilïaid wedi cael eu gorchymyn, mae’n dal yn syniad da ceisio ad-dalu’r ddyled yn llawn, gan fydd eich dyled fel arfer yn cynyddu os ydynt yn ymweld â’ch cartref. Gallwch gynnig talu’n llawn hyd yn oed pan gyrhaeddant eich cartref. Bydd hyn yn arbed costau.

Os oes gennych ddyledion eraill neu os na allwch fforddio talu’r beilïaid yn llawn, mynnwch gyngor gan ymgynghorwr profiadol.

Os oes gennych anawsterau ariannol, mynnwch gyngor pellach ynglyn â sut i ddelio â’ch dyledion eraill gan ymgynghorwr profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â’ch dyledion, gweler Help gyda dyled.

Nôl i’r brig


Gwneud cynnig i’ch credydwr

Os na allwch fforddio i ad-dalu’r ddyled yn llawn, gallwch ofyn i’r credydwr dderbyn cynnig i chi:

  • ad-dalu rhan o’r ddyled, neu
  • ad-dalu’r ddyled i gyd mewn rhandaliadau, neu
  • ddileu’r ddyled yn gyfan gwbl.

Dangoswch ddatganiad o’ch amgylchiadau ariannol fel bod eich credydwr yn gwybod faint allwch ei fforddio. Os yw’r credydwr yn derbyn eich cynnig cyn bod y beilïaid yn ymyrryd, bydd hyn yn rhatach i chi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifo faint allwch ei fforddio, gweler Cyllidebu.

Os oes gennych anawsterau ariannol, sicrhewch fod gennych gynllun cywir mewn lle cyn eich bod yn cyflwyno cynnig i ad-dalu’r ddyled.

Os oes gennych anawsterau ariannol, mynnwch gyngor pellach ar sut i ddelio â’ch dyledion i gyd gan ymgynghorwr profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Gallant hefyd eich helpu i gynllunio datganiad o’ch amgylchiadau ariannol i ddangos eich credydwr. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth am ddelio â’ch dyledion, gweler Help gyda dyled.

Nôl i’r brig


Gwneud cynnig i’r beilïaid

Os yw’r beilïaid eisoes wedi ymyrryd, mae’n bosib y gallwch gynnig rhywfaint iddynt i’w hatal rhag cymryd eich eiddo. Efallai y cewch gyfle i wneud cynnig i’r beilïaid cyn iddynt ddod i’ch cartref. Mae’n gallu bod yn anodd cael gafael ar y beilïaid er mwyn gwneud cynnig iddynt. Gorau po gynted y cysylltwch â nhw er mwyn iddynt ddod i gytundeb â chi.

Fodd bynnag, hyd yn oed os ydynt yn cael mynediad i’ch cartref, nid yw’n rhy hwyr iddynt dderbyn cynnig rhesymol. Dangoswch iddynt ddatganiad o’ch amgylchiadau ariannol fel eu bod yn gallu gweld faint allwch ei fforddio. Sicrhewch eich bod yn derbyn derbynneb os ydych yn rhoi unrhyw arian iddynt.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i ad-dalu, gweler Help gyda dyled.

Mae’n bosib y byddwch yn meddwl fod y beilïaid yn afresymol pan ydych yn ceisio dod i drefniant. Er enghraifft, gallent wrthod derbyn sieciau, neu wrthod derbyn cynnig hyd yn oed os yw’n gwbl seiliedig ar eich amgylchiadau ariannol. Mae’n bosib nad yw’r credydwr wedi rhoi awdurdod i’r beilïaid drafod ar ei ran ac efallai y gallwch ddatrys y broblem drwy gysylltu â’r credydwr a gofyn iddo ymyrryd.

Fodd bynnag, nid oes gan feilïaid y llys sirol neu feilïaid yr Uchel Lys yr awdurdod i ddod i drefniant gennych.

Mae’n gallu bod yn anodd trafod gyda’r beilïaid, yn enwedig os oes pwysau arnoch oherwydd eu bod yn eich cartref. Mynnwch gyngor gan arbenigwr profiadol cyn gwneud cynnig.

Os oes gennych anawsterau ariannol, mynnwch gyngor pellach ar sut i ddelio â’ch dyledion i gyd gan ymgynghorwr profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Gallant hefyd eich helpu i gynllunio datganiad o’ch amgylchiadau ariannol i ddangos i’r beilïaid. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ad-dalu ôl-ddyledion y dreth gyngor

Os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu defnyddio beilïaid i gasglu ôl-ddyledion y dreth gyngor, mae’n rhaid iddynt anfon rhybudd atoch o leiaf 14 diwrnod cyn ymweliad cyntaf y beilïaid. Gallwch ddefnyddio’r amser hwn i gysylltu â’r awdurdod lleol i dalu’r ddyled i gyd neu ddod i drefniant ganddynt.

Os ydych yn cynnig talu’r ddyled i gyd, ynghyd â’r costau ychwanegol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol dderbyn y cynnig hwn. Yna mae’n rhaid iddynt orchymyn y beilïaid i beidio â gweithredu.

Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch ofyn i’ch awdurdod lleol i dderbyn swm bach neu i ddidynnu’n uniongyrchol o’ch budd-daliadau, yn hytrach na defnyddio beilïaid.

Gallwch gael cymorth ychwanegol i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion y dreth gyngor gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Os oes gennych nwyddau i’w gwerthu

Os oes gennych nwyddau gwerthfawr y gellid eu gwerthu i ad-dalu’r ddyled, mae’n bosib y byddwch yn fodlon i’r beilïaid eu cymryd. Fodd bynnag, mae bron bob amser yn well eu gwerth eich hun oherwydd gallech gael mwy o arian amdanynt drwy eu gwerthu’n breifat yn hytrach na’u gwerthu mewn arwerthiant. Ceisiwch drafod hyn gyda’ch credydwr.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback