The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Thaliadau beilïaid
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â thaliadau beilïaid
Os oes gennych ddyled ariannol, mae gan eich credydwr amrywiaeth o opsiynau i geisio cael eu harian yn ôl. Mae rhoi cyfarwyddyd i feilïaid i gymryd eich eiddo yn un o’r opsiynau hyn.
Mae beili yn berson sydd â’r gwaith o gymryd pethau sy’n perthyn i bobol sydd â dyled ariannol. Gwerthir y pethau hyn wedyn a defnyddir yr arian i dalu’n ôl y dyledion.
Caniateir i feilïaid i godi tâl arnoch am y gwaith hwn.
Gall taliadau beilïaid gynyddu’r swm sy’n ddyledus gennych yn ddirfawr. Weithiau mae beilïaid yn ychwanegu taliadau na ddylent ac felly mae’n werth gwirio am beth y codwyd tâl amdano a chwestiynu unrhyw beth nad ydych yn siwr ohono.
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi ynglŷn â:
- am beth y gall beilïaid godi tâl arnoch
- beth i’w wneud os ydych yn credu eich bod yn gor-dalu.
Am beth y gall beilïaid godi tâl arnoch
Mae gan wahanol fathau o feilïaid wahanol reolau ynglŷn â’r hyn y gallant godi tâl amdano. Yn y mwyafrif o achosion mae’r rheolau wedi’u gosod yn y gyfraith. Yn gyffredinol fe ellid codi tâl arnoch am unrhyw un o’r canlynol:
- llythyron
- ymweliadau â’ch cartref. Gwiriwch a oes cyfyngiad ar y nifer o ymweliadau y gellir codi tâl amdanynt i’ch math chi o ddyled.
- cymryd rheolaeth gyfreithiol o’ch nwyddau
- cludiant i symud y nwyddau. Gall beilïaid treth gyngor godi tâl am ddod â fen hyd yn oed os na wnaethant mewn gwirionedd symud y nwyddau.
- storio’r nwyddau ar ôl iddynt gael eu symud
- prisio’r nwyddau, os gofynnwch am hyn
- hysbysebu’r gwerthiant
- costau’r gwerthiant
Ni all pob beili godi’r taliadau hyn i gyd. Fe allwch ddarganfod pa daliadau a ganiateir ar gyfer gwahanol fathau o ddyledion oddi wrth ymgynghorydd.
Fe allwch gael cymorth i wirio os yw taliadau beilïaid yn gywir ac i’w cwestiynu oddi wrth Swyddfa Cyngor ar Bopeth.
Faint o dâl allan nhw godi arnoch
Mae’r mwyafrif o’r ffioedd a’r taliadau wedi’u gosod yn y gyfraith. Bydd rhai taliadau yn dibynnu ar werth y ddyled neu’r swm o arian a godwyd yn y gwerthiant. Mewn rhai achosion, codir TAW yn ychwanegol at y ffî.
Dylai’r beilïaid roi gwybod i chi yn ysgrifenedig faint o dâl a godir arnoch ac am beth. Gwiriwch y manylion yn ofalus er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn deall y taliadau. Cwestiynwch unrhyw beth nad ydych yn siwr ohono. Byddwch yn wyliadwrus o’r taliadau am:
- lythyron nad ydych wedi’u derbyn
- ymweliadau mynych â’ch cartref
- costau cerbyd pan nad oes dim wedi’i symud
- taliadau niferus am yr un peth.
Am fanylion am yr union ffîoedd a godir gan wahanol feilïaid, fe ddylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Oes rhaid i chi dalu’r taliadau os ydych chi’n clirio’ch dyled
Os ydych chi’n clirio’ch dyled yn llawn i’r credydwr cyn i’r beilïaid gael eu cyfarwyddyd, nid oes rhaid i chi dalu taliadau’r beilïaid.
Unwaith y gofynnir i’r beilïaid am weithredu, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu eu taliadau pa un ai a allant gymryd eich nwyddau ai peidio.
Os ydych chi’n clirio’ch dyled i’r credydwr ond nid taliadau’r beilïaid sy’n ddyledus, ni all y beilïaid gymryd eiddo oddi wrthych dim ond er mwyn adennill eu costau eu hunain. Bydd yn rhaid iddynt gymryd achos yn eich erbyn eu hunain i gael yr arian yn ôl.
Beth i’w wneud os ydych yn credu fod y taliadau’n anghywir
Mae taliadau beilïaid yn gymhleth ac nid yw bob amser yn rhwydd i weld a ydynt yn codi tâl arnoch yn gywir ai peidio. Ond os ydych yn credu eich bod yn gor-dalu am daliadau beilïaid neu os ydynt yn codi tâl am bethau na ddylent, fe allwch gwyno a weithiau gymryd camau eraill.
Fe ddylech chi gwestiynu taliadau beilïaid pan:
- fo’r taliadau yn uwch na’r ddyled ei hun
- fydd y beilïaid yn codi cyfradd unffurf am gludo nwyddau ta waeth pa mor agos neu bell yr ydych yn byw
- fydd y beilïaid yn codi tâl am waith arall sy ddim wedi’i osod yn y gyfraith, er enghraifft, taliadau gweinyddol am lunio rhaglen ad-dalu.
- fydd beilïaid yn codi tâl am roi cytundeb meddiant ar droed trwy’ch drws heb iddynt hwy gamu dros eich trothwy o gwbl.
Cwyno
Os ydych yn teimlo eich bod wedi gor-dalu, fe ddylech chi yn gyntaf drafod hyn gyda’r beilïaid. Os na fydd y beilïaid yn gollwng neu’n lleihau’r taliadau, fe allech chi godi’r mater gyda’r llys perthnasol neu’r awdurdod lleol, i feilïaid treth gyngor.
Fe ddylai’r llysoedd neu’r awdurdod lleol sicrhau fod y beilïaid a gyfarwyddir ganddynt yn gyfrifol ac nid yn gorbrisio. Fe allech chi hefyd gwyno wrth gorff proffesiynol y beilïaid.
Mynd i’r llys
Os na ellir datrys anghydfod ynglŷn â thaliadau trwy drafodaeth, efallai y gallech wneud cais i’r llys am wirio’r bil (asesiad) Os ydych yn ystyried gwneud hyn:
- rhaid i chi wneud y cais o fewn tri mis i dderbyn y bil
- rhaid i chi dalu ffî am y cais i’r llys. Gellir hepgor neu leihau hwn os ydych yn dioddef caledi ariannol
- mae yna berygl y byddwch yn gorfod talu mwy os na chaiff y bil ei leihau gan swm arbennig neu os yw’r llys yn credu eich bod wedi ymddwyn ym afresymol wrth ddadlau ynglŷn â’r bil.
Mynnwch gyngor cyfreithiol cyn gwneud cais am asesiad o fil beili, er mwyn sicrhau fod gennych achos cryf. Fel arall fe allai gostio mwy i chi yn y pendraw. Efallai y gallech gael cymorth cyfreithiol ar gyfer hyn.
Cyn penderfynu mynd i’r llys, gwnewch yn siwr eich bod yn cael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Ynglŷn â beilïaid
- Sut i atal gweithredu gan feilïaid
- Gadael beilïaid i mewn i’ch cartref
- Beth sy’n digwydd os yw’r beilïaid yn dod i mewn
- Gwerthiant eich nwyddau
- Cwyno am feilïaid
- Help gyda dyled
- Treth Gyngor
- Taflen ffeithiau ôl-ddyledion rhent [
74 KB]









