The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Ynglŷn â beilïaid
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â beilïaid
Os oes gennych ddyled ariannol, mae gan eich credydwr amrywiaeth o opsiynau i geisio cael eu harian yn ôl. Mae rhoi cyfarwyddyd i feilïaid i gymryd eich eiddo yn un o’r opsiynau hyn.
Mae beili yn berson sydd â’r gwaith o gymryd pethau sy’n perthyn i bobol sydd â dyled ariannol. Gwerthir y pethau hyn wedyn a defnyddir yr arian i dalu’n ôl y dyledion.
Gellir defnyddio beilïaid hefyd i gymryd yn ôl pethau sy’n perthyn i’ch credydwr. Er enghraifft, os byddech chi’n prynu car ar gytundeb hurbwrcas, gall y beilïaid weithiau ddod a chymryd y car oddi wrthych os nad ydych yn talu’r rhandaliadau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd y gall credydwr gymryd nwyddau a brynwyd trwy gytundeb hurbwrcas, gweler Hurbrynu a gwerthu amodol sale.
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi ynglŷn â’r mathau o feilïaid a beth y caniateir iddynt ei wneud, gan gynnwys:
- pryd y gellir defnyddio beilïaid
- pwy sy’n eu defnyddio
- sut yr awdurdodir beilïaid
- pethau i’w gwirio os yw beili yn ymweld â chi.
Gellir defnyddio beilïaid hefyd i’ch troi allan o eiddo a adfeddiannwyd oherwydd dyledion rhent neu forgais. Nid ydym yn cynnwys troi allan o dan y wybodaeth am feilïaid.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â throi allan oherwydd dyledion rhent, gweler y daflen ffeithiau am Ddyledion Rhent [
74 KB].
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â throi allan oherwydd dyledion morgais, gweler Troi allan oherwydd dyledion morgais.
Os ydych chi’n wynebu cael eich troi allan oherwydd dyledion rhent neu forgais, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pryd y defnyddir beilïaid
Os oes gennych ddyled ariannol, mae gan eich credydwr amrywiaeth o opsiynau i geisio cael eu harian yn ôl. Er enghraifft, fe allent wneud cais i’r llys am orchymyn i gymryd arian o’ch cyflog i dalu’n ôl eich dyled.
Mae rhoi cyfarwyddyd i feilïaid i gymryd eich eiddo yn opsiwn arall. Fel arfer gwerthir y nwyddau mewn arwerthiant. Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at ffioedd a thaliadau’r beilïaid a’r hyn sydd ar ôl yn mynd at eich credydwr.
Mae gan y mwyafrif o nwyddau werth ail law isel, ac y mae yna reolau ynglŷn â’r hyn y mae’n rhaid i feilïaid eu gadael ar ôl. Gan hynny nid yw defnyddio beilïaid yn opsiwn da bob amser i gredydwr oherwydd efallai na chant eu harian i gyd yn ôl. Ar y llaw arall mae ar bobol ofn beilïaid ac os ydynt yn credu fod y beilïaid yn dod, efallai y byddan nhw’n ceisio codi’r arian i dalu’r credydwr cyn i’r beilïaid ddod a chymryd eu heiddo i ffwrdd.
Fel arfer mae’n rhaid bod yna orchymyn llys cyn y gall beilïaid ddod a chymryd eich eiddo. Hyd yn oed pan mae gan y beilïaid yr awdurdod i weithredu, efallai y bydd hi’n bosibl negydu gyda’r credydwr i atal y beilïaid rhag dod.
Gellir defnyddio beilïaid i’ch gorfodi i dalu’r dyledion canlynol:
- dyledion treth gyngor
- dyledion trethi busnes
- gorchmynion llys sirol (CCJs)
- gorchmynion Uchel Lys (dyfarniadau)
- dyledion cynnal plant
- dirwyon parcio/traffig ffyrdd
- dirwy mewn achos troseddol
- dyledion treth incwm
- dyledion TAW
- dyledion rhent.
Ydy casglwyr dyledion yr un fath â beilïaid
Gall rhai credydwyr ddefnyddio casglwyr dyledion i gael eu harian yn ôl. Person neu gwmni sy’n casglu arian ar ran y benthyciwr ydyw casglwr dyledion. Nid beilïaid ydyw casglwyr dyledion ac nid oes ganddynt yr un pwerau cyfreithiol â beilïaid.
Ni ddylai casglwyr dyledion fyth esgus bod yn feili er mwyn rhoi ofn i chi a’ch gorfodi i dalu dyled. Bydd gan wir feili awdurdodiad arbennig i weithredu.
Ydy’r beilïaid fel yr heddlu
Nid yw’r beilïaid yr un fath â’r heddlu. Nid oes ganddynt yr un pwerau â’r heddlu.
Nid oes gan feilïaid sydd wedi’u hawdurdodi i gymryd eich meddiannau i ad-dalu dyled yr hawl i’ch bygwth ag arestio neu garchar. Ni chaniateir iddynt alw’r heddlu i’w helpu i fynd i mewn i’ch cartref. Sut bynnag, gellir galw’r heddlu i arbed torcyfraith (hynny yw, os oes perygl o drwbl). Bydd y beilïaid yn torri i mewn i’ch cartref yn gorfforol a bydd yr heddlu yn sefyll wrth law, yn barod i ymyrryd i arbed trwbl.
Pryd y gellir defnyddio beilïaid i’ch arestio
Gall beilïaid eich arestio ond dim ond mewn rhai achosion cyfyngedig iawn ac os awdurdodwyd hwy i wneud hynny gan y llys ynadon. Er enghraifft, os nad ydych chi wedi talu dirwy’r llys neu ddyled treth gyngor a dim yn mynychu’r llys pan ddywedir wrthych am wneud hynny, gall yr ynadon gyhoeddi gwarant arestio i’ch arestio a’ch dwyn i’r llys i ateb cwestiynau. Yn y sefyllfa hon, cyflawnir yr arestiadau yn aml gan feilïaid preifat yn hytrach na’r heddlu.
Mathau o feilïaid
Rhaid i feilïaid ddilyn rheolau arbennig cyn y gallant ddod i’ch cartref a meddiannu’ch eiddo. Mae llawer o reolau gwahanol. Mae’r rheolau yn dibynnu ar y math o ddyled a’r math o feili sydd ynghlwm. Gall beili fod yn un o’r canlynol:
Beilïaid preifat
Mae beilïaid preifat naill ai’n hunan cyflogedig neu’n cael eu cyflogi gan gwmnïau preifat. Fe allant weithio i:
- yr awdurdod lleol, i gasglu ôl-ddyledion treth gyngor
- llysoedd yr ynadon, i gasglu arian sy’n ddyledus mewn achos troseddol (er enghraifft, dirwyon) neu ddirwyon di-drosedd (er enghraifft, dirwyon traffig ffyrdd). Mae’r mwyafrif o ynadon bellach yn defnyddio beilïaid preifat i gasglu’r dyledion hyn.
- yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), i gasglu arian cynnal plant sydd heb ei dalu
- landlordiaid, lle mae ôl-ddyledion rhent
- Cyllid a Thollau EM (HMRC), i gasglu treth incwm neu TAW sydd heb ei dalu
Mewn rhai achosion, rhaid i feilïaid preifat gael eu trwyddedu.
Beilïaid Llys sirol
Mae beilïaid llys sirol yn gweithio i’r llys sirol ac yn gyfrifol i farnwr rhanbarth y llys sirol lleol. Gellir eu defnyddio hwy os oes gennych orchymyn llys sirol (dyfarniad llys sirol neu CCJ) yn eich erbyn am:
- y mwyafrif o gytundebau credyd (cytundebau credyd rheoledig) neu
- dyledion personol o £5,000 neu lai.
Er mwyn gwybod mwy am gytundebau credyd rheoledig, gweler Eich hawliau wrth fenthyg arian.
Swyddogion Gorfodi'r Uchel Lys
Mae swyddogion gorfodi'r Uchel Lys yn gweithio i’r Uchel Lys. Maent yn gyfarwydd â delio â gorchmynion yr Uchel Lys (dyfarniadau). Efallai y defnyddir hwynt hefyd ar gyfer gorchmynion llys sirol (dyfarniadau llys sirol neu CCJ’s) o £600 a drosodd. Os yw CCJ am £5,000 neu fwy, rhaid defnyddio’r Uchel Lys i ddelio â’r ddyled hon. Ar y tudalennau hyn, rydyn ni'n defnyddio'r term beilïaid i gynnwys y swyddogion gorfodi hyn er mai nid dyma eu henw cywir mewn gwirionedd.
Beilïaid Llys Ynadon
Mae beilïaid llys ynadon yn gweithio i’r llys ynadon ac yn atebol i glerc y llys ynadon. Defnyddir hwy i ddelio â:
- arian sy’n ddyledus oherwydd achos troseddol, yn cynnwys dirwyon
- arian sy’n ddyledus mewn rhai achosion di-drosedd, er enghraifft, cosb traffig ffyrdd.
Sut bynnag mae’r mwyafrif o lysoedd ynadon bellach yn defnyddio beilïaid preifat i gasglu’r dyledion hyn.
Oes rhaid i feilïaid gael eu hawdurdodi
Ar gyfer rhai dyledion, rhaid defnyddio beilïaid trwyddedig, er enghraifft i gymryd nwyddau oddi wrthych ar gyfer ôl ddyledion treth gyngor.
Er mwyn cymhwyso fel beili trwyddedig, rhaid i’r beili wneud cais am dystysgrif oddi wrth y llys sirol bob dwy flynedd. Rhaid iddyn nhw hefyd gwrdd â rhai amodau arbennig, er enghraifft, rhaid iddynt ddangos eu bod yn berson cymwys a chywir i ddal tystysgrif. Os na fyddant yn ymddwyn yn briodol, fe allant golli eu tystysgrif. Golyga hyn na allant weithredu mwyach fel beili trwyddedig.
Yn y mwyafrif o achosion, mae angen gorchymyn llys ar y beilïaid i weithredu. Ar gyfer rhai dyledion, efallai y bydd angen awdurdod pellach oddi wrth y llys cyn y gall beilïaid ymweld â chi.
Awdurdodi ar gyfer ôl-ddyledion treth gyngor
Os oes gennych ôl-ddyledion treth gyngor, gall yr awdurdod lleol awdurdodi’r beilïaid i gymryd eich pethau unwaith y bydd gorchymyn atebolrwydd wedi’i gyflwyno. Nid oes rhaid iddynt fynd yn ôl i’r llys am awdurdodiad.
Gelwir yr awdurdodiad a rydd yr awdurdod lleol i’r beiliaid yn warant i weithredu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd y gall awdurdod lleol gael gorchymyn atebolrwydd am ôl-ddyledion treth gyngor, gweler Treth Gyngor.
Awdurdodi ar gyfer gorchmynion Llys sirol ac Uchel Lys
Ar gyfer gorchmynion llys sirol ac uchel lys, mae angen awdurdodiad arbennig arall oddi wrth y llys ar feilïaid cyn y gallan nhw geisio cymryd eich pethau i ffwrdd.
Yn y llys sirol, gelwir y gorchymyn llys i gymryd eich pethau i’w gwerthu yn warant i weithredu. Gelwir y gorchymyn llys i gymryd yn ôl nwyddau sy’n perthyn i’ch credydwr, megis nwyddau a brynwyd trwy gytundeb hurbwrcas, yn warant danfon nwyddau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd y gall credydwr gymryd yn ôl nwyddau a brynwyd trwy gytundeb hurbwrcas, gweler Hur bwrcasu.
Yn yr Uchel Lys, gelwir y gorchymyn llys i gymryd eich pethau i’w gwerthu yn writ fi-fa.
Awdurdodi ar gyfer ôl-ddyledion treth incwm a TAW
Gall Cyllid a Thollau EM (HMRC) ddefnyddio eu swyddogion gorfodi eu hunain neu feilïaid preifat i gymryd eich pethau ar gyfer ôl-ddyledion treth incwm a TAW. Nid oes rhaid iddynt gael gorchymyn llys yn gyntaf.
Awdurdodi ar gyfer ôl-ddyledion rhent
Nid oes angen gorchymyn llys ar rai landlordiaid cyn y gallan nhw gyfarwyddo beilïaid i gymryd eich pethau i dalu ôl-ddyledion rhent. Mae’r rheolau ynglŷn â hyn yn gymhleth iawn ac yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych. Prin iawn y defnyddir beilïaid yn y ffordd hon.
Os yw’ch landlord yn bygwth anfon beilïaid i gael ôl-ddyledion rhent yn ôl, fe ddylech chi gael cyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Beth i’w wirio os bydd beilïaid yn ymweld â chi
Os bydd beilïaid yn ymweld â chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am gael gweld:
- prawf o bwy ydyn nhw
- copi o’r gorchymyn llys gwreiddiol sy’n nodi eich bod mewn dyled
- copi o’u hawdurdodiad i gymryd eich nwyddau
- os ydyn nhw’n feili trwyddedig, prawf o’u tystysgrif.
Gwiriwch ddyddiadau’r dogfennau i weld os ydyn nhw o hyd yn ddilys. Er enghraifft, mae gwarant i weithredu neu writ fi-fa yn ddilys am flwyddyn yn unig ar ôl iddo gael ei gyflwyno oni bai fod prawf fod barnwr wedi’i ymestyn.
Os rhoddwyd yr awdurdodiad i’r beilïaid beth amser yn ôl, neu os na fydd y beilïaid yn fodlon dangos eu dogfennau i chi, mynnwch gyngor ar frys oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Hyd yn oed os oes gan y beilïaid y dogfennau cywir, fel arfer nid oes yn rhaid i chi eu gadael i mewn.
Cael rhybudd o ymweliad gan feilïaid
Yn gyffredinol mae gennych yr hawl i gael rhybudd fod y beilïaid yn dod. Er enghraifft, os oes gennych orchymyn atebolrwydd am ôl-ddyledion treth gyngor, rhaid i’r awdurdod lleol anfon llythyr o rybudd i chi o leiaf 14 diwrnod cyn ymweliad cyntaf y beili, yn eich hysbysu fod:
- gorchymyn atebolrwydd wedi’i gwblhau a nodi’r swm y mae’n sôn amdano
- y gall yr achos gael ei drosglwyddo i feili os na fyddwch yn talu’r swm sy’n ddyledus cyn i 14 diwrnod fynd heibio
- y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd y beilïaid os defnyddir hwy. Rhaid amgáu manylion am y ffioedd.
Er mwyn gwybod mwy am bryd y gall awdurdod lleol gael gorchymyn atebolrwydd am ôl-ddyledion treth gyngor, gweler Treth Gyngor.
Os ydych chi wedi derbyn rhybudd fod y beilïaid yn mynd i ddod a chymryd eich nwyddau i ffwrdd, fe ddylech chi gael cyngor ar frys. Peidiwch ag anwybyddu’r rhybudd. Mae’r beilïaid yn codi ffioedd am ddod i’ch cartref a mwy na thebyg yr aiff eich dyled yn fwy os anwybyddwch chi hwy.
Mewn rhai achosion chewch chi ddim rhybudd fod y beilïaid yn dod. Er enghraifft, nid oes rhaid i gredydwyr anfon nodyn o rybudd i chi yn dweud fod gwrit fi-fa [link to heading Authorisation for county court and high court orders] wedi’i gyhoeddi yn yr Uchel Lys er y gallan nhw ddewis gwneud hynny. Fel arfer bydd y beilïaid yn dod i gymryd nwyddau yn fuan ar ôl cyhoeddi'r gwrit fi-fa.
Os ydych chi wedi derbyn rhybudd fod y beilïaid yn mynd i ddod, fe ddylech chi gael cyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Sut i atal gweithredu gan feilïaid
- Gadael beilïaid i mewn i’ch cartref
- Beth os yw’r beilïaid yn dod i mewn
- Gwerthiant eich nwyddau
- Ffioedd beilïaid
- Cwyno am feilïaid
- Cymorth gyda dyled
- Treth Gyngor
- Taflen ffeithiau ôl-ddyledion rhent [
74 KB]









