Gall delio a materion ariannol weithiau fod yn annymunol, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau megis credyd neu morgeisi’n gweithio, fe allech chi ddiweddu yn colli allan yn ariannol neu’n cael eich hunan yn ddwfn mewn dyled.
Ond fe allwch chi osgoi colli arian a mynd i ddyled os oes gennych ddigon o wybodaeth i wneud y dewisiadau iawn. Darllenwch y tudalennau canlynol er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei angen arnoch, yn cynnwys help i ddelio â’ch problemau dyled, sut i osgoi colli’ch cartref a sut mae cael eich arian nôl mewn trefn.

