The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Beth ddylech chi ei wneud os oes problem yn y gwaith
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban
Beth fedra i ei wneud os ydw i’n anhapus ynglyn â rhywbeth yn y gwaith?
Os ydych yn anhapus ynghylch rhywbeth y mae’ch cyflogwr neu’ch cydweithiwr wedi ei ddweud neu ei wneud, dylech geisio siarad â’r person dan sylw am y peth. Mae’n syniad da ceisio datrys problemau ar gam cynnar. Os nad ydych yn datrys pethau’n gyflym, efallai y byddwch chi’n gwylltio, ac fe allai hyn achosi problemau mwy rhyngoch chi a’ch cyflogwr.
Yn gyfreithiol hefyd, fel arfer mae’n well gweithredu ar unwaith. Oni wnewch hynny, efallai y bydd unrhyw newidiadau i’ch cytundeb neu’ch amodau gwaith yn dod yn rhai parhaol. Os nad ydych yn gwneud unrhyw beth, efallai y cymerir eich bod yn derbyn unrhyw newidiadau, hyd yn oed os ydych yn protestio yn eu cylch.
Mae’n syniad da ysgrifennu unrhyw bryderon sydd gennych ac unrhyw beth sy’n digwydd. Fe fydd hyn yn ddefnyddiol fel cofnod ac i’ch atgoffa ynghylch y sefyllfa.
Os ydych wedi cael eich diswyddo, neu mae’ch cyflogwr yn dechrau camau disgyblu ffurfiol yn eich erbyn, mae yna weithdrefn y dylai ei dilyn, o dan god a gynhyrchwyd gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas). Fel rhan o hyn, dylech gael cyfle i’ch amddiffyn eich hun mewn cyfarfod ac i apelio yn erbyn y penderfyniad. Os yn bosib, dylech wneud hyn drwy ysgrifennu at eich cyflogwr. Dylech esbonio pam nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud os ydych chi wedi cael eich diswyddo neu mae’ch cyflogwr yn dechrau camau disgyblu yn eich erbyn, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.
Ddylwn i gael cyngor cyn mynd at fy nghyflogwr?
Os yn bosib, yn aml mae’n ddefnyddiol cael cyngor fel eich bod chi’n gwybod beth yw beth. Efallai y bydd eich cyflogwr â hawl i wneud yr hyn y mae’n ei wneud ac efallai na fydd yna lawer fedrwch chi ei wneud i’w newid. Ar y llaw arall, efallai na fydd eich cyflogwr â hawl i wneud yr hyn y mae’n ei wneud, ac efallai y byddwch yn medru defnyddio eich hawliau cyfreithiol i newid pethau.
Mae yna lawer o lefydd y gallwch fynd iddynt i gael cyngor.
Ceir manylion mudiadau a fydd efallai’n medru eich helpu yn Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?
A yw fy undeb yn medru helpu?
Os ydych yn aelod o undeb llafur, dylech geisio siarad â swyddog eich undeb am unrhyw broblemau sydd gennych yn y gwaith. Rhan o rôl eich undeb llafur yw helpu datrys problemau sydd gan aelodau unigol yn y gwaith. Yn aml, gellir datrys problemau’n haws gyda help eich undeb. Ond, os ydych yn anhapus â phenderfyniad eich undeb, dylech gael cyngor o rywle arall.
Beth arall fedra i ei wneud?
Os nad yw siarad am bethau gyda’ch cyflogwr wedi gweithio, efallai y byddwch chi am feddwl am ffordd arall o ddatrys y broblem. Un ffordd o wneud hyn yw codi achwyniad. Mae achwyniad yn ffordd o godi’ch pryderon, problemau neu gwynion yn fwy ffurfiol gyda’ch cyflogwr.
Sut ydw i’n codi achwyniad?
Fe allwch chi ddefnyddio achwyniad i godi unrhyw beth nad ydych yn hapus yn ei gylch gyda’ch cyflogwr. Os oes proses neu weithdrefn achwyn gan eich cyflogwr, efallai y bydd yn eich cytundeb neu’ch llawlyfr staff os oes un gennych. Os nad ydych yn siwr a oes gan eich cyflogwr weithdrefn achwyn, holwch.
Dylech geisio nodi’ch cwyn yn ysgrifenedig, a chadw copi o’ch achwyniad ac unrhyw ymateb gan eich cyflogwr. Efallai y bydd hyn yn bwysig os na chaiff eich cwyn ei datrys.
Os ydych yn cael trafferth ysgrifennu eich achwyniad ar bapur, dylai cynghorydd profiadol, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol er enghraifft, fod yn medru eich helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Hyd yn oed os nad oes gweithdrefn gan eich cyflogwr ar gyfer achwyniadau ysgrifenedig, fe fyddwch yn dal i fedru codi unrhyw beth yr ydych yn anhapus yn ei gylch gyda’ch cyflogwr. Efallai y byddai’n golygu cyfarfod gyda’ch cyflogwr i drafod pethau. Ond, fel arfer mae’n well nodi’ch cwyn yn ysgrifenedig, ei rhoi i’ch cyflogwr a chadw copi. Fel arfer, dylai drefnu cyfarfod gyda chi, a rhoi cyfle i chi apelio yn erbyn y penderfyniad os nad ydych yn cytuno ag ef. Mae gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) god arfer da ar gyfer achwyniadau, a dylai’ch cyflogwr ei ddilyn.
I ddarganfod mwy ynghylch codi achwyniad, gweler Delio ag achwyniadau yn y gwaith.
I ddarganfod mwy am Acas, gweler Deall Acas a chytundebau setlo.
A oes rhaid i mi godi achwyniad?
Efallai na fyddwch am godi achwyniad, ond dylech geisio datrys pethau gyda’ch cyflogwr cyn mynd at y tribiwnlys cyflogaeth. Os oes gwahanol gamau i’r weithdrefn achwyn, ble’n bosib ceisiwch fynd trwy bob cam cyn cymryd unrhyw gamau eraill. Efallai y byddwch yn cael llai o iawndal os enillwch eich achos, am eich bod heb godi achwyniad cyn dwyn achos.
Dylech ystyried y tribiwnlys cyflogaeth fel yr opsiwn olaf oll bob tro.
PWYSIG!
Terfynau amser
Os ydych chi am fynd â’ch cwyn at dribiwnlys cyflogaeth, fel arfer mae gennych 3 mis namyn diwrnod i gyflwyno’ch cais i’r tribiwnlys. Fel arfer, caiff yr amser ei fesur o’r adeg y digwyddodd y digwyddiad diwethaf.
Mae terfynau amser yn berthnasol bob tro, hyd yn oed os ydych yn codi achwyniad neu’n apelio.
Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw eich terfynau amser a pheidiwch â cholli’r cyfle i gyflwyno’ch cais i’r tribiwnlys.
Efallai y byddwch yn medru cael cyngor pellach ynglyn â hyn gan un o’r mudiadau sydd wedi eu rhestru yn Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.
Beth os nad ydw i’n medru datrys fy mhroblem drwy’r weithdrefn achwyn?
Weithiau, nid yw’n bosib datrys y broblem gyda’ch cyflogwr drwy’r weithdrefn achwyn. Os yw hyn yn wir, efallai y byddwch am ystyried beth ddylech chi ei wneud nesaf. Efallai y byddwch chi am ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Mae’r tudalennau eraill yn yr adran hon yn medru eich helpu i ddeall sut i ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.
I ddarganfod mwy ynghylch y camau nesaf, gweler Deall tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Efallai y byddwch chi hefyd am gael cyngor ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
I ddarganfod mwy ynghylch yr help a allai fod ar gael, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?
Cofiwch, peidiwch ag aros yn rhy hir cyn gweithredu. Mae yna derfynau amser llym ar gyfer cyflwyno cais i’r tribiwnlys cyflogaeth. O dan y gyfraith, fel arfer dim ond tri mis namyn diwrnod sydd gennych, ar ôl y digwyddiad, i gymryd camau. Er enghraifft, os fydd rhywbeth yn digwydd ar 28 Hydref, rhaid i’r tribiwnlys cyflogaeth dderbyn eich cais erbyn 27 Ionawr.
Ydw i’n medru datrys fy ngwahaniaethau gyda fy nghyflogwr heb fynd at dribiwnlys cyflogaeth?
Os nad ydych yn medru datrys eich problemau gyda’ch cyflogwr, ond mae gennych gwyn y gallech ei chyflwyno i dribiwnlys cyflogaeth, efallai y bydd ACAS yn medru eich helpu i ddatrys pethau. Mae ganddyn nhw gynllun o’r enw cymodi cyn cyflwyno cais. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun o Acas, a elwir yn Gymodwr, yn gweithio gyda chi a’ch cyflogwr i geisio dod o hyd i ateb i’r sefyllfa. Mae gwasanaeth cymodi Acas yn ddiduedd, yn gyfrinachol, yn wirfoddol ac yn rhad ac am ddim.
Mae gwybodaeth bellach ar gael ynghylch cymodi cyn cyflwyno cais trwy gysylltu ag Acas.
Am wybodaeth ynghylch sut i gysylltu ag Acas, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?
Weithiau, mae’r gwahaniaethau rhyngoch chi a’ch cyflogwr mor fawr nad ydych chi am barhau i weithio yno. Neu, efallai y bydd eich cyflogwr yn penderfynu eich diswyddo.
Mae hefyd yn bosib y gallai’ch cyflogwr gynnig peth arian i chi i stopio gweithio yno. Yn aml, fe fydd hyn ar ffurf cytundeb i gyfaddawdu. Mae hwn yn gytundeb cyfreithiol a dylech sicrhau eich bod yn cael cyngor arno gan gyfreithiwr neu gynghorydd cymwys arall ar gyflogaeth. Trwy lofnodi’r cytundeb, rydych yn cytuno i’r taliad, ac i unrhyw delerau eraill, ac yn ildio’r hawl i fynd at y tribiwnlys cyflogaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cytundebau i gyfaddawdu, gweler Deall Acas a chytundebau setlo.
Camau nesaf
I ddarllen am y camau nesaf i’w cymryd wrth weithredu ynghylch problemau yn y gwaith, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith? a Deall tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Mwy am broblemau yn y gwaith
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddatrys problemau yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.









