The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Deall tribiwnlysoedd cyflogaeth
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban
Beth yw gwaith tribiwnlysoedd cyflogaeth?
Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn gwneud penderfyniadau ynglyn ag anghydfod mewn dadleuon. Mae bron pob achos cyfreithiol sy’n ymwneud â chyflogaeth yn cael gwrandawiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys achosion ynghylch pethau fel diswyddiad annheg, dileu swyddi a gwahaniaethu. Mae yna lawer o fathau eraill o achosion hefyd y mae modd eu dwyn.
Ydw i’n medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth?
Os ydych yn cael problem gyda’ch cyflogwr ac rydych am fynd â’r peth at dribiwnlys cyflogaeth, gelwir hyn yn ddwyn achos.
Efallai y byddwch yn medru dwyn achos, ond mae’n dibynnu beth yw’ch problem a ph’un ai eich bod yn cwrdd ag amodau penodol, er enghraifft ynghylch terfynau amser. Fel arfer, mae gennych dri mis namyn diwrnod o’r dyddiad pan ddigwyddodd y digwyddiad, i ddwyn achos gerbron y tribiwnlys.
Dylech geisio cael gymaint o wybodaeth â phosib ynglyn â’ch hawliau cyfreithiol yn gyntaf. Fe allwch wneud hyn ar-lein, er enghraifft trwy’r wybodaeth ar Gyflogaeth ar y wefan hon. Neu fe allwch siarad â chynghorydd neu gynrychiolydd.
I ddarganfod mwy am eich hawliau cyfreithiol, gweler ein hadran ar Gyflogaeth.
I ddarganfod mwy am fudiadau a fydd efallai’n medru eich helpu ac yn medru rhoi cyngor i chi, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?
Ddylwn i ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth?
Os yn bosib, dylech geisio datrys eich problemau heb fynd at dribiwnlys cyflogaeth. Efallai bod modd gwneud hyn drwy siarad â’ch cyflogwr, codi achwyniad neu ddefnyddio’r cynllun cymodi cyn cyflwyno cais sy’n cael ei redeg gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).
Ond, os ydych chi am ddwyn achos gerbron tribiwnlys ac rydych yn bodloni’r amodau ar gyfer gwneud hynny, mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych chi am barhau i ddwyn achos ai peidio. Mae’n ddefnyddiol gwybod pa mor gryf yw’ch achos, ond mae’n medru bod yn anodd asesu hyn.
Os oes cynghorydd neu gynrychiolydd gennych, i ddechrau fe fydd fel arfer yn sefydlu os oes achos posib gennych, os ydych yn cwrdd â’r amodau ar gyfer dwyn achos a pha dystiolaeth sydd gennych. Yn nes ymlaen, fe fydd yn edrych i weld pa mor gryf neu wan yw eich achos, wedi gweld beth sydd gan eich cyflogwr i’w ddweud a pha dystiolaeth sydd gan eich cyflogwr. Felly, mae’n medru cymryd peth amser cyn i’ch cynghorydd neu gynrychiolydd fedru pwyso a mesur eich siawns o lwyddo.
Wrth edrych ar eich cais, ceisiwch feddwl yn onest am y dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich dadleuon, a pha dystiolaeth sydd gan eich cyflogwr i gefnogi unrhyw ddadleuon. Dylech gofio hefyd ei bod yn anodd darogan penderfyniad tribiwnlys, neu efallai y bydd yna dystiolaeth nad ydych wedi ei hystyried. Felly, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod gennych achos cryf, nid oes modd gwarantu llwyddiant.
Ond, mae’n syniad da ystyried pa mor gryf yw eich achos oherwydd mae hyn yn medru eich helpu i benderfynu p’un ai eich bod am ddwyn achos ai peidio a ph’un ai eich bod am setlo’ch achos cyn cyrraedd y tribiwnlys.
I ddarganfod mwy am ffyrdd eraill o ddatrys eich problem heb fynd at dribiwnlys cyflogaeth, gweler Beth ddylwn i ei wneud os oes problem yn y gwaith.
Sut brofiad yw bod gerbron tribiwnlys cyflogaeth?
Fel arfer, mae Tribiwnlysoedd cyflogaeth mewn adeiladau swyddfa a chynhelir y gwrandawiadau mewn ystafelloedd tribiwnlys unigol. Mae yna dri aelod i’r tribiwnlys a nhw fydd yn penderfynu ar eich achos. Gyda’i gilydd, gelwir y tri yn banel y tribiwnlys. Dyma’r tri aelod – barnwr ar gyflogaeth a fydd yn rhedeg y trefniadau, person sy’n cynrychioli mudiadau cyflogwyr a pherson sy’n cynrychioli mudiadau cyflogedigion. Mae barnwr ar gyflogaeth yn medru gwrando ar rai mathau o achosion a rhai mathau o wrandawiadau heb aelodau’r panel.
Fel arfer, mae’r panel yn eistedd ar ddesg sydd ychydig yn uwch. Mae’r awyrgylch fel awyrgylch llys, ond ei fod ychydig yn llai ffurfiol. Er enghraifft, nid oes unrhyw un yn gwisgo wig na gwn, ond rhaid tyngu llw cyn rhoi tystiolaeth ac mae yna reolau ynghylch yr hyn sy’n digwydd a phwy sy’n siarad ar ba adeg.
Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau ar agor i’r cyhoedd ac felly efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd i wrandawiad i gael ymdeimlad o’r profiad. Ond, cofiwch, mae pob achos yn wahanol ac efallai na fydd eich achos chi yn union yr un peth â’r gwrandawiad y byddwch wedi bod iddo.
A oes peryg i mi orfod talu costau?
Gyda chostau, mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn wahanol i’r llysoedd. Yn wahanol i’r llysoedd, nid oes rhaid i chi dalu costau cyfreithiol eich cyflogwr yn awtomatig os digwydd i chi golli’ch achos. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’ch cynrychiolydd, gan ddibynnu ar yr hyn a gytunwyd ymlaen llaw.
Mae yna siawns fach iawn y bydd yn rhaid i chi dalu costau eich cyflogwr. Yn ôl y ffigurau, ceir gorchmynion i dalu costau mewn llai nag 1% o achosion. Efallai y bydd cynrychiolydd eich cyflogwr yn dweud y bydd yn gwneud cais i chi dalu’r costau ond, fel arfer, mae’n ceisio eich dychryn chi er mwyn i chi ollwng yr achos neu dderbyn cynnig isel i setlo.
Mae yna ambell sefyllfa ble mae yna berygl i chi orfod talu’r costau. Er enghraifft, os ydych wedi dwyn achos anobeithiol heb unrhyw siawns o lwyddo, neu os ydych wedi ymddwyn yn wael iawn yn y ffordd y cafodd y cais ei redeg neu os ydych wedi gwrthod cynnig da i setlo.
Os yw’ch achos yn ymwneud â thorri cytundeb fe fydd eich cyflogwr, os yn briodol, yn medru dod â gwrth-hawliad yn eich erbyn. Fe allwch ddarganfod mwy am hyn ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Gaf i newid fy meddwl ynghylch mynd i dribiwnlys cyflogaeth?
Os ydych wedi dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth ac yn newid eich meddwl, fe fyddwch yn medru tynnu eich cais yn ôl. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau gyda’ch achos am eich bod yn teimlo y gallech golli. Fe fyddwch yn medru tynnu yn ôl trwy ysgrifennu at y tribiwnlys yn dweud eich bod am dynnu eich achos yn ôl.
Ond, mae angen i chi fod yn ofalus ynghylch yr amseru. Yr adeg orau i wneud y penderfyniad hwn yw’r adeg pan fyddwch yn gwybod beth yw achos eich cyflogwr ac yn gallu ystyried cryfderau a gwendidau eich achos chi. Os fyddwch chi’n gadael y penderfyniad tan yn nes ymlaen, ar ôl i’ch cyflogwr wario llawer o arian yn delio gyda’ch cais, efallai y bydd yna berygl i chi orfod talu costau.
Os fyddwch chi’n dod i gytundeb setlo gyda’ch cyflogwr drwy ACAS, fel arfer fe fydd eich achos yn cael ei dynnu yn ôl yn awtomatig o’r tribiwnlys ac, fel arfer, ni fyddwch yn gorfod ymddangos gerbron tribiwnlys.
Os fyddwch chi’n dod i gytundeb setlo gyda’ch cyflogwr mewn ffordd arall, fe fydd angen i chi neu’ch cynrychiolydd sicrhau eich bod yn tynnu’ch achos yn ôl o’r tribiwnlys.
Peidiwch â mynd i banig ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth
Wrth ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, efallai y byddwch yn teimlo dan bwysau. Efallai y byddwch yn nerfus ynghylch dechrau achos. Ond, cofiwch fod llawer o bobl yn dwyn eu hachos eu hunain yn llwyddiannus iawn gerbron tribiwnlys cyflogaeth – mae yn bosib!
Hefyd, mae nifer o achosion yn setlo cyn i’r achos gael gwrandawiad. Cynlluniwyd y system i’ch annog chi a’ch cyflogwr i setlo unrhyw wahaniaeth sydd gennych. Fe fydd cyfle i chi geisio setlo. Fe fydd ACAS yn dod yn rhan o’r trafodaethau yn awtomatig yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae’n medru helpu dod i gytundeb i setlo.
Am fwy o wybodaeth ynghylch setlo’ch achos, gweler Deall Acas a chytundebau setlo.
Camau nesaf
I weld beth yw’r camau nesaf wrth ddelio gyda phroblemau yn y gwaith, gweler Dechrau dwyn achos mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Mwy am broblemau yn y gwaith
Am fwy o wybodaeth ynghylch datrys problemau yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.









