Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Dechrau dwyn achos mewn tribiwnlys cyflogaeth

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban

Ynglyn â dechrau dwyn achos mewn tribiwnlys cyflogaeth

Os fyddwch chi’n cael problem yn y gwaith ac nid ydych yn medru ei datrys, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut i fynd ati i ddechrau dwyn achos.

Efallai y bydd yna ffyrdd eraill o ddatrys eich problem, yn hytrach na dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

I ddarganfod mwy am ffyrdd eraill o ddatrys eich problem yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Llanw ffurflen ET1

Fe fyddwch yn dechrau dwyn achos mewn tribiwnlys cyflogaeth trwy lanw ffurflen arbennig o’r enw ET1.

Fe allwch lenwi ffurflen bapur ET1, neu’r fersiwn sydd ar gael ar-lein. Mae’r fersiwn sydd ar gael ar-lein ar dudalen y tribiwnlysoedd cyflogaeth ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk.

Os fyddwch chi’n penderfynu llanw’r fersiwn papur, dylech fod yn medru cael copi oddi wrth eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Fe allwch ffonio llinell ymholiadau cyhoeddus y tribiwnlys cyflogaeth hefyd. Dylen nhw fod yn medru darparu copïau mewn fformatau eraill. Rhif ffôn 0845 795 9775 (Minicom: 0845 757 3722).

Mae’r ffurflen ET1 yn ffurflen bwysig iawn. Os oes cynghorydd neu gynrychiolydd gennych, gofynnwch am help gyda hyn.

Mae yna ganllawiau ar gael i’ch helpu i lanw’r ffurflen ar dudalennau tribiwnlysoedd cyflogaeth gwefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn www.justice.gov.uk.

Mae’r ET1 yn rhoi lle i chi ysgrifennu datganiad ynglyn â’ch achos. Os yw’r achos yn cael gwrandawiad, dyma’r ddogfen gyntaf y bydd y tribiwnlys yn ei darllen.

Mae angen i chi roi cyfrif clir o’r hyn yr ydych yn cwyno amdano, a chadw at y pwynt dan sylw cyn belled ag sy’n bosib. Dylech ysgrifennu am ddigwyddiadau yn yr un drefn ag y maen nhw wedi digwydd. Ysgrifennwch mewn paragraffau wedi eu rhifo. Os ydych wedi anghofio sôn am rywbeth, efallai y bydd yn anodd ei ychwanegu yn nes ymlaen, ac felly dylech sôn am bob digwyddiad pwysig yr ydych yn cwyno yn ei gylch. Ond, dylech geisio osgoi mynd i fanylder sylweddol ynghylch pob peth bach a ddigwyddodd.

Nid oes angen i chi ddefnyddio iaith gyfreithiol na dyfynnu’r gyfraith. Ar y llaw arall, rhaid i chi sicrhau bod eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth sy’n cael sylw gan y gyfraith. Os yw’ch cyflogwr yn ymateb i’ch honiad trwy ddweud nad yw’n achos y mae tribiwnlys cyflogaeth â’r awdurdodaeth i benderfynu yn ei gylch, fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol.

Efallai y byddwch yn medru cael cyngor ynghylch eich achos gan linell gymorth Acas. Rhif ffôn: 08457 47 47 47 (Minicom: 08456 06 16 00).

I ddarganfod mwy am ymateb eich cyflogwr i’ch cais, gweler Ymateb cyflogwr i achos sydd gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Terfynau amser

Mae yna derfynau amser byr a llym iawn ar gyfer dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gennych dri mis namyn diwrnod i’r dyddiad y cawsoch eich diswyddo, ond mae terfynau amser yn medru bod yn wahanol ar gyfer rhai sefyllfaoedd.

Apeliadau a diswyddiad

Os cewch eich diswyddo, ac rydych yn apelio yn erbyn eich diswyddiad, nid yw’r ffaith eich bod wedi apelio yn newid dyddiad y diswyddiad, yn gohirio’r diswyddiad nac yn ymestyn yr amser ar gyfer dwyn achos. Mae dyddiad y diswyddiad yn aros yr un fath. Rydych wedi cael eich diswyddo tra’n aros am yr apêl. Os nad ydych yn sicr o ddyddiad y diswyddiad, dylech gymryd y diwrnod diwethaf i chi weithio i’ch cyflogwr fel dyddiad y diswyddiad, bob tro.

Rhybudd a dyddiad y diswyddiad

Os ydych yn gweithio’ch rhybudd, dyddiad y diswyddiad yw’r dyddiad yr ydych yn gorffen gweithio’ch rhybudd.

Os yw’ch cyflogwr yn dweud wrthych eich bod yn cael eich diswyddo gyda rhybudd neu gyda thâl yn lle rhybudd, ond nid yw am i chi weithio’ch cyfnod rhybudd, mae angen i chi fod yn glir a ydych:-

  • yn cael eich diswyddo ar unwaith gyda thâl yn lle rhybudd, neu
  • yn dal i fod yn gyflogedig hyd nes diwedd y cyfnod rhybudd ond mae’ch cyflogwr am i chi aros gartref yn ystod y cyfnod rhybudd.

Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i’ch cyflogwr gadarnhau’r union ddyddiad y mae’ch cyflogaeth yn cael ei therfynu yn llygaid eich cyflogwr. Os nad ydych yn medru cael yr wybodaeth hon neu os nad ydych yn sicr, cymerwch y dyddiad diwethaf yr oeddech wedi gweithio go iawn i’ch cyflogwr fel dyddiad y diswyddiad.

Fe fyddwch yn medru dechrau achos o ddiswyddiad annheg os ydych wedi cael rhybudd o ddiswyddiad, hyd yn oed os nad yw’r diswyddiad wedi digwydd eto. Mae’n well dwyn achos yn gynnar na cholli’ch cyfle i ddwyn achos am ei bod hi’n hwyr.

Cael help i wirio’r terfynau amser

Mae’n medru bod yn anodd cyfrifo’r dyddiad ar gyfer dechrau eich terfyn amser.  Fe fydd eich cynghorydd neu’ch cynrychiolydd yn medru eich helpu chi gyda hyn, neu fe allwch ffonio un o’r llinellau cymorth, er enghraifft ACAS. Efallai hefyd y bydd llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru helpu os oes gennych achos o wahaniaethu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch mudiadau a fydd efallai’n medru cynghori ar derfynau amser, a sut i gysylltu â nhw, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?.

Anfon y ffurflen ET1

Rhaid bod swyddfa’r tribiwnlys yn derbyn eich ffurflen ET1 yn swyddogol o fewn y terfyn amser, nid yw’n ddigon da eich bod wedi ei phostio cyn diwedd y terfyn amser.  Ni fydd y mwyafrif o achosion sy’n cyrraedd yn hwyr yn medru parhau. Os ydych yn gyfrifol am gyflwyno eich achos eich hun, sicrhewch eich bod yn deall y terfynau amser a sicrhewch eich bod yn anfon eich cais mewn da bryd. Ceisiwch beidio gadael eich ffurflen ET1 i’w llenwi ychydig cyn diwedd y terfyn amser.  Mae llawer o gyflogedigion yn darganfod nad ydynt yn medru dwyn achos am eu bod wedi ei gadael yn rhy hwyr.

I ddarganfod i ba swyddfa y dylech anfon eich ffurflen yng Nghymru a Lloegr, rhowch glic ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.

Yn yr Alban, dylid anfon y ffurflen i:

Central Office of Employment Tribunals (Scotland)
The Eagle

Building
215 Bothwell Street
Glasgow
G2 7TS

Ffôn: 0141 204 0730
Ffacs: 0141 204 0732

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn medru cael cymorth a chyngor proffesiynol rhad ac am ddim gan gyfreithiwr, o dan y cynllun cymorth cyfreithiol. Mewn amgylchiadau arbennig, efallai y byddwch hefyd yn medru hael help tuag at gynrychiolaeth gyfreithiol. Gelwir hyn yn ABWOR – 'assistance by way of representation'. Fe fydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban yn http://www.slab.org.uk/.

Nôl i’r brig


Pwy sy’n gyfrifol am anfon y ffurflen ET1 at y tribiwnlys?

Os oes cynghorydd yn eich helpu gyda’ch achos, sicrhewch eich bod yn deall pwy sy’n gyfrifol am anfon y ffurflen ET1 at y tribiwnlys. Os oes cynrychiolydd gennych, fel arfer bydd yn anfon y ffurflen atoch. Dylech holi os nad ydych yn siwr.

Nôl i’r brig


Beth am holiadur ynghylch gwahaniaethu?

Mae’n medru bod yn anodd profi gwahaniaethu. Os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, mae yna weithdrefn sy’n eich galluogi chi i ofyn cwestiynau ysgrifenedig i’ch cyflogwr mewn rhai sefyllfaoedd. Mae hyn yn eich helpu i benderfynu os oeddech wedi dioddef gwahaniaethu.

Mae’r weithdrefn yn golygu llunio holiadur i’w anfon at eich cyflogwr. Gallwch gynnwys cwestiynau ynglyn â’r polisïau a’r arferion sydd efallai’n berthnasol i’r ffordd yr oedd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn eich barn chi.

Fe fyddwch yn medru anfon holiadur at eich cyflogwr unrhyw bryd cyn i chi anfon y ffurflen ET1. Os ydych eisoes wedi rhoi eich ET1 i mewn, mae yna derfyn amser o 28 diwrnod i anfon yr holiadur.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch holiaduron gwahaniaethu ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.

Os oes cynghorydd neu gynrychiolydd gennych, dylai fod yn medru eich helpu gyda holiadur ynghylch gwahaniaethu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu a’ch hawliau, gweler ein Hadran ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch chi wedi anfon eich ffurflen ET1 i mewn, dylech holi i sicrhau bod y tribiwnlys wedi ei derbyn. Sicrhewch eich bod yn holi cyn i’r terfyn amser ddod i ben, fel bod modd i chi ei hanfon eto os oes angen. Dylech gael Llythyr o Gydnabyddiaeth yn fuan wedi i chi anfon eich ET1 i mewn.

Wedi i’r tribiwnlys dderbyn eich ffurflen ET1, yn aml mae yna gyfnod pan fydd yn ymddangos nad oes llawer yn digwydd. Bydd y tribiwnlys yn gwneud copi o’ch ET1 ac yn ei hanfon at eich cyflogwr i weld os yw am ymateb neu amddiffyn ei hun. Gelwir ymateb y cyflogwr yn ET3 ac o hyn ymlaen cyfeirir at eich cyflogwr fel yr ymatebydd. Dylai’r tribiwnlys anfon copi o’r ET3 i chi tua pedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich ET1.

I ddarganfod mwy am ymateb eich cyflogwr a’r ET3, gweler Ymateb cyflogwr i achos sydd gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Pryd fydd fy achos yn cael gwrandawiad gerbron y tribiwnlys cyflogaeth?

Gwrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth yw’r adeg pan fyddwch chi’n mynd gerbron y tribiwnlys i ddadlau eich achos gyda’ch cyflogwr.

Bydd yn rhaid i chi aros peth amser rhwng cyflwyno eich ffurflen ET1 a dyddiad y gwrandawiad ar gyfer eich achos. Mae’r cyfnod y bydd yn rhaid i chi aros yn gallu bod yn wahanol iawn, gan ddibynnu ble’r ydych chi’n byw, a pha mor brysur yw’r tribiwnlys cyflogaeth.

Er ei bod yn anodd cyffredinoli, mae achosion sydd angen un diwrnod yn unig ar gyfer gwrandawiad yn dueddol o gael dyddiad sydd rhwng pedair a chwe mis ar ôl i chi gyflwyno’r ET1. Bydd achosion eraill, fel honiadau o wahaniaethu, angen mwy na diwrnod, ac felly efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach ar gyfer gwrandawiad.

Nôl i’r brig


Camau nesaf

I weld beth yw’r camau nesaf wrth gymryd camau ynghylch problemau yn y gwaith, gweler Ymateb cyflogwr i achos sydd gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Mwy am broblemau yn y gwaith

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddatrys problemau yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback