Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Ymateb cyflogwr i achos sydd gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban

Ynglyn ag Ymateb cyflogwr i achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Os oes problem gennych yn y gwaith ac nid ydych yn medru ei datrys, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth fyddwch chi’n ei gael yn ôl gan eich cyflogwr unwaith fyddwch chi wedi dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, a’r hyn y dylech ei wneud gyda’r hyn a gewch.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Efallai bod yna ffyrdd eraill o ddatrys eich problem heblaw am ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ffyrdd eraill o ddatrys eich problem yn y gwaith heblaw am ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Ffurflen ymateb y cyflogwr

Pan fyddwch chi wedi cyflwyno achos i dribiwnlys cyflogaeth, fe fydd eich cyflogwr yn derbyn copi i weld os ydyw am ei amddiffyn ei hun neu ymateb i’ch honiad. Fel arfer, fe fydd yn ymateb ar ffurflen a elwir yn ET3.

Weithiau, nid yw cyflogwyr yn ymateb, ond mae hyn yn eithaf anarferol. Os nad yw’ch cyflogwr yn ymateb, efallai y bydd y tribiwnlys cyflogaeth yn rhoi dyfarniad ar eich achos sydd o’ch plaid chi’n awtomatig. Gelwir hyn yn ddyfarniad diofyn.

Mae’r ET3 yn ddogfen bwysig iawn. Fel arfer, fe fydd y cyflogwr yn nodi ei ymateb i’ch cwyn, ac mae hyn yn dod yn grynodeb o’i achos. Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw sylwadau ar y ffurflen ET3, oherwydd efallai y bydd angen ei llungopïo a’i dangos i’r tribiwnlys.  Os oes unrhyw sylwadau gennych, nodwch hwy ar ddarn o bapur ar wahân.

Anfonir copi o’ch ffurflen ET1, yr ET3 ac unrhyw bapurau eraill yn ymwneud â’r tribiwnlys, at Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) hefyd. Fe fyddan nhw’n cysylltu â chi a’ch cyflogwr i geisio helpu datrys yr anghydfod.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Acas a sut efallai y byddan nhw’n medru eich helpu, gweler Deall Acas a threfniannau.

Nôl i’r brig


Beth os ydw i’n anghytuno gyda’r hyn y mae fy nghyflogwr yn ei ddweud?

Efallai y bydd yna bethau ar ffurflen ymateb ET3 eich cyflogwr yr ydych yn anghytuno’n gryf â nhw, neu sy’n gwneud i chi deimlo’n grac.

Ond ni ddylech ysgrifennu at eich cyflogwr na’r tribiwnlys ynghylch yr hyn a ddywedwyd ar yr ET3. Ar y cam yma, mae mynd i  gweryl gyda’ch cyflogwr ynghylch yr hyn a ddywedwyd yn wastraff amser ac fe allai niweidio eich achos neu’ch gallu i drafod. Daw’r lle a’r amser i ddadlau ynghylch eich achos, a’r hyn y mae’ch cyflogwr yn ei ddweud, yn nes ymlaen, mewn trafodaethau ynghylch trefniant posib neu yng ngwrandawiad y tribiwnlys.

Pan fyddwch chi’n edrych ar ffurflen ET3, ceisiwch benderfynu ble’r ydych chi’n anghytuno gyda’ch cyflogwr. Yna, meddyliwch pa dystiolaeth fydd ei hangen arnoch i herio’r hyn y mae’ch cyflogwr wedi ei ddweud. Efallai y bydd hyn yn bethau fel negeseuon e-bost gan gydweithwyr, neu’ch dyddiadur o’r hyn a ddigwyddodd. Casglwch gymaint o’r dystiolaeth hon ag a fedrwch chi.

Nôl i’r brig


Sut fedra i gael mwy o wybodaeth a dogfennau gan fy nghyflogwr?

Pan fyddwch chi’n edrych ar y ffurflen ET3, efallai y gwelwch chi fod angen mwy o wybodaeth arnoch, neu esboniad, i ddeall yr hyn y mae’ch cyflogwr wedi ei ddweud. Efallai hefyd y byddwch chi am weld dogfennau penodol. Mae gan y tribiwnlys cyflogaeth reolau ynghylch sut yr ydych yn medru gofyn am weld y dogfennau hyn. Gelwir hyn yn ddatgelu.

Er mwyn gwneud hyn, dylech ysgrifennu at y cyflogwr neu gynrychiolydd y cyflogwr a gofyn iddo roi’r holl ddogfennau i chi sy’n berthnasol i’ch achos.

Os nad yw’ch cyflogwr yn rhoi’r dogfennau yr ydych wedi gofyn amdanynt, neu os ydych yn credu bod yna ddogfennau y maen nhw heb eu cynnwys, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais gerbron y tribiwnlys am orchymyn. Mae gorchymyn yn gyfarwyddyd gan y tribiwnlys ynghylch yr hyn ddylai ddigwydd. Yn y sefyllfa hon, fe fyddai’r tribiwnlys yn dweud wrth eich cyflogwr am roi’r wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn trwy ysgrifennu at y tribiwnlys ac esbonio pan mae’r dogfennau’n bwysig yn eich barn chi.

Fel arfer, ni fydd y tribiwnlys yn rhoi gorchymyn os ydyw’n credu eich bod yn gofyn gormod, neu nid yw’ch cwestiynau’n berthnasol i’ch achos. Cofiwch, rydych ond yn medru gofyn am wybodaeth sy’n rhoi tystiolaeth i gefnogi eich achos, neu dystiolaeth yn erbyn achos eich cyflogwr.

Mae eich cyflogwr yn medru defnyddio’r un weithdrefn i ofyn i chi am wybodaeth a dogfennau. Mae’n bwysig eich bod yn ateb y cais hwn, yn enwedig os yw’r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn. Ond efallai nad ydych yn hapus gyda’r cais. Er enghraifft, efallai nad ydych yn credu bod y dogfennau’n berthnasol, neu efallai bod gwybodaeth bersonol arall arnynt, er enghraifft eich cofnodion meddygol. Os ydych yn y sefyllfa hon, fe fyddwch yn medru esbonio i’r tribiwnlys, naill ai pam nad yw’r dogfennau’n berthnasol yn eich barn chi, neu beth nad ydych am i’ch cyflogwr ei weld. Yna, fe fydd y tribiwnlys yn penderfynu beth i’w wneud. Os yw’n credu bod yr wybodaeth yn berthnasol, fe fydd yn rhaid i chi ei roi i’ch cyflogwr. Ond efallai y bydd yn ceisio gwneud i chi gyfaddawdu. Er enghraifft, efallai y bydd yn penderfynu y dylai eich cyflogwr gael y dogfennau ond bod rhannau penodol wedi eu croesi allan fel nad ydyw’n medru eu gweld.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael cyngor ar y dogfennau yr ydych yn medru gofyn amdanynt, y weithdrefn, neu ymateb i gais gan eich cyflogwr. Fe fyddwch yn medru cael cyngor gan eich cynghorydd neu gynrychiolydd os oes un gennych.

Am fanylion mudiadau eraill a fyddai efallai’n medru eich helpu, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cael gorchymyn neu gyfarwyddyd gan y tribiwnlys?

Mae gorchmynion neu gyfarwyddyd gan y tribiwnlys yn gyfarwyddiadau i wneud rhywbeth, fel arfer erbyn amser penodol.

Fe fydd rhai tribiwnlysoedd yn cyhoeddi cyfarwyddiadau safonol i chi ac i’ch cyflogwr i roi gwybodaeth a dogfennau penodol i’ch gilydd o fewn terfyn amser. Dylech gymryd y gorchmynion hyn o ddifrif, a gwneud yr hyn a ofynnir o fewn yr terfyn amser. Os oes rheswm pam na fyddwch yn medru gwneud hyn, ysgrifennwch at y tribiwnlys cyn gynted â phosib ac esboniwch pam. Os nad ydych yn cyflawni gorchymyn heb rheswm da iawn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r costau, neu gael eich achos wedi ei daro allan. Mae hyn yn golygu na fydd y tribiwnlys yn gadael i chi barhau gyda’ch achos.

Os nad ydych yn siwr beth i’w wneud, mynnwch gyngor, er enghraifft gan ganolfan Cyngor ar Bopeth neu linell gymorth.

Mae manylion cyswllt mudiadau a fydd efallai’n medru helpu ar gael yn Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?

Nôl i’r brig


Y camau nesaf

I gael gwybod mwy am y camau nesaf wrth daclo problemau yn y gwaith gweler Deall Acas a threfniannau a Paratoi achos i’w gyflwyno gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Mwy am broblemau yn y gwaith

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddatrys anghydfod yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback