The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Pryd mae’ch cyflogwr yn medru dileu eich swydd
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Gwybodaeth ynglŷn â dileu swyddi
Ar y dudalen hon, fe fyddwn yn dweud wrthych:
- beth yw dileu swyddi
- ym mha sefyllfaoedd mae modd dileu eich swydd
- ym mha sefyllfaoedd y mae'n bosib nad yw'ch swydd wedi ei dileu mewn gwirionedd, er bod eich cyflogwr yn dweud ei bod wedi ei dileu
- beth sy'n digwydd os gwnaethpwyd i chi weithio amser byr neu os cawsoch eich diswyddo dros dro.
Mae yna dudalennau eraill ar y wefan hon sydd hefyd yn sôn am ddileu swyddi, sef:
Beth mae dileu swydd yn ei olygu
Mae dileu swydd yn fath o ddiswyddo. Mae'n digwydd pan fyddwch wedi cael eich diswyddo am nad oes angen y gwaith yr oeddech yn ei wneud mwyach, er enghraifft, os yw busnes eich cyflogwr yn mynd i'r wal.
Efallai y bydd cyflogwr yn defnyddio'r geiriau 'layed-off'. Ond, yn dechnegol, mae hyn yn golygu rhywbeth arall ac mae'n hollol wahanol.
Beth sy’n cyfrif fel dileu swydd
Dyma rai sefyllfaoedd ble mae'n bosib dileu eich swydd:
- nid yw busnes eich cyflogwr, neu ran o'r busnes, yn gweithredu mwyach, neu mae wedi mynd i'r wal (mae'n fethdalwr)
- mae busnes eich cyflogwr yn methu
- mae eich cyflogwr yn troi at fusnes o fath newydd ac nid oes angen eich sgiliau chi mwyach
- mae system neu dechnoleg newydd yn cael ei chyflwyno sy'n golygu nad oes angen eich swydd chi mwyach
- nid yw eich swydd yn bodoli mwyach am fod y gwaith yn cael ei wneud gan bobl eraill, ar ôl ad-drefnu’r gweithle
- mae busnes eich cyflogwr, neu'r gwaith yr ydych yn ei wneud, yn symud i ardal arall
- mae busnes eich cyflogwr yn newid dwylo
- eich cyflogwr oedd unig berchennog y busnes, ac mae wedi marw.
Nid oes angen eich sgiliau mwyach
Gellir dileu eich swydd os yw'ch cyflogwr yn troi at fath newydd o fusnes ac mae'n golygu nad oes angen eich sgiliau chi mwyach.
Hyd yn oed os oes gwaith arall ar gael i chi o fewn y cwmni, fe fydd eich swydd wedi ei dileu. Y ffaith nad oes angen y gwaith y cawsoch eich cyflogi i'w wneud sy'n bwysig, ac nid p'un ai bod gwaith arall ar gael ai peidio. Ond, os yw'ch swydd yn cael ei dileu, dylai eich cyflogwr gynnig swydd addas arall i chi.
Ad-drefnu’r gweithle
Efallai y caiff eich swydd ei dileu os bydd eich cyflogwr yn ad-drefnu'r busnes i wella'i effeithlonrwydd, neu'n cyflwyno technoleg newydd fel bod angen llai o bobl i wneud yr un gwaith.
Efallai hefyd y bydd eich swydd yn cael ei dileu os cyflwynir proses neu system newydd sy'n golygu nad oes angen eich swydd mwyach. Ond, ni fydd yn golygu bob tro bod eich swydd wedi cael ei dileu, dim ond am fod proses neu system newydd wedi cael ei chyflwyno. Efallai y bydd rhai systemau neu dechnolegau yn golygu bod modd gwneud yr un swydd yn wahanol, yn hytrach na chymryd lle swydd neu greu swydd newydd. Os yw hyn yn wir, ni ddylid dileu eich swydd.
Weithiau, mae ad-drefnu’r gweithle neu gyflwyno technoleg newydd yn golygu bod y tasgau y byddech yn eu gwneud fel arfer yn cael eu rhoi i bobl eraill. Os yw hyn yn golygu nad yw'r swydd yr oeddech yn ei gwneud yn bodoli mwyach, mae eich cyflogwr yn medru dileu eich swydd.
Enghraifft: Mae ein gweithle wedi cael ei ad-drefnu. Nawr, mae rhywun arall yn gwneud yr holl waith yr oeddwn i'n arfer ei wneud, ar ben ei waith ei hun, ac maen nhw'n dileu fy swydd i. A yw ein cyflogwr yn medru ein trin ni fel hyn?
Os nad yw'r gwaith yr oeddech yn ei wneud ar gael i chi mwyach, mae eich cyflogwr yn cael dileu eich swydd. Os ydych chi a'ch cydweithwyr yn aelodau o undeb, dylech siarad â chynrychiolydd eich undeb am y broblem. Neu ewch at eich CAB lleol.
Hyd yn oed os oes gwaith arall ar gael i chi ei wneud yn y cwmni, fe fydd eich swydd wedi ei dileu. Y ffaith fod yna lai o angen am y gwaith y cawsoch eich cyflogi i'w wneud sy'n golygu bod eich swydd wedi ei dileu, ac nid oes gwahaniaeth p’un ai fod gwaith arall ar gael ai peidio. Ond, os yw’ch swydd yn cael ei dileu, dylai eich cyflogwr gynnig swydd addas arall i chi yn lle.
Mae’ch cyflogwr yn symud y busnes i ardal arall
Efallai y bydd eich cyflogwr yn symud y busnes i ardal arall. Mae modd dileu eich swydd os nad yw'ch cyflogwr yn gwneud busnes yn y man ble cawsoch eich cyflogi i weithio mwyach.
Efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn nodi bod yn rhaid i chi weithio ble bynnag mae'r cyflogwr yn gofyn i chi weithio. Gelwir hyn yn gymal symudedd. Ond, hyd yn oed os oes cymal symudedd gennych, gellir dileu eich swydd os yw'r busnes yn symud ac nid ydych yn medru symud i'r ardal newydd. Er enghraifft, efallai na fydd yn ymarferol i chi symud ymhell i ffwrdd o'ch cartref os oes cyfrifoldebau gofal plant gennych. Mae hyn yn fater cymhleth.
Os yw'ch swydd yn cael ei dileu am fod eich cyflogwr yn symud y busnes, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae busnes eich cyflogwr yn newid dwylo
Pan fydd busnes yn symud o ddwylo un cyflogwr i ddwylo cyflogwr arall, nid yw hyn yn golygu'n awtomatig bod eich swydd yn cael ei dileu. Fe fydd eich cytundeb cyflogaeth yn parhau ac fe fyddwch yn cadw'r un amodau a thelerau cyflogaeth gyda'ch cyflogwr newydd.
Fodd bynnag, mae yna amgylchiadau ble mae'n bosib dileu eich swydd am fod y busnes wedi newid dwylo. Efallai mai eich hen gyflogwr fyddai wedi gwneud hyn cyn i'r busnes newid dwylo, neu eich cyflogwr newydd ar ôl i'r busnes newid dwylo. Ond, fe fyddai'n rhaid i'ch cyflogwr ddangos:
- bod eich swydd wedi ei dileu go iawn, am nad oes angen y gwaith yr oeddech yn ei wneud mwyach, ac
- nid y ffaith fod y busnes wedi newid dwylo oedd yr unig reswm, neu'r prif reswm, dros ddileu eich swydd.
Mae'n eithaf cyffredin i ddileu swyddi gweithwyr yn annheg pan fydd busnes yn newid dwylo, ac felly os caiff eich swydd ei dileu pan fydd busnes yn newid dwylo, dylech gael cyngor arbenigol ar unwaith.
Os yw'ch swydd yn cael ei dileu am fod y busnes yn newid dwylo, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Diswyddo dros dro a gweithio amser byr
Os nad oes digon o fusnes gan eich cyflogwr ar gyfer y gweithlu cyfan, efallai y byddan nhw'n eich diswyddo dros dro. Nid oes unrhyw beth ynglŷn â diswyddo dros dro yng nghytundebau’r rhan fwyaf o bobl, felly os cewch eich diswyddo dros dro, ni fyddwch yn cael eich talu. Efallai na fydd eich cyflogwr yn dweud wrthych eich bod yn cael eich diswyddo ond efallai y bydd yn dweud, er enghraifft, fod yn rhaid i chi gymryd peth gwyliau heb gyflog am nad oes digon o waith i chi ei wneud. Mae hyn yn dal i fod yn ddiswyddiad dros dro, hyd yn oed os nad yw'ch cyflogwr yn dweud mai dyna beth ydyw.
Os nad oes digon o fusnes gan eich cyflogwr ar gyfer y gweithlu, efallai y bydd yn eich rhoi chi ar waith amser-byr. Mae hyn yn golygu eich bod yn gweithio oriau byrrach na'r arfer ac, o ganlyniad, fe fydd eich cyflog yn llai na hanner cyflog wythnos.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo dros dro neu'n eich rhoi chi ar waith amser-byr yn lle dileu eich swydd. Mae'r hyn y medrwch ei wneud am y sefyllfa yn dibynnu ar yr hyn sydd yn eich cytundeb cyflogaeth.
Mae eich cytundeb cyflogaeth yn dweud y gellir eich diswyddo dros dro neu eich gwneud i weithio amser byr
Os yw'ch cytundeb cyflogaeth yn darparu ar gyfer diswyddo dros dro neu waith amser-byr, efallai y byddwch yn medru honni bod eich swydd wedi cael ei dileu os ydych wedi coll eich gwaith dros dro neu'n gweithio amser byr (neu gyfuniad o'r ddau) am:-
- bedair wythnos gyfan, neu fwy, yn olynol; neu
- chwe wythnos gyfan, ble nad yw mwy na thair ohonynt yn olynol, mewn unrhyw gyfnod o dair wythnos ar ddeg.
Mae yna weithdrefnau arbennig ar gyfer honni bod eich swydd wedi ei dileu o dan yr amgylchiadau hyn. Er enghraifft, rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwr eich bod yn bwriadu gofyn am daliad dileu swydd.
Os ydych yn y sefyllfa yma, fe fydd angen i chi gael cyngor arbenigol ynghylch pa weithdrefn i'w dilyn. Mae cyngor arbenigol ar gael mewn canolfannau Cyngor ar Bopeth. Maen nhw hefyd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch help arall sydd ar gael os ydych yn y sefyllfa yma. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn dilyn yr holl gamau i ofyn am daliad dileu swydd, rydych yn medru mynd â'ch cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn yr achosion canlynol:
- mae eich cyflogwr yn dadlau nad oes hawl gennych i daliad dileu swydd, neu
- nid yw'ch cyflogwr yn dadlau nad oes hawl gennych i daliad dileu swydd ond nid yw'n talu'r taliad dileu swydd i chi.
Os oes angen i chi fynd â'ch cais gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid yw'r cytundeb yn darparu ar gyfer diswyddo dros dro/gweithio amser-byr
Os nad yw'ch cytundeb yn darparu ar gyfer diswyddo dros dro neu weithio amser byr, ni fyddwch yn medru honni bod eich swydd wedi ei dileu ond efallai y bydd opsiynau eraill yn agored i chi, er enghraifft, efallai y byddwch yn medru honni diswyddiad adeiladol annheg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich opsiynau os ydych yn y sefyllfa yma, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gweithio tra’ch bod heb swydd neu’n gweithio amser-byr
Fel arfer, rydych yn medru cymryd gwaith arall tra’ch bod heb swydd neu’n gweithio amser byr, tra nad yw’ch cytundeb yn eich atal rhag gwneud hyn. Ond, ni ddylech gymryd unrhyw waith a allai fynd yn erbyn buddiannau eich cyflogwr, er enghraifft, trwy weithio i gystadleuydd.
Os ydych eisiau gweithio tra’ch bod chi heb swydd, dylech ddweud wrth eich cyflogwr a chael eu cytundeb nhw. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn medru dychwelyd at eich swydd arferol cyn gynted ag y bydd eich cyflogwr yn medru cynnig gwaith i chi eto. Os na wnewch chi hyn, efallai y bydd eich cyflogwr yn dadlau eich bod wedi ymddiswyddo trwy gymryd gwaith arall. Mae hyn yn golygu efallai na fydd eich cyflogwr yn gadael i chi ddychwelyd at eich swydd arferol, neu efallai na fydd yn talu tâl dileu swydd i chi o dan y gweithdrefnau arbennig.
Am fwy o wybodaeth, neu os ydych chi’n cael trafferth gweithio tra nad oes swydd gennych neu rydych yn gweithio amser byr, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth sydd ddim yn cyfrif fel dileu swydd
Nid yw'ch swydd wedi ei dileu yn gyfreithiol bob tro hyd yn oed os yw'ch cyflogwr wedi dweud hynny wrthych. Isod, ceir rhai sefyllfaoedd ble efallai nad yw'ch swydd wedi ei dileu.
Diswyddo annheg
Efallai y bydd eich cyflogwr yn honni bod eich swydd wedi ei dileu, ond mewn gwirionedd mae wedi eich diswyddo yn annheg. Efallai ei fod yn gwneud hyn fel nad oes rhaid iddo dalu iawndal i chi am ddiswyddiad annheg. Dylech edrych ar yr amgylchiadau'n ofalus i sicrhau bod eich swydd wedi ei dileu mewn gwirionedd.
Mae'r sefyllfaoedd canlynol yn enghreifftiau ble mae'n bosib fod yna reswm arall dros eich diswyddo, ac nid yw'ch swydd wedi ei dileu mewn gwirionedd:
- yn ddiweddar, mae eich cyflogwr wedi cyflogi pobl eraill. Efallai fod hyn yn golygu nad oes gostyngiad yn y gwaith sydd ar gael i'w wneud
- eich swydd chi yw'r unig swydd sy'n cael ei dileu, neu dim ond ychydig o swyddi sy'n cael eu dileu mewn cwmni mawr. Efallai fod hyn yn arwydd fod yna angen am y math o waith yr ydych yn ei wneud o hyd
- nid oedd eich perthynas chi a'ch cyflogwr yn berthynas dda iawn. Efallai fod hyn yn arwydd eich bod wedi cael eich diswyddo am reswm heblaw am yr angen i ostwng y gweithlu
- rydych wedi dioddef gwahaniaethu yn y gwaith.
Os nad ydych yn credu bod eich swydd wedi cael ei dileu mewn gwirionedd pan fydd eich cyflogwr yn dweud ei bod wedi, efallai y byddwch yn medru dwyn eich achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth fel diswyddiad annheg, gwahaniaethu, neu'r ddau.
Os oes angen i chi gymryd camau yn erbyn eich cyflogwr, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gwahaniaethu
Efallai y bydd yna amgylchiadau ble mae diswyddiad sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn yn cael ei chyfleu fel dileu swydd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael eich diswyddo mewn gwirionedd oherwydd:
- rydych yn feichiog
- rydych yn fenyw
- rydych o gymuned ethnig leiafrifol
- rydych yn anabl
- rydych yn hoyw
- rydych yn perthyn i grefydd benodol.
- maen nhw’n credu eich bod yn lesbiaidd ond nid yw hyn yn wir.
Enghraifft: Rwy'n Fwslim Bangladeshi ac yn gweithio fel glanhawr mewn cartref gofal. Maen nhw'n ad-drefnu'r patrymau shifftiau ac wedi dweud eu bod yn dileu fwy swydd. Fi yw'r unig berson o fy nghymuned sy'n gweithio yno ac nid yw swyddi unrhyw un arall yn cael eu dileu. Ydyn nhw'n medru gwneud hyn?
Efallai nad yw'ch diswyddiad yn achos gwirioneddol o ddileu swydd ac mae'n bosib eich bod wedi cael eich diswyddo oherwydd gwahaniaethu ar sail crefydd neu hil. Mynnwch gyngor brys ynghylch yr hyn y dylech ei wneud.
Er bod cyflogwr yn cael dewis swyddi i'w dileu ar sail y cyfnod yr ydych wedi bod yn gweithio iddyn nhw, rhaid eu bod yn medru cyfiawnhau unrhyw feini prawf y maen nhw'n eu defnyddio sy'n gysylltiedig ag oed neu hyd gwasanaeth. Os yw'ch swydd wedi ei dileu a chithau'n hŷn neu'n iau na gweddill y gweithlu, efallai fod hyn yn arwydd o wahaniaethu.
Ymddiswyddo
Mae dileu swyddi yn rhyw fath o ddiswyddo. Mae hyn yn golygu, os nad ydych wedi cael eich diswyddo, nid yw'ch swydd wedi ei dileu. Er enghraifft, os ydych wedi ymddiswyddo, nid ydych wedi cael eich diswyddo ac felly ni fyddwch yn medru hawlio unrhyw hawliau dileu swydd na thâl dileu swydd.
Mae yna eithriad i'r rheol hon os ydych wedi cael eich rhoi ar waith amser byr neu wedi eich diswyddo dros dro ac mae'n rhaid i chi ddilyn gweithdrefnau penodol i honni bod eich swydd wedi ei dileu. Mae'r rhain yn cynnwys ymddiswyddo.
Os cawsoch eich rhoi ar waith amser byr neu eich diswyddo dros dro ac rydych am honni bod eich swydd wedi ei dileu, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn gwirfoddoli i gael eich swydd wedi ei dileu, nid yw hyn yn golygu eich bod wedi ymddiswyddo o'ch swydd. Fe fydd yn dal i gyfrif fel dileu swydd ac fe fydd hawl gennych i ddefnyddio'ch hawliau dileu swydd.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd cyflogwr am gael gwared ar eich swydd heb orfod rhoi eich hawliau dileu swydd i chi. Efallai y bydd yn eich trin mor wael fod yn rhaid i chi adael. Os cawsoch eich gorfodi i ymddiswyddo am y rhesymau hyn, gelwir hyn yn ddiswyddo annheg adeiladol. Efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth am ddiswyddiad annheg adeiladol. Os oeddech yn llwyddiannus, fe fyddai hyn yn golygu eich bod yn cael iawndal tebyg i daliad dileu swydd.
Mae'n anodd profi diswyddiad annheg adeiladol a rhaid i chi gael cyngor, os yn bosib, cyn i chi ymddiswyddo. Dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.









