The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Cyfnod mamolaeth
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pryd mae'ch cyfnod mamolaeth yn medru dechrau
Rydych yn medru dewis pryd i ddechrau eich cyfnod mamolaeth. Mae'n medru bod ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl, yr 11eg wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Ond, fe fydd eich cyfnod mamolaeth yn dechrau'n awtomatig os ydych i ffwrdd o'r gwaith am unrhyw reswm yn ymwneud â'ch beichiogrwydd o'r bedwaredd wythnos cyn bod disgwyl i'ch babi gyrraedd.
Dweud wrth eich cyflogwr eich bod am gymryd cyfnod mamolaeth
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr, yn ysgrifenedig fyddai orau, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn bod disgwyl i’ch babi gyrraedd:
- eich bod yn feichiog
- y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd
- y dyddiad yr ydych chi am i’ch cyfnod mamolaeth ddechrau.
Rhaid i chi gyflwyno tystysgrif feddygol (MATB1), os yw’ch cyflogwr yn gofyn am un, yn dangos pryd mae disgwyl i’ch babi gyrraedd. Rydych yn medru cael eich MATB1 gan eich bydwraig neu Feddyg Teulu.
Unwaith y bydd eich cyflogwr wedi derbyn eich rhybudd eich bod am gymryd cyfnod mamolaeth, rhaid iddynt ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod a dweud wrthych y dyddiad y bydd eich cyfnod mamolaeth yn dod i ben ac felly'r dyddiad y disgwylir i chi ddychwelyd i’r gwaith o’ch cyfnod mamolaeth.
Faint o gyfnod mamolaeth fyddwch chi'n ei gael
Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr benywaidd hawl i gymryd hyd at un flwyddyn (52 wythnos) o gyfnod mamolaeth. Nid yw hyn yn dibynnu am faint yr ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr. Yr unig weithwyr sydd ddim â'r hawl hwn yw:
- pysgodwragedd cyfran
- menywod a gyflogir dramor fel arfer (onid oes cysylltiad gwaith ganddynt gyda’r Deyrnas Unedig)
- menywod hunangyflogedig
- heddwragedd a menywod sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Os nad ydych yn siŵr os ydych yn cyfrif fel gweithiwr, gweler Cytundebau cyflogaeth.
Rydych yn medru dewis faint o amser i'w gymryd i ffwrdd o'r gwaith ar gyfnod mamolaeth, hyd at uchafswm o 52 wythnos. Ond, yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gymryd o leiaf pythefnos yn syth ar ôl geni'r babi. Os ydych yn gweithio mewn ffatri, rhaid i chi gymryd o leiaf pedair wythnos.
Beth yw eich hawliau cyflogaeth pan fyddwch chi ar gyfnod mamolaeth
Gelwir 26 wythnos gyntaf cyfnod mamolaeth yn Gyfnod Mamolaeth Arferol (CMA). Yn ystod CMA, fe fyddwch chi'n dal i gael yr un hawliau o dan eich cytundeb cyflogaeth â phetaech yn dal i weithio. Yr unig eithriad yw na fyddwch yn cael eich cyflog arferol onid yw'ch cytundeb yn nodi'n wahanol. Ond fe fyddwch, er enghraifft, yn dal i fod â hawl i grynhoi gwyliau a chael unrhyw godiad cyflog.
Er nad ydych â hawl i'ch cyflog arferol, mae mwyafrif gweithwyr benywaidd â hawl i Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl mamolaeth, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch hawliau cytundebol, gweler Cytundebau cyflogaeth.
Yn ogystal â Chyfnod Mamolaeth Arferol (CMA), rydych hefyd yn medru cymryd 26 wythnos ychwanegol o gyfnod mamolaeth. Gelwir hyn yn Gyfnod Mamolaeth Ychwanegol (CMY). Mae hyn yn rhoi cyfanswm o hyd at 52 wythnos o gyfnod mamolaeth i chi. Os ydych yn cymryd CMY, rhaid iddo ddilyn ymlaen yn syth ar ôl CMA ac ni ellir cael unrhyw gyfnod rhyngddynt.
Mae eich amodau a’ch telerau cyflogaeth yn aros yr un peth trwy gydol eich CMA a’ch CMY.
Efallai y bydd hawl gennych i gael eich talu yn ystod rhan o’ch cyfnod mamolaeth, neu’r cyfan ohono, ond mae hyn yn dibynnu ar eich cytundeb cyflogaeth a ph’un ai fod hawl gennych i Dâl Salwch Statudol – gweler y pennawd Tâl mamolaeth.
Cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr yn ystod eich cyfnod mamolaeth
Pan fyddwch chi ar gyfnod mamolaeth, dylai'ch cyflogwr eich diweddaru chi ynghylch materion a allai effeithio arnoch. Er enghraifft, dylech gael gwybod am unrhyw gyfleoedd perthnasol ar gyfer dyrchafiad neu swyddi gwag sy'n codi yn ystod eich cyfnod mamolaeth.
Rhaid bod amlder y cysylltiad, â'r math o gysylltiad, rhyngoch chi a’ch cyflogwr yn rhesymol. Gellir cysylltu mewn unrhyw ffordd sy'n addas i'r naill ohonoch neu'r ddau ohonoch. Er enghraifft, rydych yn medru cysylltu dros y ffôn, drwy'r e-bost, trwy lythyr, trwy ymweld â'r gweithle neu mewn ffyrdd eraill.
Mae gennych hawl hefyd i weithio am hyd at ddeng niwrnod yn ystod eich cyfnod mamolaeth heb iddo effeithio ar eich tâl mamolaeth. Gelwir y rhain yn 'Ddiwrnodau Cadw Cysylltiad'.
Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno a ydych chi'n gweithio unrhyw Ddiwrnodau Cadw Cysylltiad, faint fyddwch chi'n eu gweithio, pryd fyddwch chi'n eu gweithio a faint y cewch eich talu amdanynt. Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i'w gweithio ac nid oes unrhyw orfodaeth ar eich cyflogwr i'w cynnig i chi.
Rhaid i chi hefyd gytuno rhyngoch y math o waith y byddwch yn ei wneud. Mae Diwrnodau Cadw Cysylltiad yn medru bod yn arbennig o ddefnyddiol i'ch galluogi chi i fynychu cynhadledd, dilyn gweithgaredd hyfforddiant neu fynychu cyfarfod tîm.
Mae'r gyfradd a delir i chi yn fater i chi a'ch cyflogwr gytuno arno. Gellir ei nodi yn eich cytundeb cyflogaeth neu gellir cytuno fesul achos. Ond, rhaid eich bod yn cael eich talu ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, o leiaf.
Cyfnod mamolaeth a chyflogaeth barhaus
Mae rhai hawliau cyflogaeth, fel yr hawl i hawlio tâl colli swydd statudol, yn dibynnu pa mor hir yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr. Y cyfnod yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr yw eich cyfnod o ‘gyflogaeth barhaus’. Mae'n bwysig, felly, nodi bod amser a dreulir ar gyfnod mamolaeth yn cyfrif wrth gyfrifo'r cyfnod yr ydych wedi bod gyda'ch cyflogwr.
Eich hawl i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich cyfnod mamolaeth
Fe fydd eich cyflogwr yn derbyn y byddwch yn cymryd eich 52 wythnos o Gyfnod Mamolaeth Statudol. Cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth, dylai eich cyflogwr ddweud wrthych ar ba ddyddiad y bydd eich cyfnod mamolaeth yn dod i ben. Fe fydd y dyddiad hwn 52 wythnos ar ôl i’ch cyfnod mamolaeth ddechrau.
Ond, efallai y byddwch chi a’ch cyflogwr yn cytuno ar ddyddiad gwahanol i’ch cyfnod mamolaeth ddod i ben.
Os ydych yn penderfynu eich bod am ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach na hyn, mae'n rhaid i chi roi rhybudd o wyth wythnos i’ch cyflogwr ynghylch y dyddiad newydd yr ydych am ddychwelyd i'r gwaith.
Eich hawl i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Arferol
Mae gan bob menyw hawl i ddychwelyd i'w hen swydd ar ôl 26 wythnos o Gyfnod Mamolaeth Arferol.
Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod gadael i chi ddychwelyd ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Arferol
Os na chewch ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Arferol, efallai y byddwch yn medru:
- dwyn honiad o ddiswyddiad annheg, a
- dwyn honiad o wahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth.
Gellir honni'r ddau beth yma waeth am faint yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr a waeth sawl awr yr wythnos yr ydych yn eu gweithio.
Os ydych am honni diswyddiad annheg awtomatig a gwahaniaethu, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn sâl ar ddiwedd eich Cyfnod Mamolaeth Arferol
Os ydych yn sâl pan fydd disgwyl i chi ddechrau yn ôl yn y gwaith ar ddiwedd eich Cyfnod Mamolaeth Arferol (CMA), rhaid i chi gael tystysgrif feddygol i'w hanfon at eich cyflogwr. Fe fydd eich CMA yn dod i ben ar ddiwedd y 26ain wythnos ac, o hyn ymlaen, byddwch ar gyfnod salwch. Fe fyddwch yn cael eich amddiffyn rhag cael eich diswyddo'n annheg am bedair wythnos ychwanegol ar ôl eich 26 wythnos o CMA os ydych yn sâl am y cyfnod hwn.
Os oes cyflogwr yn ceisio diswyddo menyw sy'n sâl ar ddiwedd ei chyfnod mamolaeth ac yn methu dychwelyd i'r gwaith, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Eich hawl i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Ychwanegol
Os ydych am ddychwelyd i'r gwaith ar ôl CMY, dylech gael cynnig eich hen swydd yn ôl, onid yw hyn yn rhesymol anymarferol. Os nad yw'n rhesymol ymarferol cynnig eich hen swydd yn ôl i chi, rhaid cynnig swydd i chi sy'n addas ar eich cyfer ac yn addas o dan yr amgylchiadau, ar yr un amodau a thelerau â'ch hen swydd. Er enghraifft, rhaid bod eich cyflog o leiaf yr un faint â'ch hen swydd.
Os na chynigiwyd eich hen swydd yn ôl i chi, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yr hawl i ddychwelyd yn rhan amser
Nid oes hawl awtomatig gennych i ddychwelyd i'r gwaith yn rhan amser ar ôl cyfnod mamolaeth. Ond, efallai bod gennych yr hawl i ofyn am weithio'n hyblyg a rhaid i'ch cyflogwr roi ystyriaeth ddifrifol i'r cais hwn. Os nad yw'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r cais, gallai hyn fod yn wahaniaethu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch honiad o wahaniaethu, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Tâl mamolaeth
Tra'ch bod ar gyfnod mamolaeth, efallai bod hawl gennych i dâl mamolaeth naill ai o dan eich cytundeb cyflogaeth neu o dan y gyfraith trwy Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, y gellir ei dalu i chi am hyd at 39 wythnos. Mae'r rheolau ynghylch tâl mamolaeth yn dibynnu pa mor hir yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr, faint yr ydych yn ei ennill a'r hyn sydd yn eich cytundeb.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl mamolaeth, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Eich hawliau eraill fel rhiant
Os ydych yn feichiog neu newydd gael babi, efallai bod hawliau eraill gennych hefyd. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys:
- hawl pob menyw feichiog i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl ar gyfer gofal cyn-geni
- hawl pob menyw feichiog i weithio mewn amgylchedd diogel
- hawl pob menyw feichiog i honni diswyddiad annheg os caiff ei diswyddo oherwydd beichiogrwydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch hawliau eraill os ydych yn feichiog, newydd gael babi neu yn rhiant sy'n gweithio, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Gwybodaeth bellach
Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau
Mae gwybodaeth bellach i gyflogedigion a chyflogwyr ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau ar wefan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) yn www.bis.gov.uk.
Adran Cyflogaeth a Dysgu (Department for Employment and Learning neu DEL) (Gogledd Iwerddon yn unig)
Yng Ngogledd Iwerddon, mae gwybodaeth bellach i gyflogedigion a chyflogwyr ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau ar wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu (DEL) yn www.delni.gov.uk.
Maternity Action
Mae cyflogedigion a chyflogwyr yn medru cysylltu â Maternity Action am wybodaeth bellach ynglyn â’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Fe allwch ffonio llinell gymorth sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ar hawliau yn ystod beichiogrwydd, cyfnod mamolaeth a dychwelyd i’r gwaith. Mae yna daflenni ffeithiau rhad ac am ddim hefyd y gallwch eu lawrlwytho oddi ar eu gwefan.
Rhif Ffôn: 0845 600 8533 (Dydd Mercher: 3yp – 7yh; Dydd Iau: 3yp – 7yh; Dydd Gwener: 10yb – 2 yp)
Gwefan: www.maternityaction.org.uk.
Working Families
Mae Working Families yn helpu rhieni a chyflogwyr i ddod o hyd i well cydbwysedd rhwng bywyd y cartref a gwaith. Mae’n darparu taflenni ffeithiau a chyngor ar hawliau sy’n ystyried y teulu, ac yn rhedeg llinell gymoth i deuluoedd ar incwm isel, gan roi cyngor ar hawliau cyfreithiol, budd-daliadau a gweithio oriau sy’n ystyried y teulu.
1-3 Berry Street
London
EC1V OAA
Llinell gymoth i deuluoedd ar incwm isel: 0800 013 0313
Gwasanaeth testun i dadau: 0780 000 4722
Ffacs: 020 7253 6253
E-bost i dadau: edads@workingfamilies.org.uk
E-bost: office@workingfamilies.org.uk (gweinyddol yn unig)
Gwefan: www.workingfamilies.org.uk
Rights of Women (Cymru a Lloegr yn unig)
Mae Rights of Women yn fudiad gwirfoddol i fenywod, sydd wedi ymrwymo i hysbysu, addysgu a grymuso menywod ynghylch eu hawliau cyfreithiol. Mae ganddo linellau cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim sy’n rhoi cyngor arbenigol ar gyfraith y teulu, ysgariad, chwalu perthynas, plant a materion cyswllt, trais yn y cartref a thrais rywiol, gwahaniaethu a magu plant fel lesbiaid.
52-54 Featherstone Street
London
EC1 8RT
Ffôn: 0207 251 6575 (gweinyddol yn unig)
Ffôn Testun: 0207 490 2562
Llinell Gyngor Cyfraith y Teulu: 020 7251 6577 (Dydd Llun 11yb-1yp; Dydd Mawrth a Dydd Mercher 2yp-4yp a 7yh-9yh; Dydd Iau 7yh-9yh; Dydd Gwener 12 hanner dydd-2yp)
Llinell Gyngor Cyfraith Trosedd: 020 7251 8887 (Dydd Mawrth 11yb-1yp; Dydd Iau 2yp-4yp)
Llinell Gyngor Cyfraith Lloches a Mewnfudo: 020 7490 7689 (Dydd Llun 2yp-4yp; Dydd Mercher 11yb-1yp)
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae cyngor ar hawliau mamolaeth a beichiogrwydd ar gael hefyd ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyngor ar hawliau mamolaeth a beichiogrwydd ar gael hefyd ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn www.equalityni.org.









