The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Gwyliau a chyflog yn ystod gwyliau
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pwy sydd â'r hawl i wyliau gyda chyflog
Mae gan y mwyafrif o weithwyr hawl i gymryd lleiafswm o wyliau gyda chyflog. Gelwir hyn yn wyliau statudol.
Mae gennych yr hawl i gymryd gwyliau statudol gyda chyflog i ffwrdd o'r gwaith os ydych yn weithiwr. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n gweithio'n llawn amser, pobl sy'n gweithio'n rhan amser, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr achlysurol. Dim ond pobl sy'n hunangyflogedig ac ambell eithriad arall sydd ddim â hawl i wyliau statudol gyda chyflog (gweler isod).
Mae'r rheolau ynghylch gwyliau statudol yn berthnasol, waeth am ba hyd yr ydych wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr a waeth faint yw eich oed. Ond, nid oes hawl gennych i wyliau statudol os ydych yn blentyn dan oed gadael ysgol.
Am fwy o wybodaeth am hawliau gweithwyr dan oed gadael ysgol, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth. Yn yr Alban, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Mae gennych yr hawl i gymryd 5.6 wythnos o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn. I ddarganfod sut mae hyn yn berthnasol i chi, gweler y pennawd Faint o wyliau gyfa chyflog fedrwch chi eu cymryd.
Cyn 1 Ebrill 2009, roedd eich hawl i wyliau o’r gwaith gyda chyflog yn 4.8 wythnos. Efallai bod eich blwyddyn wyliau wedi dechrau cyn 1 Ebrill 2009 ac yn parhau ar ôl 1 Ebrill 2009. Os felly, fe fydd eich gwyliau blynyddol yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata – 4.8 wythnos pro rata ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill a 5.6 wythnos pro rata ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2009.
Efallai bod eich blwyddyn wyliau wedi dechrau cyn 1 Ebrill. Os felly, fe fydd eich gwyliau blynyddol yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata – 4.8 wythnos pro rata ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill a 5.6 wythnos pro rata ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill.
Efallai bod eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi'r hawl i chi i gymryd mwy na'r nifer statudol o ddiwrnodau o wyliau gyda chyflog. Ond, nid oes hawl iddo roi llai i chi. Os yw'ch cytundeb yn rhoi'r hawl i chi i gymryd mwy na'r nifer statudol o ddiwrnodau o wyliau gyda chyflog, gelwir hyn yn wyliau cytundebol. Nid yw'r gyfraith yn dweud faint o wyliau cytundebol y dylech ei gael, a ph'un ai y dylech fod yn cael cyflog amdano.
Gweithwyr asiantaeth a gwyliau
Mae gan weithwyr asiantaeth yr hawl i gymryd 5.6 wythnos o wyliau â chyflog bob blwyddyn. Efallai bod hawliau ychwanegol ganddynt i wyliau hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawliau gweithwyr asiantaeth, gweler Hawliau ychwanegol i weithwyr asiantaeth.
Gweithwyr sydd ddim â hawl i wyliau statudol
Mae yna rai gweithwyr sydd ddim â hawl i wyliau statudol.
Ni fydd hawl gennych i wyliau statudol os ydych yn gweithio yn:
- y lluoedd arfog
- yr heddlu
- y gwasanaethau amddiffyn sifil.
Ond, os nad oes hawl gennych i wyliau statudol gyda chyflog, fwy na thebyg y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi'r hawl i chi i gymryd gwyliau cytundebol.
Os nad ydych yn siwr a oes gawl gennych i gymryd gwyliau statudol gyda chyflog, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Faint o wyliau gyda chyflog fedrwch chi eu cymryd
Mae gennych yr hawl i o leiaf 5.6 wythnos o wyliau bob blwyddyn. Gelwir hyn yn wyliau statudol. I gyfrifo faint o ddiwrnodau o wyliau fedrwch chi eu cymryd bob blwyddyn, lluoswch 5.6 gyda'r nifer o ddiwrnodau yr ydych yn eu gweithio mewn wythnos. Er enghraifft:
- os ydych yn gweithio bum niwrnod yr wythnos, mae gennych yr hawl i 28 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn (5.6 X 5).
- os ydych yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos, mae gennych yr hawl i 14 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn (5.6 X 2.5).
Uchafswm y gwyliau statudol gyda chyflog y bydd hawl gennych eu cymryd yw 28 diwrnod. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych yn gweithio fwy na phum niwrnod yr wythnos.
Mae’n bosib y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi'r hawl i chi gymryd mwy o wyliau gyda chyflog na'r nifer statudol. Ond, nid yw'n medru rhoi llai i chi. Er enghraifft, os yw'ch cytundeb cyflogaeth yn dweud eich bod ond yn medru cymryd 10 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn, a chithau'n gweithio bum niwrnod yr wythnos, fe fydd hawl gennych i gymryd 28 diwrnod o wyliau gyda chyflog.
Os yw'ch wythnos waith arferol yn cael ei nodi mewn oriau, yna efallai y bydd eich gwyliau statudol yn cael eu nodi mewn oriau hefyd.
Cyn 1 Ebrill 2008 roedd gennych hawl i 4.8 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn. Os yw’ch blwyddyn wyliau’n cynnwys amser cyn 1 Ebrill 2009, fe fydd eich gwyliau blynyddol yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata – 4.8 wythnos pro rata ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill a 5.6 wythnos pro rata ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2009.
I'ch helpu i gyfrifo’ch union hawliau, gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd ar wefan Business Link www.businesslink.gov.uk.neu yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Nibusinessinfo yn www.nibusiness.co.uk.
Beth yw blwyddyn wyliau
Cyfnod o flwyddyn yw blwyddyn wyliau a ddefnyddir i fesur eich gwyliau blynyddol. Bydd eich cyflogwr fel arfer yn cytuno ar gychwyn a diwedd eich blwyddyn wyliau gyda chi. Mae rhai yn dechrau’r flwyddyn ar y 1 o Ionawr ac yn gorffen ar y 31 o Ragfyr. Mae eraill yn dechrau ar y 6 Ebrill ac yn gorffen ar y 5 o Ebrill yn y flwyddyn ganlynol.
Os nad ydych chi a’ch cyflogwr wedi cytuno pryd fydd eich blwyddyn wyliau yn dechrau a gorffen, bydd y flwyddyn wyliau yn cychwyn ar:-
- Y Hydref 1 (Tachwedd 23 yng Ngogledd Iwerddon),, os ydych wedi cychwyn gweithio i’ch cyflogwr ar neu cyn y Hydref 1 1998 (Tachwedd 23 1998 yng Ngogledd Iwerddon). Bydd pob blwyddyn wyliau wedi hyn yn dechrau ar Hydref 1 (Tachwedd 23 yng Ngogledd Iwerddon); neu
- Y dyddiad yr ydych wedi cychwyn gweithio i’ch cyflogwr, os ydych wedi cychwyn gweithio ar ôl Hydref 1 o Hydref 1998 (Tachwedd 23 yng Ngogledd Iwerddon). Bydd pob blwyddyn wyliau wedi hyn yn dechrau ar yr un dyddiad, sef y dyddiad yr oeddech wedi cychwyn yn eich swydd.
Os fyddwch yn cychwyn yn eich swydd rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn wyliau, bydd y cyfanswm gwyliau a ganiateir yn dibynnu ar faint o’r flwyddyn wyliau fyddwch yn gweithio. Er enghraifft, os ydych yn cychwyn yn eich swydd yn mis Ebrill mewn cwmni lle mae’r flwyddyn wyliau yn dechrau ar Hydref 1, byddwch yn cychwyn yn eich swydd hanner ffordd drwy’r flwyddyn wyliau. Felly byddwch yn cael hanner y gwyliau blynyddol gyda chyflog ar gyfer y flwyddyn honno. Mae yna reolau arbennig os ydych yn eich blwyddyn gyntaf mewn cyflogaeth.
Os nad ydych yn siwr faint o wyliau sy'n ddyledus i chi, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gwyliau Banc a Chyhoeddus
Nid oes hawl awtomatig gennych i gymryd gwyliau banc na gwyliau cyhoeddus i ffwrdd o’r gwaith, gyda chyflog na heb gyflog. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich cytundeb cyflogaeth.
Efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn dweud bod hawl gennych i wyliau statudol neu efallai na fydd yn dweud unrhyw beth am wyliau cytundebol na gwyliau statudol. Yn yr achosion hyn, fe fydd eich cyflogwr yn medru:
- gofyn i chi weithio gwyliau banc neu wyliau cyhoeddus, neu
- roi gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd i chi heb eich talu amdanynt. Yn yr achos hwn, ni fyddwch yn colli eich hawl i gymryd eich gwyliau statudol llawn ar ryw bwynt arall, neu
- roi gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd i chi a’ch talu amdanynt ond gofyn i chi eu cyfrif tuag at eich hawl i wyliau statudol, neu
- wneud cyfuniad o’r uchod.
Enghraifft: os ydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, mae gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau statudol, gyda chyflog, bob blwyddyn (5.6 wythnos X 5 diwrnod). Os disgwylir i chi gymryd gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd, ac rydych yn cael eich talu amdanynt, fe fydd y diwrnodau hyn yn cael eu tynnu allan o’ch 28 diwrnod. Yng Nghymru a Lloegr, mae yna wyth o wyliau cyhoeddus ac felly fe fydd hyn yn golygu bod gennych 20 diwrnod ar ôl i chi gael dewis pryd i’w cymryd.
Yn yr Alban, mae yna naw o wyliau banc a chyhoeddus ac felly fe fydd hyn yn gadael 19 diwrnod i chi gael dewis pryd i’w cymryd.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae yna ddeg o wyliau banc a chyhoeddus ac felly fe fydd hyn yn gadael 18 diwrnod i chi gael dewis pryd i’w cymryd.
Coifiwch, os ddechreuodd eich blwyddyn wyliau cyn 1 Ebrill 2009, fe fydd hawl gennych i lai o wyliau na hyn – gweler y pennawd Faint o wyliau gyda chyflog fedrwch chi eu cymryd.
Efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi gwyliau banc neu gyhoeddus i ffwrdd ar ben eich gwyliau statudol. Os yw hyn yn wir, fe fydd eich cytundeb yn nodi hyn ac hefyd yn dweud p’un ai y byddwch yn cael eich talu am y diwrnodau hyn ai peidio. Mae’r sefyllfa’n medru bod yn gymhleth os nad yw’ch cytundeb yn dweud unrhyw beth am wyliau banc a chyhoeddus.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus, gweler Gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.
Mae yna reolau arbennig ar gyfer gweithwyr siop yng Nghymru a Lloegr sy'n gweithio mewn siopau mawr (dros 280 troedfedd sgwâr). Os ydych chi'n gweithio yn un o'r siopau hyn, yna mae'n rhaid i chi gael Dydd Nadolig i ffwrdd, waeth pa ddiwrnod y mae Dydd Nadolig. Ond, fe fydd p'un ai eich bod yn cael eich talu ai peidio yn dibynnu ar eich cytundeb cyflogaeth.
Yr hyn y mae'n rhaid i’ch cytundeb ei ddweud ynglyn â gwyliau
Os ydych yn cael eich cyflogi yna mae gennych yr hawl i dderbyn datganiad ysgrifenedig o’ch amodau a thelerau cyflogaeth cyhyd a’ch bod wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf mis. Rydych yn cael eich cyflogi os oes gennych gytundeb cyflogaeth. Nid yw llawer o gyflogwyr yn rhoi datganiad ysgrifenedig i’w gweithwyr o brif amodau a thelerau eu swydd er gwaethaf y ffaith fod y gyfraith yn gofyn am hyn. Os nad yw eich cyflogwr wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi o fewn dau fis i ddyddiad cychwyn eich swydd, maen nhw'n torri’r gyfraith.
Mae'n rhaid i’r datganiad ysgrifenedig gynnwys gwybodaeth ynglyn â'ch hawl chi i dderbyn gwyliau, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus a chyflog yn ystod gwyliau. Mae'n rhaid i’r cyflogwr roi digon o wybodaeth i chi fedru cyfrif eich i wyliau a gwyliau gyda chyflog, a'ch hawl i unrhyw gyflog gwyliau fydd yn ddyledus i chi pan fyddwch yn gadael eich swydd.
Os nad oes gennych gopi ysgrifenedig o amodau a thelerau eich swydd, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Faint o gyflog gwyliau ddylech chi ei gael
Bydd eich cyflogwr yn talu eich cyflog gwyliau ar yr un gyfradd â’ch cyflog arferol. Mae’n bosib y byddwch yn derbyn cyflog gwyliau ar gyfradd uwch os yw eich cytundeb yn rhoi'r hawl i chi dderbyn cyfradd uwch.
Os ydych yn gwneud gwaith achlysurol, neu'n gweithio oriau afreolaidd, ac nid ydych yn siŵr sut i gyfrifo faint o gyflog gwyliau sy'n ddyledus i chi, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe fydd rhai cyflogwyr ac asiantaethau cyflogaeth yn dweud bod eich cyfradd cyflog yr awr yn cynnwys swm ar gyfer cyflog gwyliau, a’u bod yn disgwyl i chi gynilo’r rhan yma o’ch cyflog ar gyfer eich cyfnod o wyliau. Cyfeirir at hyn fel cyflog sy'n cynnwys cyflog gwyliau ('rolled up' holiday pay). Efallai bod cyflog sy'n cynnwys cyflog gwyliau yn anghyfreithlon.oni bai eich body n cael eich cyflog gwyliau ar ben eich cyflog syflaenol a'i fod yn glir faint yw swm y cyflog sy'n cynnwys cyflog gwyliau. Er enghraifft, dylai swm y cyflog sy'n cynnwys cyflog gwyliau fod wedi'i nodi'n glir ar eich slip cyflog.
Os ydych yn credu eich bod yn cael cyfradd cyflog yr awr sy'n cynnwys cyflog gwyliau ('rolled up' holiday pay), dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Eich hawl i wyliau gyda chyflog o’ch diwrnod cyntaf yn y swydd
Os ydych yn weithiwr sydd â hawl i gymryd gwyliau gyda chyflog yna mae gennych yr hawl yma o’ch diwrnod cyntaf yn y swydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu eich bod yn medru cymryd pob diwrnod o wyliau ar eich diwrnod cyntaf yn y swydd. Mae'r gyfraith yn datgan bod eich gwyliau gyda chyflog yn crynhoi yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn y swydd.
Sut mae eich gwyliau gyda chyflog yn crynhoi yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn y swydd, os ydych wedi cychwyn yn y swydd ar ôl Hydref 25 2001 (Ebrill 14 yng Ngogledd Iwerddon)
Os ydych wedi cychwyn yn eich swydd ar ôl Hydref 25 2001 (Ebrill 14 2002 yng Ngogledd Iwerddon), bydd y cyfanswm o wyliau y gallwch eu cymryd yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn crynhoi dros y flwyddyn. Mae cyfanswm y gwyliau y gallwch eu cymryd yn crynhoi’n fisol o flaen llaw ar gyfradd un rhan o ddeuddeg o’ch gwyliau blynyddol bob mis. Os nad yw hyn yn rhoi’r union nifer o ddyddiau o wyliau, bydd eich gwyliau yn cael eu codi at yr hanner diwrnod agosaf. Bydd eich cyflogwr yn tynnu unrhyw wyliau a gymerwyd gennych eisoes o’r gwyliau yr ydych wedi eu crynhoi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gyfrifo faint o wyliau gyda chyflog y medrwch eu cymryd yn eich blwyddyn gyntaf yn y swydd, rhowch glic ar wefan Business Link yn: www.businesslink.gov.uk.
Sut i gyfrifo eich gwyliau gyda chyflog os ydych wedi cychwyn yn eich swydd cyn Hydref 25 2001 (Ebrill 14 2002 yng Ngogledd Iwerddon)
Os ydych wedi cychwyn yn eich swydd ar 25 Hydref 2001 (14 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon), neu cyn y dyddiad yma, nid oes unrhyw reolau cyfreithiol ynglyn â sut mae eich gwyliau’n crynhoi.
Os ydych am gael gwybod sut mae eich gwyliau’n crynhoi a faint o wyliau gyda chyflog y gallwch chi eu cymryd, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fedrwch chi ddewis pryd i gymryd eich gwyliau
Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cymryd eich gwyliau pryd bynnag yr ydych yn dymuno gwneud hynny, cyhyd â’ch bod yn rhoi’r cyfnod priodol o rybudd i’ch cyflogwr a’ch bod yn ystyried trefniadau priodol rhyngoch chi a’ch cyflogwr. Fodd bynnag, mae gan y cyflogwr yr hawl i wrthod eich cais am gael cymryd gwyliau, cyhyd â’u bod yn rhoi’r cyfnod priodol o rybudd i chi ar yr adeg gywir a’u bod yn ystyried trefniadau priodol rhyngoch chi â'ch cyflogwr.
Mae'ch cyflogwr yn medru gofyn i chi gymryd y cyfan o'ch gwyliau neu ran ohonynt ar adeg benodol, cyhyd â’u bod yn rhoi’r cyfnod priodol o rybudd i chi ar yr adeg gywir ac yn ystyried trefniadau priodol rhyngoch chi a'ch cyflogwr.
Nid yw’r gyfraith yn gosod unrhyw gyfyngiad ar y cyfanswm o wyliau y gallwch eu cymryd ar unrhyw un cyfnod o amser. Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl i gymryd pythefnos o wyliau ar yr un pryd, oni bai fod eich cytundeb neu gytundeb cyflogaeth yn datgan yn wahanol. Mae hyn yn golygu cyhyd â bod eich cyflogwr yn rhoi’r cyfnod cywir o rybudd i’r gweithiwr ar yr adeg gywir, mae’n bosib iddyn nhw eich gorfodi chi i gymryd eich gwyliau yn ôl eu dymuniad nhw, er enghraifft, cymryd bob dydd Gwener i ffwrdd nes eich bod wedi defnyddio’r cyfan o'ch gwyliau.
Os ydych yn gweithio mewn diwydiant ble mae gennych batrwm ble mae angen i chi weithio ar adegau penodol, ac yna nid oes angen i chi weithio ar adegau eraill, fe fydd eich cyflogwr yn medru eich gorfodi i gymryd eich gwyliau yn ystod yr adegau nad oes angen i chi fod yn gweithio, onid yw’ch contract neu’ch cytundeb yn nodi fel arall. Fe fyddai hyn yn berthnasol, er enghraifft, i weithwyr olew sy’n gweithio oddi ar y lan, athrawon a gweithwyr y diwydiant twristiaeth. Rhaid i’ch cyflogwr roi rhybudd i chi o hyd pan fydd angen i chi gymryd eich gwyliau.
Os nad ydych yn sicr a ydyw'r cytundeb rhyngoch chi a’ch cyflogwr yn effeithio ar eich hawl i gymryd gwyliau, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Y rhybudd y mae'n rhaid ei roi cyn i chi fedru cymryd gwyliau
Os nad oes gennych gytundeb gyda’ch cyflogwr ynglyn â faint o rybudd sy’n rhaid i chi ei roi cyn cymryd gwyliau mae’r rheolau canlynol yn berthnasol:
- gall eich cyflogwr eich gorfodi i gymryd y cyfan o'ch gwyliau neu ran ohonynt ar adeg arbennig, cyhyd â’u bod yn rhoi’r cyfnod perthnasol o rybudd. Mae'n rhaid i'r rhybudd hwn fod o leiaf dwy waith hyd y gwyliau yr ydych yn dymuno eu cymryd. Er enghraifft, os yw’r cyflogwr yn dymuno cau dros y Nadolig am wythnos, mae’n rhaid hysbysu ynglyn â dyddiad cychwyn y gwyliau o leiaf pythefnos cyn i’r gwyliau gychwyn.
- mae'n rhaid i chi roi rhybudd i’r cyflogwr os ydych yn dymuno cymryd gwyliau. Mae'n rhaid i’r rhybudd hwn fod o leiaf ddwy waith hyd y gwyliau yr ydych yn dymuno eu cymryd. Er enghraifft, os ydych am gymryd tri diwrnod o wyliau, mae'n rhaid i chi roi o leiaf chwe diwrnod o rybudd cyn bod y gwyliau’n cychwyn.
Mae’n bosib i’r cyflogwr wrthod gadael i chi gymryd gwyliau. I wneud hyn mae’n rhaid iddynt roi rhybudd i chi sy’n gyfwerth â ‘r gwyliau yr ydych am eu cymryd. Felly os ydych wedi gofyn am bythefnos o wyliau a’ch bod wedi dweud wrth eich cyflogwr bedair wythnos cyn y dyddiad yr ydych am i’r gwyliau ddechrau, mae'n rhaid i’r cyflogwr eich hysbysu bythefnos cyn bod y gwyliau'n dechrau na fedrwch chi gymryd y gwyliau.
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod gadael i chi gymryd gwyliau ar adeg arbennig, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol cyn gynted â phosib, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I gael manylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae'ch cyflogwr yn gwrthod gadael i chi gymryd gwyliau
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod gadael i chi gymryd gwyliau o gwbl,fel arfer dylech geisio sortio'r broblem yn anffurfiol gyda nhw i ddechrau. Os nad yw hyn yn gweithio, efallai y bydd angen i chi godi achwyniad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch codi achwyniad, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Delio gydag achwyniad, diswyddiad a chamau disgyblu yn yg waith.
Os ydych wedi ceisio codi’r mater gyda’ch cyflogwr ac nid ydych yn hapus gyda'r canlyniad o hyd, fe allwch ofyn i dribiwnlys cyflogaeth orfodi eich hawl i gymryd gwyliau. Os ydych yn cyflwyno cais i'r tribiwnlys, rhaid i chi wneud hyn o fewn tri mis i'r dyddiad y gwrthododd eich cyflogwr i chi gymryd gwyliau.
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod eich caniatau i gymryd gwyliau, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Dylechgysylltu â Chanolfan Cynghori cyn gynted â phosib, gan fod yna gyfyngiad amser ar gyfer ceisiadau i dribiwnlys cyflogaeth. I gael manylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych wedi rhoi’r cyfnod priodol o rybudd i’ch cyflogwr, yna yn gyffredinol mae gennych yr hawl i gymryd eich gwyliau. Fodd bynnag, o dan fathau penodol o gytundeb rhyngoch chi a’r cyflogwr, gallant wrthod eich cais am wyliau. Gallant hefyd wrthod eich cais am wyliau os na roddwyd y cyfnod priodol o wyliau os ydynt wedi rhoi’r cyfnod priodol o rybudd eu bod yn gwrthod y cais. Fodd bynnag, os nad yw’r cyflogwr wedi rhoi’r cyfnod priodol o rybudd ar gyfer gwrthod cais ond eu bod yn dal i wrthod rhoi gwyliau i chi, gallwch hawlio iawndal mewn tribiwnlys cyflogaeth. Dylech godi achwyniad ffurfiol gyda'ch cyflogwr yn gyntaf (gweler uchod).
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod gadael i chi gael gwyliau ar adeg benodol, dylech geisio cymorth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I gael manylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch CAB agosaf.
Gwyliau sydd heb eu cymryd
Os nad ydych yn medru defnyddio'r cyfan o'ch gwyliau mewn un flwyddyn wyliau, efallai y bydd hawl gennych i drosglwyddo peth ohonynt i’r flwyddyn wyliau nesaf. Er enghraifft, o 1 Hydref 2007, os ydych yn gweithio bum niwrnod yr wythnos ac mae gennych yr hawl i 24 diwrnod o wyliau, mae gennych yr hawl i drosglwyddo pedair diwrnod at y flwyddyn wyliau nesaf.
Yn gyffredinol, ni chewch drosglwyddo gwyliau statudol o un flwyddyn i'r flwyddyn nesaf. Gwyliau statudol yw'r isafswm gwyliau gyda chyflog y medrwch eu cymryd yn ôl y gyfraith – gweler y pennawd Faint o wyliau gyda chyflog fedrwch chi eu cymrud.
Efallai bod eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi gwyliau cytundebol i chi ar ben eich gwyliau statudol – gweler y pennawd Pwy sydd â hawl i wyliau gyda chyflog. Os yw eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi gwyliau cytundebol i chi, mae’n bosib y bydd modd i chi drosglwyddo peth o'r gwyliau hyn at y flwyddyn wyliau nesaf. Rydych ond ym medru trosglwyddo gwyliau cytundebol os yw'ch cytundeb cyflogaeth yn dweud eich bod yn medru gwneud hynny. Mae'n bosib hefyd i chi gael eich talu am unrhyw wyliau cytundebol nad ydych wedi eu cymryd, gan ddibynnu ar yr hyn y mae'n ei ddweud yn eich cytundeb cyflogaeth.
Os nad ydych yn medru defnyddio'r cyfan o'ch gwyliau gyda chyflog oherwydd nad yw eich cyflogwr yn fodlon i chi eu cymryd cyn i’r flwyddyn wyliau ddod i ben, dylech geisio help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dylech gael help ar unwaith oherwydd os oes angen i chi ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth am y cyflog gwyliau na thalwyd i chi, rhaid i chi ddwyn achos o fewn tri mis i’r dyddiad y gwrthodoch eich cyflogwr roi’r gwyliau i chi.
Gwyliau heb gyflog
Pan fyddwch chi’n gadael eich swydd, dylech gael unrhyw gyflog gwyliau sy’n ddyledus i chi. Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod, fe fyddwch yn medru gofyn i dribiwnlys cyflogaeth orfodi eich hawliau. Rhaid i chi hawlio o fewn tri mis i’r dyddiad y daeth eich cyflogaeth i ben.
Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod talu cyflog gwyliau i chi, fe fyddwch yn medru gofyn i dribiwnlys cyflogaeth orfodi eich hawliau. Efallai y byddwch yn medru hawlio am yr holl gyflog gwyliau na thalwyd i chi, hyd yn oed os ydyw’n mynd yn ôl am fwy na blwyddyn. Rhaid i chi hawlio o fewn tri mis i’r dyddiad olaf na thalwyd cyflog gwyliau i chi.
Os oes cyflog gwyliau’n ddyledus i chi, dylech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rydych yn sâl tra ar eich gwyliau
Os ydych ar gyfnod o wyliau ac rydych yn mynd yn ddigon sâl i fod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, rydych yn medru gofyn i’ch cyflogwr drin eich amser i ffwrdd o’r gwaith fel cyfnod salwch ac nid gwyliau.
Rydych yn dal i fedru cymryd eich gwyliau rhywbryd eto, yn lle’r adeg yr oeddech wedi bwriadu eu cymryd. Rydych yn medru gohirio’r gwyliau nad ydych wedi eu cymryd tan y flwyddyn wyliau nesaf os nad oeddech yn medru eu cymryd y flwyddyn hon am eich bod yn sâl.
Ond, os ydych am drin eich amser i ffwrdd o’r gwaith fel cyfnod salwch yn lle gwyliau, mae’ch cyflogwr yn medru talu tâl salwch i chi yn lle tâl gwyliau am y cyfnod yna. Fe fydd tâl salwch yn llai na’ch tâl arferol.
Dylai’ch cytundeb cyflogaeth ddweud sut a phryd ddylech chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn mynd i fod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, a pha brawf sydd ei angen arnynt.
Beth sy’n digwydd i’ch gwyliau os ydych ar gyfnod salwch
Os ydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, fe fydd hawl gennych i grynhoi gwyliau statudol tra’ch bod i ffwrdd o’r gwaith. Pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith, fe fyddwch yn medru gofyn i’ch cyflogwr os fedrwch chi gymryd y gwyliau yr ydych wedi eu crynhoi cyn diwedd y flwyddyn wyliau. Os diweddwyd eich cyflogaeth tra’ch bod i ffwrdd yn sâl, mae gennych yr hawl i gael yr holl gyflog gwyliau statudol yr ydych wedi ei grynhoi.
Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod gadael i chi gymryd gwyliau wedi i chi ddychwelyd i’r gwaith neu’n gwrthod talu cyflog gwyliau statudol yr ydych wedi ei grynhoi os yw’ch swydd wedi dod i ben, fe fyddwch yn medru gofyn i dribiwnlys cyflogaeth orfodi eich hawliau. Efallai y byddwch yn medru hawlio ar gyfer yr holl gyflog gwyliau na thalwyd i chi. Rhaid i chi hawlio o fewn tri mis i’r dyddiad olaf na thalwyd cyflog gwyliau i chi.
Fe fydd hawl gennych i grynhoi gwyliau cytundebol tra’ch bod i ffwrdd yn sâl os yw’ch cytundeb yn caniatáu hynny.
Am fwy o wybodaeth ar y gwahaniaeth rhwng gwyliau statudol a chytundebol, gweler y pennawd Pwy sydd â’r hawl i wyliau gyda chyflog.
Os ydych yn sâl tra'ch bod i fod ar wyliau, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth sy'n digwydd i'ch gwyliau os ydych i ffwrdd yn sâl
Os ydych i ffwrdd yn sâl, fel arfer fe fydd hawl gennych i gronni gwyliau â chyflog o'r gwaith. Ond, os ydych ar gyfnod salwch hir dymor, fe allech golli'r hawl hwn.
Os ydych wedi bod i ffwrdd ar gyfnod salwch hir dymor ac yn poeni am eich hawl i gronni gwyliau â chyflog, dylech ofyn am gymorth cynghorydd profiadol ar unwaith, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gwyliau a chyfnod mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu
Mae gan fwyafrif gweithwyr benywaidd yr hawl i 52 wythnos o gyfnod mamolaeth. Yn ystod y cyfnod yma, bydd hawl gennych i grynhoi eich gwyliau statudol yn yr un modd â phetaech yn y gwaith. Ystyr gwyliau statudol yw'r lleiafswm gwyliau sy'n ddyledus i chi yn ôl y gyfraith. Efallai bod eich cytundeb yn rhoi mwy o wyliau na hyn i chi.
Efallai fod gan rieni sy'n gweithio yr hawl i gyfnod tadolaeth neu fabwysiadu gyda chyflog. Yn ystod y cyfnod tadolaeth neu fabwysiadu, mae gennych yr hawl i grynhoi eich gwyliau statudol yn yr un modd â phetaech yn y gwaith. Ystyr gwyliau statudol yw'r lleiafswm gwyliau sy'n ddyledus i chi yn ôl y gyfraith. Efallai bod eich cytundeb yn rhoi mwy o wyliau na hyn i chi.
Mae'r rheolau ynglyn â chrynhoi gwyliau tra eich bod ar gyfnod mamolaeth/tadolaeth neu fabwysiadu yn medru bod yn gymhleth. Efallai bod eich cytundeb yn rhoi gwyliau ychwanegol i chi. Os oes problem gennych, dylech ofyn am gymorth cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I ddod o hyd i fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â hawliau rhiant yn y gweithle, gweler Hawliau rhiant yn y gweithle.
Gweithwyr tymhorol
Mae gan rai gweithwyr, er enghraifft, gweithwyr tymhorol, gytundebau, sy’n nodi eu bod nhw ond yn gweithio am ran o’r flwyddyn. Er enghraifft, mae’n bosib bod eich cytundeb yn weithredol ar gyfer 42 allan o 52 wythnos, a bod eich cyflogwr yn dweud wrthych am gymryd gwyliau heb gyflog am y deg wythnos sy’n weddill cyn i chi ddechrau gweithio iddyn nhw eto. Yn y sefyllfa yma mae eich hawliau gwyliau yn dibynnu ar p’un a’i fod gennych gytundeb cyflogaeth ai peidio, a ph'un ai ei fod yn parhau yn ystod y cyfnod pan nad ydych yn gweithio.
Mae’r rheolau ynglyn â chyfrifo eich gwyliau os nad ydych yn gweithio drwy gydol y flwyddyn gyfan yn gymhleth a dylech geisio cymorth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gadael eich swydd
Os nad oedd yn bosib i chi gymryd yr holl wyliau a grynhowyd gennych cyn i’ch swydd ddod i ben, yna mae gennych yr hawl i dderbyn tâl yn lle'r gwyliau sydd heb eu cymryd. Dylai'ch cyflogwr eich talu am yr holl wyliau a grynhowyd gennych. Os oes gennych gytundeb gyda’r cyflogwr, sy’n datgan faint o gyflog fyddwch chi'n ei gael yn lle’r gwyliau sydd heb eu cymryd, yna mae’n bosib y cewch y swm sydd wedi ei nodi yn y cytundeb. Os nad yw’r cytundeb gyda’r cyflogwr yn datgan faint o gyflog fyddwch chi’n ei gael, mae’r rheolau ynglyn â faint o gyflog ddylech chi ei gael am wyliau sydd heb eu cymryd yn gymhleth a dylech geisio cyngor pellach.
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod eich talu am wyliau sydd heb eu cymryd
Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich talu am wyliau sydd heb eu cymryd os ydych yn gadael neu wedi gadael eich swydd. Os ydych yn y sefyllfa yma gallwch ddefnyddio eich hawl i dderbyn cyflog am wyliau sydd heb eu cymryd mewn tribiwnlys cyflogaeth. Os ydych yn y sefyllfa yma, efallai y bydd yn rhaid i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr yn gyntaf
Am fwy o wybodaeth ynghylch achwyniadau, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech geisio cymorth cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. Dylech gysylltu â Chanolfan Cynghori cyn gynted â phosib, gan fod yna gyfyngiad amser ar gyfer gwneud ceisiadau at dribiwnlysoedd cyflogaeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch codi achwyniad gyda'ch cyflogwr, gweler Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Os oes gwyliau'n ddyledus i'ch cyflogwr pan yn gadael eich swydd
Os ydych chi wedi cymryd gwyliau pan nad oedd hawl gennych wrthynt a’ch bod yn gadael eich swydd, weithiau gall eich cyflogwr wneud didyniad o’ch cyflog olaf ar gyfer y gwyliau sy'n ddyledus. Mae’r gyfraith yn y maes yma’n gymhleth a dylech geisio cyngor pellach.
Os yw eich cyflogwr yn dweud eich bod mewn dyled am wyliau nad oeddech yn gymwys i’w cymryd, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cyflog yn ystod gwyliau os ydyw'ch cyflogwr yn mynd yn fethdalwr
Os fydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr, mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio arian sy'n ddyledus o’r Gronfa Yswiriant Gwladol. Gallwch hawlio hyd at chwe wythnos o gyflog gwyliau. Gall hyn fod am wyliau yr ydych eisoes wedi eu cymryd ond heb dderbyn tâl, neu am wyliau yr ydych chi wedi eu crynhoi.
Os ydych yn y sefyllfa yma dylech geisio help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Help pellach
Mae’r TUC wedi creu taflen ddefnyddiol am eich hawliau i wyliau. Rydych yn medru ei lawrlwytho oddi ar eu gwefan yn: www.tuc.org.uk.









