Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Ydyn nhw’n cael fy nhrin i’n annheg oherwydd fy nghrefydd?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Rwy'n Iddewig ac angen cymryd pob prynhawn Dydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith yn y gaeaf er mwyn cyrraedd adref cyn iddi dywyllu a pharatoi ar gyfer y Saboth. Ar hyn o bryd, mae fy rheolwr yn ddigon parod i adael i mi wneud hyn a gwneud yr amser i fyny yn ystod gweddill yr wythnos. Fodd bynnag, mae'n ystyried cyflwyno patrwm sifft newydd, sy'n golygu na fyddaf yn medru gwneud hyn mwyach. A oes hawl ganddo i wneud hyn?

Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unrhyw weithiwr oherwydd crefydd neu gred. Felly, os ydyw'ch cyflogwr yn cyflwyno patrwm sifft newydd a fydd yn anodd ar eich cyfer chi oherwydd eich crefydd, gallech fod yn dioddef gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd. Byddai'n rhaid i'ch cyflogwr ddangos pam yn union y mae'n hanfodol i chi weithio ar brynhawn Dydd Gwener. Os nad ydyw'n medru dangos nad oedd unrhyw ffordd resymol arall o aildrefnu eich gwaith, gallai ei ymddygiad tuag atoch gyfrif fel gwahaniaethu ar sail crefydd.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich crefydd, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb yn: www.equalityni.org.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu oherwydd crefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, a Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth:

Mynegai A i Y