Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

A oes hawl gen i gael gwyl banc i ffwrdd o'r gwaith?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae gennych yr hawl i o leiaf 5.6 wythnos o wyliau'r flwyddyn. Gelwir hyn yn wyliau statudol. Er mwyn cyfrifo sawl diwrnod o wyliau fedrwch chi eu cymryd bob blwyddyn, mae angen i chi luosi 5.6 gyda’r nifer o ddiwrnodau yr ydych yn eu gweithio mewn wythnos.

Cofiwch, nid oes hawl awtomatig gennych i gymryd gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd o’r gwaith, gyda chyflog neu heb gyflog. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich cytundeb cyflogaeth.

Efallai bod eich cytundeb cyflogaeth yn dweud bod hawl gennych i wyliau statudol neu efallai na fydd yn dweud unrhyw beth am wyliau cytundebol neu wyliau statudol. Yn yr achosion hyn, mae eich cyflogwr yn medru:

  • gofyn i chi weithio gwyliau banc neu gyhoeddus, neu
  • rhoi gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd i chi heb eich talu chi amdanynt. Yn yr achos hwn, ni fyddwch yn colli eich hawl i gymryd eich gwyliau statudol llawn ar ryw adeg arall, neu
  • roi gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd i chi a’ch talu amdanynt ond gofyn i chi eu cyfrif tuag at y gwyliau statudol y medrwch eu cymryd, neu
  • wneud cyfuniad o’r uchod.

Enghraifft:  os ydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, mae gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau statudol gyda chyflog y flwyddyn (5.6 wythnos X 5 diwrnod).  Os disgwylir i chi gymryd gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd, ac rydych yn cael eich talu amdanynt, fe fydd y diwrnodau hyn yn cael eu tynnu allan o’ch 28 diwrnod. Yng Nghymru a Lloegr, mae yna wyth o wyliau banc a chyhoeddus, ac felly fe fydd hyn yn gadael 20 diwrnod i chi ddewis pryd i’w cymryd.

Yn yr Alban, mae yna naw o wyliau banc a chyhoeddus, ac felly fe fydd hyn yn gadael 19 diwrnod i chi ddewis pryd i’w cymryd.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae yna ddeg o wyliau banc a chyhoeddus ac felly fe fydd hyn yn gadael 18 diwrnod i chi ddewis pryd i’w cymryd.

Efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi gwyliau banc neu gyhoeddus i ffwrdd i chi ar ben eich gwyliau statudol. Os yw hyn yn wir, fe fydd eich cytundeb yn nodi hyn ac fe fydd hefyd yn dweud p’un ai y byddwch yn cael eich talu am y diwrnodau hyn. Mae’r sefyllfa’n medru bod yn gymhleth os nad yw’ch cytundeb yn dweud unrhyw beth am wyliau banc a chyhoeddus.

Enghraifft: mae eich cytundeb cyflogaeth yn nodi bod hawl gennych i 35 diwrnod y flwyddyn o wyliau gyda chyflog.  Mae hyn yn fwy na’ch gwyliau statudol.  Nid yw’ch cytundeb cyflogaeth yn dweud unrhyw beth am wyliau banc a chyhoeddus.  Mae hawl gennych i 7 diwrnod i ffwrdd yn ychwanegol at eich hawl statudol.  Efallai y  bydd eich cyflogwr yn eich talu am wyliau banc a chyhoeddus fel rhan o’r hawl ychwanegol hwn neu efallai y bydd yn gofyn i chi weithio gwyliau banc a chyhoeddus a chymryd yr 7 diwrnod ychwanegol ar adegau eraill.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar wyliau banc, gweler Faint o wyliau â chyflog y gallwch chi eu cymryd yn Gwyliau a chyflog yn ystod gwyliau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gweithio ar Ddydd Nadolig i weithwyr siop, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth:

Mynegai A i Y