The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Rydw i newydd geisio am swydd ac mae'r ffurflen yn gofyn am fy nyddiad geni. Ydw i'n gorfod ei rhoi? Rwy'n ofni na fydd y cwmni'n edrych ar fy nghais os ydynt yn sylweddoli faint yw fy oed.
Er gwaethaf y ffaith fod yna reolau newydd i atal gwahaniaethu ar sail oed, nid oes unrhyw beth rhag atal cwmni rhag gofyn am eich dyddiad geni ar ffurflen gais. Ond os nad ydych yn cael y swydd, ac rydych yn creu ei fod oherwydd eich oed, fe fyddwch yn medru defnyddio'r ffaith eu bod wedi gofyn am eich dyddiad geni fel tystiolaeth bosib o wahaniaethu ar sail oed sydd yn erbyn y gyfraith. Efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.