Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Oes rhaid i mi ddweud wrth gyflogwyr am fy nghofnod troseddol?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Pan oeddwn i'n iau, es i drafferth gyda'r heddlu. Rwy'n ceisio am swyddi nawr ac rwy'n poeni y bydd fy euogfarn yn fy atal i rhag cael gwaith. A oes rhaid i mi ddweud wrth gyflogwyr am fy nghofnod troseddol? (Cymru, Lloegr, a'r Alban yn unig)

Mae'r wybodaeth y bydd yn rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar hyd y ddedfryd a'r math o ddedfryd a gawsoch a'r swydd yr ydych yn ceisio amdani. Fe fydd rhaid i chi ddatgan dedfryd o garchar sydd dros ddwy flynedd a hanner bob tro (neu yr un cyfnod mewn gwarchodaeth ieuenctid) os oes cyflogwr yn eich holi ynglyn â'ch cofnod troseddol. Mae hyn yn berthnasol i ddedfryd sydd wedi'i gohirio neu wedi'i gohirio'n rhannol hefyd. Pan fyddwch chi'n cyfrifo'r cyfnod, dylech roi cyfnod y ddedfryd wreiddiol, nid y cyfnod a dreuliwyd yn y ddalfa. Felly, os cawsoch ddedfryd o bum mlynedd ond cawsoch barôl ar ôl dwy flynedd, fe fydd yn rhaid i chi ddatgan y drosedd.

Hefyd, fe fydd yn rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarn os ydych yn ceisio am swydd lle'r ydych yn gweithio gyda phlant neu oedolion bregus. Er enghraifft, fe fydd yn rhaid i chi ddatgan pob euogfarn os ydych yn ceisio am swydd addysgu, gwaith yn y sector gofal iechyd, gwaith gwarchod plant neu weithiwr cymdeithasol.

Ond, os nad ydych yn gweithio gydag oedolion bregus na phlant, mae yna rai troseddau nad oes yn rhaid i chi eu datgan ar ôl cyfnod penodol o amser. Os ydyw'ch euogfarn yn dod o dan y categori hwn, ystyrir ei fod wedi'i dreulio ac nid oes rhaid i chi ei ddatgan, hyd yn oes os ydyw'r cyflogwr yn gofyn i chi am eich cofnod troseddol. Gelwir y cyfnod penodol yma yn gyfnod ailsefydlu ac mae'n dechrau adeg yr euogfarn. Mae hyd y cyfnod ailsefydlu yn dibynnu ar y ddedfryd a gawsoch ac nid y math o drosedd. Fe fydd rhai'n treulio ynghynt nag eraill.

Am fwy o wybodaeth am gyfnodau ailsefydlu, yng Nghymru a Lloegr, ewch at wefan NACRO, yr elusen ar gyfer gostwng troseddau, yn: www.nacro.org.uk.

Am fwy o wybodaeth am gyfnodau ailsefydlu yn yr Alban, ewch at wefan Apex Scotland, mudiad sy'n anelu at wella cyfleoedd cyflogaeth troseddwyr a chyn-droseddwyr, yn: www.apexscotland.org.uk.

Yng Nghymru a Lloegr, rydych hefyd yn medru defnyddio’r cyfrifydd ar-lein yn www.disclosurecalculator.org.uk i weld os yw’ch cofnod troseddol wedi ei dreulio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfnodau ailsefydlu yn yr Alban, rhowch glic ar wefan Apex Scotland, sef mudiad sy’n ceisio gwella cyfleoedd cyflogaeth troseddwyr a chyn-droseddwyr, yn: www.apexscotalnd.org.uk.

Am fwy o wybodaeth am ddatgan cofnod troseddol pan fyddwch chi am weithio gyda phlant neu oedolion bregus, yng Nghymru a Lloegr, ewch at wefan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn: www.crb.homeoffice.gov.uk. Yn yr Alban, ewch at wefan Disclosure Scotland yn www.disclosurescotland.co.uk.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth:

Mynegai A i Y