Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

A yw’ch asiantaeth yn medru gofyn i chi dalu ffioedd?

Ni ddylai asiantaeth gyflogi ofyn i chi dalu unrhyw ffioedd am ddod o hyd i waith i chi neu am geisio dod o hyd i waith i chi. Ond, mae’r asiantaeth yn medru gofyn i chi dalu am wasanaethau eraill, er enghraifft:

  • ysgrifennu CV
  • darparu gwisg
  • glanhau gwisgoedd
  • darparu llety i fyw ynddo
  • darparu help gyda chludiant
  • darparu hyfforddiant.

Ni ddylai’r asiantaeth eich gorfodi i brynu’r gwasanaethau hyn yn gyfnewid am ddod o hyd i waith ar eich cyfer.

Pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r asiantaeth ei rhoi i chi ynglyn â gwasanaethau y mae’n gofyn i chi dalu amdanynt?

Os yw’r asiantaeth yn codi tâl arnoch am wasanaethau, rhaid i chi gael manylion ysgrifenedig llawn yn esbonio beth ydynt. Dylai’r rhain gynnwys eich hawl i ganslo neu dynnu allan o’r gwasanaethau.

Ydych chi’n medru canslo gwasanaethau y mae’r asiantaeth yn gofyn i chi dalu amdanynt?

Rydych yn medru canslo unrhyw wasanaethau y mae’r asiantaeth yn gofyn i chi dalu amdanynt, heb orfod talu dirwy. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer llety, trafnidiaeth neu hyfforddiant.

Dylai’ch cytundeb gyda’r asiantaeth nodi’r cyfnod rhybudd y dylech ei roi os ydych am ganslo neu dynnu’n ôl o’r gwasanaeth. I sicrhau na chodir dirwy arnoch, rhaid i chi roi’r cyfnod cywir o rybudd.

Yn gyfreithiol, rhaid i chi roi o leiaf deng niwrnod gwaith o rybudd ysgrifenedig i’r asiantaeth er mwyn canslo llety byw, ac o leiaf pum niwrnod gwaith o rybudd am bob gwasanaeth arall. Efallai y bydd y cytundeb yn dweud bod yn rhaid i chi roi mwy na’r isafswm rhybudd i’r asiantaeth. Dylech ddarllen eich cytundeb i ddarganfod faint yw’r cyfnod rhybudd.

Sut mae gwasanaethau asiantaeth yn effeithio ar eich isafswm cyflog

Os yw’r asiantaeth yn gofyn i chi dalu am lety

Mae’r asiantaeth yn medru tynnu arian o’ch cyflog ar gyfer llety y mae’n ei ddarparu er mwyn i chi fedru gwneud eich gwaith. Mae’n cael tynnu hyd at £4.73 bob dydd heb i hyn gyfrif fel gostwng eich isafswm cyflog. Mae hyn yn golygu efallai bod eich cyflog, mewn gwirionedd, yn llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, unwaith fydd eich costau llety wedi cael eu tynnu.

Enghraifft

Cewch £6.08 yr awr am wythnos 40 awr. Mae’ch cyflogwr yn tynnu £33.11 am lety a ddarperir saith niwrnod yr wythnos. Mae’r isafswm cyflog cenedlaethol yn £6.08 yr awr ac mae’r swm y caniateir ei dynnu ar gyfer llety yn £4.73 y dydd.

Mae eich cyflog wythnosol yn £6.08 x 40 awr = £243.20.

Yr uchafswm y mae’r asiantaeth yn cael ei dynnu ar gyfer y llety yw £4.73 x 7 niwrnod = £33.11 yr wythnos.

Am fod y swm a dynnir ar gyfer llety o fewn yr uchafswm dyddiol y mae’r asiantaeth yn cael ei godi, nid yw’n cyfrif tuag at ostwng eich cyflog.

Fe fyddwch yn dal i gael eich gweld fel un sy’n derbyn yr isafswm cyflog o £6.08 yr awr, er bod £33.11 yn dod allan o’ch cyflog bob wythnos ar gyfer eich llety ac er eich bod, mewn gwirionedd, yn cael £243.20 - £33.11 = £210.09 yr wythnos.  

Os yw’r asiantaeth yn gofyn i chi dalu am gostau teithio, prydau bwyd neu wisgoedd

Os yw’r asiantaeth yn cymryd arian o’ch cyflog am y gwasanaethau canlynol, rhaid iddi sicrhau nad yw’r swm a dynnir yn gostwng eich cyflog yn is na lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dyma’r symiau y mae asiantaeth yn cael eu tynnu:

  • taliad i chi i dalu’ch costau teithio o’ch cartref i’r gweithle dros dro
  • am fod yr asiantaeth yn darparu prydau bwyd neu luniaeth ar eich cyfer
  • am fod yr asiantaeth yn darparu gwisg ar eich cyfer neu wasanaethau golchi dillad.

Cymryd camau os yw’ch cyflog yn disgyn yn is na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Os yw’r asiantaeth yn cymryd arian o’ch cyflog i dalu am gostau teithio, prydau bwyd neu wisgoedd ac mae’ch cyflog yn disgyn yn is na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC), fe allwch ysgrifennu at yr asiantaeth i’w hatgoffa ei bod yn anghyfreithlon iddi dynnu arian o’ch cyflog os yw’n peri i’ch cyflog ddisgyn o dan yr ICC. Efallai y bydd hyn yn ddigon i’w pherswadio i gynyddu’ch cyflog.

Os oes angen help arnoch i wneud hyn, fe allwch ofyn i Gynghorydd Cyngor ar Bopeth profiadol ysgrifennu at yr asiantaeth heb eich enwi chi.

Os nad ydych yn cael y Cyflog Amaethyddol neu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, o leiaf, ac nid ydych am gymryd camau yn erbyn yr asiantaeth neu’r cyflogwr, fe allwch gwyno i’r Llinell Gymorth Cyflog a Hawliau. Maen nhw’n medru mynd ar drywydd eich cwyn gyda’r asiantaeth heb eich enwi chi.

Camau nesaf

Os ydych yn credu bod eich asiantaeth yn tynnu gormod o arian o’ch cyflog, mae help ar gael gan gynghorydd profiadol. I ddod o hyd i fanylion eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig cyngor trwy e-bost, rhowch glic ar: Cyngor ar Bopeth.

Ar gyfer cwynion ynglyn â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ffoniwch Llinell Gymorth Cyflog a Hawliau ar 0800 917 2368

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

I ddarganfod mwy am eich hawliau cyflogaeth a sut i ddelio gyda phroblemau y gallech ddod ar eu traws yn y gwaith:

Mae gwybodaeth bellach ar ffioedd asiantaethau ar wefan Directgov.

Rate this page Give feedback