Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Beichiogrwydd a gweithwyr asiantaeth

Eich hawliau sylfaenol

Fel pob gweithiwr, ni ddylech wynebu gwahaniaethu am eich bod yn feichiog. Er enghraifft, nid yw asiantaeth yn medru:

  • diweddu eich swydd neu beidio â chynnig gwaith i chi
  • eich trin yn waeth na gweithwyr eraill
  • gwrthod rhoi gwaith i chi.

Hefyd, nid yw asiantaeth yn medru gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn eich erbyn am eich bod yn feichiog.  Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn medru digwydd pan fydd asiantaeth yn gwrthod eich rhoi chi ar ei llyfrau am eich bod eisiau cymryd gwaith rhan amser yn unig, am eich bod yn feichiog.

Neu, os yw’n cynnig swyddi tymor byr i chi yn unig tra’n cynnig swyddi tymor hirach i weithwyr asiantaeth nad ydynt yn feichiog. Os yw’r asiantaeth yn gwneud hyn bydd yn gorfod cyfiawnhau pam mae’n ei wneud.

Pan fyddwch chi wedi gweithio yn yr un swydd i’r un cyflogwr ers 12 wythnos, gan ddechrau o 1 Hydref 2011 neu 5 Rhagfyr 2011 yng Ngogledd Iwerddon, fe fydd hawliau ychwanegol gennych fel gweithiwr asiantaeth beichiog.

A oes hawl gennych i dâl mamolaeth statudol?

Rydych yn medru cael tâl mamolaeth statudol os ydych yn cwrdd â’r amodau cymhwyso.

A oes hawl gennych i gyfnod mamolaeth?

Ni fydd hawl gennych i gyfnod mamolaeth os nad ydych yn gyflogedig gan yr asiantaeth. Mae hyn yn debygol o fod yn wir os ydych ar gontract cyflog rhwng aseiniadau yn unig.

Os nad oes hawl gennych i gyfnod mamolaeth, fe allwch geisio cytuno gyda’ch asiantaeth neu’r cyflogwr i gael peth amser i ffwrdd.

A oes hawl gennych i dâl mamolaeth cytundebol?

Nid oes hawl gennych i dâl mamolaeth cytundebol, hyd yn oed os ydych wedi gweithio i gyflogwr am fwy na 12 wythnos.

A oes rhaid i chi ddweud wrth yr asiantaeth neu’r cyflogwr eich bod yn feichiog?

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich asiantaeth na’ch cyflogwr. Ond, nid oes hawl gennych i amser i ffwrdd hyd nes eich bod wedi dweud wrth yr asiantaeth eich bod yn feichiog, ac nid oes hawl gennych i gyflog yn ystod apwyntiadau cyn-geni na chyflog os cewch eich atal o’ch swydd ar sail iechyd a diogelwch, hyd nes eich bod wedi dweud wrth eich cyflogwr yn ysgrifenedig eich bod yn feichiog.

A oes hawl gennych i amser i ffwrdd gyda chyflog i fynd i ddosbarthiadau ac apwyntiadau cyn-geni?

Pan fyddwch chi wedi gweithio am 12 wythnos i’r un cyflogwr, mae gennych hawl i amser i ffwrdd gyda chyflog ar gyfer dosbarthiadau ac apwyntiadau cyn-geni. Rhaid i chi gael eich talu ar eich cyfradd ‘yr awr’ bresennol am bob awr o waith yr ydych yn ei cholli. Mae’r asiantaeth yn medru gofyn i chi ddarparu prawf o’ch apwyntiadau a holi faint o amser fydd angen i chi ei gymryd i fynd iddynt.

Dylech osgoi cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith ble byddai’n rhesymol i chi fedru trefnu dosbarthiadau neu apwyntiadau tu allan i oriau gwaith.

A yw cyflogwr yn medru gwrthod gadael i chi ddychwelyd i’r swydd yr oeddech yn ei gwneud cyn i chi gael eich babi

Efallai y bydd yn wahaniaethu os yw’ch cyflogwr yn gwrthod eich cymryd yn ôl i’r swydd yr oeddech yn ei gwneud cyn hynny. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Er enghraifft, efallai bod achos o wahaniaethu ble’r ydych wedi gweithio i’r un cyflogwr am nifer o flynyddoedd, er eich bod yn weithiwr asiantaeth, a byddai wedi bod yn hawdd i’ch cyflogwr eich gadael chi i ddod yn ôl i weithio ar ôl eich cyfnod mamolaeth.

Camau nesaf

Os ydych yn credu efallai eich bod wedi dioddef gwahaniaethu am eich bod yn feichiog, fe allech geisio datrys y mater yn anffurfiol trwy ysgrifennu at yr asiantaeth, y cyflogwr, neu’r ddau, gan ddibynnu pwy sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn ôl eich honiad.

Dylech wneud hyn yn ysgrifenedig, fel bod cofnod ohono gennych. Os nad yw hyn yn gweithio, neu os ydych chi am wneud cwyn mwy ffurfiol, fe allech ysgrifennu llythyr o achwyniad. Yn y ddau achos, dylech nodi pam yr ydych yn credu eu bod wedi gwahaniaethu yn eich erbyn a’r hyn yr hoffech ei weld yn cael ei wneud am y peth.

Os nad yw hyn yn gweithio, fe allech ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Rhaid i chi ddwyn achos o fewn tri mis namyn diwrnod i ddyddiad y weithred wahaniaethu yr ydych yn cwyno yn ei chylch. Dylech gysylltu ag arbenigwr ar gyflogaeth yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol i gael help gyda hyn.

Mwy o wybodaeth

Gweithwyr asiantaeth ac asesiadau risg iechyd a diogelwch os ydych yn feichiog

I ddarllen am hawliau cyflogaeth sylfaenol eraill, gweler Gweithwyr asiantaeth – yr hyn sydd angen i chi ei wybod.

I ddarllen am hawliau cyflogaeth newydd, gweler Hawliau ychwanegol i weithwyr asiantaeth

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Mae yna ganllawiau defnyddiol ar wefan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau yn www.bis.gov.uk ac ar wefan y TUC yn www.tuc.org.uk

Maternity Action yn: www.maternityaction.org.

Rate this page Give feedback