The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Gweithwyr asiantaeth ac asesiadau iechyd a diogelwch os ydych yn feichiog
Beth yw asesiad risg iechyd a diogelwch?
Rhaid i gyflogwyr gynnal asesiadau risg iechyd a diogelwch ar gyfer pob un o’u gweithwyr. Fe fydd yr asesiad hefyd yn edrych ar unrhyw risgiau penodol y gallech fod yn eu hwynebu os ydych yn feichiog. Fel arfer, maen nhw’n cynnwys pethau fel eich amodau gwaith a chysylltiad â sylweddau peryglus. Nid yw peryglon llai, fel dod i gysylltiad â pheswch ac anwydau, yn cael eu cyfrif fel risg. Dylai cyflogwyr drafod darganfyddiadau’r asesiad risg gyda chi ac ni ddylent wneud unrhyw newidiadau heb i chi roi’ch caniatâd.
Os yw’ch cyflogwr yn eich anfon yn ôl i’r asiantaeth gan ddweud nad ydych yn medru gweithio yno am resymau iechyd a diogelwch, mae’r asiantaeth yn gyfrifol am ddweud wrth eich cyflogwr am gynnal asesiad risg. Os nad yw’n gwneud hynny, ac mae yna risgiau clir i chi, fe allech ddwyn achos o wahaniaethu.
Os cewch eich anfon adref wedi i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog ac mae yna risg dybryd i’ch iechyd a’ch diogelwch, efallai y byddai’n rhesymol i’ch atal o’r gwaith am gyfnod byr er mwyn cynnal yr asesiad risg.
Cadarnhewch eich bod yn barod i weithio
Pan fyddwch chi’n gwybod eich bod yn feichiog, mae’n syniad da i chi ysgrifennu at eich asiantaeth a’ch cyflogwr, yn dweud eich bod yn barod i weithio ac yn fodlon gweithio. Fe allwch ofyn iddyn nhw wneud newidiadau hefyd oherwydd eich beichiogrwydd. Er enghraifft, fe allai hyn olygu gofyn am gadair os oes rhaid i chi aros am gyfnodau hir o amser.
Efallai y bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud, ond mae’n dibynnu ar:
- natur y newidiadau h.y. beth yw’r newidiadau
- pa mor hawdd fyddai i’ch cyflogwr wneud y newidiadau
- pa mor hir y disgwylir i chi weithio yn y swydd yna.
Beth os yw’ch cyflogwr yn defnyddio risgiau iechyd a diogelwch fel esgus i wahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn feichiog?
Efallai y bydd cyflogwyr yn defnyddio risgiau iechyd a diogelwch fel esgus i ddiweddu eich gwaith. Nid yw hyn yn wahaniaethu os oes rheswm dilys i esbonio pam na fedrwch chi wneud eich gwaith. Ond, mae defnyddio risgiau iechyd a diogelwch fel esgus i gael gwared arnoch yn wahaniaethu. Efallai y byddwch yn medru dwyn achos yn yr amgylchiadau canlynol:
- rydych wedi cael eich symud at swydd arall heb asesiad risg ac nid yw’r cyflogwr yn fodlon cynnal asesiad risg
- mae’ch cyflogwr yn defnyddio risgiau llai fel esgus i ddweud nad ydyw am i chi weithio iddo,
- mae’r cyflogwr yn medru rhoi tasgau eraill i chi eu gwneud i osgoi risgiau iechyd a diogelwch, ond mae’n gwrthod gwneud hynny
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddwyn achos o wahaniaethu, gweler
Os nad ydych yn medru parhau gyda’ch gwaith, a yw’r asiantaeth yn gorfod dod o hyd i waith arall i chi?
Os nad ydych yn medru aros yn eich swydd am nad yw’n rhesymol i chi fedru osgoi’r risgiau iechyd a diogelwch, dylai’ch cyflogwr ddweud wrth yr asiantaeth. Yna, dylai’r asiantaeth ddod o hyd i waith arall i chi. Rhaid i chi dderbyn yr un tâl am y gwaith newydd ag yr oeddech yn ei gael yn y swydd yr oedd yn rhaid i chi ei gadael.
Os nad yw’r asiantaeth yn medru dod o hyd i waith addas arall i chi, rhaid iddi eich talu am weddill y cyfnod yr oeddech yn mynd i fod yn gweithio. Rhaid iddi hefyd eich talu os ydych ar gontract cyflog rhwng aseiniadau.
Ni chewch eich talu os ydych yn gwrthod cynnig o waith addas arall ac nid oes rheswm da gennych dros wneud hynny.
Camau Nesaf
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu am eich bod yn feichiog, fe allech geisio datrys y mater yn anffurfiol trwy ysgrifennu at yr asiantaeth, y cyflogwr, neu’r ddau, gan ddibynnu pwy, yn ôl eich honiad, sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.
Dylech wneud hyn yn ysgrifenedig fel bod cofnod gennych. Os na fydd hyn yn gweithio, neu rydych am wneud cwyn mwy ffurfiol, fe allech ysgrifennu llythyr o achwyniad. Yn y ddau achos, dylech nodi pam yr ydych yn credu i chi ddioddef gwahaniaethu a beth hoffech ei weld yn digwydd ynglyn â’r peth.
Os na fydd hyn yn gweithio, fe allech ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Rhaid i chi ddwyn achos o fewn tri mis namyn diwrnod i’r dyddiad y digwyddodd y weithred yr ydych yn cwyno yn ei chylch. Dylech gysylltu ag arbenigwr ar gyflogaeth yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, i gael help gyda hyn.
Mwy o wybodaeth
Gweithwyr asiantaeth a beichiogrwydd
I ddarllen am hawliau cyflogaeth sylfaenol eraill, gweler Gweithwyr asiantaeth – yr hyn sydd angen i chi ei wybod.
I ddarllen am hawliau cyflogaeth newydd, gweler Hawliau ychwanegol i weithwyr asiantaeth.
I ddod o hyd i’ch canolfan leol ac i gael help pellach, rhowch glic ar Cyngor ar Bopeth.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Mae yna ganllawiau defnyddiol ar wefan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau yn www.bis.gov.uk ac ar wefan y TUC yn www.tuc.org.uk/agencyworkers.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol gan Maternity Action hefyd http://www.maternityaction.org.uk/index.html
Mae gwybodaeth bellach ar wefan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar asesiadau risg i fenywod beichiog.









