The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith?
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Ynglyn â pha help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith
Mae’r dudalen hon yn eich tywys chi at y mannau ble allwch chi ddod o hyd i fwy o help a gwybodaeth os ydych chi’n cael problem yn y gwaith, neu’n dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
I ddarganfod mwy ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Ydw i’n medru cael help gyda fy achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth?
Mae meddwl am ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn medru eich dychryn. I lawer o bobl, mae cael cyngor cyn cymryd unrhyw gamau yn ddefnyddiol.
Mae yna lawer o fudiadau a fyddai efallai’n medru cynnig cyngor neu help i chi gyda’ch achos. Ceir mwy o wybodaeth a manylion cyswllt ar y dudalen hon.
Efallai y byddwch hefyd am ddod o hyd i rywun i’ch helpu i baratoi eich achos neu i’ch cynrychioli os oes gwrandawiad. Ond, pan fyddwch chi’n dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, ni fyddwch yn medru cael help neu gynrychiolaeth ar gyfer eich achos yn awtomatig.
Ar y dudalen hon, mae yna syniadau i’ch helpu i ddod o hyd i rywun i’ch helpu i baratoi eich achos neu i’ch cynrychioli os oes gwrandawiad.
Ond os na fyddwch chi’n medru cael cyngor neu gynrychiolaeth, peidiwch â mynd i banig! Sefydlwyd tribiwnlysoedd cyflogaeth er mwyn i gyflogedigion cyffredin ymddangos ar eu pennau eu hunain ac mae yna lawer o bobl sydd ddim â chynrychiolydd. Mae’r tribiwnlys yn gyfarwydd â gweld pobl yn ymddangos heb gynrychiolydd.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynghorydd a chynrychiolydd?
Os fyddwch chi’n cael help gan ganolfan Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth cyngor arall, efallai y byddwch yn cael help gan rywun sy’n medru eich cynghori neu rywun sy’n medru eich cynrychioli.
Mae cynghorydd yn rhywun sy’n medru eich helpu gyda’ch achos, yn y cefndir. Fel arfer, ni fydd yn siarad â’ch cyflogwr yn uniongyrchol nac yn eich cynrychioli’n ffurfiol.
Mae cynrychiolydd yn rhywun a fydd yn cael ei enwi ar ffurflen y tribiwnlys. Fe fydd yn cyfrifol am baratoi eich achos ac yn eich cynrychioli yn y tribiwnlys. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi siarad yn y tribiwnlys hefyd, i roi’ch tystiolaeth.
Fe fydd unrhyw gyswllt ynglyn â’ch achos yn mynd yn syth at eich cynrychiolydd, ac fe fydd yn cysylltu â chi yn ôl yr angen. Os ydych chi’n mynd i ffwrdd, ar wyliau enghraifft, rhaid i chi ddweud wrth eich cynrychiolydd.
Os oes cynghorydd gennych yn hytrach na chynrychiolydd, chi sydd â’r cyfrifoldeb o baratoi eich achos, ond mae’ch cynghorydd yno i’ch helpu ar hyd y ffordd. Rhaid i chi gadw mewn cysylltiad â’ch cynghorydd, yn enwedig pan fyddwch chi’n derbyn unrhyw beth gan y tribiwnlys. Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’ch cynghorydd ynghylch unrhyw lythyron, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn a gewch ynglyn â’ch achos, gan y tribiwnlys neu gynrychiolydd eich cyflogwr er enghraifft. Weithiau, mae’n rhaid i chi wneud pethau o fewn terfyn amser, mewn ymateb i’r rhain.
Pan fyddwch chi’n cael dyddiad ar gyfer eich gwrandawiad, dylech gysylltu â’ch cynghorydd ar unwaith. Os fyddwch chi’n oedi rhag cysylltu ac yn cysylltu ychydig cyn y gwrandawiad, efallai na fydd eich cynghorydd yn medru eich helpu i wneud eich paratoadau terfynol.
Dylech gofio efallai y bydd yn rhai i gynghorydd neu gynrychiolydd dynnu yn ôl o’ch achos. Mae hyn yn medru bod am wahanol resymau. Er enghraifft, efallai am ei fod yn haws i gynrychiolydd prysur baratoi achosion pan fyddan nhw’n swyddogol, neu eu bod ond yn medru gweld cryfder eich achos ar ôl dilyn gweithdrefnau penodol. Fe fydd eich cynghorydd neu gynrychiolydd yn siarad â chi ynglyn â hyn os digwydd i’r sefyllfa godi.
Undebau Llafur
Os ydych yn aelod o undeb llafur, dylech gysylltu â nhw i weld os ydyn nhw’n medru eich helpu chi gyda’ch problem yn y gwaith, cyn ceisio dod o hyd i help yn rhywle arall. Efallai bod cynrychiolydd undeb yn eich gweithle, neu efallai y bydd angen i chi gysylltu â’ch cangen leol.
Fe allwch ddarganfod mwy am eich hawliau yn y gwaith fel aelod o undeb, a sut i gysylltu â’ch undeb, ar wefan Worksmart yn: www.worksmart.org.uk.
Canolfannau Cyngor ar Bopeth
Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn ei dalgylch, dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth fedru rhoi peth help i chi gyda’ch problem cyflogaeth neu gyda’ch achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.
Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol rhad ac am ddim o dros 3,000 o leoliadau, gan gynnwys y canolfannau eu hunain, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae cyngor ar gael wyneb yn wyneb a dros y ffôn. Mae rhai canolfannau hefyd yn cynnig cyngor drwy e-bost. Os ydych chi angen rhywun i ddod i’ch cartref, cysylltwch â’ch canolfan leol i weld os oes modd iddyn nhw drefnu hyn.
Efallai bod gwahaniaethau yn yr help y gall Canolfannau Cyngor ar Bopeth lleol ei roi i chi. Efallai y bydd rhai’n medru rhoi cyngor i chi, ac y bydd eraill yn medru cynnig cynrychiolaeth i chi. Fe fydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru dweud wrthych am yr hyn y mae’n medru ei gynnig i chi.
I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf, neu chwiliwch o dan C yn eich llyfr ffôn.
Help gan gyfreithiwr
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am help gan gyfreithiwr, neu efallai y bydd yn bosib i chi gael help yn rhad ac am ddim. Mae yna ffyrdd amrywiol o dalu am gyfreithiwr, ac felly mae’n werth gweld os yw un o’r ffyrdd hyn yn berthnasol i chi.
Polisïau yswiriant
Mae rhai polisïau yswiriant yn cynnwys costau gyfreithiol. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn medru cael eich cwmni yswiriant i dalu am eich cyfreithiwr, ac weithiau am gynrychiolaeth arbenigol. Darllenwch y polisi yswiriant ar gyfer eich cartref, yswiriant eich car ac unrhyw bolisïau eraill sydd gennych, gan gynnwys polisi ar gyfer cardiau credyd a ffôn symudol, neu cysylltwch â’ch cwmni yswiriant i ddarganfod os oes darpariaeth ar eich cyfer.
Cymorth cyfreithiol
Os nad ydych yn medru fforddio talu am gyfreithiwr, fe fyddwch yn medru gofyn am gymorth cyfreithiol. Mae cymorth cyfreithiol yn dibynnu ar eich enillion, faint o gyfalaf fel arbedion ac eiddo sydd gennych, a pha fath o achos sydd gennych.
Fe allwch ddefnyddio’r cyfrifydd cymhwyster fel canllaw i weld os fedrwch chi gael cymorth cyfreithiol. Rhowch glic ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Neu fe allwch ffonio’r llinell gymorth ar 0845 345 4345, ac fe fyddan nhw’n holi cwestiynau i chi i weld os allwch chi hawlio cymorth cyfreithiol.
Weithiau, mae’n medru bod yn anodd dod o hyd i gyfreithiwr sy’n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol. Cofiwch, os oes hawl gennych i gymorth cyfreithiol, efallai y byddwch hefyd yn medru cael help cyfreithiol i baratoi eich achos ar gyfer y tribiwnlys, ond nid ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol i dalu am gynrychiolaeth mewn tribiwnlys cyflogaeth.
I ddarganfod mwy am yr help sydd ar gael i chi mewn achos sy’n ymwneud â chyflogaeth, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Cytundebau dim llwyddiant, dim tâl
Os nad ydych yn medru fforddio talu am gyfreithiwr, ac nid ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol, efallai y byddwch yn medru dod o hyd i gyfreithiwr a fydd yn fodlon cymryd eich achos ar gytundeb dim llwyddiant, dim tâl. Os fyddwch chi’n ennill neu’n setlo’ch achos, fel arfer fe fyddwch yn talu hyd at draean o’ch iawndal i’ch cyfreithiwr. Os ydych yn talu am gyfreithiwr yn y ffordd yma, gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio’ch cytundeb yn ofalus ar y dechrau, fel eich bod yn glir ynghylch yr hyn fyddwch chi’n ei dalu,
I ddarganfod mwy ynghylch setlo achos sydd gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Deall Acas a chytundebau setlo.
Uned Pro Bono y Bar
Efallai y bydd Uned Pro Bono y Bar yn medru eich helpu gyda chyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth trwy geisio dod o hyd i fargyfreithiwr i weithio ar eich achos. Maen nhw’n rhoi help i bobl sydd ddim yn medru fforddio talu ffioedd cyfreithiol ac sydd ddim yn medru cael cymorth cyfreithiol. I gael help gan Uned Pro Bono y Bar fe fydd yn rhaid i chi gael eich cyfeirio atynt trwy asiantaeth cyngor. Fe allwch gael mwy o wybodaeth ar Uned Pro Bono y Bar, a sut i gael eich cyfeirio ati, trwy gysylltu â’r Uned drwy ei gwefan yn: www.barprobono.org.uk.
Dod o hyd i’ch cyfreithiwr eich hun os oes rhaid i chi dalu
Os oes rhaid i chi ddod o hyd i’ch cyfreithiwr eich hun, mae yna nifer o fudiadau a allai’ch helpu i wneud hyn. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio ffioedd y cyfreithiwr yn ofalus cyn i chi gytuno i’w ddefnyddio.
Cymdeithas y Gyfraith yw’r corff sy’n cynrychioli cyfreithwyr, ac efallai y bydd yn medru eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr preifat yn eich ardal. Fe allwch chwilio drwy gronfa ddata ar-lein y Gymdeithas sy’n cynnwys cyfreithwyr a chynghorwyr cyfreithiol eraill, yn:www.lawsociety.org.uk.
Fe allwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol ar y Cyfeiriadur Cynghorwyr Cyfreithiol. Rhowch glic ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar www.justice.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd i gyfreithiwr a defnyddio cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Free Representation Unit (yr FRU)
Mae’r FRU yn medru darparu cyngor, help i baratoi achos a chynrychiolaeth mewn achosion gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. I gael help gan yr FRU mae’n rhaid i chi fod wedi dechrau eich achos a rhaid eich bod wedi cael eich cyfeirio atynt gan un o’u hasiantaethau cyfeirio. Fe allwch gael mwy o wybodaeth am yr FRU a sut i gael eich cyfeirio atynt trwy gysylltu â nhw ar:
Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael drwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.thefru.org.uk
Canolfannau Cyfraith
Efallai y bydd Canolfan Cyfraith yn medru cynnig cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol, annibynnol rhad ac am ddim i chi. Maen nhw’n canolbwyntio ar ddarparu cyngor cyfreithiol i bobl sy’n ei chael yn anodd cael cyngor neu sy’n dioddef gwahaniaethu. Maen nhw’n cael eu hariannu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a chynghorau lleol.
Dylech gysylltu â’ch Canolfan Cyfraith leol i weld os yw’n medru eich helpu chi. O ddod o hyd i’r manylion cyswllt, chwiliwch ar-lein yn: www.lawcentres.org.uk.
Asiantaethau cyngor
Efallai y bydd yna asiantaethau cyngor annibynnol neu nid-am-elw yn eich ardal sy’n medru eich helpu gyda’ch problem cyflogaeth. I ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, chwiliwch ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn: www.communitylegaladvice.org.uk. Neu chwiliwch yn eich llyfr ffôn.
LawWorks
Os nad ydych yn medru fforddio talu am gyfreithiwr ac nid ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol, efallai y bydd LawWorks yn medru helpu gyda’ch achos cyflogaeth. Mae’n darparu cymorthfeydd cyngor cyfreithiol ac yn ceisio dod o hyd i gyfreithiwr i ddarparu help rhad ac am ddim gyda chyfryngdod a gwaith achos. Fe allwch anfon cais yn uniongyrchol at LawWorks. I ddarganfod mwy am eu gwasanaethau a sut i anfon cais, cysylltwch â nhw ar:
Rhif ffôn: 0207 929 5601
E-bost: trwy eu gwefan yn www.lawworks.org.uk
Gwefan: www.lawworks.org.uk.
Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas)
Mae Acas yn medru darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol i’ch helpu i ddatrys eich problem cyflogaeth. Mae cyngor ar gael trwy ffonio eu llinell gymorth neu chwilio ar eu gwefan.
Rhif ffôn: 08457 47 47 47
Minicom: 08456 06 16 00
Gwefan: www.acas.org.uk.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu cyngor a gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â gwahaniaethu a hawliau dynol. Os ydych chi’n cael problem gyda gwahaniaethu yn y gwaith, mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol linell gymorth sy’n medru rhoi gwybodaeth ac arweiniad i chi. Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y wefan hefyd.
Lloegr
Rhif ffôn: 0845 604 6610
Ffôn testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
Cyfeiriad:
Equality and Human Rights Commission Helpline
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester, M4 3AQ
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com.
Cymru
Rhif ffôn: 0845 604 8810
Ffôn testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
Cyfeiriad:
Llinell Gymorth Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd, CF10 5BT
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com.
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus y Tribiwnlys Cyflogaeth
Mae Llinell Ymholiadau Cyhoeddus y Tribiwnlys Cyflogaeth yn medru darparu atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac esbonio sut mae system y tribiwnlys cyflogaeth yn gweithio. Nid ydynt yn rhoi cyngor cyfreithiol. Mae manylion pellach ar gael ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Ffôn: 0845 795 9775
Minicom: 0845 757 3722
Gwrefan: justice.gov.uk
Gwybodaeth ar-lein
Directgov
Dyma wefan gwybodaeth y llywodraeth. Mae’n rhoi gwybodaeth ynghylch eich hawliau yn y gwaith a sut i ddatrys problem yn y gwaith.
Gwefan: www.direct.gov.uk.
Gwybodaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth
Mae gwybodaeth bellach ynghylch tribiwnlysoedd cyflogaeth, a sut i ddwyn achos gerbron y tribiwnlys, ar gael oddi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gwefan: www.justice.gov.uk.
Employment Tribunal Claims: tactics and precedents
Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth ynghylch y broses o ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, a chyngor anffurfiol defnyddiol ar dactegau a gweithdrefnau.
Gwefan: etclaims.co.uk.
Mwy am broblemau yn y gwaith
I ddarganfod mwy am broblemau yn y gwaith a thribiwnlysoedd cyflogaeth, gweler datrys anghydfod yn y gwaith.









