Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Taclwr termau’r tribiwnlys cyflogaeth

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr

Yn y taclwr termau hwn, cewch ddarganfod ystyr rhai o’r geiriau sy’n cael eu defnyddio ar dudalennau Datrys anghydfod yn y gwaith.

Acas – Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. Maen nhw’n gweithio gyda chyflogwyr a chyflogedigion i geisio datrys unrhyw anghydfod yn ymwneud â chyflogaeth. Maen nhw’n medru gweithio gyda chi cyn i chi ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, a chyn eich gwrandawiad. Mae ganddynt linell gymorth gyfrinachol sy’n rhoi cyngor annibynnol i chi. Am fanylion cyswllt, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.

Achwyniad – mae achwyniad yn ffordd ffurfiol o godi’ch pryderon, problemau neu gwynion ynghylch eich gwaith, gyda’ch cyflogwr. Efallai bod gan eich cyflogwr broses achwyniad y dylech ei dilyn, ac os yn bosib, dylech nodi’ch cwynion yn ysgrifenedig. Dylech geisio codi achwyniad gyda’ch cyflogwr cyn dwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Efallai y bydd y tribiwnlys yn gostwng swm yr iawndal a gewch onid ydych yn gwneud hyn.

Adolygiad cyn y gwrandawiad – dyma wrandawiad y gallech ei gael cyn y prif wrandawiad gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, fel arfer tra’ch bod yn paratoi eich achos. Fe fyddwch chi’n dod i’r adolygiad hwn, yn ogystal â’ch cyflogwr, neu eich cynrychiolwyr, a barnwr y tribiwnlys. Fe fydd yr adolygiad cyn y gwrandawiad yn penderfynu rhannau cyntaf pwysig eich achos, i arbed amser yn y prif wrandawiad.

Ail-archwiliad – mae hyn yn digwydd yn ystod eich gwrandawiad yn y tribiwnlys cyflogaeth. Ar ôl i’ch cyflogwr orffen holi cwestiynau i chi, fe fydd eich cynrychiolydd, os oes un gennych, yn cael holi ychydig mwy o gwestiynau i chi. Gelwir hyn yn ail-archwiliad.

Apêl – os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad y tribiwnlys cyflogaeth yn y gwrandawiad, efallai y byddwch yn medru cwestiynu’r penderfyniad. Gelwir hyn yn apêl. Ond, rydych yn medru apelio ynghylch materion y gyfraith yn unig. Mae hyn yn golygu eich bod ond yn medru apelio os oedd problemau gyda’r ffordd y defnyddiwyd y gyfraith yn y penderfyniad gwreiddiol. Mae’n anodd apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys cyflogaeth, felly dylech gael cyngor cyfreithiol os ydych am wneud hyn. Am fanylion cyswllt mudiadau a fyddai efallai’n medru eich helpu gydag apêl, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.

Bwndel – mae bwndel yn ffeil o ddogfennau sy’n ffurfio’r dystiolaeth y bydd angen i dribiwnlys cyflogaeth edrych arni yn ystod y gwrandawiad.

COT3 – dyma ffurflen a ddefnyddir gan Acas i gofnodi cytundeb setlo yr ydych chi a’ch cyflogwr wedi dod iddo heb fynd at dribiwnlys cyflogaeth. Mae’r cytundeb setlo’n eich rhwymo chi a’ch cyflogwr.

Croesholi – dyma pryd mae’r ochr arall yn holi cwestiynau i dyst mewn gwrandawiad gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Efallai y bydd cynrychiolydd eich cyflogwr yn eich holi chi neu rywun sy’n tystio ar eich rhan. Neu, efallai mai chi fydd yn holi cwestiynau i’ch cyflogwr neu dyst eich cyflogwr. Syniad croesholi yw profi pethau i’r tribiwnlys.

Cyfarwyddiadau – dyma’r cyfarwyddiadau gan y tribiwnlys cyflogaeth ynghylch yr hyn ddylai ddigwydd yn eich achos. Efallai y byddan nhw’n gyfarwyddiadau ar gyfer pethau fel rhoi mwy o wybodaeth, ar gyfer y dyddiad ar gyfer paratoi datganiadau’r tystion a’u hanfon i’r ddwy ochr, neu phryd ddylai’r bwndel fod yn barod. Weithiau, gelwir cyfarwyddiadau gan y tribiwnlys yn orchmynion.

Cynghorydd – mae cynghorydd yn rhywun sy’n medru eich helpu gyda’ch achos cyflogaeth, yn y cefndir. Mae’n medru helpu gyda gwaith papur, ac yn medru rhoi cyngor i chi ar eich achos. Fel arfer, ni fydd yn siarad yn uniongyrchol â’ch cyflogwr nac yn eich cynrychioli yn y tribiwnlys cyflogaeth.

Cynrychiolydd – mae cynrychiolydd yn rhywun a fydd yn cael ei (h)enwi ar ffurflen y tribiwnlys cyflogaeth. Fe fydd yn cymryd y cyfrifoldeb dros baratoi eich achos ac yn eich cynrychioli yn y tribiwnlys cyflogaeth. Fe fydd unrhyw gyswllt ynghylch eich achos yn mynd at eich cynrychiolydd, ac fe fydd eich cynrychiolydd yn cysylltu â chi yn ôl yr angen.

Cymodi cyn yr achos – dyma gynllun y mae Acas yn ei rhedeg. Maen nhw’n medru gweithio gyda chi a’ch cyflogwr i geisio gweithio trwy unrhyw wahaniaethau hwb ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Mae’r cynllun yn ddiduedd, yn gyfrinachol, yn wirfoddol ac yn rhad ac am ddim.

Cytundeb – dyma gytundeb rhyngoch chi a’ch cyflogwr. Fel arfer, mae’n ymwneud â’r gwaith y byddwch chi’n ei wneud, a faint fydd eich cyflogwr yn eich talu amdano. Fel arfer, hefyd, fe fydd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch yr hawliau eraill sydd gennych yn y gwaith. Rhaid i’ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi o’ch amodau a thelerau cyflogaeth, o fewn deufis i’r dyddiad y dechreuoch weithio.

Cytundeb i gyfaddawdu – dyma gytundeb sy’n cael ei lofnodi’n uniongyrchol rhyngoch chi a’ch cyflogwr, heb fynd trwy Acas [link to heading Acas] na thribiwnlys cyflogaeth. Fel arfer, mae eich cyflogwr yn cytuno i dalu swm penodol o arian i chi fel iawndal, ac, yn ddychwelyd, rydych chi’n cytuno i beidio â mynd ag achos at y tribiwnlys cyflogaeth. Cyn i chi gytuno ar gytundeb i gyfaddawdu, rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr annibynnol a rhaid i’r cyfreithiwr lunio’r cytundeb. Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol annibynnol cyn i’r cytundeb i gyfaddawdu rwymo’n gyfreithiol.

Cytundeb setlo – dyma gytundeb gyda’ch cyflogwr i stopio eich achos cyn iddo fynd at dribiwnlys cyflogaeth. Fel arfer, fe fydd eich cyflogwr yn cytuno i dalu peth arian i chi ac fe fyddwch chi’n cytuno i beidio â pharhau gyda’ch achos. Efallai hefyd y bydd eich cyflogwr am i chi gytuno i bethau fel cyfrinachedd.

Datganiad clo – dyma anerchiad byr y byddwch chi neu’ch cynrychiolydd yn ei roi ar ddiwedd eich gwrandawiad gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Fe fydd eich cyflogwr yn rhoi anerchiad hefyd. Dylai’ch datganiad clo atgoffa’r tribiwnlys o brif bwyntiau eich achos.

Datganiad tyst – dyma ddogfen ysgrifenedig sy’n cynnwys y dystiolaeth yr ydych chi neu dyst arall yn ei rhoi yn y tribiwnlys cyflogaeth. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi ddarllen eich datganiad tyst yn y gwrandawiad fel eich tystiolaeth.

Datgeliad – mae’n rhaid i chi a’ch cyflogwr roi copïau o’r holl ddogfennau sydd gennych, sy’n berthnasol i’ch achos, i’ch gilydd. Yr enw ar y broses a ddefnyddiwch i wneud hyn yw datgeliad. Efallai y byddwch yn gwneud hyn trwy ysgrifennu at eich cyflogwr i ofyn am ddogfennau, neu efallai y bydd angen i chi ofyn i’r tribiwnlys i wneud Link i’ch cyflogwr i roi dogfennau penodol i chi.

Dim llwyddiant dim tâl – efallai y byddwch yn dod i drefniant dim llwyddiant dim tâl gyda chyfreithiwr. Fe fydd yn cytuno i’ch cynrychioli yn eich achos, ac os yw’n ennill, rydych yn cytuno i dalu swm penodol o unrhyw arian a gewch. Os nad ydych yn ennill, ni fyddwch yn talu unrhyw beth o gwbl iddyn nhw. Os ydych yn dod i drefniant o’r fath gyda chyfreithiwr, dylech wirio’r gwaith papur yn ofalus iawn, i sicrhau eich bod yn gwybod beth yn union yr ydych yn cytuno iddo.

Dyfarniad – dyma’r penderfyniad y mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn dod iddo ynghylch eich achos. Efallai y bydd y tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad, a’r rhesymau drosto, ar ddiwedd y gwrandawiad. Os yw’ch achos yn gymhleth ac nid oes digon o amser i’r tribiwnlys ddod i benderfyniad ar y diwrnod, efallai y cewch y dyfarniad a’r rhesymau yn ysgrifenedig yn nes ymlaen.

ET1 – dyma’r ffurflen yr ydych yn ei defnyddio i ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth ac i gyflwyno eich achos. Mae’n ddogfen gyfreithiol ac felly dylech gymryd gofal wrth ei llenwi. Mae yna derfynau amser llym ar gyfer anfon yr ET1.

ET3 – dyma ymateb eich cyflogwr i’ch ffurflen ET1 chi. Fe fydd yn ei defnyddio i ddweud pam mae’n anghytuno gyda’ch honiad.

Gorchmynion – dyma’r cyfarwyddiadau gan y tribiwnlys cyflogaeth ynghylch yr hyn ddylai ddigwydd yn eich achos. Efallai y byddan nhw’n gyfarwyddiadau ar gyfer pethau fel rhoi mwy o wybodaeth, ar gyfer y dyddiad ar gyfer paratoi datganiadau’r tystion a’u hanfon i’r ddwy ochr, neu phryd ddylai’r bwndel fod yn barod. Weithiau, gelwir gorchmynion gan y tribiwnlys yn gyfarwyddiadau.

Gwrandawiad – y gwrandawiad yw rhan olaf eich achos gyda’r tribiwnlys cyflogaeth. Dyma pryd fydd y barnwr ac aelodau eraill panel y tribiwnlys yn penderfynu a ydyn nhw’n cytuno gyda’ch achos. Os ydyn nhw’n cytuno, fe fyddan nhw’n penderfynu pa ddatrysiad sy’n addas.

Gwrth-hawliad – os ydych yn dwyn achos yn erbyn eich cyflogwr am dorri cytundeb, efallai y bydd yn medru dwyn achos yn ôl yn eich erbyn. Gelwir hyn yn wrth-hawliad.

Iawndal – dyma’r arian y gallai’r tribiwnlys cyflogaeth ei ddyfarnu i chi os ydych yn ennill eich achos. Fe fydd y swm a gewch yn dibynnu ar natur eich achos. Efallai y cewch unrhyw arian sy’n ddyledus i chi yn ôl. Efallai hefyd y cewch beth arian i wneud iawn am yr hyn sydd wedi digwydd, er enghraifft mewn achos o wahaniaethu.

Rhestr colledion – dyma ddogfen sy’n eich helpu i gyfrifo faint o iawndal fedrai’r tribiwnlys cyflogaeth ei ddyfarnu i chi os fyddwch chi’n ennill eich achos. Mae’n cynnwys adrannau ar gyfer pethau gwahanol y gallech fod yn eu hawlio, er enghraifft cyflog heb ei dalu, iawndal am ddiswyddiad annheg neu frifo teimladau.

Trafodaeth rheoli achos – dyma’r cyfarfod cyn prif wrandawiad eich achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Fe fyddwch chi’n dod i’r cyfarfod, yn ogystal â’ch cyflogwr, eich cynrychiolwyr, a barnwr y tribiwnlys. Fe fydd yn penderfynu sut ddylai’r achos redeg, a beth fydd yn digwydd ar ba adeg.

Tribiwnlys cyflogaeth – mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn fudiad annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch anghydfod rhwng cyflogwyr a chyflogedigion. Nid llys ydyw, ond barnwr sy’n ei redeg.

Undeb llafur – mae undeb llafur yn fudiad sydd ag aelodau sy’n weithwyr yn bennaf. Nod yr undeb yw diogelu buddiannau’r aelodau yn y gwaith, a’u gwella. Os ydych chi’n aelod o undeb, efallai y bydd yn medru eich cefnogi mewn proses achwyniad neu achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth a chynnig cyngor cyfreithiol i chi.

Rate this page Give feedback