Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Gwrandawiadau’r tribiwnlys cyflogaeth

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban

Ynglyn â gwrandawiadau’r tribiwnlys cyflogaeth

Os oes problem gennych yn y gwaith ac nid ydych yn medru ei datrys,  efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Ar y dudalen hon, cewch wybod beth sy’n digwydd yng ngwrandawiad y tribiwnlys, gan gynnwys yr hyn ddylech chi ei wneud wedi i chi gyrraedd, a pha ddillad i’w gwisgo. Mae yna wybodaeth hefyd ar yr hyn fydd yn digwydd yn ystod y gwrandawiad, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud.

Efallai y bydd yna ffyrdd eraill o ddatrys eich problem yn hytrach na dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

I ddarganfod mwy ynghylch ffyrdd eraill o ddatrys eich problem yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

I ddarganfod mwy ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gan gynnwys pryd ddylech chi ddwyn achos a sut i gyflwyno achos, gweler Tribiwnlysoedd cyflogaeth.

Nôl i’r brig


A fydd rhywun yn siarad ar fy rhan yn y tribiwnlys cyflogaeth?

Os oes cynrychiolydd gennych, fel arfer fe fydd yn gwneud yr holl waith paratoi ar gyfer yr achos ac yn eich cynrychioli yn y tribiwnlys. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi siarad yn y tribiwnlys i roi’ch tystiolaeth.

Os nad ydych yn medru dod o hyd i gynrychiolydd, fe fydd yn rhaid i chi fynd i’r tribiwnlys heb gynrychiolydd. Peidiwch â phoeni am hyn. Sefydlwyd tribiwnlysoedd cyflogaeth er mwyn i gyflogedigion cyffredin ymddangos ar eu pennau eu hunain ac mae yna lawer o bobl sydd ddim yn defnyddio cynrychiolydd. Mae tribiwnlysoedd yn gyfarwydd â gweld pobl yn ymddangos heb gynrychiolydd.

I ddarganfod mwy ynghylch cael cynrychiolydd yng ngwrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd wedi i mi gyrraedd y tribiwnlys cyflogaeth?

Dylech anelu at gyrraedd y tribiwnlys cyflogaeth o leiaf hanner awr cyn dechrau’r gwrandawiad. Wedi i chi gyrraedd, fe fydd clerc yn y dderbynfa yn cofnodi eich bod wedi cyrraedd. Fel arfer, fe fydd yn gofyn os oes gennych gynrychiolydd, unrhyw dystion ac unrhyw ddogfennau ar gyfer y tribiwnlys.

Yna, fe fydd rhywun yn dangos y ffordd i chi i’r ystafell aros ar gyfer cyflogedigion neu bobl sy’n dwyn achos. Fe fyddwch chi mewn ystafell aros ar wahân i’ch cyflogwr ac fe fydd y clerc yn dod i’ch casglu pan fydd y tribiwnlys yn barod ar gyfer y gwrandawiad. Peidiwch anghofio bod tribiwnlys cyflogaeth yn wrandawiad cyhoeddus fel arfer, felly efallai y bydd pobl eraill yn yr ystafell pan fyddwch chi’n mynd trwyddo ar gyfer y gwrandawiad.

Nôl i’r brig


Beth yw cytundeb setlo funud olaf?

Cyn y gwrandawiad, efallai y daw cynrychiolydd y cyflogwr i’ch ystafell aros i drafod yr achos, ac i geisio dod i gytundeb setlo funud olaf. Os oes cynrychiolydd gennych, ef/hi fydd yn delio â’r sgwrs hon. Mae cytundebau setlo funud olaf yn y tribiwnlys yn eithaf cyffredin a, hyd yn oed ar y cam hwyr yma, fe fyddwch yn medru cytuno ar gytundeb setlo yn hytrach na pharhau gyda’r gwrandawiad.

Os nad oes cynrychiolydd gennych, mae’n medru bod yn anodd dod i gytundeb setlo funud olaf. Os yn bosib, dylech fod yn barod ar gyfer hyn. Cyn i chi fynd i’r tribiwnlys, meddyliwch beth fyddech chi’n dymuno ei gael o gytundeb setlo funud olaf os yw’ch cyflogwr am drafod hyn.

Efallai y bydd cynrychiolydd eich cyflogwr yn ceisio rhoi pwysau arnoch i dynnu eich achos yn ôl neu i setlo. Ceisiwch beidio â chael eich dychryn a gofynnwch iddyn nhw esbonio unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall. Peidiwch â chael eich bwlio i gytuno i rywbeth os nad ydych yn hapus i wneud hynny, a cheisiwch ddefnyddio’r sefyllfa er eich budd chi. Os ydych yn cytuno i gytundeb setlo funud olaf, fe fydd y tribiwnlys yn aml yn cynnig cofnodi telerau’r cytundeb setlo fel bod cofnod o’r ddêl gennych. Yna, fe fyddwch yn medru gorfodi’r cynnig os nad yw’r cyflogwr yn eich talu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cytundebau setlo mewn achosion sydd gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, gweler Deall Acas a chytundebau setlo.

Nôl i’r brig


Beth ddylwn i ei wisgo i wrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth?

Mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn wrandawiad cyfreithiol, cyhoeddus, felly ceisiwch wisgo mor smart â phosib. Peidiwch â mynd i ormod o drafferth, ond ni ddylech wisgo dillad hamddenol fel jeans ac esgidiau ymarfer corff. Peidiwch â chnoi gwm cnoi a diffoddwch eich ffôn symudol pan ewch i mewn i’r gwrandawiad. Ni ddylech fynd â bwyd na diod i mewn i ystafell y tribiwnlys onid oes rhesymau arbennig gennych dros wneud hynny, sy’n ymwneud â’ch iechyd.

Nôl i’r brig


Ydw i’n cael dod â rhywun i wrandawiad y tribiwnlys i fod yn gefn i mi?

Cewch ddod â ffrindiau neu aelodau o’r teulu i’ch cefnogi os ydych yn dymuno gwneud hynny. Fe fyddan nhw’n medru eistedd tu ôl i chi yn ystafell y tribiwnlys ond rhaid iddynt fod yn dawel â pheidio â thorri ar draws y tribiwnlys.

Os oes cynrychiolydd gennych ac rydych chi angen siarad â nhw yn ystod yr achos, ysgrifennwch yr hyn yr ydych am ei ddweud ar ddarn o bapur a’i basio atynt.

Nôl i’r brig


Sut ydw i’n cyfarch y tribiwnlys cyflogaeth?

Dylech gyfarch aelodau panel y tribiwnlys cyflogaeth fel ‘syr’ neu ‘madam’.

Mae’n bwysig eich bod yn deall beth sy’n mynd ymlaen ac mae hawl gennych i holi os nad ydych yn deall. Felly, os yw panel y tribiwnlys neu gynrychiolydd eich cyflogwr yn dweud rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, gofynnwch iddynt esbonio beth maen nhw’n ei olygu. Fe allwch gymryd yr amser sydd ei angen arnoch i ddeall pethau ac i ateb cwestiynau.

Weithiau, mae pobl yn teimlo’n ofnus neu’n ddigalon ynghylch y ffordd y mae cynrychiolydd eu cyflogwr yn eu trin. Fel arfer, un o dactegau cynrychiolydd y cyflogwr yw ceisio’ch gwneud i deimlo’n anghyffyrddus. Ond os ydych yn anhapus iawn gyda’r ffordd yr ydych yn cael eich trin, dylech godi hyn gyda’r barnwr.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd yng ngwrandawiad y tribiwnlys?

Fe arfer, cynhelir tribiwnlysoedd cyflogaeth mewn adeiladau swyddfa a chynhelir y gwrandawiadau mewn ystafelloedd tribiwnlys unigol.

Pwy sydd ar banel y tribiwnlys

Mae yna dri aelod i’r tribiwnlys a nhw fydd yn penderfynu ar eich achos. Gyda’i gilydd, gelwir y tri yn banel y tribiwnlys. Dyma’r tri aelod – barnwr ar gyflogaeth a fydd yn rhedeg y trefniadau, person sy’n cynrychioli mudiadau cyflogwyr a pherson sy’n cynrychioli mudiadau cyflogedigion. Mae barnwr ar gyflogaeth yn medru gwrando ar rai mathau o achosion a rhai mathau o wrandawiadau heb aelodau’r panel.

Fel arfer, mae’r panel yn eistedd ar ddesg sydd ychydig yn uwch. Mae’r awyrgylch fel awyrgylch llys, ond ei fod ychydig yn llai ffurfiol. Er enghraifft, nid oes unrhyw un yn gwisgo wig na gwn, ond rhaid tyngu llw cyn rhoi tystiolaeth ac mae yna reolau ynghylch yr hyn sy’n digwydd a phwy sy’n siarad ar ba adeg.

Tro pwy fydd hi’n gyntaf

Ar ddechrau gwrandawiad y tribiwnlys, fe fydd aelodau’r panel yn eu cyflwyno’u hunain. Fe fydd y barnwr yn penderfynu tro pwy fydd hi’n gyntaf. Mewn achos o ddiswyddiad annheg, fel arfer tro’r cyflogwr fydd hi’n gyntaf. Mewn achos o wahaniaethu, fel arfer tro’r person cyflogedig fydd hi’n gyntaf. Weithiau, fe fydd pob ochr yn cael gwahoddiad i gynnig datganiad agoriadol i’r tribiwnlys ynghylch eu hachos, er nad yw hyn yn digwydd yn aml iawn.

Os mai’ch tro chi fydd hi’n gyntaf, fel arfer fe fyddwch yn dechrau trwy ddarllen eich datganiad fel tyst. Yn yr Alban, gofynnir i chi roi tystiolaeth ond efallai na fydd datganiad gennych i’w ddarllen yn gyntaf. Wedi i chi orffen darllen eich datganiad, mae’r cyflogwr neu ei gynrychiolydd yn medru holi cwestiynau i chi ynghylch yr hyn yr ydych wedi ei ddweud. Gelwir hyn yn groesholi. Dylech sicrhau eich bod yn deall y cwestiynau ac yn eu hateb yn onest. Efallai hefyd y bydd barnwr y tribiwnlys yn holi cwestiynau ar unrhyw adeg, ac yn aml fe fydd yn cymryd yr awenau i arwain y gwrandawiad. Weithiau, mae’n medru bod yn anodd cael eich croesholi oherwydd mae’ch cyflogwr yn ceisio profi bod eich achos yn anghywir. Dylech geisio cadw’ch pwyll, cymryd eich amser ac ateb yn onest, a holwch os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.

Ar ôl i’r cyflogwr orffen eich croesholi, fe fydd eich cynrychiolydd, os oes un gennych, yn holi ychydig mwy o gwestiynau i chi. Gelwir hyn yn ailarchwiio. Ond, fel arfer, fe fyddwch wedi gorffen mwyafrif yr hyn oedd gennych i’w ddweud.

Beth sy’n digwydd pan fydd y cyflogwr yn cael ei dro

Yna, tro eich cyflogwr fydd hi i alw’i dystion i ddarllen eu datganiadau nhw. Wedi iddyn nhw ddarllen eu datganiadau, fe fydd eich cynrychiolydd yn medru holi cwestiynau i’r tystion wrth groesholi.

Os ydych yn yr Alban, gelwir ar dystion eich cyflogwyr i roi tystiolaeth. Yna, fe fydd eich cynrychiolydd yn medru holi cwestiynau iddynt wrth groesholi.

Os nad oes cynrychiolydd gennych, fe fydd y barnwr yn holi os oes unrhyw gwestiynau gennych yr hoffech eu holi i’r tystion. Dyma gyfle da i’w holi am unrhyw beth sy’n aneglur neu ble mae yna wahaniaethau yn y dystiolaeth. Mae’r rhain yn medru bod rhwng yr hyn y mae’r tystion yn ei ddweud, neu rhwng yr hyn y mae’r tystion a’r dogfennau yn ei ddweud.

Mae’n bwysig cwestiynu unrhyw beth y mae’r tyst wedi ei ddweud os nad ydych yn cytuno gydag ef. Os oes gwahaniaethau yn y dystiolaeth, mae’n aml yn syniad da cael un tyst i gadarnhau’n glir fod yr hyn y mae wedi ei ddweud yn wir. Yna, gofynnwch iddynt i edrych ar y dystiolaeth sy’n wahanol, a gofynnwch iddyn nhw gynnig sylwadau arno. Os yw’r hyn y maen nhw’n ei ddweud yn bendant yn wir, yna rhaid bod y dystiolaeth yn y ddogfen, neu dystiolaeth y tyst arall, yn anghywir.

Y pwynt wrth holi’r cwestiynau hyn, yw dangos mwy o dystiolaeth i’r tribiwnlys i gefnogi eich achos. Nid oes rhaid i chi gael y tyst i gyfaddef ei fod yn anghywir.

Efallai eich bod yn teimlo’n grac at eich cyflogwr, ond gofalwch nad ydych yn anfoesgar nac yn ymosodol, tuag at eich cyflogwr nac unrhyw un o’r tystion, oherwydd fe allai hyn niweidio eich achos.

Meddyliwch beth hoffech chi ei holi i bob tyst cyn y gwrandawiad, pan fyddwch yn cael datganiadau’r tystion gan eich cyflogwr. Fe fyddwch hefyd yn medru gwneud nodyn o unrhyw beth ychwanegol yr ydych am ei holi tra’u bod yn darllen eu datganiadau allan.

Wedi gwrando ar yr holl dystiolaeth

Wedi gwrando ar yr holl dystiolaeth, fel arfer fe fydd y tribiwnlys yn gofyn os hoffech chi gynnig mwy o sylwadau. Gelwir y rhain yn sylwadau clo. Mae’n syniad da paratoi rhywbeth i’w ddweud. Mae’r sylwadau yn rhoi cyfle i chi grynhoi’r dystiolaeth y mae’r tribiwnlys wedi gwrando arni, cynnig dadleuon cyfreithiol ac esbonio pam yr ydych yn teimlo y dylai’r tribiwnlys benderfynu o’ch plaid chi.

Os nad ydych yn deall y gyfraith, mae’n well peidio â cheisio gwneud pwyntiau cyfreithiol cymhleth. Nid yw’r rhan fwyaf o achosion yn ymwneud â phwyntiau cyfreithiol anodd neu anarferol, ac fe fyddwch yn cythruddo’r tribiwnlys os ydych yn treulio llawer o amser yn siarad am faterion amherthnasol.  Cyflwyno’r ffeithiau mor glir â phosib yw’r peth pwysicaf sydd angen i chi ei wneud.

Nôl i’r brig


Pryd ydw i’n cael gwybod a ydw i wedi ennill fy achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth?

Ar ôl y sylwadau clo, fe fydd panel y tribiwnlys yn dweud wrthych beth sy’n digwydd nesaf. Fe fydd angen iddynt ddod i benderfyniad. Weithiau, maen nhw’n gwneud hyn ar y diwrnod, ac weithiau fe fyddan nhw’n cymryd mwy o amser ac yn anfon y penderfyniad atoch yn nes ymlaen.

Os ydyn nhw’n mynd i wneud eu penderfyniad ar y diwrnod hwnnw, fe fydd panel y tribiwnlys yn gadael yr ystafell i ddod i benderfyniad ac yn dweud wrthych beth yw’r penderfyniad wedi iddyn nhw ddod yn ôl. Os fyddan nhw angen mwy o amser, fe fyddan nhw’n anfon y penderfyniad atoch yn nes ymlaen, yn ysgrifenedig.

Nôl i’r brig


Camau nesaf

I ddarllen am y camau nesaf wrth weithredu ynghylch problemau yn y gwaith, gweler Ar ôl gwrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Mwy am broblemau yn y gwaith

Am fwy o wybodaeth ynghylch datrys problemau yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback