The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Ar ôl gwrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban
Ynglyn ag Ar ôl gwrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth
Os ydych yn cael problem yn y gwaith ac nid ydych yn medru ei datrys, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Mae’r dudalen hon yn ymwneud â’r hyn sy’n digwydd ar ôl eich gwrandawiad gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, gan gynnwys iawndal gan eich cyflogwr a ph’un ai y byddwch yn medru apelio ai peidio.
Efallai y bydd yna ffyrdd eraill o ddatrys eich problem yn hytrach na dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
I ddarganfod mwy am ffyrdd eraill o ddatrys eich problem yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.
I ddarganfod mwy am ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Deall penderfyniad y tribiwnlys cyflogaeth
Pan fyddwch yn cael penderfyniad y tribiwnlys cyflogaeth ynglyn â’ch achos, efallai y byddwch am siarad am y peth gyda’ch cynghorydd neu gynrychiolydd i sicrhau eich bod yn deall y cyfan. Os nad oes cynghorydd neu gynrychiolydd gennych, ac mae panel y tribiwnlys yn dweud ei benderfyniad wrthych yn bersonol, dylech ofyn iddo esbonio os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.
Os yw’r tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad i chi yn nes ymlaen, yn ysgrifenedig, efallai y bydd yna fudiad sy’n medru eich helpu i’w ddeall.
Am fanylion mudiadau a fyddai efallai’n medru eich helpu chi gydag achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.
Os ydych wedi ennill, efallai y bydd y tribiwnlys yn cymryd seibiant i roi cyfle i chi a’ch cyflogwr geisio cytuno ar drefniant. Mae’n medru bod yn dda i’r ddwy ochr gytuno ar drefniant, hyd yn oed ar y cam hwn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn medru defnyddio’r ffaith eich bod wedi ennill i gael eich cyflogwr i gytuno i roi geirda i chi, yn ogystal â pheth arian.
Ond, os nad ydych yn medru dod i drefniant, fe fyddwch yn medru mynd yn ôl at y tribiwnlys er mwyn iddyn nhw benderfynu ar yr iawndal i’w ddyfarnu. Efallai y bydd hyn yn digwydd ar yr un diwrnod â’ch gwrandawiad, neu efallai y bydd yn wrandawiad ar wahân.
I ddarganfod mwy am gytuno ar drefniant gyda’ch cyflogwr, gweler Deall Acas a threfniannau.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os yw’r tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu y dylech gael iawndal, fe fydd yn gweithio ar y ffigurau ac yn gorchymyn faint ddylai eich cyflogwr ei dalu i chi, ac erbyn pryd y dylai ei dalu.
Y gobaith yw mai dyma fydd diwedd yr achos, ac y bydd eich cyflogwr yn anfon siec atoch chi neu’ch cynrychiolydd.
Cofiwch, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn am adolygiad o’r penderfyniad neu’n apelio. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn gofyn i’r tribiwnlys edrych eto ar ei benderfyniad, neu i lys uwch a elwir yn dribiwnlys apêl cyflogaeth edrych ar yr achos. Os yw hyn yn digwydd, efallai y bydd yn cymryd amser hir i ddod â’r achos i fwcl.
Mae achosion sy’n mynd at y tribiwnlys apêl cyflogaeth yn gallu mynd yn gymhleth iawn ac yn golygu dadleuon cyfreithiol anodd. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech geisio cael cyngor.
Mae cyngor ar gael gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd yna fudiadau eraill sy’n medru eich helpu. Am fanylion y mudiadau hyn, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.
Beth os na fydd fy nghyflogwr yn talu allan?
Mewn nifer fach o achosion, efallai na fydd eich cyflogwr yn talu’r iawndal y mae’r tribiwnlys cyflogaeth wedi ei ddyfarnu i chi.
Nawr, yng Nghymru a Lloegr, mae yna system llwybr cyflym y cewch ei defnyddio os yw’r tribiwnlys wedi dyfarnu iawndal i chi ond nid yw’ch cyflogwr yn talu. O dan y system hon, rydych yn medru gofyn i Swyddog Gorfodi’r Uchel Lys weithredu ar eich rhan i gasglu’r arian.
Mae mwy o wybodaeth am hyn ar wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn: www.hmcourts-service.gov.uk.
Yn yr Alban, dylech ysgrifennu at Central Office of Employment Tribunals (Scotland). Dylech nodi manylion y dyfarniad a’r arian sydd heb ei dalu, a dylech ofyn am yr hyn a elwir yn ‘registered extract decree arbitral’. Mae hyn fel gorchymyn llys. Fe fydd yn rhaid i chi aros am y cyfnod apêl o 42 diwrnod, o’r dyddiad yr anfonwyd dyfarniad y tribiwnlys atoch, cyn i chi gael y archddyfarniad.
Central Office of Employment Tribunals (Scotland)
The Eagle Building
215 Bothwell Street
Glasgow
G2 7TS
Ffôn: 0141 204 0730
Ffacs: 0141 204 0732
Os nad yw’ch cyflogwr yn talu’r hyn a ddyfarnwyd i chi, efallai y byddwch am gael cyngor pellach ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud.
Mae cyngor ar gael gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai bod yna fudiadau eraill sy’n medru eich helpu. Am fanylion y mudiadau hyn, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.
Ydw i’n medru apelio os digwydd i mi golli fy achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth?
Os digwydd i chi golli eich achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth ac mae cynrychiolydd gennych, fe fydd yn eich cynghori p’un ai fedrwch chi ofyn i rywun edrych ar yr achos eto, neu a fedrwch chi apelio.
Rydych ond yn medru apelio os oedd problem gyda mater cyfreithiol yn eich achos. Fel arfer, nid ydych yn medru apelio i herio penderfyniad nad ydych yn hapus ag ef yn unig. Felly, mae’n eithaf prin i apelio yn erbyn achosion. Ac o’r achosion hynny sy’n apelio, dim ond nifer fach iawn sy’n cael eu newid.
Weithiau, mae’n medru bod yn anodd derbyn penderfyniad y tribiwnlys os ydyw wedi mynd yn eich erbyn. Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad, ac nid oes cynrychiolydd gennych, fe fydd angen i chi gael cyngor os ydych am ofyn iddyn nhw edrych ar eich achos eto, neu os ydych chi am apelio. Efallai y bydd hyn yn golygu bod angen i chi weld cyfreithiwr, oherwydd mae hwn yn faes cyngor arbenigol.
Os ydych chi am apelio, rhaid bod gennych y rhesymau ysgrifenedig llawn dros ddyfarniad y tribiwnlys. Os rhoddwyd y dyfarniad yn bersonol, fe fyddwch yn medru gofyn iddyn nhw anfon rhesymau ysgrifenedig llawn atoch ar yr adeg honno. Os anfonwyd y dyfarniad atoch yn y post ar ôl y gwrandawiad ac nid oedd y rhesymau ynghlwm, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gofyn am y rhesymau o fewn 14 diwrnod. Rhaid i chi gyflwyno eich apêl o fewn 42 diwrnod i’r dyddiad yr anfonwyd rhesymau ysgrifenedig y dyfarniad atoch.
I ddarganfod manylion mudiadau sy’n medru eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr, gweler Pa help fedra i ei gael gyda phroblem yn y gwaith.
Mwy am broblemau yn y gwaith
I ddarganfod mwy am broblemau yn y gwaith a thribiwnlysoedd cyflogaeth, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.









