Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os yw'ch swydd wedi cael ei dileu, ac nid oes swydd arall gennych i fynd iddi, fe fydd angen i chi feddwl am eich sefyllfa ariannol ac am ddod o hyd i swydd arall.
Os ydych yn cael tâl dileu swydd, efallai y bydd angen i chi gael cyngor ariannol annibynnol i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl dileu swydd a chynghorwyr ariannol annibynnol, gweler Tâl dileu swydd.
Efallai y byddwch yn medru cael help ariannol gan y llywodraeth neu'r awdurdod lleol (budd-daliadau). Er enghraifft, efallai y cewch Lwfans Ceisio Gwaith (LCG), Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor, cinio ysgol am ddim i'ch plant a help gyda chostau'r GIG. Mae budd-daliadau'n dibynnu ar eich amgylchiadau. Dylech geisio am fudd-daliadau cyn gynted ag y medrwch - fe fyddwch yn medru ceisio ar y diwrnod cyntaf y byddwch allan o waith.
I hawlio LCG yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 055 6688 neu ffoniwch y llinell hawlio yn: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi hawlio’n bersonol, dros y ffôn neu trwy lythyr.
Os ydych yn cael tâl dileu swydd pan fydd eich swydd yn cael ei dileu, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich hawl i hawlio budd-daliadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau, ewch at ein hadran Budd-daliadau.
Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith (CTG) ac mae'ch swydd yn cael ei dileu, ni fydd hawl gennych i CTG mwyach. Mae rhai pobl yn medru parhau i gael CTG am bedair wythnos arall ar ôl i'w swydd ddod i ben. Os ydych yn colli eich swydd, efallai y bydd hawl gennych i fwy o Gredyd Treth Plant. Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y newid yn eich amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.
Ni fydd y ffaith fod eich swydd wedi ei dileu yn effeithio ar eich Pensiwn Ymddeol gan y Wladwriaeth na'ch pensiwn galwedigaethol. Fe fyddwch yn dal i gael eich pensiwn wedi cyrraedd oed ymddeol neu pan fydd eich cytundeb cyflogaeth yn dweud y byddwch yn ei gael.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Efallai y byddwch chi angen cyngor ynghylch unrhyw ddyledion sydd gennych a sut i gyllidebu i osgoi dyledion yn y dyfodol. Os ydych wedi prynu rhywbeth ar gredyd, edrychwch i weld os oes polisi yswiriant diogelu taliadau gennych a fydd yn talu'r credyd os yw’ch swydd yn cael ei dileu.
Os oes morgais gennych, efallai y cewch help i dalu rhan o'ch morgais. Efallai y byddwch yn medru cael help trwy gynllun achub morgeisi'r sector cyhoeddus neu breifat.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dyledion morgais a chynlluniau achub morgais yng Nghymru a Lloegr, gweler Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais ac yn yr Alban, gweler Ôl-ddyledion morgais.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dyledion, gweler Help gyda dyled.
Yng Nghymru a Lloegr, mae yna nifer o daflenni ffeithiau ynghylch dyled.
Yn yr Alban, mae yna nifer o daflenni ffeithiau ynghylch dyled.
Os hoffech gyngor ariannol diduedd i’ch helpu i ymdopi â gostyngiad yn eich incwm ar ôl i’ch swydd gael ei dileu, rhowch gynnig ar brawf iechyd ariannol y Gwasanaeth Cyngor Am Arian. Mae’n cymryd ychydig funudau yn unig i ateb y cwestiynau ac mae’n holl gyfrinachol. Ar y diwedd, fe fydd gennych well dealltwriaeth o’ch sefyllfa ariannol.
Mae’r prawf iechyd hefyd yn rhoi cynllun gweithredu ariannol i chi ynghyd â syniadau ynghylch cael y mwyaf o’ch arian. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar www.moneyadviceservice.org.uk.
Rydych yn medru cael cyngor pellach ar gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd a dysgu oddi ar wefan Direct Gov yn www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyngor pellach ar gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd a dysgu ar wefan Careers NI www.careersserviceni.com.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu pobl y dilëwyd eu swyddi yn ddiweddar neu sydd wedi cael rhybudd ynghylch dileu eu swydd. Enw’r cynllun yw ReAct ac mae’n medru eich helpu i dalu am hyfforddiant a’r costau cysylltiedig gan gynnwys:
Am fwy o wybodaeth ynghylch pwy sy’n medru gofyn am help, rhowch glic ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: www.wales.gov.uk neu ffoniwch 01792 765888.
Mae Adapt, sy’n seiliedig ar gynllun ReAct, yn ffynhonnell help ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus y mae eu swyddi’n cael eu dileu. Mae’n darparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn medru ffonio’r llinell gymorth rad ac am ddim ar 0800 100 900.
Os ydych yn byw yn yr Alban ac mae eich swydd yn cael ei dileu, mae help ar gael o dan fenter gan Lywodraeth yr Alban o’r enw Partnership Action for Continuing Employment, neu, yn fyr, PACE.
Mae PACE yn cael ei throsglwyddo gan Skills Development Scotland. Mae’r help sydd ar gael yn cynnwys help i ddod o hyd i swydd, i geisio am swydd ac i ddod o hyd i hyfforddiant a chyngor ar yrfaoedd.
Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0808 100 1855, neu rhowch glic ar y wefan: www.skillsdevelopmentscotland.co.uk.