Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Tâl dileu swydd

Mae’r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw tâl dileu swydd

Mae tâl dileu swydd yn iawndal am fod eich swydd wedi diflannu. Efallai fod gennych hawl i dâl dileu swydd gan eich cyflogwr. Mae yna ddau fath o dâl dileu swydd:

  • tâl dileu swydd statudol, a osodir gan y gyfraith
  • tâl statudol cytundebol, y medrwch ei gael os oes cynllun dileu swyddi mewn lle yn y man ble rydych yn gweithio. Fe fydd y manylion wedi eu nodi yn eich cytundeb cyflogaeth.

Ni ellir talu llai o dâl dileu swydd i chi na'r tâl dileu swydd statudol y mae gennych hawl iddo. Os yw'ch cynllun dileu swydd cytundebol yn rhoi llai o arian na'r swm statudol i chi, rhaid i chi gael y swm statudol.

Nôl i’r brig


Pwy sydd â hawl i dâl dileu swydd statudol

Dim ond rhai pobl sydd â hawl i dâl dileu swydd statudol. Fe fydd hawl gennych i dâl dileu swydd statudol os:

  • rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr ers o leiaf dwy flynedd galendr parhaus ers yn 16 oed
  • rydych yn gyflogedig.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn gyflogedig, ond os ydych yn hunangyflogedig, yn weithiwr achlysurol tymor byr neu'n gontractwr annibynnol, nid ydych yn debygol o fod yn gyflogedig ac ni fydd hawl gennych i dâl dileu swydd statudol.

Mae rhai gweithwyr asiantaeth a gweithwyr llawrydd yn cyfrif fel cyflogedigion, ond nid pob un.

Os ydych ar gytundeb tymor sefydlog, efallai y bydd hawl gennych i dâl dileu swydd statudol. Mae angen i'ch cytundeb fod yn ddwy flynedd o hyd, o leiaf, neu'n fwy. Mae hyn hefyd yn berthnasol os oes cytundebau byrrach gennych sy'n dilyn ymlaen o'i gilydd, tra bod cyfanswm yr amser yn ddwy flynedd, o leiaf. Os yw'r cytundeb (neu'r cytundeb diwethaf yn y gyfres) yn dod i ben ac nid yw'n cael ei adnewyddu oherwydd nid oes angen eich swydd mwyach, fe fydd hawl gennych i dâl dileu swydd statudol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pwy sy'n gyflogedig, gweler Cytundebau cyflogaeth.

I gael gwybod mwy ynglŷn â phryd gellir dileu eich swydd, gweler Pryd mae'ch cyflogwr yn medru dileu eich swydd.

Mae yna rai gweithwyr sydd ddim â hawl i dâl dileu swydd statudol. Mae'r rhain yn bobl sydd mewn swyddi penodol, fel pysgotwyr cyfran, gweision sifil a swyddogion yr heddlu.

Hyd yn oed os nad oes hawl gennych i dâl dileu swydd statudol, efallai y byddwch yn medru cael tâl dileu swydd cytundebol. Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr cyhoeddus, gan gynnwys gweision sifil, hawl i dâl dileu swydd cytundebol sy'n rhoi hawliau tebyg, neu well hawliau, iddynt na thâl statudol. Dylech ddarllen eich cytundeb cyflogaeth i weld beth mae'n ei ddweud am eich hawl i dâl dileu swydd.

Nôl i’r brig


Colli'r hawl i dâl dileu swydd statudol

Mae yna rai amgylchiadau ble rydych yn medru colli eich hawl i dâl dileu swydd statudol. Mae enghreifftiau o'r amgylchiadau hyn yn cynnwys:

  • os yw'ch cyflogwr wedi cynnig swydd addas arall i chi ac rydych wedi ei gwrthod heb reswm da
  • os ydych am adael cyn y dyddiad y bydd eich cyflogaeth yn dod i ben, er enghraifft, os ydych wedi dod o hyd i swydd arall. Ond, efallai y byddwch yn dal i fedru cadw eich tâl dileu swydd tra'ch bod yn dilyn gweithdrefnau penodol.

Os ydych am adael cyn y dyddiad y mae'ch cyflogaeth yn dod i ben, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Faint yw tâl dileu swydd statudol

Mae'r tâl dileu swydd statudol y medrwch ei gael yn dibynnu ar nifer o bethau, sef:

  • y cyfnod yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr
  • eich oed
  • eich cyflog wythnosol.

Mae gennych yr hawl i:

  • hanner cyflog wythnos am bob blwyddyn lawn o gyflogaeth pan oeddech yn iau na 22
  • cyflog wythnos lawn am bob blwyddyn gyfan o gyflogaeth pan oeddech rhwng 22 a 40 oed, gan gynnwys y blynyddoedd hynny
  • cyflog wythnos a hanner am bob blwyddyn gyfan o gyflogaeth pan oeddech yn 41 oed neu’n hŷn.

Ni ellir rhoi tâl dileu swydd statudol i chi am fwy nag 20 mlynedd o gyflogaeth.

Mae cyflogaeth yn cael ei gyfrif i fyny at y dyddiad y daw'ch rhybudd i ben. Os nad ydych wedi cael unrhyw rybudd, cymerwch y dyddiad y byddai eich rhybudd wedi dod i ben petaech wedi ei gael. Fe fydd hyn yn dibynnu ar y cyfnod rhybudd sydd ar gael i chi yn ôl y gyfraith.

Cofiwch, efallai y bydd hawl gennych i gael cyflog yn lle rhybudd ar ben eich tâl dileu swydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyfnod rhybudd y medrwch ei gael yn ôl y gyfraith, gweler Dileu’ch swydd – gweithdrefnau y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu dilyn.  Mae yna wybodaeth hefyd ynghylch cyflog yn lle tâl dileu swydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn Rhybudd ynghylch diswyddo o’r gwaith yn y Taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.

Beth yw ystyr cyflog wythnosol

Fel arfer, y cyflog wythnosol a ddefnyddir i gyfrifo eich tâl dileu swydd yw eich cyflog gros wythnosol ar yr adeg y cafodd eich swydd ei dileu. Ystyr cyflog gros yw eich cyflog cyn tynnu treth, yswiriant gwladol ac unrhyw symiau cyfreithiol eraill.

Mae yna uchafswm wythnosol, sy'n £430 ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os ydych yn ennill dros £430 yr wythnos, fe fydd eich tâl dileu swydd yn seiliedig ar enillion wythnosol o £430.

Os ydych wedi newid o waith amser llawn i waith rhan amser ac yna mae'ch swydd yn cael ei dileu yn fuan wedi hynny, fe fydd eich cyflog wythnosol yn cael ei gyfrifo ar y gyfradd ran amser. Mae hyn am fod y cyfrifiadau'n seiliedig ar y swm yr ydych yn ei gael pan mae'ch swydd yn cael ei dileu.

Os ydych yn cael comisiwn yn rheolaidd, dylai hyn gael ei gynnwys yn eich cyflog wythnosol.

Nid yw cyflog wythnos yn cynnwys goramser, onid oedd y goramser yn rheolaidd ac roedd yn rhaid i chi ei wneud fel rhan o'ch swydd.

Os yw'ch enillion yn amrywio bob wythnos, defnyddir cyfartaledd y cyfnod 12 wythnos sy'n arwain at ddyddiad dileu eich swydd.

Rydych yn medru defnyddio cyfrifiannell ar-lein (cyfrifydd parod) i'ch helpu i gyfrifo faint o dâl dileu swydd statudol yr ydych yn medru ei gael. Fe fydd hyn yn eich helpu i gyfrifo'r taliad lleiaf sydd ar gael i chi'n gyfreithiol. Dylech ddarllen eich cytundeb cyflogaeth i weld os ydyw'n rhoi mwy na'r isafswm i chi.

Mae’r cyfrifydd parod ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk. neu yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Nidirect yn (New window) www.nidirect.gov.uk.

Nôl i’r brig


A oes rhaid i chi dalu treth ar dâl dileu swydd

Nid ydych yn talu treth ar dâl dileu swydd statudol.

Rydych yn talu treth ar dâl dileu swydd os yw'n fwy na £30,000. Efallai fod angen cyngor arnoch ynghylch treth.

Os yw'r taliad yn llai na £30,000 ond yn fwy na'r swm statudol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae hyn am nad yw rhai taliadau a gewch pan fydd eich swydd yn cael ei dileu yn cael eu trin fel taliadau dileu swydd. Mae'r sefyllfa'n gymhleth a dylech gael cyngor ynghylch treth.

Fe fydd cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth, yn medru eich helpu i gael cyngor ynghylch treth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Sut ddylai tâl dileu swydd statudol gael ei dalu

Mae eich cyflogwr yn gyfrifol am dalu tâl dileu swydd statudol i chi pan ddaw eich cyflogaeth i ben, neu yn fuan wedi hynny. Nid oes angen i chi hawlio eich tâl dileu swydd statudol, onid yw’ch cyflogwr heb eich talu neu os yw'n honni nad oes hawl gennych i'r taliad.

Pan fydd eich cyflogwr yn talu'r tâl dileu swydd, rhaid iddo roi datganiad ysgrifenedig i chi yn nodi sut mae wedi cyfrifo'r swm.

Nôl i’r brig


Mae eich cyflogwr yn gwrthod talu tâl dileu swydd i chi

Os nad yw’ch cyflogwr yn talu tâl dileu swydd i chi, neu os yw'n honni nad oes hawl gennych i dâl dileu swydd, dylech ofyn i'ch cyflogwr am y taliad, yn ysgrifenedig. Rhaid i chi ysgrifennu o fewn chwe mis i'r dyddiad y daeth eich cyflogaeth i ben. Mae hyn yn berthnasol i dâl dileu swydd statudol a thâl dileu swydd cytundebol. Os nad yw'n eich talu o hyd, fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Ond, dim ond tri mis sydd gennych i ddwyn eich cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth os:

  • rydych hefyd am ddwyn honiad o ddiswyddiad annheg
  • rydych hefyd am ddwyn honiad o wahaniaethu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn honiad o ddiswyddiad annheg neu wahaniaethu, gweler Diswyddo.

Os yw'ch cyflogwr yn gwrthod rhoi tâl dileu swydd i chi. Gofynnwch am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Hawlio tâl dileu swydd os nad yw'ch cyflogwr yn masnachu mwyach

Os yw busnes eich cyflogwr wedi mynd i'r wal (mae'n fethdalwr) ac mae gweinyddydd neu ddiddymwr wedi ei benodi, dylai roi ffurflen RP1 i chi. Os nad yw wedi gwneud hyn, dylech gysylltu ag ef yn ei swyddfa gofrestredig. Yna, bydd y diddymwr yn ei hawlio o’r Gronfa Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw’r diddymwr, fe allwch chi ffonio Llinell Gymorth Swyddfa Taliadau Dileu Swyddi ar 0845 145 0004. Fe fydd yn medru eich cynghori ar yr hyn ddylech chi ei wneud ac efallai y bydd yn medru anfon copi o’r ffurflen atoch.

Os na phenodwyd diddymwr, fe fyddwch yn medru ffonio Llinell Gymorth Swyddfa Taliadau Dileu Swydd am gopi o’r RP1 neu archebu copi oddi ar wefan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau yn (New window) www.bis.gov.uk.

Os nad yw'ch cyflogwr yn masnachu mwyach, ond nid yw’n fethdalwr, ysgrifennwch at eich cyflogwr yn gofyn am eich tâl dileu swydd statudol. Os nad yw'ch cyflogwr yn eich talu, fe fyddwch yn medru mynd â'ch cais at dribiwnlys cyflogaeth. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis i'r dyddiad y daeth eich cyflogaeth i ben.

Os yw tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu bod hawl gennych i dâl dileu swydd statudol ond nid yw'ch cyflogwr yn eich talu o hyd, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i'r Gronfa Yswiriant Gwladol am eich tâl dileu swydd.

Nôl i’r brig


Help pellach

Cyngor ariannol annibynnol ynghylch tâl dileu swydd

Os cewch dâl dileu swydd, efallai y byddwch am gael cyngor ariannol annibynnol ynghylch yr hyn y medrwch ei wneud gyda'ch arian. Mae'r mudiadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:

Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: (New window) www.unbiased.co.uk

Institute of Financial Planning (IFP)
Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: (New window) www.financialplanning.org.uk

Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: (New window) www.findanadviser.org

Nôl i’r brig