Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

  • Cymru
  • Dileu swyddi
  • Dileu’ch swydd – gweithdrefnau y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn

Dileu’ch swydd – gweithdrefnau y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn

Mae’r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Gwybodaeth ynglŷn â dileu swyddi

Ar y dudalen hon fe fyddwn yn dweud wrthych am y gweithdrefnau y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn os fydd yn dileu eich swydd.

Mae’r gweithdrefnau hyn yn cynnwys:

  • sut mae'n dewis pa swyddi i’w dileu
  • ymgynghori gyda chi cyn dileu eich swydd
  • dilyn gweithdrefn ddiswyddo gywir
  • rhoi rhybudd iawn i chi ynghylch dileu eich swydd
  • cynnig gwaith arall i chi, ble’n bosib
  • rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi, er mwyn i chi gael chwilio am waith.

Mae yna dudalennau eraill ar y wefan hon sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â dileu swyddi, sef:

Nôl i’r brig


Dewis swyddi i’w dileu

Cyn penderfynu dileu unrhyw swyddi, rhaid bod yna angen gwirioneddol i ddileu’r swyddi. Weithiau, mae cyflogwyr yn dweud eu bod yn dileu eich swydd ond nid dyma’r rheswm gwirioneddol dros eich diswyddo. I ddarganfod mwy am hyn, gweler Pryd mae’ch cyflogwr yn medru dileu eich swydd. [ink to When can your employer make you redundant Pryd mae’ch cyflogwr yn medru dileu eich swydd]

Wrth ddewis pa swyddi i’w dileu, rhaid i’ch cyflogwr ddefnyddio dull sy’n deg ac sydd ddim yn gwahaniaethu yn eich erbyn am resymau fel eich hil neu’ch rhyw. Rhaid iddynt seilio’u penderfyniadau ar rywfaint o dystiolaeth, er enghraifft, ar gofnodion disgyblu, yn hytrach na phenderfynu cael eich gwared am nad ydyw’n eich hoffi chi.

Os cytunwyd ar ddull o benderfynu ar swyddi i’w dileu gydag undeb llafur, neu mae yna weithdrefn yn eich cytundeb cyflogaeth, dylai’ch cyflogwr ei dilyn.

Hyd yn oed os nad oes gweithdrefn ar gyfer dileu swyddi yn eich cytundeb cyflogaeth, efallai bod yna weithdrefn y mae’ch cyflogwr wedi ei defnyddio’n rheolaidd yn y gorffennol ac nid yw’r gweithlu wedi ei gwrthwynebu. Os yw hyn yn wir, rhaid i’ch cyflogwr ddilyn y weithdrefn hon onid yw’n un annheg.

Os yw’ch cyflogwr yn defnyddio gweithdrefn annheg wrth ddewis pa swyddi i'w dileu, yna mae hyn yn medru bod yn ddiswyddiad annheg ac efallai y byddwch yn medru dwyn achos o ddiswyddiad annheg gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Er mwyn dwyn honiad o ddiswyddiad annheg, rhaid eich bod wedi gweithio i’ch cyflogwr ers o leiaf blwyddyn. Os oedd eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn fel rhan o’r gweithdrefnau dileu swyddi, fe fyddwch yn medru dwyn honiad o wahaniaethu gyda llai na blwyddyn o gyflogaeth.

Yn ogystal â dwyn honiad o ddiswyddiad annheg, efallai hefyd y byddwch yn medru gofyn am dâl dileu swydd.Rhaid eich bod wedi gweithio i’ch cyflogwr ers o leiaf dwy flynedd cyn y byddwch yn medru cael tâl dileu swydd statudol.

Ymgynghori â chi ynglŷn â dileu swyddi

Mae llai nag 20 o swyddi’n mynd i gael eu dileu

Os yw’ch cyflogwr yn ystyried dileu eich swydd, dylai ymgynghori gyda chi cyn penderfynu.

Os nad yw’n gwneud hyn, mae eich diswyddo am fod eich swydd wedi ei dileu yn medru bod yn annheg, hyd yn oed os ydych mewn sefyllfa go iawn ble mae swyddi wedi cael eu dileu.

Os nad yw’ch cyflogwr wedi ymgynghori â chi cyn dileu eich swydd, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Mae 20 o swyddi, neu fwy, yn cael eu dileu

Pan fydd cyflogwr yn dileu 20 o swyddi neu fwy mewn un gweithle, gelwir hyn yn ddileu swyddi cyfunol. Yn ogystal ag ymgynghori gyda chi’n unigol, mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n dileu swyddi cyfunol ddilyn gweithdrefn ymgynghori fwy ffurfiol - rhaid iddo ymgynghori gydag undeb llafur cydnabyddedig ble mae un ar gael. Ble nad oes undeb llafur cydnabyddedig, rhaid i’ch cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwyr y gweithwyr cyn cyhoeddi rhybuddion ynghylch dileu swyddi.

Os nad ydyw’n gwneud hyn, rydych yn medru mynd i dribiwnlys cyflogaeth ac fe fydd yn medru gorchymyn eich cyflogwr i dalu iawndal i chi am nad ydyw wedi dilyn y gweithdrefnau cywir.

Os nad yw’ch cyflogwr wedi ymgynghori â chi cyn dileu eich swydd, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gwahaniaethu a dewis swyddi i’w dileu

Mae yn erbyn y gyfraith i ddewis dileu eich swydd chi oherwydd eich oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb. Fe fyddai hyn yn wahaniaethu.

Efallai ei fod hefyd yn erbyn y gyfraith i ddewis swyddi i’w dileu am fod deiliaid y swyddi’n gweithio’n rhan amser neu’n feichiog, oherwydd fe fyddai hyn yn wahaniaethu ar sail rhyw neu’n wahaniaethu oherwydd beichiogrwydd. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych wedi gwirfoddoli i gael eich swydd wedi ei dileu.

Mae cyflogwr yn medru dewis dileu eich swydd oherwydd y cyfnod yr ydych wedi bod yn gweithio iddo. Er enghraifft, mae'n medru dweud bod swyddi pob gweithiwr sydd wedi bod yn gweithio i’r cwmni ers llai na blwyddyn yn mynd i gael ei dileu. Fodd bynnag, mae hyn yn medru golygu bod swyddi mwy o bobl ifanc yn cael eu dileu ac mae hyn, o bosib, yn medru bod yn wahaniaethu ar sail oed.

Os dewiswyd dileu eich swydd chi ac rydych yn credu bod y rheswm yn gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y bydd hawl gennych i iawndal. Nid oes gwahaniaeth ers faint o amser yr ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr, rydych yn dal i fedru gofyn am iawndal am wahaniaethu.

Os ydych yn credu eu bod wedi dewis dileu eich swydd oherwydd gwahaniaethu, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith, porwch drwy ein tudalennau Gwahaniaethu.

Nôl i’r brig


Gweithdrefnau diswyddo

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

Os yw’ch cyflogwr yn ystyried dileu eich swydd, dylai ddilyn gweithdrefn ddiswyddo deg wrth ddewis pa swyddi i’w dileu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y weithdrefn y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dilyn cyn eich diswyddo gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Yng Ngogledd Iwerddon

O dan y mwyafrif o amgylchiadau, os yw’ch cyflogwr yn dymuno eich diswyddo, mae’n rhaid iddo ddilyn gweithdrefnau diswyddo a disgyblu cywir a osodir gan y gyfraith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gweithdrefnau y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn cyn eich diswyddo gweler Datrys anghydfod yn y gwaith yng Ngogledd Iwerddon.

Gwirfoddoli i gael eich swydd wedi ei dileu

Pan fydd swyddi’n mynd i ddiflannu, efallai y bydd cyflogwr yn gofyn i weithwyr wirfoddoli i gael eu swyddi wedi eu dileu. Hyd yn oed os ydych yn gwirfoddoli i gael eich swydd wedi ei dileu, fe fydd yn dal i gyfrif fel diswyddiad a rhaid i’ch cyflogwr ddilyn y gweithdrefnau cywir o hyd. Ni fyddwch yn colli unrhyw hawl sydd gennych i dâl dileu swydd.

Os ydych yn gwirfoddoli i gael eich swydd wedi ei dileu, mae i fyny i’ch cyflogwr a yw’n eich dewis chi.

Mynnwch gyngor arbenigol i weld a yw’n werth gwirfoddoli gael eich swydd wedi ei dileu.

I gael cyngor i weld a yw’n werth gwirfoddoli i gael eich swydd wedi ei dileu, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cynnig swyddi addas eraill

Os yw’ch cyflogwr yn bwriadu dileu eich swydd, rhaid iddo ystyried p’un ai fod swyddi eraill ar gael y byddech yn medru eu gwneud.

Os oes swydd addas ar gael, dylai’ch cyflogwr ei chynnig i chi yn lle’ch diswyddo.

Os oes swydd addas ar gael, ond nid yw’ch cyflogwr yn ei chynnig i chi ac nid oes rheswm da ganddo dros beidio â'i chynnig i chi, mae’n medru golygu eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg ac fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth.

Efallai y bydd y swydd arall a gynigir i chi yn addas, ond mae hyn dibynnu ar nifer o bethau, gan gynnwys:

  • y math o swydd
  • y cyflog y byddwch yn ei gael
  • yr oriau y bydd yn rhaid i chi eu gweithio
  • lleoliad y swydd
  • eich sgiliau, gallu ac amgylchiadau personol.

Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gynnig swydd debyg i chi, na swydd yn yr un gweithle.

Rhaid cynnig y swydd arall i chi cyn i’ch swydd bresennol ddod i ben. Gellir cynnig y swydd yn ysgrifenedig neu ar lafar. Rhaid i chi gael digon o fanylion am y swydd newydd fel eich bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y swydd hon a’ch swydd bresennol.

Os ydych yn gwrthod cynnig o swydd arall

Os yw’ch cyflogwr yn cynnig swydd addas arall i chi ac rydych yn ei gwrthod heb reswm da, efallai y byddwch yn colli unrhyw hawl sydd gennych i dâl dileu swydd.

Efallai na fyddwch chi a’ch cyflogwr yn cytuno bod y swydd yn addas neu fod y ffaith eich bod wedi gwrthod yn afresymol. Os yw hyn yn wir, fe fyddwch yn medru gofyn i dribiwnlys cyflogaeth benderfynu a oes hawl gennych i dâl dileu swydd.

I gael cyngor ynghylch mynd at dribiwnlys cyflogaeth, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Rhoi tro ar swydd arall

Os ydych yn ystyried y cynnig o swydd arall gyda’ch cyflogwr, mae gennych yr hawl i roi tro ar y swydd cyn i chi benderfynu a ydych am ei chymryd.

Fe fyddwch yn medru gweithio yn y swydd newydd am gyfnod prawf o bedair wythnos. Fe fydd y cyfnod prawf yn dechrau yn syth wedi i’ch hen swydd ddod i ben.

Os ydych yn penderfynu nad yw’r swydd newydd yn addas, fe fyddwch yn medru rhoi rhybudd yn ystod y cyfnod prawf ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gennych i dâl dileu swydd Os nad ydych wedi rhoi rhybudd erbyn diwedd y cyfnod prawf, yna ni fydd hawl gennych i dâl dileu swydd mwyach.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig nifer o swyddi eraill i chi. Rhaid bod pob cynnig yn rhoi digon o fanylion i chi am y swydd newydd fel eich bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y swydd hon a’ch swydd bresennol.

Mae hawl gennych i gyfnod prawf ymhob swydd os ydych eisiau’r cyfnod prawf.

Nôl i’r brig


Rhybudd ynghylch dileu swyddi

Os ydych yn cael eich diswyddo am eu bod yn dileu eich swydd, mae gennych yr hawl i gyfnod rhybudd. Rhaid i chi gael:

  • un wythnos o rybudd os ydych wedi cael eich cyflogi am o leiaf un mis ond llai na dwy flynedd
  • os ydych wedi cael eich cyflogi ers o leiaf dwy flynedd, un wythnos am bob blwyddyn lawn o gyflogaeth, hyd at uchafswm o ddeuddeg wythnos.
(Example box starts)
Enghraifft: Mae Steve wedi bod yn gweithio i’w gwmni ers tair blynedd a chwe mis, hynny yw, tair blynedd lawn. Mae ganddo hawl i dair wythnos o rybudd.
(Example box ends)

Efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi mwy o rybudd na hyn i chi ond nid yw’n medru rhoi llai i chi. Dylech edrych i weld beth sydd yn eich cytundeb i weld faint o rybudd mae’n ei rhoi i chi.

Os nad ydych yn siŵr faint o rybudd y medrwch ei gael ynghylch dileu eich swydd, neu os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi rhoi llai i chi nag y medrwch ei gael, dylech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Hyfforddiant yng Nghymru i bobl sydd wedi cael rhybudd ynghylch dileu eu swydd

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu pobl sydd wedi cael rhybudd ynghylch dileu eu swydd (neu sydd eisoes wedi colli eu swydd am iddi gael ei dileu). Enw’r cynllun yw ReAct ac mae’n medru eich helpu i dalu am hyfforddiant a’r costau cysylltiedig gan gynnwys:

  • hyfforddiant i’ch helpu i ennill sgiliau newydd (hyd at £2,500)
  • help gyda chostau offer arbennig sydd ei angen ar gyfer hyfforddiant
  • arian tuag at gostau defnyddiau sydd eu hangen ar gyfer hyfforddiant
  • help gyda chostau gofal plant.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn medru helpu rhai cyflogwyr i gynnig gweithio toramser ac ailhyfforddiant ar y diwrnodau nad yw’r gweithiwr yn eu gweithio, yn lle dileu swyddi pobl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pwy sy’n medru gofyn am help, rhowch glic ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: (New window) www.wales.gov.uk <http://www.wales.gov.uk> neu ffoniwch 01792 765888.

Mae Adapt, sy’n seiliedig ar gynllun ReAct, yn ffynhonnell help ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus y mae eu swyddi’n cael eu dileu. Mae’n darparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn medru ffonio’r llinell gymorth rad ac am ddim ar 0800 100 900.

Cael swydd arall yn ystod y cyfnod rhybudd ynghylch dileu eich swydd

Os ydych wedi cael rhybudd penodol bod eich swydd yn cael ei dileu ac rydych wedi dod o hyd i swydd arall, fe fyddwch yn medru gadael i gymryd y swydd newydd yn ystod y cyfnod rhybudd. Ond, efallai y byddwch yn colli’r hawl i dâl dileu swydd, os nad ydych yn dilyn gweithdrefn gyfreithiol benodol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y weithdrefn gyfreithiol benodol y mae’n rhaid i chi ei dilyn o dan yr amgylchiadau hyn, ewch at gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Amser i ffwrdd i chwilio am waith

Os ydych wedi cael rhybudd bod eich swydd yn mynd i gael ei dileu, mae gennych yr hawl i gael amser i ffwrdd gyda chyflog i chwilio am swydd newydd. Mae gennych yr hawl hwn os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr ers o leiaf dwy flynedd, erbyn i’ch cyfnod rhybudd ddod i ben. Mae yna rai gweithwyr sydd ddim â hawl i amser i ffwrdd gyda chyflog i chwilio am waith, sef:

  • gweithiwyr sydd wedi gweithio i’w cyflogwyr ers llai na dwy flynedd
  • morwyr masnachol
  • pysgotwyr cyfran
  • aelodau o’r lluoedd arfog
  • gweithwyr gwasanaethu’r heddlu.

Nid oes unrhyw reolau ynghylch faint o amser yn union sy’n rhaid i’ch cyflogwr ei rhoi i chi, ond rhaid ei fod yn rhesymol. Fe fydd yr hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y bydd yn dibynnu pa mor anodd yw dod o hyd i waith mewn rhai ardaloedd, yr amser a’r teithio sy’n gysylltiedig â'r amrywiaeth o swyddi yr ydych yn edrych arnynt.

Faint o gyflog fyddwch chi’n ei gael

Dim ond hyd at ddwy ran o bump o gyflog wythnos sy’n rhaid i’ch cyflogwr ei dalu i chi am yr amser yr ydych yn ei gymryd i ffwrdd i chwilio am swydd arall yn ystod y cyfnod rhybudd cyfan. Mae hyn yn golygu, os ydych yn gweithio pum niwrnod mewn wythnos, fe fyddwch ond yn cael eich talu am ddau ddiwrnod, waeth faint o ddiwrnodau yr ydych yn eu cymryd i ffwrdd Os ydych yn gweithio dau ddiwrnod a hanner yr wythnos, fe fyddwch yn dal i gael dwy ran o bump o’ch cyflog wythnos, waeth faint o ddiwrnodau yr ydych yn eu cymryd i ffwrdd.

(Example box starts)

Enghraifft 1: rydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos ac yn cymryd cyfanswm o bedwar diwrnod i ffwrdd yn ystod y cyfnod rhybudd cyfan. Dim ond dau ddiwrnod o’r diwrnodau y cymerwyd i ffwrdd y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu talu.

Enghraifft 2: rydych yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos ac yn ennill £120 yr wythnos. Rydych yn cymryd wythnos i ffwrdd i chwilio am waith. Fe fyddwch ond yn cael £48 am yr wythnos yna - hynny yw, dwy ran o bump o waith wythnos.

(Example box ends)

Mae gennych hawl hefyd i gyfnod rhesymol o amser i ffwrdd o’r gwaith heb gyflog ar ben hynny.

Efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi mwy o amser i ffwrdd gyda chyflog i chi nâr isafswm cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Gweithdrefnau dileu swydd eraill y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn

Yn ogystal â’r gweithdrefnau a osodir yn gyfreithiol, efallai y bydd gweithdrefnau dileu swydd eraill y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn am eu bod yn eich cytundeb cyflogaeth. Dylai’ch cyflogwr ddilyn y gweithdrefnau hyn wrth ddileu eich swydd, onid ydynt yn annheg neu’n rhoi llai o hawliau i chi na’r isafswm cyfreithiol.

Dylech ddarllen eich cytundeb cyflogaeth i weld beth mae’n ei ddweud am ddileu swyddi.

Os nad ydych yn siŵr beth yw’r gweithdrefnau dileu swydd y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn neu os ydych yn meddwl eu bod yn rhoi llai na’ch hawliau i chi, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig