Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar eich cyflogwr i ofalu am eich lles meddyliol, yn ogystal â'ch iechyd corfforol. Ond, fel arfer, fe fydd hawl gan eich cyflogwr i gymryd eich bod yn medru ymdopi gyda phwysau beunyddiol eich gwaith.
Os, am unrhyw reswm, yr ydych yn teimlo eich bod o dan bwysau gyda'ch gwaith, efallai oherwydd cynnydd yn eich llwyth gwaith, mae'n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth eich cyflogwr. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt i wneud rhywbeth am y sefyllfa. Mae'n arbennig o bwysig gwneud hyn os ydych chi angen cymryd cyfnod salwch oherwydd pwysau.
Os nad yw'ch cyflogwr yn gwneud digon i ostwng y pwysau sydd arnoch yn y gwaith, efallai y bydd hawl gennych i gymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn. Er enghraifft, os ydych yn dioddef salwch meddwl sy'n gysylltiedig â phwysau oherwydd eich gwaith, efallai y bydd hawl gennych i iawndal gan eich cyflogwr.
Os ydych yn credu nad yw eich cyflogwr yn gwneud digon i ostwng y pwysau sydd arnoch yn y gwaith, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol. Efallai y bydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf yn medru eich helpu i ddod o hyd i arbenigwr ar y gyfraith sy'n medru eich helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch pwysau yn y gwaith yn www.workstress.net.