Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae yna gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw i amddiffyn merched a dynion. Mae gwahaniaethu'n medru dod o unrhyw gyfeiriad. Gallai fod yn gydweithiwr, yn oruchwylydd adran, eich rheolwr neu'ch cyflogwr.
Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trîn yn llai ffafriol na dyn, dylech weithredu cyn gynted â phosib. y peth cyntaf i'w wneud yw cael gair gyda chydweithwyr eraill i weld a ydynt yn cael yr un math o driniaeth neu a ydynt wedi sylwi eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol. Holwch i weld os oes rhywun yn fodlon eich cefnogi chi. Os ydych yn medru, ceisiwch siarad yn bersonol â'r person sy'n gwahaniaethu yn eich herbyn a gofynnwch iddo/i stopio neu rybuddiwch y byddwch yn cwyno'n swyddogol. Dylech wneud hyn os ydych yn teimlo ei fod yn ddiogel yn unig. Efallai y byddai o gymorth i chi petaech yn mynd â chydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch chi'n gwneud hyn.
Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy'n digwydd. Cofnodwch hyn yn ysgrifenedig a chadwch gopi. O dan y gyfraith, mae'n ofynnol i'ch cyflogwr eich amddiffyn chi rhag gwahaniaethu ar sail rhyw. Os mai'ch rheolwr chi sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn neu'n aflonyddu arnoch, dywedwch wrth rywun sydd â swydd uwch o fewn y sefydliad.
Dylech hefyd gasglu tystiolaeth. Mae hyn yn medru cynnwys cadw dyddiadur neu gofnod o amser, dyddiad a lleoliad unrhyw ddigwyddiadau, yr hyn a ddywedwyd neu a wnaethpwyd, pwy oedd yn gysylltiedig, a oedd unrhyw lygaid-dyst a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr eraill. Cofnodwch enwau a swyddi'r rheiny sydd, yn eich barn chi, yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu fanylion y rheol neu'r polisi sy'n eich gosod chi ar anfantais, a pham mae'n gwneud hyn.
Os na fydd pethau'n gwella, siaradwch â'ch undeb, os ydych yn aelod, neu'ch adran personel. Efallai y byddant yn medru eich helpu i atal y gwahaniaethu.
Os na fydd hyn yn gweithio, y cam olaf, efallai, fydd dwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym, felly mynnwch gyngor yn gynnar.
Os na fydd hyn yn gweithio, y cam olaf, efallai, fydd dwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Rhaid eich bod wedi codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym, felly mynnwch gyngor yn gynnar.
Nid oes angen eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am unrhyw gyfnod penodol o amser cyn i chi fedru hawlio diswyddiad annheg.
Fe fydd angen i chi brofi eich achos. Dyna pham mae casglu tystiolaeth mor bwysig. Rydych yn medru gofyn i'ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Mae hyn yn medru helpu cefnogi eich achos. Mae yna derfynau amser llym ac fe fydd angen i chi gael cyngor i'ch helpu i wneud hyn.
Nid oes unrhyw derfyn uwch i swm yr iawndal y bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn medru ei ddyfarnu i chi mewn achos o wahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu yn y gwaith,gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu yn y gwaith,, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad annheg oherwydd gwahaniaethu, gweler Diswyddiad.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Gwahaniaethu ar sail rhyw ac aflonyddu rhywiol yn y Taflenni ffeithiau ar gyflogaeth.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu yn y gwaith, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar CAB agosaf.