Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhrin yn annheg yn y gwaith oherwydd fy nghrefydd, a ydyw hyn yn gyfreithlon?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Rwy'n Iddewig ac angen cymryd pob prynhawn Dydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith yn y gaeaf er mwyn cyrraedd adref cyn iddi dywyllu a pharatoi ar gyfer y Saboth. Ar hyn o bryd, mae fy rheolwr yn ddigon parod i adael i mi wneud hyn a gwneud yr amser i fyny yn ystod gweddill yr wythnos. Fodd bynnag, mae'n ystyried cyflwyno patrwm sifft newydd, sy'n golygu na fyddaf yn medru gwneud hyn mwyach. A oes hawl ganddo i wneud hyn?

Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unrhyw weithiwr oherwydd crefydd neu gred. Felly, os ydyw'ch cyflogwr yn cyflwyno patrwm sifft newydd a fydd yn anodd ar eich cyfer chi oherwydd eich crefydd, gallech fod yn dioddef gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd. Byddai'n rhaid i'ch cyflogwr ddangos pam yn union y mae'n hanfodol i chi weithio ar brynhawn Dydd Gwener. Os nad ydyw'n medru dangos nad oedd unrhyw ffordd resymol arall o aildrefnu eich gwaith, gallai ei ymddygiad tuag atoch gyfrif fel gwahaniaethu ar sail crefydd.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich crefydd, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb yn: (New window) www.equalityni.org.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu oherwydd crefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, a Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth: