Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Pobl ifanc a budd-daliadau

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ynglyn â'r wybodaeth hon

Yn yr wybodaeth hon, mae plentyn yn golygu rhywun sy'n iau na 14 ac mae person ifanc yn golygu rhywun sy'n 14 neu'n hyn ond yn iau na 18. Mae Rhiant yn golygu rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.

<Nôl i’r brig

Lwfans Ceisio Gwaith

Mae Lwfans Ceisio Gwaith yn fudd-dâl i bobl sy'n ddi-waith ond yn medru gweithio.

Fel arfer, mi fyddwch yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych yn 18 neu'n hyn yn unig. Ond, mae pobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n ddi-waith a heb fod mewn addysg llawn amser yn medru hawlio mewn rhai amgylchiadau.

I ddarganfod a fedrwch chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, dylech holi cynghorydd profiadol - er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith.

<Nôl i’r brig

Cymhorthdal Incwm

Mae Cymhorthdal Incwm yn fudd-dâl i bobl ar incwm isel i'w helpu i dalu am eu costau byw o ddydd i ddydd.

Fel arfer, mi fyddwch yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm os ydych yn 18 neu'n hyn yn unig. Os ydych yn 16 neu'n 17 oed, efallai y cewch Gymhorthdal Incwm os ydych:-

  • â phlentyn neu rydych yn feichiog
  • ar rai mathau penodol o gyrsiau hyfforddiant.

Fe fydd eich hawl i Gymhorthdal Incwm hefyd yn dibynnu a ydych yn dal i fod yn yr ysgol neu'n byw gyda'ch rhieni. Fel arfer, ni fydd pobl ifanc 16 neu 17 oed sydd wedi bod mewn gofal yn medru cael Cymhorthdal Incwm, ond mae yna eithriadau. Mae rhieni unigol sydd wedi bod mewn gofal yn medru cael y budd-dâl.

Os ydych yn 16 neu'n 17 ac eisiau cyngor ynghylch hawlio budd-daliadau, neu os ydych yn 16 neu'n 17 ac wedi bod mewn gofal, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

<Nôl i’r brig

Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor ('Rate Relief' yng Ngogledd Iwerddon)

Mae Budd-dâl Tai yn fudd-dâl i bobl ar incwm isel i'w helpu i dalu eu rhent. Mae Budd-dâl Treth Gyngor ('Rate Relief' yng Ngogledd Iwerddon) yn fudd-dâl i bobl ar incwm isel i'w helpu i dalu eu treth gyngor neu’r hyn y maen nhw’n ei alw’n ‘rates’ yng Ngogledd Iwerddon.

Nid oes unrhyw beth i atal person ifanc rhag hawlio Budd-dâl Tai, ond mae'r swm y medrwch ei gael os ydych yn berson sengl sy'n iau na 35 heb blant yn gyfyngedig.

Am fwy o wybodaeth, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dâl Tai.

Yng Nghymru a Lloegr, dim ond pobl sy'n 18 neu'n hyn sy'n medru hawlio Budd-dâl Treth Gyngor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda'ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ‘Rate Relief’ yng Ngogledd Iwerddon, gweler tudalen Help with your Rates.

<Nôl i’r brig

Budd-daliadau anabledd

Os ydych yn berson ifanc sydd ag anabledd, mae yna nifer o fudd-daliadau a chredydau treth gwahanol y mae'n bosib y medrwch eu hawlio. Fel arfer, fe fydd eich rhieni yn hawlio'r budd-dâl ar eich rhan.

Am fwy o wybodaeth, gweler Budd-daliadau i bobl su'n sâl neu'n anabl.

<Nôl i’r brig

Y Gronfa Gymdeithasol

Mae'r Gronfa Gymdeithasol yn helpu pobl ar incwm isel i dalu am gostau sy'n codi unwaith yn unig, rhai na fyddent yn medru eu fforddio fel arall.

Fel person ifanc, efallai y byddwch yn medru hawlio benthyciad argyfwng gan y Gronfa Gymdeithasol os oes argyfwng ac os nad ydych yn medru talu am eich anghenion pwysig. Nid oes yn rhaid eich bod chi'n derbyn budd-daliadau eraill er mwyn i chi fedru hawlio.

Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, efallai hefyd y byddwch yn medru cael grant gofal cymunedol neu fenthyciad cyllidebu.

Am fwy o wybodaeth, gweler Help i bobl ar incwm isel - Y Gronfa Gymdeithasol.

<Nôl i’r brig

Credydau treth

Fel person ifanc sy'n 16 neu'n hŷn, rydych yn medru hawlio credydau treth. Mae credydau treth yn amodol ar brawf modd ac maen nhw'n dibynnu ar eich incwm. I gael Credyd Treth Gwaith rhaid eich bod chi'n gyfrifol am blentyn, yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos os ydych yn sengl, neu 24 awr yr wythnos rhyngoch chi a’ch partner os ydych yn bâr (gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos) ac ar incwm isel. Efallai y byddwch hefyd yn medru cael Credyd Treth Gwaith os ydych yn anabl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Os ydych yn 16 neu'n hyn, rydych yn medru cael Credyd Treth Plant os ydych yn gyfrifol am blentyn o dan 16 oed. Os ydych yn iau na 16 eich hun ac yn gyfrifol am blentyn, nid ydych yn medru hawlio Credyd Treth Plant i chi eich hun. Ond, mae eich rhieni neu rywun sy'n gyfrifol amdanoch yn medru eich cynnwys chi yn eu cais nhw.

Os ydych yn 20 neu'n iau mae eich rhiant neu berson sy'n gyfrifol amdanoch yn medru eich cynnwys mewn cais am Gredyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch credydau treth a sut i'w hawlio, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.

<Nôl i’r brig

Problemau wrth hawlio budd-daliadau

Os gwrthodwyd budd-dâl i chi a chithau'n credu y dylech ei gael, neu os ydych yn credu bod y swm a roddwyd i chi yn anghywir, fe fyddwch yn medru gofyn i'r swyddfa budd-daliadau ailystyried y penderfyniad neu fe fyddwch yn medru apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i'r penderfyniad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniadau'r swyddfa budd-daliadau, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd pan fydd y swyddfa budd-daliadau'n penderfynu ynghylch eich cais am fudd-dâl. Hefyd, mae gan asiantaethau'r llywodraeth, fel y rheiny sy'n talu budd-daliadau a chredydau treth, bolisïau sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft, eich oed. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad y swyddfa budd-daliadau, rydych hefyd yn medru siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

<Nôl i’r brig

Gwybodaeth mewn ieithoedd eraill

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) wedi cyfieithu gwybodaeth ynghylch budd-daliadau i rai ieithoedd cymunedol. Am fwy o wybodaeth cliciwch ar wefan y DWP yn www.dwp.gov.uk. I ofyn am gopi papur neu gopi sain o unrhyw daflen sydd gan y DWP yn eich iaith chi, dylech gysylltu â'ch swyddfa budd-daliadau leol.

<Nôl i’r brig

Gwybodaeth bellach i bobl ifanc

Mae mwy o wybodaeth ynghylch hawliau plant a phobl ifanc mewn adrannau eraill o Adviceguide.

Am wybodaeth ynghylch hawliau cyffredinol plant a phobl ifanc, gweler Hawliau pobl ifanc.
Am wybodaeth ynghylch cyflogaeth, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynghylch tai, gweler Pobl ifanc a thai.
Am wybodaeth ynghylch materion teuluol, gweler Pobl ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynghylch arian a hawliau defnyddwyr, gweler Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr.
Am wybodaeth ynghylch iechyd a materion personol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynghylch y gyfraith a phobl ifanc, gweler Pobl ifanc a'r gyfraith.
Am wybodaeth ynghylch cludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a chludiant.
I ddarllen taflen ynghylch astudio a gweithio, gweler Helpwch eich hun os ydych yn 18–24.

<Nôl i’r brig

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth