Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, a'r Alban
Mae Budd-dâl Treth Gyngor yn fudd-dâl i bobl ar incwm isel i’w helpu i dalu eu treth gyngor. Caiff ei dalu gan eich awdurdod lleol. Os oes hawl gennych i Fudd-dâl Treth Gyngor, fe fydd eich bil treth gyngor yn gostwng.
Cofiwch holi i weld os ydych yn talu’r swm iawn o dreth gyngor. Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiadau am eich bod yn byw ar eich pen eich hun, neu unrhyw ostyngiad am eich bod yn anabl. Os oes 'nam meddyliol difrifol' arnoch, fel clefyd Alzheimer's, neu os ydych yn iau na 18, ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Mae Ad-daliad Ail Oedolyn yn fath o Fudd-dâl Treth Gyngor y gellir ei dalu yn lle’r prif fath o Fudd-dâl Treth Gyngor. Mae hefyd yn gostwng eich bil Treth Gyngor - gweler y pennawd Beth yw Ad-daliad Ail Oedolyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Treth Gyngor, pwy sy'n gorfod ei dalu a faint sy’n rhaid i chi ei dalu, gweler Treth gyngor.
OS oes rhaid i chi dalu Treth Gyngor, rydych yn medru hawlio Budd-dâl Treth Gyngor os yw’ch cyfalaf a’ch incwm yn ddigon isel. Os ydych yn byw gyda'ch partner, dim ond un ohonoch sy’n medru hawlio Budd-dâl Treth Gyngor ac fe fydd eich incwm a’ch cyfalaf yn cael eu hasesu gyda’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys partneriaid lesbiaidd a hoyw yn ogystal â phartneriaid gwahanrywiol. Mae'n berthnasol waeth a ydych chi'n cydfyw fel pâr, yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae cyfalaf yn cyfeirio at unrhyw beth a allai roi incwm i chi, er enghraifft, cynilion, eiddo neu dir. Ond, mae rhai mathau o gyfalaf yn cael eu hanwybyddu, er enghraifft, eich eiddo personol a’r cartref yr ydych yn berchen arno ac yn byw ynddo. Mae rhai mathau penodol eraill o eiddo hefyd yn cael eu hanwybyddu. Am fanylion llawn y mathau eraill o eiddo sy’n cael eu hanwybyddu, dylech gael cyngor.
Rhaid eich bod chi’n byw yn y Deyrnas Gyfunol er mwyn hawlio Budd-dâl Treth Gyngor. Os ydych yn dod o dramor neu rydych wedi dod i fyw yn y Deyrnas Gyfunol yn ddiweddar, efallai y cewch anhawster hawlio’r budd-dâl, gan ddibynnu ar eich statws mewnfudo.
Os nad ydych yn siŵr beth yw eich hawl i hawlio budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid oes rhaid i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu treth gyngor, ond mae yna rai sefyllfaoedd ble y gallai fod angen i’r myfyriwr dalu. Fel arfer, nid yw myfyriwr sy’n gorfod talu treth gyngor yn medru cael budd-dal treth gyngor, ond mae yna rai eithriadau i’r rheol hon. Os ydych yn fyfyriwr sydd wedi cael bil treth gyngor, dylech ofyn i’ch coleg neu’r gwasanaeth cynghori myfyrwyr am gyngor, i weld os oes rhaid i chi dalu, ac os felly, os fedrwch chi hawlio budd-dal treth gyngor.
Os ydych yn fyfyriwr, ac yn byw gyda rhywun arall sydd ddim yn fyfyriwr, er enghraifft eich partner, efallai y bydd y person yna’n medru cael Budd-dâl Treth Gyngor.
Os ydych yn fyfyriwr ac eisiau hawlio Budd-dâl Treth Gyngor, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu gredyd gwarant Credyd Pensiwn, fe fydd eich budd-dâl yn cwmpasu eich bil Treth Gyngor cyfan ac ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth. Ond, os oes oedolion eraill yn byw yn eich cartref, gellir gwneud didyniad o’ch Budd-dâl Treth Gyngor. Gelwir hyn yn ddidyniad ‘person annibynnol’ ac mae’r swm yn dibynnu ar amgylchiadau'r oedolyn arall (y person annibynnol). Efallai y bydd didyniad person annibynnol yn berthnasol, er enghraifft, os oes perthynas oedrannus neu fab neu ferch sy’n oedolyn yn byw gyda chi. Ni fydd rhai pobl sy’n bersonau annibynnol yn arwain at ddidyniad i’ch Budd-dâl Treth Gyngor oherwydd eu hamgylchiadau personol, er enghraifft, os ydynt yn cael Credyd Pensiwn. Os mai eich partner yw’r oedolyn arall, neu eich landlord, neu gydberchennog, tenant neu letywr, nid ydyw’n cyfrif fel person annibynnol ac ni fydd y didyniad yn berthnasol.
Os oes oedolyn annibynnol yn byw yn eich cartref ac rydych am wybod sut y bydd hyn yn effeithio ar eich Budd-dâl Treth Gyngor, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu gredyd gwarant Credyd Pensiwn, efallai y byddwch yn dal i fedru hawlio naill ai Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn. Ni fyddwch yn medru cael unrhyw Fudd-dâl Treth Gyngor os oes cyfalaf gennych (cynilion neu eiddo) sy’n werth dros £16,000. Ond, mae rhai mathau o gyfalaf yn cael eu hanwybyddu, er enghraifft, eich eiddo personol a’r cartref yr ydych yn berchen arno ac yn byw ynddo. Mae rhai mathau penodol eraill o eiddo hefyd yn cael eu hanwybyddu. Am fanylion llawn y mathau eraill o eiddo sy’n cael eu hanwybyddu, dylech gael cyngor.
Os oes cyfalaf gennych dros £6,000, cymerir bod gennych beth incwm o’r cyfalaf hwnnw. Os ydych chi neu’ch partner wedi cyrraedd yr oed i fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn, neu os ydych yn hŷn na’r oed cymhwyso hwn, cymerir eich bod yn cael peth incwm o’ch cyfalaf os yw’ch cyfalaf dros £10,000. Fe fydd hyn yn gostwng swm y Budd-dâl Treth Gyngor sydd ar gael i chi.
I ddarganfod mwy am oed cymhwyso Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Fe fydd y Budd-dâl Treth Gyngor a gewch hefyd yn dibynnu ar eich incwm. Mae’r incwm y medrwch ei gael cyn iddo ostwng eich Budd-dâl Treth Gyngor yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft, a oes partner neu blant gennych, neu a ydych yn anabl neu’n gofalu am berson anabl. Mae yna rai mathau o incwm sy’n cael eu hanwybyddu hefyd wrth gyfrifo faint o fudd-dâl tai y dylech ei gael, er enghraifft cynhaliaeth plant. Os ydych yn cael credyd cynilion Credyd Pensiwn, fe fydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r un ffigurau ar gyfer eich incwm a’ch cyfalaf a’r Gwasanaeth Pensiwn, wrth gyfrifo eich Budd-dâl Treth Gyngor.
Efallai y byddwch yn well eich byd yn hawlio Ad-daliad Ail Oedolyn yn lle Budd-dâl Treth Gyngor. Mae eich incwm a’ch cyfalaf yn cael eu hanwybyddu ar gyfer Ad-daliad Ail Oedolyn. Mae’n dibynnu yn hytrach ar incwm oedolyn arall heblaw am eich partner sy’n byw gyda chi. Pan fyddwch yn hawlio, dylai’r awdurdod lleol gyfrifo pa fath o daliad fyddai’n rhoi’r mwyaf o help i chi gyda’ch bil Treth Gyngor - gweler hefyd y pennawd Beth yw Ad-daliad Ail Oedolyn.
Os ydych am wybod mwy ynghylch sut caiff Budd-dâl Treth Gyngor ei gyfrifo, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn cael trafferth talu eich treth gyngor, ac rydych yn cael peth Budd-dâl Treth Gyngor (neu Fudd-dâl Tai), fe fyddwch yn medru gofyn i’r awdurdod lleol am daliad tai dewisol. Mae hwn yn daliad ychwanegol (nid Budd-dâl Treth Gyngor) y medrwch ei gael os ydych angen help ariannol pellach gyda’ch costau tai, gan gynnwys Treth Gyngor. Mae i fyny i’r awdurdod lleol a fyddwch yn cael yr help hwn, ac felly dylech roi cymaint o wybodaeth â phosib iddynt.
Os ydych yn cael Ad-daliad Ail Oedolyn, ni fyddwch yn medru cael taliad tai dewisol, os na fyddech â hawl i beth Budd-dâl Treth Gyngor ond nid ydych yn ei gael oherwydd yr ydych yn well eich byd ar yr Ad-daliad Ail Oedolyn.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tai dewisol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae Ad-daliad Ail Oedolyn yn fath o Fudd-dâl Treth Gyngor y gellir ei dalu yn lle’r prif fath o Fudd-dâl Treth Gyngor, ond nid yn ogystal ag ef. Mae Ad-daliad Ail Oedolyn hefyd yn gostwng eich Bil Treth Gyngor.
Efallai y byddwch yn medru hawlio Ad-daliad Ail Oedolyn os oes rhaid i chi dalu Treth Gyngor ac os ydych yn byw gyda rhywun arall, heblaw am eich partner. Rhaid bod y person arall yn 18 neu’n hyn, ddim yn talu rhent, ddim yn gyfrifol am dalu Treth Gyngor, ac ar incwm sy’n is na lefel penodol. Ni all y person arall fod yn rhywun sydd wedi’i ‘ddiystyru’ pan fydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo eich hawl i gael gostyngiad yn swm y Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y rheiny sy’n cael eu diystyru pan fydd yr awdurdod lleol yn cyfrif eich Bil Treth Gyngor, ac ynghylch gostyngiadau, gweler Treth Gyngor.
Er mwyn hawlio Ad-daliad Ail Oedolyn, rhaid i chi roi gwybodaeth ynghylch incwm oedolyn (neu oedolion) sy’n byw gyda chi. Ni chaiff eich incwm a’ch cyfalaf eich hun eu hystyried ar gyfer Ad-daliad Ail Oedolyn. Pan fyddwch yn hawlio Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn, dylai’r awdurdod lleol gyfrifo pa un fydd yn rhoi’r help mwyaf i chi gyda’ch Treth Gyngor, ond fe fydd ond yn medru gwneud hyn os ydych yn rhoi digon o wybodaeth i gyfrifo’r ddau.
Os ydych yn cael Ad-daliad Ail Oedolyn, ni chewch help pellach gyda’ch Treth Gyngor gan daliadau tai dewisol, os na fyddech wedi bod â hawl i beth Budd-dâl Treth Gyngor ond nid ydych yn ei gael am ei fod yn werth llai nag Ad-daliad Ail Oedolyn. Gweler hefyd y pennawd Help pellach gyda Threth Gyngor.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ynghylch Ad-daliad Ail Oedolyn a sut y caiff ei gyfrifo, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pan fyddwch yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol, fe fyddwch yn cael ffurflen gais ar gyfer Budd-dâl Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn ar yr un pryd. Fe fydd yr awdurdod lleol yn medru gofyn i chi lenwi ei ffurflen hawlio Budd-dâl Treth Gyngor ei hun hefyd. Mae’n ddefnyddiol cael copi o’r ffurflen, a’i llenwi a’i dychwelyd, yn lle aros i’r awdurdod lleol anfon un allan i chi. Dylech gadw copi o unrhyw ffurflen hawlio yr ydych yn ei llenwi.
Neu, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dal Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn dros y ffôn os yw'ch awdurdod lleol wedi cyhoeddi rhif ffôn ar gyfer hawlio dros y ffôn. Os ydych wedi hawlio Budd-dal Tai dros y ffôn, efallai y bydd eich awdurdod lleol angen i chi gymeradwyo datganiad ysgrifenedig o'ch amgylchiadau.
Os ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm ac mae’n rhaid i chi ddechrau talu Treth Gyngor, fe allwch ofyn am ffurflen hawlio Budd-dâl Treth Gyngor yn y swyddfa budd-daliadau neu’r Ganolfan Waith a chysylltu â’r awdurdod lleol ar yr un pryd am gopi o’u ffurflen Budd-dâl Treth Gyngor nhw.
Mae rhai awdurdodau lleol yn gadael i chi gyflwyno cais am Fudd-dal Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn drwy'r e-bost neu dros y rhyngrwyd. Mae i fyny i'ch awdurdod lleol i benderfynu a ydyw'n caniatáu ceisiadau electronig. Maen nhw hefyd yn medru penderfynu ar rai o'r amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni i wneud cais electronig.
Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn dros y ffôn, fe fyddwch yn medru hawlio Budd-dal Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig.
Rydych yn dal i fedru hawlio'n uniongyrchol gan eich awdurdod lleol os ydych yn dymuno.
Os ydych am hawlio Budd-dal Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn ac rydych eisoes yn cael Credyd Pensiwn, dylech ofyn i’r awdurdod lleol am ffurflen hawlio. Os ydych eisoes yn cael Credyd Pensiwn, dylech ofyn i'ch awdurdod lleol am ffurflen hawlio. Efallai y byddwch yn medru hawlio dros y ffôn, drwy'r e-bost neu dros y rhyngrwyd. Nid yw pob awdurdod lleol yn caniatáu i chi wneud hyn, felly holwch eich awdurdod lleol i weld su ddylech chi hawlio.
Os ydych yn cyflwyno cais am gredyd cynilion Credyd Pensiwn (ond nid credyd gwarant) ac rydych hefyd yn hawlio Budd-dal Treth Gyngor, fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn trosglwyddo manylion eich incwm a'ch cyfalaf yn awtomatig at eich awdurdod lleol. Yna, fe fydd eich awdurdod lleol yn defnyddio'r manylion hyn i gyfrifo'ch Budd-dal Treth Gyngor.
Os nad ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn dylech hawlio Budd-dâl Treth Gyngor yn syth gan swyddfa Budd-dâl Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Dylech ddefnyddio’r ffurflen hawlio o’u swyddfa budd-dâl nhw a gofyn am ddyddio’r cais o’r dyddiad y gofynnoch amdano. Os ydych yn credu y dylech fod wedi ei gael cyn i chi wneud eich cais, gweler y pennawd Cael Budd-dâl Treth Gyngor wedi ei ôl-ddyddio.
Dylech ateb yr holl gwestiynau ar y ffurflen hawlio sy’n berthnasol i chi gan gynnwys manylion am eich amgylchiadau personol, eich incwm a’ch cynilion. Dylech gadw copi o’r ffurflen gais.
Neu, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dal Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn dros y ffôn os yw'ch awdurdod lleol wedi cyhoeddi rhif ffôn ar gyfer hawlio dros y ffôn. Os ydych wedi hawlio Budd-dal Tai dros y ffôn, efallai y bydd eich awdurdod lleol angen i chi gymeradwyo datganiad ysgrifenedig o'ch amgylchiadau.
Mae rhai awdurdodau lleol yn gadael i chi gyflwyno cais am Fudd-dal Treth Gyngor/Ad-daliad Ail Oedolyn drwy'r e-bost neu dros y rhyngrwyd. Mae i fyny i'ch awdurdod lleol i benderfynu a ydyw'n caniatáu ceisiadau electronig. Maen nhw hefyd yn medru penderfynu ar rai o'r amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni i wneud cais electronig.
Pan fyddwch chi’n cyflwyno cais am Fudd-dâl Treth Gyngor, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol (YG). Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, ceisiwch roi gwybodaeth a fydd yn helpu’r swyddfa Treth Gyngor i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un. I ddangos mai’ch rhif chi ydyw, neu i ofyn am rif, fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth o bwy ydych chi hefyd, er enghraifft, tystysgrif geni.
Os nad ydych ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn, fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth o’ch incwm a’ch cyfalaf, er enghraifft, llyfr cynilion neu slipiau cyflog. Os ydych am i’r awdurdod lleol i asesu i weld a fyddech yn well eich byd ar Ad-daliad Ail Oedolyn, dylech hefyd roi gwybodaeth ynghylch incwm oedolion eraill sy’n byw yn eich cartref.
Am wybodaeth ar sut i ofyn am rif yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol - Cyfraniadau a budd-daliadau.
Os ydych yn cael trafferth gofyn am rif yswiriant gwladol neu profi pwy ydych chi, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn medru cael peth Budd-dâl Treth Gyngor am gyfnod cyn i chi gyflwyno eich cais, os fyddech wedi medru hawlio ynghynt. Gelwir y broses o gael budd-dâl am gyfnod cyn i chi hawlio yn ‘ôl-ddyddio’. Fe fyddwch yn medru cael Budd-dâl Treth Gyngor wedi ei ôl-ddyddio am hyd at 52 wythnos os fedrwch chi ddangos bod rheswm da gennych dros beidio â hawlio ynghynt, er enghraifft, cawsoch y cyngor anghywir. O 6 Hydref 2008, mae'r cyfnod ar gyfer ôl-ddyddio budd-daliadau yn gostwng i chwech mis. Rhaid i chi ddangos hefyd bod hawl gennych i Fudd-dâl Treth Gyngor trwy gydol cyfnod yr ôl-ddyddio - eich bod yn gyfrifol am dalu’r treth gyngor, a bod eich incwm yn ddigon isel. Ni fyddwch yn cael unrhyw fudd-dâl wedi ei ôl-ddyddio am y rheswm nad oeddech yn gwybod eich bod yn medru hawlio yn unig. Dylech esbonio ar eich ffurflen gais eich bod am hawlio budd-dâl o ddyddiad cynharach, a rhoi eich rhesymau dros fethu â hawlio ynghynt.
Mae'r rheolau'n wahanol os ydych chi neu'ch partner yn 60 neu’n hyn, ac nid ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm. Yn yr achos hwn, nid oes rhaid i chi roi unrhyw resymau dros ôl-ddyddio'ch cais. Y cyfnod y caiff ceisiadau eu hôl-ddyddio ar gyfer y grŵp yma o bobl yw tri mis.
Os ydych am ofyn am ôl-ddyddio Budd-dâl Treth Gyngor, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol wrth gyflwyno cais am Fudd-dâl Treth Gyngor, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn cyflawni twyll, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad y bydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod chi’n hawlio ac fe fydd swyddogion twyll hefyd yn medru cael gwybodaeth amdanoch gan asiantaethau eraill y llywodraeth a gan eich cyflogwr, eich banc neu gwmnïau iwtiliti. Mae twyll Budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy. Efallai y bydd eich budd-dâl yn gostwng os ydynt yn eich cael yn euog fwy nag unwaith.
Os ydych yn poeni y gallech fod dan amheuaeth o dwyll, os ydych yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Pan fyddan nhw’n derbyn eich cais, fe fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu os ydych â hawl i Fudd-dâl Treth Gyngor ai peidio ac os ydych, faint fyddwch chi’n ei gael. Efallai y byddant yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad. Os nad oes hawl gennych i Fudd-dâl Treth Gyngor, neu fe fyddai eich budd-dâl yn cynnwys 25% neu lai o’ch Treth Gyngor, fe fydd yr awdurdod lleol yn holi’n awtomatig i weld a oes hawl gennych i Ad-daliad Ail Oedolyn.
Caiff Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn eu talu trwy ostwng swm y Dreth Gyngor sy’n rhaid i chi ei dalu. Fe fydd y gostyngiad yn cael ei ddangos ar eich bil Treth Gyngor. Os ydych eisoes wedi talu eich bil Treth Gyngor, gellir talu Budd-dâl Treth Gyngor yn syth i chi, ond fe fydd yn rhaid i chi ofyn am hyn. Neu, os ydych yn parhau i fyw yn yr un ardal awdurdod lleol, fe fydd eich Budd-dâl Treth Gyngor yn cael ei gredydu yn erbyn eich bil Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut y caiff y budd-dâl ei dalu, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych yn cael unrhyw drafferth gyda’r ffordd y caiff eich Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn ei dalu, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Fe fydd Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn yn medru parhau i gael ei dalu tra’ch bod chi â hawl iddo. Ond, os ydych yn symud allan o ardal yr awdurdod lleol, fe fydd yn rhaid i chi stopio’ch cais a chyflwyno cais newydd i’r awdurdod lleol ble’r ydych yn talu Treth Gyngor yn awr. Rhaid i chi hefyd ddweud am unrhyw newidiadau perthnasol i amgylchiadau a allai effeithio ar eich budd-dâl neu ad-daliad. Os nad ydych yn dweud am y newidiadau hyn, efallai na chewch yr holl fudd-dâl sy’n ddyledus i chi, neu efallai y cewch ormod o fudd-dâl (gordaliad) ac fe fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn nes ymlaen. Efallai hefyd y byddwch yn destun archwiliad am dwyll - gweler y pennawd Gwiriadau Budd-dâl Treth Gyngor, newid amgylchiadau a thwyll, newid amgylchiadau a thwyll. Os ydych yn cael Ad-daliad Ail Oedolyn, rydych yn gyfrifol am ddweud wrth yr awdurdod lleol am newidiadau yn amgylchiadau pobl eraill sy’n byw gyda chi.
Fe fydd Budd-dâl Treth Gyngor yn medru parhau i gael ei dalu yn ddigyfyng tra’ch bod chi ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Budd-dâl Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol. Dylech ddweud am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich budd-dâl neu’r swm a gewch, er enghraifft, os yw’ch partner yn gadael, rydych yn cael babi newydd neu’n symud i gyfeiriad arall o fewn yr un awdurdod lleol. Os nad ydych yn dweud am y newidiadau hyn, efallai na chewch yr holl fudd-dâl sy’n ddyledus i chi, neu efallai y cewch ormod o fudd-dâl (gordaliad) ac fe fydd yn rhaid ei ad-dalu yn nes ymlaen.
Ond, os ydych yn stopio cael un o’r budd-daliadau hyn am eich bod chi (neu eich partner) yn cael swydd neu mae eich oriau neu gyflog yn codi, efallai y byddwch yn medru parhau i gael Budd-dâl Treth Gyngor ar yr un gyfradd am bedair wythnos arall. Gelwir hyn yn daliad estynedig. Os nad ydych yn hawlio taliad estynedig (er enghraifft, am nad ydych wedi bod yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys am ddigon o amser) dylech ddweud am eich cynnydd mewn oriau neu gyflog fel newid mewn amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau estynedig Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Gwiriadau Budd-dâl Treth Gyngor, newid amgylchiadau a thwyll.
Os nad ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth,Budd-dâl Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol, fe fydd taliad Budd-dâl Treth Gyngor yn medru parhau’n ddigyfyng. Dylech ddweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich budd-dâl, er enghraifft, newid yn y bobl sy’n byw gyda chi, neu newid yn eich incwm neu gyfalaf. Os ydych yn symud, rhaid i chi ddweud beth yw eich cyfeiriad newydd. Os ydych yn symud i ardal awdurdod lleol newydd, fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais newydd.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, fe fyddwch yn medru dweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn am rai newidiadau mewn amgylchiadau, ac fe fyddan nhw’n pasio’r wybodaeth ymlaen i’r awdurdod lleol. Mae hyn oherwydd bod eich Budd-dâl Treth Gyngor yn seiliedig ar ffigurau’r Gwasanaeth Pensiwn ar gyfer eich incwm a’ch cyfalaf. Ond, mae yna rai newidiadau y mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod lleol amdanynt, sef:
Os nad ydych yn siŵr a ddylech ddweud wrth yr awdurdod lleol am newidiadau, dylech ddweud rhag ofn. Os nad ydych yn dweud am y newidiadau hyn, efallai na chewch yr holl fudd-dâl sy’n ddyledus i chi neu efallai y cewch ormod o fudd-dâl (gordaliad) ac fe fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn nes ymlaen. Os nad ydych yn dweud am newidiadau efallai y byddwch yn destun archwiliad am dwyll - gweler hefyd y pennawd Gwiriadau Budd-dâl Treth Gyngor, newidiadau mewn amgylchiadau a thwyll.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud amdanynt, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Os gwrthodir rhoi Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn i chi ac rydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir neu’n credu bod swm y budd-dâl wedi ei gyfrifo’n anghywir, rydych yn medru gofyn iddynt ailystyried y penderfyniad neu fe allwch apelio. Dylech wneud hyn o fewn un mis i’r penderfyniad ynghylch eich Budd-dâl Treth Gyngor.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan yr adran Budd-dâl Treth Gyngor (er enghraifft, oherwydd oedi hir neu gamgymeriadau sydd ddim yn cael eu sortio), fe allwch gwyno. Mae’n bosib i chi wneud hyn waeth a ydych chi hefyd yn herio penderfyniad ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn.
Mae yn erbyn y gyfraith i rywun wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ynghylch eich cais am Fudd-dâl Treth Gyngor.
Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno.
Am fwy o wybodaeth am herio penderfyniad ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, ac am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor neu Ad-daliad Ail Oedolyn, neu os ydych am gwyno, fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.