Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant yn fudd-daliadau sy'n cael eu talu gan Gyllid a Thollau EM (CAThEM). Mae mwyafrif y budd-daliadau eraill yn cael eu trafod gan yr Adran Gwaith a Pensiynau.
Mae Credyd Treth Plant ar gael i bobl sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, ac sydd ag incwm o dan swm penodol. Bydd y swm fyddwch chi’n ei dderbyn yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych, ac a oes ganddynt unrhyw anableddau. Mae Credyd Treth Plant ar gael os ydych yn gweithio neu beidio a chaiff ei dalu i brif gynhaliwr y cartref, fel arfer yn syth i mewn i gyfrif banc a enwebwyd.
Taliad yw Credyd Treth Gwaith i ychwanegu at enillion pobl sy’n gweithio ar incwm isel, yn cynnwys y rheiny sydd heb blant. Mae symiau ychwanegol yn daladwy os oes gennych anabledd, os ydych yn gweithio 30 awr neu fwy'r wythnos, a lle bod gennych gostau gofal plant. Mae Credyd Treth Gwaith yn cael ei dalu yn syth i mewn i'r cyfrif banc a enwyd. Delete text: O'r blaen, os oeddech chi'n gyflogedig, roedd Credyd Treth Gwaith (heblaw am yr elfen gofal plant) yn cael ei dalu trwy eich cyflog. Ond, mae'r system hon yn dod i ben yn raddol ac mae unrhyw geisiadau newydd gan weithwyr yn cael eu dalu gan CAThEM i mewn i gyfrif banc..Mae taliadau ar gyfer costau gofal plant yn cael eu talu'n syth at y prif gynhaliwr.
Fel arfer, mae Credydau Treth yn cael eu talu am flwyddyn, o Ebrill i Ebrill. Os ydych yn cyflwyno cais newydd am gredydau treth, fel arfer fe fydd eich taliadau’n rhedeg o ddyddiad eich cais hyd nes ddiwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, os ydych yn hawlio ar 10 Tachwedd 2009, fe fydd eich taliadau’n cael eu cyfrifo o’r dyddiad yna hyd nes 5 Ebrill 2010.
Efallai y bydd swm y Credydau Treth yr ydych yn ei dderbyn yn newid os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod y flwyddyn honno, er enghraifft, os ydych yn cael plentyn arall. Os ydych yn aelod o gwpl sy’n cydfyw, mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd. Rydych yn hawlio’r ddau gredyd treth ar yr un ffurflen. Gellir ôl-ddyddio ceisiadau am hyd at dri mis yn unig, felly dylech hawlio cyn gynted ag y medrwch.
I ddarganfod mwy am Gredyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.
I ddarganfod mwy am Gredyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.