Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos, mae’n bosib y gallwch hawlio Credyd Treth Gwaith (CTG) er mwyn ychwanegu at eich enillion. Os ydych yn gweithio llai na 16 awr, efallai y byddwch yn gallu parhau i hawlio Cymhorthdal Incwm. Os oes gennych blant, mae'n bosib y byddwch yn medru hawlio Credyd Treth Plant (CTP) os nad ydych yn ei gael y barod, ac efallai y byddwch yn gallu cael help gyda chostau gofal plant sydd wedi eu cynnwys mewn Credyd Treth Gwaith.
Gan ddibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill, mae’n bosib y byddwch yn dal i fedru hawlio Budd-dâl tai a Budd-dâl treth gyngor gyda’ch enillion a'ch credydau treth. Gan ddibynnu am faint yr ydych chi wedi bod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, efallai y byddwch yn gallu cael Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor ar yr un gyfradd am bedair wythnos gyntaf eich gwaith. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i Grant Gwaith pan fyddwch chi'n dechrau gwaith. Mae'r grant yma'n un taliad i helpu gyda chostau dechrau gweithio ar ôl i chi fod ar fudd-daliadau.
Os ydych yn cael help gyda llog eich morgais gyda’ch Cymhorthdal Incwm, efallai y byddwch yn medru cael taliadau ar gyfer y swm yma am y pedair wythnos gyntaf y byddwch yn eich gwaith, neu gynyddu eich oriau. Gelwir hyn yn ‘barhad llog morgais’. Rhaid eich bod chi wedi bod yn cael Cymhorthdal Incwm am o leiaf 26 wythnos.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i Grant Gwaith pan fyddwch chi'n dechrau gwaith. Mae'r grant yma'n un taliad i helpu gyda chostau dechrau gweithio ar ôl i chi fod ar fudd-daliadau.
Os oeddech yn cael Cymhorthdal Incwm am eich bod yn sâl neu'n anabl, ac rydych yn dychwelyd i'r gwaith am o leiaf 16 awr yr wythnos, rydych yn medru cael Credyd Dychwelyd i'r Gwaith. Mae hwn yn daliad o £40 yr wythnos nad oes modd ei drethi, a chaiff ei dalu am uchafswm o 12 mis os ydych yn ennill dim mwy na £15,000 y flwyddyn.
Mae help o fath arall hefyd ar gael i grwpiau penodol o bobl ddi-waith sy'n dechrau gweithio, er enghraifft rhieni sengl neu bobl sy'n 50 neu'n hyn. Dylech holi eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol am yr help sydd ar gael i chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith a help wrth i chi ddechrau gweithio, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda'ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Dychwelyd i'r Gwaith, gweler y pennawd Help pan fyddwch yn dechrau gwaith yn Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help i grwpiau penodol o bobl ddi-waith, gweler Cunlluniau cyflogaeth y llywodraeth.