Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dw i newydd gael babi ac wedi clywed bod y Cronfeydd Ymddiriedolaeth i Blant wedi dod i ben. Ydw i’n dal i fedru ei chael? Sut ydw i'n hawlio?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilion a buddsoddi i blant. Roedd y llywodraeth yn arfer rhoi taliadau i blant drwy'r cyfrif hwn ac fe fydd eich ffrindiau a'ch teulu hefyd yn gallu cyfrannu. Pan fydd eich plentyn yn 18, fe fydd yn cael mynediad at y cyfrif ac yn gallu gwario'r arian fel y mae am ei wario.

Ond, nid yw’r llywodraeth yn agor unrhyw gyfrifon newydd i blant a aned ers 2 Ionawr 2011.

Fe fydd cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth i Blant sydd eisoes wedi cael eu sefydlu yn parhau i weithredu hyd nes bod eich plentyn yn troi’n 18. Fe fydd eich teulu a’ch ffrindiau yn dal i fedru cyfrannu hyd at gyfanswm o £3,600 y flwyddyn.

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 31 Rhagfyr 2010, a chithau'n cael Budd-dâl Plant ar hyn o bryd, yna fe fydd eich plentyn yn gymwys i gael Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CYP).

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar y dyddiad y ganed eich plentyn.

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011, fe fydd y llywodraeth wedi rhoi taliad cychwynnol o £250. Os oeddech yn cael Credyd Treth Plant a’ch incwm yn llai na £16,190, fe fyddai’ch plentyn wedi cael taliad ychwanegol o £250.

Os ganed eich plentyn rhwng 2 Awst 2010 a 2 Ionawr 2011, fe fydd y llywodraeth yn rhoi taliad cychwynnol o £50. Os ydych yn cael Credyd Treth Plant ac mae’ch incwm yn llai na £16,190, fe fydd eich taliad ychwanegol gan y llywodraeth yn £50.

Roedd y llywodraeth yn arfer rhoi taliadau pellach pan fyddai’r plentyn yn troi’n saith oed ond nid yw’n talu’r taliadau hyn mwyach i blant sydd wedi troi’n saith ar 1 Awst 2010 neu ar ôl y dyddiad yma.

Nid oes yn rhaid i chi hawlio ar gyfer y cynllun, oherwydd mae talebau'n cael eu hanfon allan yn awtomatig at bobl sy'n cael Budd-dâl Plant i blentyn cymwys. Ond, mae'n rhaid i chi agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer eich plentyn er mwyn cael y taliad.

Os nad ydych wedi agor y cyfrif flwyddyn ar ôl derbyn y daleb, fe fydd y Llywodraeth yn gwneud hyn ar eich cyfer, ond fe fydd eich plentyn yn colli llog ar yr arian. Os rhyddheir y daleb i chi ar 1 Ionawr 2012, neu ar ôl y dyddiad yma, dim ond 60 diwrnod fydd gennych i agor y cyfrif, cyn i’r llywodraeth wneud hynny ar eich rhan.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a Budd-dâl Plant, Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â budd-daliadau: