Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae yna ganllawiau hawdd eu darllen sy’n trafod eich cartref. Maen nhw wedi cael eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu. Maen nhw’n sôn am rentu tŷ neu fflat neu berchen ar gartref. Maen nhw’n trafod yr holl bethau sydd angen i chi feddwl amdanynt, fel talu’r rhent neu’r morgais, a thalu eich biliau nwy a thrydan.
Mae’r canllawiau ar gael ar y rhyngrwyd yn: www.unitedresponse.org.uk.