Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae gan lawer o denantiaid gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig ond mae cytundeb cyfreithiol yn bodoli rhwng landlord a thenant p'un ai fod rhywbeth wedi'i ysgrifennu i lawr ai peidio. Gall cytundeb llafar fod wedi'i seilio ar y sgyrsiau a gafodd y landlord a'r tenant wrth gytuno'n wreiddiol ar amodau gosod yr adeilad. Mae'n bosib y bydd cytundeb llafar, fodd bynnag, yn anodd ei roi mewn grym, yn enwedig os nad oedd tystion i'r cytundeb.
Os ydych yn cael problemau naill ai gyda gorfodi amodau'r cytundeb, er enghraifft, atgyweiriadau, neu bod y landlord yn disgwyl i chi gytuno i rywbeth gwahanol i'r cytundeb tenantiaeth gwreiddiol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn gwybod pwy yw'r landlord, gallwch ysgrifennu at y person a gasglodd eich rhent y tro diwethaf, gan ofyn am enw a chyfeiriad llawn eich landlord. Dylech anfon y llythyr yma trwy post wedi'i gofnodi a chadw copi. Os nad yw'r person yr ydych wedi ysgrifennu ato/i yn ymateb o fewn 21 diwrnod, mae hyn yn drosedd. Byddwch yn medru hysbysu Swyddog Cysylltiadau Tenantiaeth yr awdurdod lleol, sy'n medru erlyn y person sydd wedi methu â darparu'r wybodaeth.
Cyn cysylltu â'r Swyddog Cysylltiadau Tenantiaeth, dylech ystyried a fedrai hyn bryfocio eich landlord i mewn i ymateb gyda bygwth i'ch troi allan. Dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes angen i chi ddarganfod pwy yw eich landlord oherwydd argyfwng, fel piben wedi byrstio, efallai y bydd yn gyflymach i chi hysbysu'r awdurdod lleol o'r argyfwng. Mae gan yr awdurdod lleol bwerau arbennig i gael mynediad a gwneud unrhyw waith angenrheidiol, ac gall gymryd camau i ddarganfod pwy yw eich landlord er mwyn ad-ennill y costau.
Dim ond tenant sydd â thenantiaeth wythnosol, neu denant sy'n talu'r rhent yn wythnosol, sydd â hawl i lyfr rhent.
Mae'n bwysig cofio mae eich dyletswydd chi yw talu'r rhent ac nid dyletswydd eich landlord yw ei gasglu.
Os ydych yn cael anhawster talu'r rhent a/neu'r treth gyngor am eich bod ar incwm isel efallai eich bod yn gymwys i dderbyn budd-dâl tai a/neu fudd-dâl treth gyngor.
Am wybodaeth ar fudd-dâl tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.
Am wybodaeth ar fudd-dâl treth gyngor, gweler Help gyda'ch treth gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Mae gan eich landlord hawl i fynediad rhesymol i wneud atgyweiriadau. Mae ystyr ‘mynediad rhesymol’ yn dibynnu ar y rheswm mae eich landlord angen cael mynediad. Er enghraifft, mewn argyfwng, mae gan eich landlord hawl i gael mynediad ar unwaith i wneud unrhyw waith angenrheidiol.
Mae gan eich landlord hefyd yr hawl i gael mynediad i'r adeilad i archwilio ei gyflwr neu i wacau mesurydd slot tanwydd, ond dylai bob tro ofyn am eich caniatâd a dylai roi o leiaf 24 awr o rybudd i chi.
Os ydych yn aros mewn llety lle cytunwyd bod eich landlord yn darparu gwasanaeth glanhau'r ystafell neu ble rydych yn rhannu ystafell gyda lletywyr eraill, mae eich landlord yn medru cael mynediad heb ganiatâd.
Nid oes hawl gan eich landlord i gael mynediad o dan unrhyw amgylchiadau eraill onid oes ganddynt orchymyn llys.
Os ydych yn cael problemau gyda'ch landlord yn cael mynediad i lety heb ganiatâd y tenant, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae gan eich landlord yr hawl i fynediad rhesymol i'r cartref i wneud atgyweiriadau (gweler y pennawd hawliau mynediad y landlord). Bydd yr atgyweiriadau y mae eich landlord yn gyfrifol amdanynt yn dibynnu ar y math o denantiaeth.
Am wybodaeth ar fathau o denantiaeth a'ch hawliau i atgyweiriadau, os ydyw'n eiddo tai cymdeithasol, gweler Atgyweiriadau a gwelliannau yn Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Am wybodaeth ar fathau o denantiaeth a'ch hawliau i atgyweiriadau, os ydyw'n eiddo preifat, gweler Atgyweiriadau yn Rhentu gan landlord preifat.
Am fanylion ar sut i gael atgyweiriadau wedi eu gwneud, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.
Os yw eich landlord am wneud gwelliannau, mae'n rhaid naill ai cael eich caniatâd i gael mynediad i'r cartref a gwneud y gwaith, neu gael gorchymyn llys yn eu hawdurdodi i gymryd meddiant o'r cartref. Mae hyn hefyd yn berthnasol os yw'r atgyweiriadau mor helaeth nad oes modd eu gwneud onid ydych yn symud allan. Efallai y bydd yn rhaid i'ch landlord ddarparu llety arall ar eich cyfer. Os nad ydych am symud allan, mae gan y landlord y pwer, mewn rhai amgylchiadau, i wneud cais i'r llys sirol i ailfeddiannu'r eiddo.
Os yw eich landlord am i chi adael er mwyn gwneud gwelliannau neu atgyweiriadau, ni ddylech gytuno i hyn tan i chi gael cyngor ar eich hawliau, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae'n drosedd i'ch landlord wneud unrhyw beth y mae'n gwybod sy'n debygol'ch yrru i adael y cartref neu'ch hatal rhag defnyddio eich hawliau cyfreithiol. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, eich poeni'n barhaus yn hwyr y nos neu rwystro'ch mynediad i'r cartref, creu swn, datgysylltu cyflenwadau dwr, nwy neu drydan lle mae eich landlord yn gwybod fod hynny yn debygol o'ch gyrru allan neu'ch perswadio i beidio â mynnu ar eich hawliau cyfreithiol.
Os ydych yn dioddef aflonyddu, dylech gyfeirio'r mater at Swyddog Cysylltiadau Tenantiaeth yr awdurdod lleol neu'r heddlu.
Mae yn erbyn y gyfraith i landlord eich poeni chi oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb. Mae poeni’n medru cynnwys gweithredoedd ac iaith sy’n eich brifo.
Rwy’n fenyw sy’n byw ar fy mhen fy hyn mewn fflat yr ydw i’n ei rhentu. Mae’r landlord wedi cadw’r allweddi ac mae’n galw i mewn drwy’r amser. Mae’n dweud ei fod yn cadw llygad ar yr eiddo ond mae’n gwneud sylwadau awgrymiadol. Dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dydw i ddim eisiau dweud wrtho nad ydyw’n cael dod i’r fflat rhag ofn iddo fy nhroi i allan.
Nid oes hawl gan eich landlord i’ch trin chi fel hyn. Mae hyn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail rhyw. Ac er bod hawl ganddo i gadw set o allweddi, nid oes hawl ganddo i ddod i mewn i’ch fflat pan fydd yn teimlo fel gwneud hynny. Mae angen i chi weld cynghorydd profiadol a fydd yn medru eich helpu i ddelio gyda’r landlord hwn.
Os ydych yn dioddef aflonyddu gan eich landlord dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae gwybodaeth bellach ar eich hawliau i gael eich diogelu rhag aflonyddu ar gael mewn llyfryn ar wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol yn www.communities.gov.uk.
Mae lletywr yn rywun sy'n byw gyda'r person sy'n byw yn y llety, yn derbyn prydau bwyd a gwasanaethau (fel glanhau a darparu dillad gwely), ac sydd, efallai, heb lety ei hun. Mae gan is-denant lety ei hun, sydd ar wahân (o leiaf un ystafell) ac fel arfer, nid fydd yn dod gyda phrydau bwyd a gwasanaethau.
Mae tenant awdurdod lleol neu gymdeithas dai yn medru cymryd lletywyr heb ganiatâd y landlord.
Mae gan rai tenantiaid preifat sydd â thenantiaeth di-ddodrefn yr hawl i gymryd lletywyr heb ganiatâd y landlord, ond dylech holi cynghorydd profiadol cyn gwneud hyn.
Fel tenant awdurdod lleol neu gymdeithas dai mae'n rhaid i chi gael caniatâd eich landlord cyn is-osod eich llety i is-denantiaid, ond ni all eich landlord wrthod yn afresymol. Mae is-osod y cyfan o'r llety yn medru bod yn sail ar gyfer meddiant. Mae hyn yn golygu bod landlord yn medru eich troi allan.
Mewn achosion eraill, mae'r hawl i is-osod yn dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth. Os ydych yn denant preifat dylech geisio caniatâd eich landlord cyn is-osod onid yw'r cytundeb tenantiaeth yn caniatau hyn yn benodol. Nid oes apêl yn erbyn landlord preifat sy'n gwrthod caniatau is-osod.
Os ydych yn dymuno is-osod neu gymeryd lletywyr, byddai'n ddoeth i chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae cartref sydd wedi'i orlenwi yn un lle:-
Mae'r awdurdod lleol, mewn amgylchiadau penodol, yn medru erlyn y landlord a'r preswylydd mewn cartref sydd wedi'i orlenwi.
Os ydych mewn llety sydd wedi'i rhentu'n breifat ac rydych ar restr aros yr awdurdod lleol, dylech hysbysu'r adran dai eich bod yn byw mewn llety sydd wedi'i orlenwi. Os nad ydych ar y gofrestr dai/rhestr aros dylech wneud cais i fod arno. Os ydych yn byw mewn llety awdurdod lleol, dylech hysbysu'r adran dai o'ch sefyllfa a gofyn am gael eich symud.
Os ydych yn credu bod eich cartref wedi'i orlenwi, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae'n rhaid i'ch landlord ddarparu'r gwasanaethau sydd angen arnoch, o fewn rheswm. Mae'r gwasanaethau yma yn cynnwys cyflenwad nwy, trydan a dwr.
Fel y tenant, mae'n rhaid i chi dalu am y tanwydd a'r dwr yr ydych yn ei ddefnyddio. Rydych yn medru talu'r bil eich hun, neu efallai bydd cost y tanwydd a'r dwr wedi ei gynnwys yn y rhent a bydd eich landlord yn talu biliau'r cwmni tanwydd neu ddwr.
Efallai y byddwch yn medru cael get help os ydych yn cael trafferth talu eich bil.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â help gyda biliau nwy, gweler Cyflenwad nwy.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda biliau trydan, gweler Cyflenwad trydan.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda biliau dwr, gweler Cyflenwad dwr.
Mae yna gyfyngiadau cyfreithiol i'r swm y mae eich landlord yn medru codi am eich tanwydd a gyflenwir trwy fesurydd rhag-daliad a ddarperir gan eich landlord. Os gosodir mesurydd rhag-daliad fel ei fod yn codi mwy na'r terfynau cyfreithiol, mae hawl gennych i dderbyn ad-daliad pan caiff ei wacau.
Os byddwch yn talu eich landlord bob tro bydd bil yn cyrraedd a chithau'n teimlo bod y swm yn rhy uchel, dylech ofyn am gael gweld y bil cyn ei dalu.
Os telir am danwydd gyda'r rhent, dylech wirio a oes yna gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig sy'n nodi sut mae hyn yn cael ei asesu. Os cofrestrir y rhent gyda'r Swyddog Rhent, efallai bod swm y tanwydd wedi'i nodi ac ni ellir newid hyn heb gytundeb Swyddog Rhent.
Am fanylion ynghylch yr uchafswm y mae eich landlord yn medru ei godi am nwy a thrydan, cysylltwch â darparydd y tanwydd neu gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw eich landlord yn gyfrifol am dalu'r bilau tanwydd ac yntai heb wneud hynny, mae'n bosib y bydd y cyflenwad yn cael ei dorri. Os yw hyn wedi digwydd, neu os ydych yn credu ei fod yn debygol o ddigwydd, gallech:-
Os nad ydych yn medru cael cyflenwad yn eich enw chi, dylech gael cymorth cynghorydd profiadol cyn i chi gymryd unrhyw gamau pellach, er enghraifft, gan Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Mewn rhai achosion, efallai y bydd eich landlord yn dial trwy fygwth eich troi allan a dylech holi pa sicrwydd sydd gennych yn gyntaf.
Mae gennych yr hawl i unrhyw wasanaethau sydd angen arnoch i ddefnyddio'r llety fel eich cartref, heb unrhyw ymyrraeth gan eich landlord.
Ni ddylai eich landlord dorri cyflenwad tanwydd neu ddwr am nad ydych wedi talu eich rhent.
Os ydych wedi cael eich cyflenwad tanwydd neu ddwr wedi'i ddatgysylltu gan eich landlord, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol ar unwaith, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae eich landlord yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw offer trydanol a geir gyda'r llety yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwresogyddion, cwceri, tecellau ac unrhyw nwyddau trydanol eraill.
Os ydych yn poeni nad yw offer trydanol yn ddiogel, gallech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr ar: 08454 04 05 05.
Mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod unrhyw ffitiadau ac offer nwy mewn offer yn y llety sy'n cael ei rhentu yn ddiogel.
Mae'n rhaid i'ch landlord drefnu gwneud a thalu am wiriadau diogelwch ar offer o leiaf unwaith bob deuddeg mis. Mae'n rhaid i berson sydd wedi cofrestru gyda’r Gofrestr Diogelwch Nwy wneud y gwiriad.
Am fwy o wybodaeth ar y Gofrestr Diogelwch Nwy, gweler y pennawd Cymdeithasau defnyddiol yn Cyflenwad nwy.
Mae'n rhaid i'ch landlord gadw cofnod o ddyddiadau archwiliadau, unrhyw ddiffygion a ganfyddwyd ac unrhyw waith a wnaed i unioni'r diffyg. Mae'n rhaid i chi gael copi o'r cofnod yma.
Os nad yw eich landlord yn gwneud gwiriadau rheolaidd ar offer nwy neu os ydyw'n gwrthod rhoi copi o gofnod yr archwiliad i chi, gallech gysylltu â swyddfa a Diogelwch (CIaD), sydd â dyletswydd i orfodi gofynion diogelwch.
Dyma fanylion cyswllt Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:-
Llinell Wybodaeth Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Parc Busnes Caerffili
Caerffili
CF83 3GG
Rhif Ffon: 0800 300363 (Llun - Gwener 8yb-8yh; Dydd Sadwrn -10yb-4yp)
E-bost: hse.infoline@connaught.plc.uk
Gwefan: http://www.hse.gov.uk/index.htm
Os yw eiddo yn cael ei osod wedi ei ddodrefnu, fel tenant gallech ddisgwyl lefel o ddodrefnu a fyddai'n rhesymol i'ch galluogi i fyw yn y llety. Byddai hyn yn cynnwys:-
Mae'n rhaid i unrhyw ddodrefn sydd wedi eu clustogi gydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân (gweler y pennawd Diogelwch tân dodrefn).
Os ydych yn credu nad yw'r ddarpariaeth yn ddigonol, gallwch ddarparu eich dodrefn eich hyn, onid yw'r cytundeb tenantiaeth yn gwahardd hyn.
Os nad ydych yn hapus gyda chyflwr y dodrefn pan fyddwch yn symud i mewn, gallech ystyried trafod hyn gyda'ch landlord. Efallai y bydd eich landlord yn cytuno rhoi dodrefn arall yn ei le. Gallech wirio'r hyn a nodwyd yn y restr o gynnwys (os oes un yn bodoli) (gweler isod), neu'r cytundeb tenantiaeth ynghylch cyflwr y dodrefn.
Mae rhestr o gynnwys yn restr o ddodrefn a chynnwys eraill sydd wedi eu darparu yn y llety gan eich landlord.
Fel arfer, mae eich landlord yn llunio'r rhestr. Dylai restru popeth a ddarperir yn y llety i'w ddefnyddio gennych, gyda disgrifiad o'r eitemau, gan gynnwys eu hoed a'u cyflwr.
Os oes nam ar eich golwg, rydych yn medru gofyn i’ch landlord ddarparu rhestr o gynnwys ar ffurf wahanol, er enghraifft, ar dâp sain. Efallai y bydd eich landlord yn gwahaniaethu yn eich erbyn os ydyw’n gwrthod gwneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Dylech wirio eich bod yn cytuno â'r rhestr, ei arwyddo a'i ddyddio.
Os nad yw eich landlord yn llunio ac yn cytuno ar restr o'r fath, gallwch lunio un wrth i chi symud i mewn i'r llety a'i gael wedi'i arwyddo a'i ddyddio gan dyst annibynnol, hynny yw rhwyun sydd ddim yn berthynas agos nac yn ffrind.
Mae'n rhaid i unrhyw ddodrefn a ddarperir gan eich landlord fedru gwrthsefyll tân, onid yw'r landlord yn gosod ty yn eu cartref eu hun, neu'n gosod y ty cyfan dros dro.
Dylai unrhyw ddodrefn newydd ac ail-law a werthwyd wedi Medi 1 1990 gwrdd â rheoliadau diogelwch tân, a chario label sy'n dweud hynny. Dylai'r labelu fod wedi eu glynnu'n barhaol i ran o'r eitem sydd ynghudd. Os nad oes y fath label ar ddarn o ddodrefn yn dweud ei fod yn cwrdd â'r rheoliadau, mae'n debygol nad yw'r eitem yn cwrdd â'r rheoliadau ac mae'n rhaid ei adnewyddu.
Os oes gennych ddodrefn neu ffitiadau sydd wedi eu niweidio, dylech ddweud wrth y landlord beth sydd wedi digwydd a cheisio cytuno ar sut i drefnu eitem newydd yn ei le neu atgyweiriad, a sut gwneir taliadau.
Os ydych yn adnewyddu neu'n atgyweirio eitem heb gytundeb eich landlord, efallai y bydd eich landlord yn nodi hyn ar ddiwedd y denantiaeth, wrth wirio'r rhestr. Yna, gallai'r landlord dynnu swm oddi ar y blaendal neu gymryd camau cyfreithiol yn eich herbyn am iawndal.
Dros gyfnod o amser, mae'r rhan fwyaf o ddodrefn a chynnwys y cartref yn dirywio o ganlyniad i ddefnydd arferol, er enghraifft, bydd gorchuddiadau llawr yn cael eu treulio. Ni fyddwch yn gyfrifol am sicrhau eitemau yn lle'r eitemau yma.
Os yw graddau'r treulio yn golygu perygl, er enghraifft, sbringiau mewn cadair freichiau yn gwthio trwy'r defnydd, dylai eich landlord atgyweirio neu gynnig eitem arall yn lle.
Os yw'ch landlord wedi cyflenwi offer fel cwcer neu beiriant golchi a oedd yn gweithio ar ddechrau'r denantiaeth, mae ganddynt gyfrifoldeb i'w atgyweirio neu gynnig un arall yn lle os yw'n torri i lawr, onid yw hyn o ganlyniad i'ch esgeulustod chi.
Os oes difrod neu golled i ddodrefn neu gynnwys, gallai'r gost ddod o dan yswiriant eich landlord neu'ch un chi'ch hun.
Gallai'r cytundeb tenantiaeth nodi pwy sy'n gyfrifol am unrhyw ddifrod neu golled i gynnwys. Dylai'r person cyfrifol, naill ai chi neu'r landlord, ystyried trefnu polisi yswiriant ar gyfer y cyfrifoldeb yma.
Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu yswiriant ar gyfer unrhyw gynnwys neu eiddo sy'n eiddo i chi.
Os oes set deledu, DVD neu recordydd fideo yn y llety, eich cyfrifoldeb chi yw cael trwydded deledu, onid yw'ch landlord wedi gosod y set yno. Fodd bynnag, hyd yn oed os yw eich landlord yn darparu'r set, dylech wirio bod trwydded yn bodoli trwy gysylltu â'r Swyddfa Cofnodion Trwyddedau Teledu Cenedlaethol. Os nad oes yna drwydded, gallech gael eich herlyn am mai chi syn defnyddio'r set.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â setiau teledu a DVD neu recordwyr fideo, gweler Trwyddedau teledu.
Os yw'r cytundeb tenantiaeth yn nodi y dylai eich landlord ddarparu gwasanaethau penodol, er enghraifft, garddio mannau cyffredin neu olau, mae'n rhaid gwneud hynny.
Os nad yw eich landlord yn darparu'r gwasanaethau y cytunwyd arnynt, neu os yw'n darparu lefel annigonol o wasanaeth, efallai y byddwch yn dymuno trafod gyda'r landlord i orfodi'r cytundeb. Fodd bynnag, dylech gofio, os ydych yn cweryla gyda’ch landlord, efallai y byddwch yn cael eich troi allan. Efallai y bydd hyn yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych.
Os ydych yn cael problemau gyda darpariaeth gwasanaethau gan eich landlord, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid oes hawl gan eich landlord i wahaniaethu yn eich erbyn wrth ddarparu gwasanaethau. Er enghraifft, mae eich landlord yn gyfrifol am lanhau’r holl landinau mewn bloc o fflatiau ac mae’n trefnu glanhau pob un heblaw am y rhai ble mae tenantiaid Asiaidd yn byw. Mae’n bosib fod hyn yn wahaniaethu ar sail hil a byddai yn erbyn y gyfraith.
Os ydych yn dioddef gwahaniaethu gan eich landlord, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer eich landlord sy'n gyfrifol am atgyweiriadau allanol a rhai strwythurol sylweddol. Fel arfer chi sy'n gyfrifol am addurno mewnol ac am sicrhau nad yw dodrefn a chynnwys eraill, a ffitiadau yn cael eu niweidio oherwydd eich esgeulustod (gweler y pennawd Difrod neu golled i eiddo/dodrefn).
Fel arfer, ni fyddwch yn gyfrifol am unioni unrhyw ddirywiad sydd wedi'i achosi gan ‘dreulio teg' (gweler y pennawd Treulio). Fel arfer, bydd eich hunion gyfrifoldebau yn cael eu disgrifio yn y cytundeb tenantiaeth.
Mae'n rhaid i chi ofalu am yr eiddo trwy wneud y pethau bychain y gellir eu disgwyl yn rhesymol gennych, er enghraifft, dadflocio dreiniau ac atgyweirio ffiwsys.
Dylech hefyd hysbysu'r landlord ynghylch unrhyw sefyllfa a allai achosi difrod i'r eiddo, er enghraifft, to sy'n gollwng.
Os yw eich landlord yn hawlio eich bod wedi niweidio'r eiddo, bydd fel arfer yn cadw'r cyfan neu ran o unrhyw flaendal y byddwch wedi'i dalu i gwmpasu cost y difrod (gweler y pennawd Cael blaendal yn ôl ar ddiwedd tenantiaeth, isod).
Os ydych wedi talu blaendal i'ch landlord ar gychwyn tenantiaeth fel sicrwydd ar gyfer unrhyw rhent sy'n ddyledus neu ddifrod i eiddo, dylech gael hyn yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth os cadwyd y llety mewn cyflwr da ac os nad oes unrhyw ddyledion.
Os yw'ch landlord yn gwrthod dychwelyd y blaendal neu'n gwneud didyniadau, dylech wirio amodau'r cytundeb tenantiaeth neu'r rhestr cynnwys y cytunwyd arno (os oedd un yn bodoli) i weld beth ddylai fod wedi'i gwmpasu yn y blaendal. Yn achos difrod i eiddo, bydd yn aml yn rhatach i chi unioni'r difrod cyn i'ch landlord ddod i archwilio'r eiddo nag i'r landlord godi arnoch am gost atgyweiriadau.
Os oeddech wedi talu eich blaendal cyn 6 Ebrill 2007 ac mae’ch landlord wedi gwrthod ei ddychwelyd, efallai y bydd yn rhaid i chi ddwyn achos yn y llys sirol i’w gael yn ôl. Os cafodd y blaendal ei dalu o 6 Ebrill 2007, ac mae gennych denantiaeth fyrddaliol sicr, mae’n rhaid i’ch landlord ddefnyddio cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth. Mae hyn yn golygu bod eich blaendal yn ddiogel, a bod ‘na weithdrefn yn bodoli y gallwch ei defnyddio i ddatrys unrhyw broblemau ynglyn â’r blaendal ar ddiwedd tenantiaeth, heb fynd i’r llys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau blaendal tenantiaeth, gweler Blaendaliadau tenantiaeth yn y Ffaith-daflenni Tai.
Os ydych yn ystyried camau yn y llys i ad-ennill eich blaendal, bydd angen help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych yn defnyddio'r eiddo cyfan yr ydych yn ei rentu fel eich cartref at ddiben busnes ac nid ydych yn byw yno mwyach, byddwch yn colli unrhyw sicrwydd daliadaeth a oedd gennych a gallai'ch landlord eich troi allan.
Gallwch ddefnyddio rhan o'r cartref at ddiben busnes cyhyd â bod hyn heb ei wahardd yn benodol yn y cytundeb tenantiaeth ac nad yw'n achosi niwsans i gymdogion. Fel tenant preifat ni ddylech, fodd bynnag, ddefnyddio'r cartref at ddiben busnes heb ganiatâd eich landlord oherwydd hyd yn oed os oes gennych hawl cyfreithiol i wneud hynny, efallai y bydd eich landlord yn medru rhoi reswm arall dros eich troi allan, os nad yw'n fodlon.
Efallai y bydd arnoch angen caniatâd yr awdurdod lleol i redeg busnes. Er enghraifft, efallai bod angen caniatâd cynllunio, neu drwydded arbennig, yn dibynnu ar y weithgaredd. Gallai'r defnydd busnes hefyd arwain at asesu rhan o'r cartref ar gyfer y gyfradd busnes unffurf.
Os ydych o dan fygythiad cael eich troi allan am i chi ddefnyddio'r llety at ddibenion busnes, efallai y byddwch yn medru amddiffyn unrhyw gamau, gan ddibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych, ond bydd angen help cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori arnoch. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae hawl gennych i gadw anifeiliaid anwes tra nad yw hyn wedi ei wahardd yn benodol yn y cytundeb tenantiaeth ac nad yw'n peri niwsans i gymdogion. Fodd bynnag, fel arfer dylech ofyn am ganiatâd eich landlord oherwydd, hyd yn oed os oes gennych hawl cyfreithiol i gadw anifeiliaid anwes, os nad yw eich landlord yn fodlon, efallai y byddwch yn cael eich troi allan yn y pendraw.
Mae p’un ai y byddwch yn cael eich troi allan ai peidio yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych. Os ydych o dan fygythiad cael eich troi allan am eich bod yn cadw anifeiliaid anwes, efallai y bydd modd i chi amddiffyn hyn hyd yn oed os ydyw'n torri'r cytundeb tenantiaeth ond bydd yn rhaid i chi gael gwared ar yr anifail anwes. Mae hyn, fodd bynnag, yn dibynnu ar ba fath o denantiaeth sydd gennych. Er enghraifft, os yw'r landlord yn rhannu'r cartref gyda chi, ni fyddwch yn medru atal cael eich troi allan, er y byddwch yn medru oedi'r broses.
Os ydych yn cadw anifeiliaid anwes pan mae hyn wedi'i wahardd gan y cytundeb tenantiaeth, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes amod yn eich cytundeb tenantiaeth sy’n gwahardd anifeiliaid anwes, rydych yn medru gofyn i’ch landlord i’w newid i’ch galluogi chi i gael ci cymorth.
Rhaid i’ch landlord gytuno i wneud hyn os ydych yn anabl ac angen ci cymorth i fedru byw yn yr eiddo. Gelwir hyn yn ‘addasiad rhesymol’. Os yw’ch landlord yn gwrthod gwneud addasiad rhesymol, efallai y bydd yn gwahaniaethu ac efallai ei fod yn ymddwyn yn anghyfreithlon
O dan rai amgylchiadau, mae landlord yn medru gwrthod gwneud addasiad rhesymol os oes rheswm digon da dros wneud hynny, er enghraifft ar sail iechyd a diogelwch.
Os ydych yn anabl ac mae’ch landlord yn gwrthod gadael i chi gadw ci cymorth, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yna lawer o reolau ynghylch y rhybudd y mae angen ei roi er mwyn dod â chytundeb tenantiaeth i ben a gwneud cais am orchymyn ildio meddiant gan y llys. Mae'r rheolau'n cwmpasu hyd y notis sydd angen, y ffordd o'i roi a'r dyddiadau ar gyfer ei roi mewn grym.
Yn y mwyafrif o achosion, mae'n rhaid i'ch landlord roi rhybudd arbennig i chi cyn y bydd yn medru gwneud cais am orchymyn ildio meddiant. Mae'r rheolau'n amrywio gan ddibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.
Os yw landlord preifat am ddiweddu tenantiaeth ar y dyddiad y mae'r cytundeb yn dod i ben, yna mae'n rhaid rhoi rhybudd yn cydymffurfio â rheolau arbennig.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch sut mae landlord yn dod â thenantiaeth i ben mewn llyfryn a gynhyrchwyd ar gyfer tenantiaid a landlordiaid yng Nghymru a Lloegr. Mae ar gael ar wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol yn www.communities.gov.uk.
Os ydych wedi cael rhybudd gan eich landlord ond rydych am adael cyn diwedd cyfnod y rhybudd, dylech gysylltu â’ch landlord. Mae’n syniad da i chi weld os ydych yn medru dod i gytundeb gyda’ch gilydd ynghylch diwedd y rhybudd. Nid yw’n syniad da gadael heb ddod i gytundeb, oherwydd fe fydd eich cytundeb yn parhau er eich bod chi wedi gadael, ac mae’ch landlord yn medru parhau i godi rhent arnoch.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch sut mae landlord yn dod â thenantiaeth i ben mewn llyfryn a gynhyrchwyd ar gyfer tenantiaid a landlordiaid yng Nghymru a Lloegr. Mae ar gael ar wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol yn www.communities.gov.uk.
Yn gyffredinol, mae'n rhaid i chi roi'r un faint o rhybudd a'ch landlord i ddod â chytundeb tenantiaeth i ben. Y ffordd orau bob tro yw rhoi'ch rhybudd yn ysgrifenedig.
Os ydych am derfynu cytundeb tymor sefydlog cyn iddo ddod i ben, gallwch hefyd wneud hynny gyda chaniatâd eich landlord neu os oes amod yn y cytundeb sy'n caniatau hyn. Fel arall, gallech fod yn gyfrifol am y rhent ar gyfer gweddill yr amser a gwmpasir yn y cytundeb tymor sefydlog.
Os ydych am derfynu cytundeb tymor sefydlog yn gynnar, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Os ydych wedi rhoi rhybudd i'ch landlord ac yna'n newid eich meddwl ac am aros ymlaen, dylech hefyd gael help cynghorydd profiadol, gan bod yna wahanol reolau ar gyfer gwahanol fathau o denantiaeth.
Os ydych am ddiweddu cytundeb cyfnodol, dylech ddarllen y cytundeb i weld beth mae’n ei ddweud. Mae cytundeb cyfnodol yn un sy’n rhedeg o un cyfnod rhentu i’r nesaf, er enghraifft, o fis i fis. Os nad yw’ch cytundeb yn dweud unrhyw beth am ddiweddu’r cytundeb, fel arfer mae’n rhaid i chi roi o leiaf pedair wythnos o rybudd.
Os ydych yn gadael heb roi rhybudd iawn, efallai bydd eich landlord â hawl i godi rhent hyd at y dyddiad pan ddylai'r rhybudd fod wedi dod i ben, neu hyd at ddiwedd y cytundeb tenantiaeth os ydyw'n gytundeb tymor sefydlog ac ni roddwyd unrhyw rybudd o gwbl gennych.
Bron heb os, bydd angen help cynghorydd profiadol os oes yn ddadl ynghylch dyledion rhent yn y sefyllfa yma, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Bydd sut mae eich landlord yn medru meddiannu'r llety yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.
Am wybodaeth ar fathau o denantiaeth a'ch hawl i aros yn y llety os yw'n eiddo tai cymdeithasol gweler Yr hawl i aros yn y llety yn Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Am wybodaeth ar fathau o denantiaeth a'ch hawl i aros yn y llety os yw'n eiddo preifat gweler Yr hawl i aros yn y llety yn Rhentu gan landlord preifat.
Unwaith y byddwch chi neu'ch landlord wedi rhoi rhybudd, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu y gallwch gael eich troi allan. Mewn bron pob achos mae angen gorchymyn llys, ac mae angen rhybudd pellach o drefniadau llys yn aml. Bydd p'un ai fydd y llys yn caniatau eich troi allan yn dibynnu ar y math o denantiaeth a'r rhesymau dros geisio eich cael wedi eich troi allan. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai na fydd angen gorchymyn llys. Er enghraifft, nid oes angen gorchymyn llys i'ch troi allan o'ch cartref os oes gennych landlord preswyl a cychwynnodd y denantiaeth wedi Ionawr 15 1989.
Os gofynnodd eich landlord i chi adael y llety neu os dywedwyd wrthych eu bod yn cymryd rhan mewn trefniadau llys am feddiant, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe fydd gan nifer fawr o lysoedd gynllun desg dyletswydd ble rydych yn medru cael cyngor a/neu gynrychiolaeth yn y gwrandawiad llys. Yn Lloegr, rhowch glic ar www.nhas.org.uk i weld os oes gan eich llys lleol gynllun.
Os oes gan eich landlord orchymyn gan y llys yn rhoi meddiant o'r eiddo iddynt, nid oes yn rhaid i chi adael hyd nes y dyddiad ar y gorchymyn.
Mae eiddo yr ydych wedi ei adael ar ôl yn dal i fod yn eiddo i chi ac fel arfer dylid ei ddychwelyd atoch pan fyddwch yn gofyn amdano.
Os ydych yn gadael pethau ar ôl wrth i chi ildio tenantiaeth, gallai eich landlord godi tâl arnoch am gost eu clirio nhw allan o'r cartref.
Os na fydd eich landlord yn dychwelyd eich heiddo a adawyd yn y llety, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gelwir pasio tenantiaeth ymlaen at rywun arall yn aseinio. Mae'r rheolau ynghylch pwy sy'n medru aseinio tenantiaeth a phwy sydd ddim yn medru gwneud hynny yn gymhleth iawn.
Os ydych am aseinio eich tenantiaeth i rywun arall, dylech bob tro ymgynghori â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pan fydd tenant yn marw, mae yna reolau a allai alluogi'r denantiaeth i gael ei phasio i bartner y tenant neu, weithiau, aelod arall o'r teulu sydd wedi bod yn byw gyda'r tenant. Mae'r rheolau yma'n berthnasol waeth beth a nodwyd yn y cytundeb tenantiaeth. Mae cytundeb tenantiaeth yn medru cynyddu hawliau sylfaenol tenant, ond nid yw'n medru cymryd yr hawliau yma i ffwrdd. Mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer gwahanol fathau o denantiaeth.
Os ydych am wybod sut mae'r rheolau'n berthnasol mewn achos penodol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae fy mhartner o’r un rhyw newydd farw. Roeddem yn byw gyda’n gilydd mewn flat cyngor gydag un ustafell wely ers y 25 lynedd diwethaf ond roedd y fflat yn ei enw ef ac nid oeddem wedi cofrestr partneriaeth sifil. Rwy’n ofn cael fy nhroi allan.
Fwy na thebyg bod hawl gennych i aros yn y fflat. Gelwir hyn yn hawl i olynu. Yn ôl y gyfraith mae partneriaid mewn cyplau o’r un rhyw, neu o ryw gwahanol, yn cyfrif fel aelod o deulu’r person a fu farw. Mae hyn yn golygu, fwy na thbyg, y bydd gennych yr hawl i olynu cyhyd â bod y canlyol yn wir:
Dylech gael cyngor am eich sefyllfa gan gynghorydd ta porfiadol.
Ni ddylai landlord wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb. Mae hyn yn golygu eu bod fwy na thebyg yn torri’r gyfraith os ydynt yn:
Mae yna rai amgylchiadau ble na fydd y rheolau cyffredinol ynghylch gwahaniaethu yn berthnasol, er enghraifft, os yw’ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
Os ydych yn credu bod eich landlord yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.