Pan fyddwch chi’n rhentu cartref, mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth fedrwch chi ei fforddio ac mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall y math o gytundeb rhentu yr ydych yn ei lofnodi.
Dyma gyfle i chi gael gwybod mwy am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel tenant, fel eich bod yn medru dilyn y rheolau. Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi ar broblemau y byddwch, efallai, yn eu cael wrth rentu. Darllenwch beth ddylech chi ei wneud os ydych yn wynebu’r posibilrwydd o gael eich troi allan o’ch cartref.
