Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Ymdopi â’ch morgais

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ymdopi â’ch morgais

Hyd yn oed os nad ydych yn ei chael yn anodd talu’ch morgais, fe fyddwch chi am sicrhau eich bod yn cadw rheolaeth ar eich taliadau ac nad ydych yn mynd i unrhyw drafferth.

Ar y dudalen hon, rydyn ni’n edrych ar:

Cofiwch eich bod yn medru colli eich cartref os nad ydych yn cadw i fyny gyda’r ad-daliadau ar eich morgais.

Nôl i’r brig


Cynllunio’ch cyllideb

Cyfrifwch faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, a faint sydd ei angen arnoch i fyw bob mis. Cofiwch gynnwys swm ar gyfer bwyd, dillad a chostau eraill y cartref, ar eich cyfer chi a’ch teulu. Fe fydd angen i chi gynllunio ar gyfer biliau rheolaidd fel nwy, trydan, dŵr a’r dreth gyngor. Sicrhewch eich bod yn hawlio’r holl ostyngiadau posib y mae hawl gennych i’w cael ar y dreth gyngor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio gostyngiadau ar eich treth gyngor neu gael Budd-dal y Dreth Gyngor, gweler Treth gyngor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio gostyngiadau ar eich ardrethi yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda’ch ardrethi.

Pan fyddwch chi’n cynllunio’ch cyllideb, ceisiwch restru popeth yr ydych yn gwario arian arno. Mae defnyddio teclyn cyfrifo cyllid yn medru helpu . Mae cadw dyddiadur o’ch gwariant hefyd yn medru eich helpu i weld ble mae’ch arian yn mynd. Peidiwch ag anghofio eitemau achlysurol fel pen-blwyddi a phethau yr ydych yn talu amdanynt unwaith y flwyddyn, fel treth ac yswiriant y car. Mae cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y Nadolig a gwyliau crefyddol eraill hefyd yn gallu helpu.

Fe allwch ddefnyddio’n teclyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyllideb. Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfrifo’ch cyllideb, gweler Sut i gyfrifo’ch cyllideb.

Mae’n syniad da edrych dros eich cyllideb yn rheolaidd. Os yw’ch amgylchiadau’n newid am y gorau, mae angen i chi sicrhau eich bod yn cael y mwyaf allan o unrhyw incwm ychwanegol. Os fydd pethau’n newid er gwaeth, fe fydd angen i chi edrych i weld ble fedrwch chi dorri yn ôl fel eich bod chi’n dal i fedru ymdopi ar lai o arian.

Am fwy o wybodaeth ynghylch manteisio i’r eithaf ar eich incwm, gweler Cynyddu eich incwm. Am fwy o wybodaeth ynghylch torri yn ôl, gweler Sut i wario llai.

Ail-forgeisi a benthyciadau diogel

Meddyliwch yn ofalus iawn cyn cymryd ail forgais neu fenthyciad diogel i’ch helpu i gael dau ben llinyn ynghyd neu i ddod ag arian ychwanegol i mewn. Mae benthyciad diogel yn defnyddio’ch eiddo chi fel sicrwydd rhag ofn na fyddwch chi’n medru talu’r ad-daliadau. Dylech ailedrych ar eich cyllideb yn gyntaf i sicrhau eich bod yn medru’i fforddio. Os nad ydych yn cadw i fyny gyda’r ad-daliadau ar ail forgais neu fenthyciad diogel, fe allech golli’ch cartref.

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu benthyciadau, dylech gael cyngor cyn cymryd ail forgais neu fenthyciad diogel. Gweler Help gyda dyled, neu cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ydych chi’n cael y ddêl orau ar gyfer eich morgais

Byddai’n ddoeth chwilio bob nawr ag yn y man i sicrhau eich bod yn cael y ddêl orau ar eich morgais. Os ydych wedi llofnodi dêl morgais arbennig am gyfnod sefydlog, cofiwch chwilio i weld os oes dêl well ar gael ychydig fisoedd cyn i’ch dêl bresennol ddod i ben. Mae angen i chi sicrhau nad ydych yn talu mwy nag sy’n rhaid i chi neu efallai y byddwch yn cael trafferth cwrdd â’r ad-daliadau.

Peidiwch â chwilio am gyfraddau llog is yn unig. Mae angen i chi feddwl am gost newid at ddêl newydd hefyd. Cofiwch, efallai y bydd benthyciwr yn codi tâl am newid y math o forgais sydd gennych neu am gau eich cyfrif morgais ynghynt nag a gytunwyd. Os ydych yn newid at fenthyciwr arall, efallai y bydd eich benthyciwr newydd hefyd yn codi taliadau ychwanegol felly sicrhewch eich bod yn archwilio’r holl gostau cyn llofnodi. Mae cyngor ar gael gan gynghorydd ariannol annibynnol.

Nôl i’r brig


Ymdopi gyda chynnydd yn eich taliadau morgais neu ostyngiad yn eich incwm

Os oes morgais cyfradd newidiol gennych, cofiwch y bydd eich ad-daliadau’n codi os yw cyfraddau llog yn codi. Os yw cyfraddau llog yn gostwng, ni fydd pob benthyciwr yn gostwng eu cyfraddau, felly gofynnwch i’ch benthyciwr beth fyddan nhw’n ei wneud os yw hyn yn digwydd. Os nad ydych yn siŵr p’un ai fod gennych forgais cyfradd newidiol, gofynnwch i’ch benthyciwr neu rhowch glic ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Os oes morgais gennych sydd â chyfradd isel i ddechrau, am gyfnod sefydlog, sicrhewch eich bod yn gwybod pryd fydd y cyfnod sefydlog yn dod i ben a chwiliwch ychydig fisoedd cyn hynny i weld pa ddêl fydd eich benthyciwr yn ei chynnig i chi. Chwiliwch am yr holl fanylion eraill sydd ar gael a mynnwch gyngor ariannol os oes angen.

Fe fyddwch yn medru defnyddio teclyn cyfrifo morgais i gyfrifo faint fydd eich ad-daliadau morgais yn codi os yw’r cyfraddau llog yn codi. Ewch at wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Rydych yn medru cynllunio ymlaen llaw ar gyfer cynnydd yn y gyfradd llog a gostyngiad yn eich incwm trwy:

  • gymryd yswiriant damwain, afiechyd a diweithdra
  • cynnwys cynnydd mewn cyfraddau llog yn eich cyllideb. Defnyddiwch y teclyn cyfrifo morgais, a defnyddiwch gyfraddau llog sydd 1% neu 2% yn uwch na’r cyfraddau llog presennol, i weld a fyddech chi’n dal i fedru fforddio’ch morgais a byw eich bywyd fel yr ydych am ei fyw. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk
  • cadw cronfa argyfwng trwy gynilo peth arian mewn cyfrif cynilion bob wythnos neu fis
  • ailedrych ar eich cyllideb yn rheolaidd
  • darganfod beth mae’ch cyflogwr yn ei ddarparu os ydych yn mynd yn sâl.

Nôl i’r brig


Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais

Os ydych eisoes yn cael trafferth talu’ch morgais neu os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch ad-daliadau, mae yna bethau fedrwch chi eu gwneud i wneud iawn am hyn ac i’ch atal rhag mynd ymhellach i ddyled.

Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru a Lloegr, gweler Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais. Yn yr Alban, gweler Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais.

Nôl i’r brig


Help a gwybodaeth bellach

Ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynyddu eich incwm, gweler Cynyddu eich incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gostwng eich costau, gweler Sut i wario llai.

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan (www.moneyadviceservice.org.uk), mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch rheoli eich arian, morgeisi, yswiriant a chynnyrch ariannol eraill.

Rhowch glic ar y wefan am wybodaeth bellach ynglyn â:

Cyngor ariannol annibynnol

I gael help i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol cysylltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:

Independent Financial Promotions (IFAP)

Gwefan: www.unbiased.co.uk

Institute of Financial Planning (IFP)

Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk

Personal Finance Society (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback