Ôl-ddyledion morgais

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch ôl-ddyledion morgais?

Os ydych mewn dyled gyda'ch morgais, fe fydd eich benthyciwr morgeisi am i chi glirio'r dyledion. Os nad ydych yn gwneud hyn, fe fyddan nhw'n cymryd camau drwy'r llysoedd i'ch troi chi allan o'ch cartref (ceisio meddiannaeth). Fe fydd hyn yn eu galluogi nhw i werthu'r eiddo a defnyddio'r arian o'r gwerthiant i helpu ad-dalu'r ddyled.

Ond, os yw'ch benthyciwr yn gwybod eich bod yn gwneud eich gorau i stopio'r ddyled rhag mynd yn fwy, efallai y bydd yn rhoi mwy o amser i chi i geisio sortio'r broblem.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd sawl peth y byddwch yn medru eu gwneud, ond rhaid i chi wneud rhywbeth yn gyflym. Efallai y byddwch yn medru:

Nôl i’r brig


Torri'ch costau morgais misol

Fe fydd angen eich bod chi'n medru cadw i fyny gyda'ch rhandaliadau presennol, a hefyd talu rhywfaint o'r ôl-ddyledion. Os yw'ch trafferthion ariannol yn rhai tymor byr, efallai y byddwch chi am ofyn i'r benthyciwr a ydyn nhw'n fodlon cytuno i dorri ar eich costau morgais misol am gyfnod cyfyngedig o amser.

Cyn i chi gytuno i wneud unrhyw newidiadau i'ch morgais, dylech ofyn i'ch benthyciwr os fydd unrhyw dâl am wneud hyn, er enghraifft ffi achub neu weinyddol, a faint fydd y ffi. Os yw'r ffi'n ymddangos yn uchel iawn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol.

Gan ddibynnu ar y math o forgais sydd gennych, efallai y byddwch yn medru:

  • gostwng eich taliadau llog misol. Nid yw'ch benthyciwr yn debygol o gytuno i hyn onid oes ecwiti yn eich eiddo. Ecwiti yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth eich eiddo a'r swm sy'n ddyledus ar eich morgais.
  • cael help gan y cynllun Cymorth Morgais ar gyfer Perchnogion Tai yn medru eich helpu i ohirio talu peth o’r llog ar eich morgais am hyd at ddwy flynedd.
  • cynyddu'r cyfnod amser y byddwch yn talu'r morgais. Fe fyddai hyn yn golygu talu mwy o log yn y tymor hir
  • gohirio ad-daliadau ar y swm a fenthycwyd (y cyfalaf) a thalu'r llog yn unig
  • dod o hyd i ddêl morgais rhatach gyda benthyciwr arall. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd am newid eich benthyciwr morgeisi ac fe fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ôl-ddyledion o hyd. Mae yna wybodaeth ynglŷn â newid eich morgais, ar wefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA) yn: (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk
  • talu un swm i glirio peth o'r ôl-ddyledion a thalu'r gweddill mewn rhandaliadau misol dros gyfnod sefydlog o amser. Dylech fod yn ofalus a sicrhau nad ydych yn mynd i fwy o ddyled trwy wneud hyn. Mynnwch gyngor gan gynghorydd arbenigol ar ddyled
  • newid eich yswiriant diogelu morgais, yswiriant adeiladau neu yswiriant cynnwys, at bolisi rhatach
  • os ydych yn berchen ar ran o'ch cartref fel rhan o gynllun rhannu perchnogaeth, holwch yr awdurdod lleol neu'r gymdeithas dai os ydych yn medru gwerthu rhan o'ch cyfran yn ôl
  • gostwng y taliadau ar eich polisi gwaddol, os oes gennych forgais gwaddol
  • stopio gwneud taliadau i mewn i'ch polisi gwaddol. Fe fydd yn rhaid i chi wneud i fyny am y taliadau hyn yn nes ymlaen.

Mae gwneud unrhyw newidiadau i bolisi gwaddol yn medru bod yn gymhleth ac yn beryglus yn ariannol. Dylech gael cyngor ariannol annibynnol yn gyntaf os ydych yn ystyried gwneud hyn.

Mae'r sefydliadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:

Independent Financial Promotions (IFAP)

Gwefan: (New window) www.unbiased.co.uk

Institute of Financial Planning (IFP)

Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: (New window) www.financialplanning.org.uk

Personal Finance Society (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan:  (New window) www.findanadviser.org

Nôl i’r brig


Talu'ch ôl-ddyledion

Fe fydd angen i chi geisio dod i gytundeb gyda'ch benthyciwr morgeisi ynghylch sut i dalu eich ôl-ddyledion.

Cyn i chi wneud hyn, yn gyntaf dylech gyfrifo faint fedrwch chi fforddio ei dalu. Cyfrifwch faint o incwm sydd gennych a beth yw'r taliadau misol eraill sydd gennych - gan gynnwys dyledion eraill. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ofyn i gynghorydd profiadol ar ddyled i'ch helpu i wneud hyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gyfrifo faint fedrwch chi fforddio ei dalu oddi ar eich ôl-ddyledion, gweler Help gyda dyled. Neu, gallwch ddefnyddio’r daflen Gyllidebu yn y Taflenni ffeithiau ar Gredyd.

Mae cyngor ar ddyled ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Fe fydd hefyd angen i chi benderfynu sut i dalu'r ôl-ddyledion. Efallai y bydd gennych sawl opsiwn ar gyfer gwneud hyn, gan gynnwys:

  • talu swm ychwanegol tuag at yr ôl-ddyledion bob mis ar ben eich taliadau misol rheolaidd
  • trefnu ychwanegu'r ôl-ddyledion at eich cyfalaf (cyfalafu'r ôl-ddyledion) a'u talu yn ôl dros weddill cyfnod y morgais. Fe fyddwch hefyd yn medru gofyn am ymestyn cyfnod y morgais er mwyn cadw'ch taliadau misol i lawr, er, fe fyddwch yn talu cyfanswm llawer yn fwy yn y pendraw
  • ildio'ch polisi gwaddol neu ei werthu i fuddsoddwr. Fe fydd hyn yn rhoi un swm o arian i chi y byddwch yn medru ei ddefnyddio i helpu ad-dalu eich ôl-ddyledion morgais. Ond, dylech feddwl yn ofalus iawn cyn gwneud hyn. Fe fydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall o dalu eich benthyciad morgais ac fe fydd angen i chi ddod o hyd i bolisi yswiriant bywyd arall. Fe fydd hefyd angen i chi ddarganfod a fyddai unrhyw ddirwyon neu gostau eraill petaech yn diweddu eich polisi gwaddol. Mynnwch gyngor ariannol annibynnol yn gyntaf
  • codi un swm i dalu'r holl ôl-ddyledion ar unwaith. Mae'n bosib i chi wneud hyn, er enghraifft, trwy fenthyg arian. Ond, dylech ofalu nad ydych yn cael eich hun i fwy o ddyled trwy wneud hyn. Mynnwch gyngor gan gynghorydd arbenigol ar ddyled.

Os ydych yn siŵr eich bod am werthu eich polisi gwaddol, mae sefydliad o'r enw Association of Policy Market Makers (APMM) yn medru rhoi cyngor a help i chi i werthu eich polisi. Fe allwch gysylltu â'r gymdeithas ar 0845 011 9406, neu edrych ar eu gwefan yn: (New window) www.apmm.org.

Nôl i’r brig


Delio gyda'ch benthyciwr morgeisi Yr hyn y mae’n rhaid i’ch benthyciwr morgais ei wneud

Mae’n rhaid i fenthycwyr morgeisi ddilyn gweithdrefn benodol (a elwir yn brotocol) cyn iddyn nhw fedru mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion morgais. Mae’r protocol yn gosod nifer o gamau y dylent eu cymryd cyn ystyried dwyn achos llys. Mae’r camau hyn yn cynnwys:

  • rhoi gwybodaeth i chi ynghylch swm yr ôl-ddyledion sydd gennych a dweud os ydyn nhw’n mynd i ychwanegu llog neu ffioedd
  • siarad â chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, ynghylch yr hyn sydd wedi achosi’r ôl-ddyledion, eich amgylchiadau ariannol a chynigion i ad-dalu
  • ystyried cais rhesymol gennych i newid dyddiad eich taliad rheolaidd
  • os ydych wedi torri cytundeb talu, ysgrifennu atoch i roi rhybudd i chi y byddan nhw’n dechrau dwyn achos llys onid ydych yn talu’r taliadau yr ydych wedi eu colli.

Os yw’r achos yn mynd i’r llys, fe fydd y beirniad yn ystyried p’un ai fod eich benthyciwr morgeisi wedi dilyn y protocol yn iawn ai peidio. Mae hyn yn medru effeithio ar ganlyniad yr achos. Am fwy o wybodaeth ynghylch y protocol, gweler y pennawd Protocol i’w ddilyn cyn gweithredu.

Fe fyddwch yn medru cael cyngor ynghylch p’un ai fod eich benthyciwr wedi dilyn y protocol ai peidio o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cysylltwch â'ch benthyciwr a gwnewch gynnig

Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i ffordd o ddelio gyda'ch ôl-ddyledion morgais, dylech gysylltu â'ch benthyciwr morgais cyn gynted â phosib, a chyflwyno cynnig iddynt.

Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno cynnig manwl i'r benthyciwr yn hytrach na gofyn iddyn nhw gynnig ateb i chi, oherwydd efallai na fydd benthyciwr yn hollol ymwybodol o'ch amgylchiadau na'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i ddelio gyda'ch trafferthion ariannol. Efallai y bydd eich benthyciwr yn rhoi mwy o amser i chi os ydyw’n gwybod eich bod yn aros:

  • am help gan fudd-daliadau
  • am daliad gan yswiriant diogelu taliadau morgais
  • i fynd yn ôl i’r gwaith.

Efallai y byddwch chi eisiau help cynghorydd profiadol i’ch helpu i siarad â’ch benthyciwr.

Efallai y byddwch chi eisiau help cynghorydd profiadol i’ch helpu i siarad â’ch benthyciwr.

Mae cyngor ar ddyled ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ysgrifennwch lythyr at eich benthyciwr morgeisi, yn nodi'ch cynnig yn glir. Dylai'ch cynnig fod yn un y bydd gennych siawns realistig o gadw ato. Dylai fod yn gynnig a fydd yn clirio'r ôl-ddyledion o fewn cyfnod y morgais. Dylai fod yn seiliedig ar y swm yr ydych yn medru'i fforddio. Cofiwch gynnwys datganiad ariannol gyda'ch llythyr, sy'n dangos i'ch benthyciwr morgeisi sut yr ydych wedi cyfrifo hyn. Ceisiwch berswadio'ch benthyciwr morgeisi fod derbyn cynnig a gyfrifwyd yn y ffordd hon o fantais i'r ddau ohonoch, oherwydd rydych yn fwy tebygol o gadw ato.

Dylai'ch llythyr hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • cefndir y broblem
  • y rheswm/rhesymau pam mae'r ôl-ddyledion wedi cronni
  • eich bod â chofnod da o dalu cyn hyn, os yw hyn yn berthnasol
  • sawl blwyddyn y bydd yn ei gymryd i glirio'r ôl-ddyledion, o gymharu â'r cyfnod sydd ar ôl ar eich morgais
  • a oes unrhyw ecwiti yn yr eiddo.

Gallech hefyd awgrymu i'r benthyciwr eu bod yn derbyn y trefniadau hyn am gyfnod penodol o amser, ac yna ar ôl y cyfnod yma, byddai modd iddynt adolygu'r sefyllfa i weld pa mor dda y mae wedi gweithio.

Os nad yw'r person o'r cwmni morgais, sy'n trafod y sefyllfa gyda chi, yn ddefnyddiol iawn, mae'n werth ceisio delio gyda rhywun sydd â mwy o gyfrifoldeb, er enghraifft, goruchwylydd neu reolwr ôl-ddyledion.

Os nad ydych wedi llwyddo i gytuno gyda'ch benthyciwr morgais sut i dalu eich ôl-ddyledion, fwy na thebyg y byddan nhw'n mynd â chi i'r llys ac yn ceisio cael meddiant ar eich cartref. Os ydych yn dadlau eich achos yn y llys, efallai y bydd y barnwr yn gadael i chi aros yn eich cartref tra'ch bod yn cadw at gytundeb i dalu. Os ydych yn y sefyllfa hon, mynnwch help gan gynghorydd.

Gwneud taliadau

Dylech ddechrau gwneud taliadau rheolaidd, waeth pa mor fach ydynt. Hyd yn oed os nad yw'ch benthyciwr yn derbyn y cynnig, efallai y byddai o fantais i'ch achos os ydych yn gorfod mynd i'r llys yn nes ymlaen.

Cwynion am y ffordd y mae’ch benthyciwr yn delio gyda’ch achos

Dylai benthycwyr morgais gymryd camau meddiannu fel opsiwn olaf yn unig. Os ddechreuodd eich morgais ar ôl mis Hydref 2004, mae yna reolau y dylai’r benthyciwr eu dilyn. Mae’r rheolau’n esbonio sut mae disgwyl i fenthycwyr eich helpu chi os ydych yn cael problemau ariannol. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae eich benthyciwr yn delio gyda'ch achos, fe fyddwch yn medru cwyno. Holwch am weithdrefn gwyno fewnol eich benthyciwr. Os nad yw hyn yn gweithio, fe fyddwch yn medru cwyno at Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, rhowch glic ar (New window) www.financial-ombudsman.org.uk, neu ffoniwch 0845 080 1800.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Ombwdsman y Gwasanaethau Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr neu Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru.

Nôl i’r brig


Cynyddu'ch incwm

Os ydych wedi mynd i ddyled ar eich morgais, dylech geisio darganfod os oes ffyrdd i chi gynyddu eich incwm i'ch helpu i ddelio gyda'r dyledion hyn a dyledion eraill.

Dylech sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau lles a chredydau treth sy'n ddyledus i chi. Mae rhai budd-daliadau, fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, yn rhoi'r hawl i chi i gael lwfans a fydd, ar ôl 13 wythnos, yn talu peth o'ch costau morgais. Fe fydd angen i chi dalu am unrhyw ddiffyg.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch credydau treth, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Budd-daliadau eraill y mae'n bosib y byddwch yn medru eu hawlio:

Ffyrdd posib eraill i chi gynyddu eich incwm:

  • Hawlio ar eich yswiriant diogelu morgais, os oes un gennych
  • Cymryd lletywr. Efallai y bydd yna anfanteision i hyn ac efallai y bydd angen i chi gael caniatâd eich benthyciwr morgais. Mynnwch gyngor ynglŷn â hyn
  • symud allan o'r eiddo a'i osod. Efallai y bydd yna rai anfanteision i hyn a fwy na thebyg y bydd angen i chi gael caniatâd eich benthyciwr morgeisi. Mynnwch gyngor ynghylch hyn yn gyntaf, a gwnewch yn siŵr fod gennych rywle fforddiadwy arall i fyw.

Rydych yn medru cael cyngor ynghylch cynyddu'ch incwm gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cynllun Cymorth Morgais ar gyfer Perchnogion Tai

Os ydych yn brwydro i dalu’ch morgais, efallai y byddwch yn medru cael help gan y Cynllun Cymorth Morgais ar gyfer Perchnogion Tai (HMSS).

Cynlluniwyd y cynllun, a sefydlwyd gan y llywodraeth, i’ch helpu chi os ydych wedi colli eich incwm dros dro, er enghraifft, os cwtogwyd ar eich oriau gwaith neu rydych wedi colli eich swydd.

Os yw’ch benthyciwr yn rhan o’r cynllun, fe fydd yn medru eich caniatáu chi i ohirio talu rhai o’ch taliadau morgais misol am hyd at ddwy flynedd. Nid gwyliau rhag talu ydyw – fe fyddwch yn dal i orfod ad-dalu’r arian yn nes ymlaen ac fe fydd yn rhaid i chi dalu llog ar yr arian sy’n ddyledus. Ond, efallai y bydd y cynllun yn rhoi digon o amser i chi wella’ch sefyllfa ariannol heb orfod poeni am golli eich cartref.

Fe fydd angen eich bod yn cwrdd â nifer o amodau cyn i chi fedru ymuno â’r cynllun, gan gynnwys:

  • rhaid bod gennych gynilion o lai na £16,000
  • rhaid bod gennych lai na £400,000 yn weddill ar eich morgais ac unrhyw fenthyciadau eraill sydd wedi eu diogelu yn erbyn eich cartref
  • fe fydd angen i chi gael cyngor annibynnol ar ddyled, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth
  • fe fydd angen eich bod yn medru talu o leiaf 30% o’r llog misol sy’n ddyledus ar eich morgais
  • fe fydd angen i chi dalu taliadau rheolaidd mewn cytundeb â’ch benthyciwr am o leiaf pum mis, cyn ymuno â’r cynllun. Nid oes yn rhaid i’r rhain fod yn daliadau llawn os ydych wedi cytuno i hyn gyda’ch benthyciwr.

Fe fydd ein benthyciwr yn penderfynu a ydych yn addas i ymuno â’r cynllun ai peidio.

Os ydych yn credu bod gennych ddiddordeb yn y cynllun, mae yna nifer o bethau pwysig y mae angen i chi eu hystyried yn gyntaf. Er enghraifft, mae’n bosib i chi golli eich cartref os nad ydych yn cadw i fyny gyda’r taliadau tra’ch bod chi ar y cynllun. Hefyd, pan fyddwch yn dod oddi ar y cynllun, mae’ch taliadau misol yn debygol o fod yn uwch na phan ddechreuoch chi oherwydd fe fyddwch yn ad-dalu peth o’r arian yr ydych wedi ei ohirio.

Mae mwy o wybodaeth at wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Os oes diddordeb gennych yn y cynllun, mae modd i chi siarad â chynghorydd mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cynlluniau achub morgais

Un opsiwn efallai y byddwch yn ei ystyried er mwyn talu eich ôl-ddyledion morgais, yw cynllun achub morgais. Enwau eraill ar y cynllun yw cynllun prynu yn ôl, prynu a rhentu yn ôl neu brynu a phrydlesu yn ôl.

Mae'r rhain yn gynlluniau sy'n cynnig prynu eich eiddo a'i rhentu yn ôl i chi.

Efallai fod hyn yn edrych yn ffordd dda o ddatrys eich problemau morgais oherwydd mae'n eich galluogi chi i dalu eich dyled ac aros yn eich cartref ar yr un pryd.

Ond, mae angen i chi fod yn ofalus iawn wrth lofnodi cynllun achub morgais, oherwydd mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn talu rhent uchel iawn neu'n cael eich troi allan o'ch cartref.

Efallai mai cynllun achub morgais yw'r opsiwn iawn i chi, tra'ch bod yn gwirio'r amodau a thelerau ar gyfer y cynllun yn ofalus iawn. Mae angen i chi ddeall beth yn union yr ydych yn ei lofnodi, a sut fydd hyn yn effeithio ar eich sefyllfa o ran cartref ac arian yn y tymor hir.

Mae yna wahanol fathau o gynlluniau achub morgais. Mae cynlluniau'n cael eu rhedeg gan:

  • gwmni preifat
  • cwmni morgais
  • landlord cymdeithasol, fel awdurdod lleol neu gymdeithas tai
  • unigolyn.

Rhai pethau i chwilio amdanynt pan fyddwch chi'n ystyried defnyddio cynllun achub morgais:

  • a yw'r cynllun yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau neu ddyled ac os ydyw, a yw'n annibynnol neu'n cael ei fonitro mewn unrhyw ffordd?
  • pwy sy'n talu costau gwerthu'r eiddo?
  • pa fath o denantiaeth sy'n cael ei chynnig? Os ydyw'n denantiaeth sydd ond yn para cyfnod penodol o amser i ddechrau, a oes modd ei adnewyddu ar ôl hynny a phryd fydd y landlord yn medru cymryd camau yn y llys i'ch troi chi allan o’ch cartref?
  • beth yw'r cyfraddau rhent, gan gynnwys pa mor aml fydd y rhent yn codi, a faint fydd yn codi?
  • beth yw cyfrifoldebau a rhwymedigaethau'r landlord a'r tenant?
  • a oes modd prynu cyfran o'r eiddo yn ôl os digwydd i'ch sefyllfa ariannol wella?
  • a oes unrhyw drefniadau yswiriant neu fond os yw'r cynllun yn mynd i drafferthion ariannol?

Dylech gofio hefyd, os ydych yn gwerthu'ch cartref ond yn parhau i fyw yno a thalu rhent, efallai na fydd hawl gennych i Fudd-dal Tai.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dal Tai.

Os ydych yn ystyried defnyddio cynllun achub morgais, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cynlluniau achub morgais preifat

Dylech fod yn ofalus iawn cyn llofnodi cytundeb achub morgais gyda chwmni preifat neu unigolyn.

Dyma rai o'r pethau y mae angen i chi eu gwybod am gynlluniau achub morgais preifat:

  • yn aml, maen nhw'n prynu cartrefi yn is na phris y farchnad
  • fwy na thebyg y byddwch chi'n cael tenantiaeth gychwynnol sy'n rhedeg am chwech neu ddeuddeg mis ac, yn ystod yr amser yna, efallai y bydd y landlord yn codi rhent arnoch sy'n ymddangos yn rhent rhesymol. Ond, wedi hynny, os adnewyddir eich tenantiaeth, efallai y bydd y rhent yn llawer uwch neu efallai na fydd yn wahanol iawn i'r swm y buasech wedi ei dalu petaech yn dal i dalu'r morgais a'r ôl-ddyledion
  • efallai na fydd y math o denantiaeth a gynigir yn rhoi fawr ddim sicrwydd i chi rhag cael eich troi allan o’ch cartref, sy'n golygu efallai y bydd y landlord yn medru eich troi chi allan yn weddol hawdd.

Os ydych yn ystyried llofnodi cynllun achub morgais gyda chwmni preifat neu unigolyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau fel tenant preifat, gweler Tenantiaethau'r sector preifat.

Cynlluniau gan landlordiaid cymdeithasol

Mae rhai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai hefyd yn cynnig cynlluniau achub morgais, er, nid oes llawer ohonynt ar gael. Yn aml, mae ganddynt reolau llym ynghylch pwy sy'n medru ceisio, felly efallai na fyddwch yn gymwys.

Fe fydd y cynlluniau hyn yn eich galluogi chi i aros yn eich cartref naill ai:

  • fel tenant. Fe fyddai'ch cartref yn cael ei werthu, fel arfer i landlord cymdeithasol cofrestredig, ac yna'i rhentu yn ôl i chi ar gyfradd sy'n llai na'ch ad-daliadau morgais. Efallai y bydd y cynllun yn rhoi'r hawl i chi brynu eich eiddo yn ôl os yw'ch sefyllfa ariannol yn gwella. Dylech holi i weld os yw hyn yn bosib
  • trwy rannu'r berchnogaeth. Byddai'ch cartref yn cael ei werthu, fel arfer i landlord cymdeithasol cofrestredig, ac fe fyddech yn talu cyfran o rent a chyfran o forgais. Efallai y byddwch yn medru cynyddu eich cyfran o'r berchnogaeth pan fyddwch yn medru fforddio gwneud hynny. Dylech holi a yw hyn yn mynd i fod yn bosib

Pan fydd eich eiddo'n cael ei werthu i landlord cymdeithasol, defnyddir yr arian i ad-dalu eich morgais presennol a'r ôl-ddyledion. Os nad oes digon o arian i dalu'r holl ôl-ddyledion, fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau eraill i dalu'r gwahaniaeth.

I ddarganfod mwy ynghylch cynlluniau achub morgais awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, holwch eich awdurdod lleol.

Cynlluniau achub morgais a gefnogir gan y llywodraeth

Yn Lloegr, mae’r Llywodraeth wedi lansio cynllun achub morgeisi i helpu perchnogion tai sy’n fregus i aros yn eu cartrefi.

Efallai y byddwch yn gymwys i’r cynllun os oes plant dibynnol gennych neu os oes rhywun yn eich cartref yn feichiog, yn anabl neu’n hen. Os yw’ch cartref yn ennill dros £60,000 y flwyddyn, ni fyddwch yn medru defnyddio’r cynllun hwn ac mae yna derfynau ar werth eich eiddo a allai eich atal rhag defnyddio’r cynllun.

I gael help, fe fydd angen i chi:

  • gael asiantaeth cynghori ariannol i gynnal asesiad diweddar o’ch sefyllfa ariannol, a fydd yn dangos p’un ai fod y cynllun hwn yn opsiwn i chi ai peidio
  • wybod bod eich benthyciwr wedi ystyried opsiynau eraill ac y bydd yn cefnogi eich cais
  • fod yn sicr nad oes unrhyw orchmynion nac arwystl ar eich eiddo a fyddai’n ei atal rhag cael ei werthu
  • ddarparu prisiad diweddar o’ch eiddo i ddangos ei bris gwerthu posib

Mae mwy o wybodaeth ar gael gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn: (New window) www.communities.gov.uk. Os oes diddordeb gennych yn y cynllun, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am fwy o wybodaeth i weld a ydych yn gymwys.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedu sefydlu cynllun achub morgais gyda chymdeithasau tai yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: (New window) www.new.wales.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau rhannu perchnogaeth, gweler Dod o hyd i lety.

Nôl i’r brig


Gwerthu'ch eiddo i dalu'r ôl-ddyledion

Os nad ydych yn medru clirio'ch ôl-ddyledion, fwy na thebyg y bydd llys yn rhoi caniatâd i'ch benthyciwr i'ch troi chi allan o’ch cartref. Fe fydd eich benthyciwr yn gwerthu'r eiddo. Os nad ydyw'n gwneud digon o arian o'r gwerthiant i dalu'r arian sy'n ddyledus ar eich morgais, fe fydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth (diffyg).

Os nad ydych yn medru dod o hyd i unrhyw ffordd arall o glirio'ch ôl-ddyledion, fe fyddai'n well i chi geisio gwerthu'r eiddo eich hun, yn hytrach nag aros i gael eich troi allan a gadael i'ch benthyciwr morgeisi ei werthu. Maen nhw'n debygol o gael llawer llai amdano na chithau, sy'n golygu y byddwch mewn dyled. Yn aml, mae eiddo a gymerwyd yn ôl oddi wrth y perchennog (ei ailfeddiannu) yn gwerthu am lawer llai. Hefyd, yn aml mae benthycwyr yn gwerthu mewn ocsiwn ble mae'r prisiau gwerthu'n dueddol o fod yn is.

Fe fyddai gwerthu'r eiddo eich hun yn golygu eich bod yn cael un swm o arian y byddech yn medru ei ddefnyddio i ad-dalu eich morgais, ac, os oes digon dros ben gennych, efallai y byddwch yn medru ad-dalu eich dyledion eraill hefyd.

Cyn i chi feddwl am werthu eich eiddo, fe fydd angen i chi:

  • ddod o hyd i rywle arall i fyw. Os ydych yn meddwl gofyn i'ch awdurdod lleol am gael eich ailgartrefu fel person digartref, efallai y byddan nhw'n dweud eich bod yn ddigartref yn fwriadol ac efallai na fyddant yn cytuno i roi cartref newydd i chi
  • cael prisiad, i weld a fydd y pris gwerthu yn ddigon i dalu'r morgais ac unrhyw ôl-ddyledion. Os nad ydyw, fe fydd angen i chi gael caniatâd eich benthyciwr i werthu'r eiddo
  • meddwl faint fyddai'n cymryd i chi werthu'r eiddo ac unrhyw gostau cysylltiedig, er enghraifft, ffioedd y cwmni gwerthu tai a'r ffioedd cyfreithiol. Hyd nes gwerthu'r eiddo, fe fyddwch yn dal i fod yn gyfrifol am y taliadau morgais ac efallai y bydd eich ôl-ddyledion yn cynyddu
  • meddwl am yr effaith ar dreth a budd-daliadau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gofyn i'r awdurdod lleol am gael eich hailgartrefu, gweler Dod o hyd i lety.

Os ydych yn ystyried gwerthu eich eiddo i dalu eich ôl-ddyledion morgais, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Rhoi'r allweddi nôl i'ch benthyciwr morgeisi

Peidiwch â chael eich temtio i adael yr eiddo a rhoi'r allweddi yn ôl i'ch benthyciwr morgeisi onid ydych wedi gwerthu'r eiddo neu mae yna orchymyn llys i'ch troi chi allan. Ni fyddwch ar eich ennill o gwbl trwy wneud hyn. Fe fyddwch yn dal i fod yn gyfrifol am y taliadau morgais a'r yswiriant adeiladau hyd nes gwerthu'r eiddo, ac fe fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ddiffyg os nad yw'r gwerthiant yn gwneud digon i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.

Os yw'ch benthyciwr yn gofyn i chi roi'r allweddi yn ôl, nid oes rhaid i chi wneud hyn. Os yw'ch benthyciwr eisiau ailfeddiannu'r eiddo, mae'n rhaid iddyn nhw gael gorchymyn llys yn gyntaf.

Os ydych yn mynd i roi'ch allweddi yn ôl, dylech aros hyd nes bydd eich benthyciwr wedi cael gorchymyn llys i'ch troi chi allan o’ch cartref yn gyntaf.

Hefyd, os ydych yn ystyried gofyn i'ch awdurdod lleol am eich ailgartrefu fel person digartref, peidiwch â rhoi'r allweddi yn ôl heb i chi siarad â nhw yn gyntaf ac esbonio'ch sefyllfa. Efallai y bydd eich awdurdod lleol o'r farn eich bod yn ddigartref yn fwriadol ac felly ni fydd yn cytuno i roi cartref newydd i chi. Os ydych yn y sefyllfa yma, mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gofyn i'r awdurdod lleol eich ailgartrefu, gweler Dod o hyd i lety.

Nôl i’r brig


Camau y bydd eich benthyciwr yn eu cymryd i adennill dyledion Protocol Cyn Gweithredu

Ers 19 Tachwedd 2008, mae yna Brotocol Cyn Gweithredu sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o forgeisi preswyl. Mae’r Protocol hyn yn amlinellu’r hyn y dylech chi a’ch benthyciwr ei wneud cyn i’ch benthyciwr gymryd camau yn y llys i feddiannu eich cartref. Os ydych yn gorfod mynd i’r llys, fe fydd angen i chi a’ch benthyciwr ddangos eich bod wedi dilyn y Protocol.

O dan y Protocol, dylai’ch benthyciwr roi gwybodaeth gyfreithiol i chi ynghylch eich hawliau os ydych yn colli unrhyw daliadau. Dylai hefyd ddweud wrthych:

  • faint o arian sy’n ddyledus gennych
  • faint o’ch morgais sydd ar ôl i’w dalu
  • pa log neu daliadau fydd yn rhaid i chi eu talu am fod arnoch arian iddynt.

Mae’n rhaid i’ch benthyciwr ystyried unrhyw gais rhesymol gennych i newid y dyddiad yr ydych yn talu eich morgais neu’r ffordd yr ydych yn ei dalu, ac ymateb yn brydlon i unrhyw gynnig yr ydych yn ei wneud i dalu’r arian. Os nad ydych yn cadw at y cytundeb hwn, rhaid iddynt eich rhybuddio yn ysgrifenedig eu bod yn bwriadu dechrau achos llys. Rhaid iddynt anfon llythyr atoch sy’n rhoi rhybudd o 15 diwrnod gwaith i chi ynghylch y camau y maen nhw’n bwriadu eu cymryd. Os nad yw’r benthyciwr yn derbyn eich cynnig, rhaid iddo nodi’r rheswm o fewn deg diwrnod gwaith.

Mae’r Protocol yn dweud y gall eich benthyciwr ohirio unrhyw gamau meddiannu os ydych:

  • yn hawlio o dan bolisi diogelu taliadau morgais ac rydych yn medru dangos y medrwch ddisgwyl yn rhesymol y bydd y cais yn cael ei gymeradwyo ac y medrwch dalu unrhyw ran o’r taliad misol sydd ddim yn cael ei dalu gan y polisi, neu
  • rydych yn medru dangos eich bod yn cymryd camau rhesymol i werthu eich cartref, neu y byddwch yn eu cymryd, yn unol â’r cyngor proffesiynol a roddwyd i chi. Os yw’r benthyciwr yn cytuno i ohirio’r camau, rhaid i chi barhau i werthu eich cartref a diweddaru eich benthyciwr ynghylch y datblygiadau gyda’r gwerthiant.

Os ydych yn teimlo bod eich benthyciwr wedi eich trin yn annheg wrth ddelio gyda’ch ôl-ddyledion morgais, efallai y byddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol. Mae’r Protocol yn caniatáu i’r benthyciwr ohirio unrhyw gamau meddiannu tra bod yr Ombwdsman yn delio gyda’r cwyn. Ond, os yw’ch benthyciwr yn penderfynu parhau gyda’r camau meddiannu tra bod eich cwyn yn cael ei thrafod, rhaid iddynt roi rhybudd o bum niwrnod i chi ynghylch eu cynlluniau.

Mae eich benthyciwr yn cymryd camau yn y llys

Os yw’r benthyciwr wedi dilyn y Protocol, fe fydd wedi ysgrifennu atoch yn gofyn i chi ad-dalu’r ôl-ddyledion. Dyma’r camau nesaf:

  • cyhoeddi cais am feddiannu'r eiddo. Fe fydd y llys sirol yn anfon hwn atoch ac yn rhoi manylion i chi ynghylch dyddiad y gwrandawiad llys a'r achos yn eich erbyn
  • anfon rhybudd atoch o leiaf 14 diwrnod cyn y gwrandawiad llys, i ddweud bod trefniadau’r feddiannaeth wedi dechrau
  • gwrandawiad llys ble mae barnwr rhanbarthol yn ystyried honiad eich benthyciwr yn eich erbyn ac unrhyw gynigion yr ydych wedi eu gwneud i ddelio gyda'r ôl-ddyledion. Fe fydd y llys am weld bod colli eich cartref yn opsiwn olaf a’ch bod wedi archwilio’r opsiynau eraill. Fe fydd yn rhaid i chi a’r benthyciwr ddangos eich bod wedi dilyn y Protocol.
  • dyfarniad, pan fydd y barnwr yn penderfynu pa gamau sydd i'w cymryd. Mae hyn yn medru golygu gohirio'r achos, gwrthod yr achos, eich gadael chi i aros yn yr eiddo tra'ch bod yn cadw at drefniant i dalu'r ôl-ddyledion (gorchymyn ildio meddiant ataliedig), neu wneud gorchymyn i chi adael yr eiddo (gorchymyn ildio meddiant llawn). Os yw'r dyfarniad yn orchymyn ildio meddiant llawn, efallai y bydd hyn yn cynnwys gorchymyn i chi ad-dalu unrhyw arian sy'n ddyledus (dyfarniad arian)
  • cais am warant i feilïaid eich troi chi allan o’ch cartref. Mae'n bosib gwneud hyn ble mae'r barnwr wedi gwneud gorchymyn ildio meddiant llawn neu ble mae yna orchymyn ildio meddiant ataliedig ac nid ydych wedi cadw at delerau'r cytundeb. Nid yw'ch benthyciwr yn medru eich troi chi allan o'ch cartref yn gyfreithlon onid ydyw wedi gofyn am warant meddiannaeth yn gyntaf
  • eich troi chi allan o'r eiddo. Fe fydd y beilïaid yn gwneud hyn ac yn rhoi dyddiad ac amser i chi ymlaen llaw. Mae'r beilïaid yn ymweld â'r eiddo i sicrhau ei fod yn wag ac yna'n newid y cloeon.

Am fwy o wybodaeth ynghylch beilïaid, gweler Beilïaid yn y Taflenni ffeithiau ar Gredyd a Debyd.

Mae'n werth cofio mai prin y bydd hi'n rhy hwyr i geisio dod i gytundeb gyda'ch benthyciwr.

Hyd yn oed os yw'ch benthyciwr wedi gofyn am warant meddiannaeth, efallai y byddwch yn dal i fedru dod i gytundeb a fyddai'n golygu eich bod yn osgoi cael eich troi allan. Hefyd, efallai y byddwch yn medru gofyn i'r llys am orchymyn i'ch caniatáu chi i aros yn yr eiddo.

Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol ar ddyled, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Beth sy'n digwydd ar ôl ailfeddiannu

Os yw'ch benthyciwr morgeisi wedi cael gorchymyn ildio meddiant, fe fyddwch yn dal i fod yn gyfrifol am daliadau'r morgais hyd nes gwerthu'r eiddo. Nid oes gwahaniaeth a ydych yn dal i fyw yno. Fe fyddwch hefyd yn gyfrifol am gostau atgyweirio, cynnal a chadw ac yswiriant. Dylech wirio eich polisi yswiriant i weld a yw'n dal i fod yn ddilys os nad ydych yn byw yno.

Mae gan eich benthyciwr ddyletswydd gofal tuag atoch wrth werthu eich eiddo. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gael y pris gorau posib amdano. Ond, yn ymarferol, mae benthycwyr yn aml yn gwerthu eiddo mewn ocsiwn, ac mae eiddo a ailfeddiannwyd sy'n cael ei werthu fel hyn yn aml yn gwerthu am lai nag y byddai ar y farchnad agored.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan eich benthyciwr, er enghraifft, am eu bod wedi cymryd amser hir i werthu eich eiddo ac mae eich ôl-ddyledion wedi cynyddu oherwydd hyn, dylech gwyno i Ombwdsman y Gwasanaethau Ariannol.

Unwaith y bydd eich benthyciwr wedi gwerthu eich eiddo fe fydd yn:

  • cymryd beth sy'n ddyledus o elw'r gwerthiant
  • tynnu unrhyw ffioedd cyfreithiol a ffioedd cwmnïau gwerthu tai
  • ad-dalu unrhyw fenthycwyr eraill os defnyddiwyd yr eiddo fel diogelwch ar gyfer benthyciad
  • rhoi unrhyw beth sy'n weddill i chi – ond efallai na fydd unrhyw beth ar ôl i'w roi i chi ac efallai y bydd gennych ddyledion eraill i'w talu.

Os nad yw'r arian a gafwyd o werthu'r eiddo yn ddigon i ad-dalu eich dyled, fe fydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn ddiffyg. Fe fydd y benthyciwr yn anfon bil atoch am y diffyg. Efallai y bydd y benthyciwr yn mynd i'r llys i'ch gorfodi chi i dalu'r swm yma.

Os nad ydych yn talu diffyg y morgais ac yna rydych yn prynu eiddo arall, fe fydd benthyciwr eich morgais cyntaf yn medru gofyn i'r llys am orchymyn talu yn erbyn eich eiddo newydd. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi'n gwerthu'r eiddo newydd, y bydd elw'r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu'r diffyg.

Os oes diffyg ar ôl gwerthu eich eiddo, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol ar ddyled, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Dyledion ar eiddo ble mae’r berchnogaeth wedi’i rhannu

Os ydych ar gynllun rhannu perchnogaeth, fel arfer byddwch yn talu’n fisol tuag at eich morgais ac yn talu rhent i’ch landlord. Mae hyn yn golygu bod dwy ffordd bosib o ailfeddiannu’ch cartref os ewch i ddyled. Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau morgais, fe fydd eich benthyciwr morgais yn medru ceisio ailfeddiannu eich cartref. Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, fe fydd eich landlord yn medru ceisio meddiannu eich cartref.

Os ydych ar gynllun rhannu perchnogaeth, efallai y byddwch yn medru gostwng eich taliadau morgais drwy werthu peth o’ch cyfran o berchnogaeth yr eiddo yn ôl i’r landlord. Gelwir hyn yn ddaliadaeth hyblyg. Nid yw pob cynllun rhannu perchnogaeth yn cynnig daliadaeth hyblyg, felly fe fydd angen i chi gysylltu â’ch landlord i weld os yw hyn ar gael. Fe fyddwch yn gorfod dangos eich bod wedi archwilio pob opsiwn arall yn gyntaf.

Efallai bod opsiynau eraill ar gael i’ch helpu i sortio eich ôl-ddyledion morgais neu rent.

Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent neu’ch morgais, neu os ydych eisoes mewn dyled, dylech gael help ar unwaith gan gynghorydd dyled profiadol. Dylai canolfan Cyngor ar Bopeth fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Dyledion ar ail forgais a benthyciadau diogel eraill

Yn ogystal â'r morgais cyntaf ar eich eiddo, efallai y byddwch wedi cymryd ail forgais neu fenthyciad pellach gan fanc neu gwmni cyllid gan ddefnyddio'r eiddo fel sicrwydd. Gelwir hyn yn fenthyciad diogel. Efallai y byddai'r benthyciad wedi cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i dalu am atgyweiriadau, gwelliannau i'r cartref, car neu i dalu dyledion eraill.

Os ydych yn mynd i ddyled ar ail forgais neu fenthyciad diogel arall, fel arfer fe fydd y benthyciwr yn ceisio meddiannu eich eiddo a'i werthu er mwyn ad-dalu'r benthyciad.

Mae gan fenthyciwr benthyciad diogel yr un hawl i'ch troi chi allan o'r eiddo, os ydych mewn dyled, â benthyciwr eich morgais cyntaf. Nid oes rhaid i'r ail fenthyciwr gael caniatâd y benthyciwr cyntaf cyn ceisio meddiannu eich cartref.

Os ydych mewn dyled ar ail forgais neu fenthyciad diogel arall, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth bellach

Mae gwybodaeth bellach ar gael ynghylch ôl-ddyledion morgais mewn taflen ffeithiau - gweler Ôl-ddyledion morgais yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.

Mae gwybodaeth ar gael ynghylch ôl-ddyledion morgais mewn taflen a gynhyrchir gan NHAS (The National Homelessness Advice Service). Rhowch glic ar (New window) www.nhas.org.uk/publications_events.htm.

Nôl i’r brig