The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Gostwng eich costau morgais
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Gostwng eich costau morgais misol
Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais, rhaid i chi wneud rhywbeth ar unwaith i’ch atal chi rhag mynd i ddyled.
Os ydych yn mynd i ddyled ac nid yw’ch benthyciwr yn credu eich bod yn delio gyda’r broblem, fe fydd yn cymryd camau drwy’r llysoedd. Fe allai hyn arwain at eich troi chi allan o’ch cartref.
Ar y dudalen hon, rydym yn sôn am rai o’r pethau y gallech eu gwneud i’ch atal rhag bod ar ei hôl hi gyda’ch taliadau morgais a mynd i ddyled. Maen nhw’n cynnwys:
- newid at ddêl morgais neu yswiriant rhatach
- gostwng eich taliadau misol
- newid taliadau ar eich polisi gwaddol
- os ydych ar gynllun rhan-berchenogaeth, gwerthu rhan o’r berchnogaeth yn ôl i’ch landlord.
Dylech hefyd edrych yn ofalus ar gyllideb eich cartref. Meddyliwch o ddifri os fydd hi’n bosib i chi gynyddu eich incwm neu dorri yn ôl fwy ar eich gwariant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifo cyllideb eich cartref, gweler Sut i gyfrifo’ch cyllideb. Fe allwch hefyd ddefnyddio’n teclyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyllideb.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynyddu eich incwm, gweler Cynyddu eich incwm.
Am fwy o wybodaeth ynghylch torri yn ôl ar eich gwariant, gweler Sut i wario llai.
Efallai bod opsiynau eraill gennych ar gyfer delio gyda’ch problemau morgais heblaw am y rhai sy’n cael sylw ar y dudalen hon. Am fwy o wybodaeth ynghylch y rhain, gweler Mwy o opsiynau ar gyfer delio â phroblemau gyda’ch morgais.
Os ydych eisoes wedi mynd i ddyled gyda’ch taliadau morgais, efallai fod yna bethau fedrwch chi eu gwneud i’ch atal rhag mynd i fwy o ddyled gyda’ch taliadau ac i glirio’r ddyled. Gweler Sut i ddelio gyda’r dyledion ar eich morgais.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd iawn talu’r morgais, er enghraifft, os ydych wedi dechrau cael llythyron gan eich benthyciwr morgeisi yn bygwth cymryd camau yn y llys, dylech gael cyngor gan gynghorydd dyled profiadol.
Mae cyngor ar gael mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ddarllen Beth sy’n digwydd os yw’ch benthyciwr morgeisi yn mynd â chi i’r llys.
Newid at ddêl morgais neu yswiriant rhatach
Efallai y byddwch yn medru dod o hyd i ddêl morgais rhatach gyda benthyciwr morgeisi arall. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau am newid eich benthyciwr morgeisi ac fe fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw arian sy’n ddyledus i’r benthyciwr cyntaf os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch newid eich morgais ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Efallai y byddwch yn medru torri i lawr ar eich costau eraill drwy newid at yswiriant diogelu morgais neu yswiriant adeiladau neu gynnwys rhatach. Mae gwybodaeth ar newid eich darparwr yswiriant ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Gostwng eich taliadau misol
Fe allech ofyn i’ch benthyciwr morgeisi os ydyn nhw’n fodlon torri i lawr ar eich taliadau morgais misol, fel arfer am gyfnod cyfyngedig o amser. Efallai y bydd hyn yn ddigon i’ch cael chi drwy gyfnod anodd ac atal dyledion rhag cronni. Os oes dyled eisoes wedi cronni, fe fydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o glirio’r ddyled hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch clirio dyledion ar eich morgais, gweler Sut i ddelio gyda dyledion ar eich morgais.
Cyn i chi gytuno i wneud unrhyw newidiadau i’ch morgais, dylech ofyn i’ch benthyciwr os fydd unrhyw dâl am wneud hyn, er enghraifft tâl adbryniant neu weinyddol, a faint fydd y tâl. Os yw’r tâl yn ymddangos yn uchel iawn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol.
Gan ddibynnu ar y math o forgais sydd gennych, efallai y byddwch yn medru:
- gostwng eich taliadau llog misol. Fwy na thebyg y bydd eich benthyciwr ond yn cytuno i hyn os oes ecwiti yn eich eiddo. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i’r eiddo fod yn werth mwy na’r swm sy’n ddyledus ar y morgais
- newid taliadau llog yn unig
- gostwng neu stopio ad-daliad ar y swm a fenthycwyd gennych (y cyfalaf) dros dro
- cynyddu’r cyfnod o amser sydd ei angen i dalu’r morgais. Fe fyddai hyn yn fwy nag opsiwn dros dro ac fe fyddai’n golygu eich bod wedi talu mwy o log yn y tymor hir.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ofyn i’ch benthyciwr morgeisi i ostwng eich taliadau misol, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Newid taliadau ar eich polisi gwaddol
Os oes morgais gwaddol gennych, fe allech ystyried un o’r opsiynau canlynol:
- gostwng y taliadau ar eich polisi gwaddol
- atal taliadau i mewn i’ch polisi gwaddol yn gyfan gwbl. Fe fydd yn rhaid i chi wneud iawn am y taliadau hyn yn nes ymlaen.
Mae gwneud unrhyw newidiadau i bolisi gwaddol yn medru bod yn gymhleth ac mae’n medru golygu risg ariannol. Os ydych yn ystyried gwneud hyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol yn gyntaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch polisïau gwaddol, gweler Morgeisi yn Prynu cartref.
Ble i gael cyngor ariannol annibynnol
Mae’r sefydliadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:
Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk
Institute of Financial Planning (IFP)
Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org
Gostwng taliadau ar eiddo ble’r ydych yn rhannu’r berchnogaeth
Os ydych yn berchen ar eich eiddo trwy gynllun rhan-berchenogaeth, fel arfer fe fyddwch yn talu’n fisol tuag at eich morgais ac yn talu rhent misol i landlord. Yn aml, cymdeithas tai fydd y landlord, neu ryw fath o landlord cymdeithasol.
Os ydych yn cael trafferthion ariannol, efallai y byddwch yn medru gostwng eich taliadau morgais trwy werthu peth o’ch perchnogaeth yn yr eiddo yn ôl i’r landlord.
Gelwir hyn yn ddeiliadaeth hyblyg. Nid yw pob cynllun rhan-berchenogaeth yn cynnig deiliadaeth hyblyg, ac felly fe fydd angen i chi gysylltu â’ch landlord i weld os ydyw ar gael. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos eich bod chi wedi archwilio pob opsiwn arall yn gyntaf.
Efallai y bydd opsiynau eraill ar gael i’ch helpu i sortio’ch morgais neu’ch dyledion rhent.
Os ydych yn cael trafferth talu’ch taliadau morgais neu rent, neu os ydych eisoes mewn dyled, dylech gael help ar unwaith gan gynghorydd dyled profiadol. Dylai canolfan Cyngor ar Bopeth fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mwy o opsiynau ar gyfer delio â phroblemau gyda’ch morgais
Efallai bod yna opsiynau eraill ar gael i chi i ddelio â phroblemau gyda’ch morgais, heblaw am y rhai sy’n cael sylw ar y dudalen hon.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich opsiynau eraill, gweler y tudalennau canlynol:
Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais









