Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais

mortgage agreement and keys

Os ydych yn ei chael yn anodd talu eich morgais, mae’n rhaid i chi weithredu yn gyflym er mwyn osgoi mynd i ddyled.

Os ydych yn mynd i ddyled a bod eich benthyciwr yn credu nad ydych yn delio â’r broblem, fe fydd yn cymryd camau yn y llys. Gallai hyn arwain at golli eich cartref.

Ar y tudalennau nesaf, cewch wybodaeth am sut i ddatrys eich problemau gyda’ch morgais a sut i ddelio gyda’ch benthyciwr.

Gostwng eich costau morgais

Cewch wybod am y pethau y gallwch eu gwneud er mwyn osgoi mynd i ddyled gyda’ch taliadau morgais, gan gynnwys: trosglwyddo i gynllun morgais rhatach, lleihau eich taliadau morgais misol, newid y taliadau ar eich polisi gwaddol a lleihau taliadau ar eiddo rhannu perchenogaeth

 

Sut i ddelio gyda’r dyledion ar eich morgais

Cewch hyd i wybodaeth am sut fedrwch ad-dalu eich dyledion os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau morgais

 

Cynlluniau achub morgeisi

Cewch wybod am y cynlluniau a redir gan landlordiaid tai cymdeithasol sy’n cynnig prynu eich eiddo a’i rentu yn ôl i chi fel tenant

 

Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ol

Cewch wybod am gynlluniau a redir gan gwmnïau preifat ac unigolion sy’n cynnig prynu eich eiddo a’i rentu yn ôl i chi fel tenant. Gelwir y rhain hefyd yn gynlluniau prynu yn ôl a gwerthu ac adlesu

 

Help gyda chostau morgais os ydych allan o waith

Cewch wybod mwy am yr help y gallwch ei gael tuag at eich costau morgais os ydych yn ddi-waith

 

Gwerthu’ch eiddo i glirio’r dyledion ar eich morgais

Cewch wybod pam na ddylech roi’r allweddi i’ch benthyciwr morgeisi neu aros i gael eich troi allan o’ch cartref, a beth sy’n digwydd os nad yw’r arian a gewch ar ôl gwerthu eich eiddo yn ddigon i ad-dalu eich morgais

 

Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi

Sut i gysylltu â’ch benthyciwr er mwyn trafod sut i ad-dalu’r dyledion ar eich morgais neu newid eich taliadau, gan gynnwys beth i’w wneud os nad yw eich benthyciwr am eich helpu

 

Nationwide logo

Taflenni ffeithiau Dyled

Adobe Acrobat symbolFe fyddwch chi angen Adobe Acrobat Reader i weld y taflenni ffeithiau.

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Dyled

questionmark symbolYr atebion i'ch cwestiynau mwyaf poblogaidd.