Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Problemau gyda’ch morgais

row of terraced houses

Os ydych yn cael problemau’n talu’ch morgais, rhaid i chi wneud rhywbeth ar unwaith i osgoi mynd i ddyled.

Ar y tudalennau hyn, mae’n dweud sut i osgoi mynd i ddyled gyda’ch ad-daliadau morgais, sut i glirio’ch dyled os digwydd i chi fynd i ddyled, beth sy’n digwydd os oes achos llys yn eich erbyn oherwydd yr ôl-ddyledion ar eich morgais a sut i osgoi colli eich cartref.

Ymdopi â’ch morgais

Sut i gadw rheolaeth ar eich taliadau a pheidio â mynd i drafferth, gan gynnwys sut i gynllunio eich cyllideb er mwyn i chi fedru ymdopi â’ch morgais, sut i ddelio gyda chynnydd yn eich ad-daliadau morgais neu ostyngiad yn eich incwm, sut i gael y ddêl orau sydd ar gael ar eich morgais a beth ddylech chi ei wneud os ydych yn dechrau mynd i drafferth.

 

Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais

Sut i ostwng y costau ar eich morgais, sut i ddal i fyny ar eich ad-daliadau os ydych yn mynd i ddyled, cynlluniau achub morgais a chynlluniant rhentu yn ôl, os ydych allan o waith ac yn gwerthu eich eiddo i glirio’r dyledion ar eich morgais.

 

Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys

Beth sy’n digwydd pan fydd benthyciwr morgeisi’n dechrau achos llys, sut fedrwch chi osgoi mynd i’r llys, pa benderfyniadau fydd y llys yn medru eu gwneud, sut fedrwch chi amddiffyn cais i adennill yr ad-daliadau ar eich morgais a sut i newid dyfarniad unwaith y bydd mewn grym.

 

Mae eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys – sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad yn y llys

Sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad llys gyda’r cwmni sy’n benthyg eich morgais i chi, gan gynnwys yr hyn ddylech chi ei wneud cyn y gwrandawiad, pa wybodaeth sydd ei hangen i fynd gyda chi, pwy sy’n medru dod gyda chi a sut brofiad fydd y gwrandawiad.

 

Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais

Yr hyn sy’n gorfod digwydd cyn i’r cwmni sy’n benthyg eich morgais i chi fedru eich troi chi allan, sut i osgoi cael eich troi allan, beth sy’n digwydd yn ystod y broses o’ch troi chi allan, a ddylech chi roi’r allweddi i’r cwmni sy’n benthyg eich morgais cyn cael eich troi allan a pha gyfrifoldebau fydd gennych wedi i chi gael eich troi allan.

 

Nationwide logo

Taflenni ffeithiau ynglyn â chredyd a dyled

Adobe Acrobat symbolFe fyddwch chi angen Adobe Acrobat Reader i weld y taflenni ffeithiau.

Cwestiynau cyffredin ynglyn â dyledion

questionmark symbol

Yr atebion i'ch cwestiynau mwyaf poblogaidd.

Gweler hefyd