Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i:
Os oes cwestiynau neu broblemau gennych yn ymwneud â thai, mae yna help ar gael i chi os ydych yn y lluoedd arfog, yn gyn-filwr neu’n aelod o deulu rhywun sydd yn y lluoedd arfog neu gyn-filwr.
Rydych yn medru defnyddio’r wybodaeth hon i ddarganfod pa help ariannol allai fod ar gael i chi, gan ddibynnu ar eich sefyllfa. Rydych hefyd yn medru defnyddio’r wybodaeth hon i gael gwybod am fudiadau sy’n medru eich helpu gyda’ch anghenion tai.
Os ydych yn gadael y lluoedd arfog mae gennych yr hawl i gael help i ddod o hyd i rhywle i fyw.
Mae help ar gael trwy Gyd-Swyddfa Cynghori ar Dai y Gwasanaethau (JSHAO).
Maen nhw’n rhoi gwybodaeth a chyngor i chi a’ch dibynyddion, yn enwedig os ydych ar fin mynd yn ôl at fywyd sifiliad. Os ydych yn gyn-filwr sy’n byw yn nhai’r lluoedd arfog ar hyn o bryd, maen nhw’n medru eich helpu i symud allan a dod o hyd i gartref sifiliad.
Dyma sut fedrwch chi gysylltu â’r JSHAO:
Joint Service Housing Advice Office
Headquarters Land Forces
Erskine Barracks
Wilton
Salisbury
Wiltshire
SP2 0AG
Rhif Ffôn i Sifiliaid: 01722 436575
Rhif Ffôn Milwrol: 94331 2575
Ffacs: 01722 436577
E-bost: LF-JSHAO-MAILBOX@mod.uk
Gwefan: www.mod.uk.
Os ydych yn aelod o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu, efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda chostau prynu cartref. Os ydych yn gymwys, efallai y bydd Cynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog yn medru benthyg rhwng 15 a 50% o werth cartref yr ydych yn ei ddewis ar y farchnad eiddo agored.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglyn â Chynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog, gweler Prynu cartref.
Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch Cynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog, gweler Prynu cartref.
Yng Ngogledd Iwerddon, am wybodaeth bellach ynghylch Cynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog, gweler Prynu cartref.
Yng Nghymru a Lloegr, os ydych angen llety sydd wedi’i addasu’n arbennig, er enghraifft am eich bod yn anabl neu mae gennych blentyn sy’n anabl, fe fyddwch yn medru gofyn am gael eich manylion wedi eu gosod ar un Gofrestr Tai Hygyrch neu fwy.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cofrestrau Tai Hygyrch, gweler Dod o hyd i lety.
Os ydych yn gyn-filwr, rydych yn medru cael help gan eich cyngor lleol i ddod o hyd i rywle i fyw. Mae’n medru rhoi cyngor rhad ac am ddim i chi ar eich opsiynau tai, a chyngor os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o ddod yn ddigartref.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cyngor sydd ar gael gan eich awdurdod tai lleol, gweler Dod o hyd i lety.
Mae manylion eich cyngor lleol ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, i geisio am dŷ cymdeithasol, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Tai Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Housing Executive). Mae manylion ei swyddfa ranbarthol leol ar ei gwefan:
Gwefan: www.nihe.gov.uk.
Rhif Ffôn: 03448 920920
Os ydych yn sengl, fe fyddwch yn medru cael help gan SPACES (The Single Persons Accommodation Centre for the Ex Services).
Mae SPACES yn helpu cyn-bersonel gwasanaethu sy’n sengl i ddod o hyd i lety ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n medru bod yn llety parhaol neu dros dro. Os ydych yn cysylltu â nhw o fewn chwe mis i’r dyddiad y gadawoch y lluoedd arfog, efallai y byddan nhw hefyd yn medru eich helpu i ddod o hyd i lety. Os ydych wedi bod allan o’r lluoedd arfog am fwy na chwe mis, maen nhw’n medru rhoi gwybodaeth a chyngor ar dai i chi.
Fe allwch gysylltu â SPACES yn:
SPACES
Regional Resettlement Centre
St. Aidan's Road
Catterick Garrison
Catterick
North Yorkshire
DL9 3AY
Rhif Ffôn: 01748 833797 neu 01748 872940 neu 01748 830191
Ffacs: 01748 835774
E-bost: spaces@echg.org.uk
Gwefan: www.spaces.org.uk.
Os nad oes unrhyw le gennych i fyw, rydych yn medru cael help gan eich cyngor lleol.
Fe fydd y cyngor yn eich helpu i gael tŷ parhaol, os ydyw’n penderfynu eich bod yn angen sy’n flaenoriaeth.
Os ydych yn byw yn Lloegr neu’r Alban, fe fyddwch ag angen sy’n flaenoriaeth os ydych yn agored i niwed oherwydd eich cyfnod yn y lluoedd arfog.
Os ydych yn byw yng Nghymru, fe fydd unrhyw un sy’n gadael y lluoedd arfog yn angen sy’n flaenoriaeth.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae’n ddyletswydd ar Gyfarwyddiaeth Tai Gogledd Iwerddon i ddarparu llety ar eich cyfer os yw’n penderfynu eich bod ag angen sy’n flaenoriaeth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dod o hyd i rhywle i fyw, gweler Dod o hyd i lety.
Os nad oes unrhyw le gennych i fyw, mae help a chyngor ar gael gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help gan rhai o’r mudiadau cyn-filwyr.
Os oes angen help bob dydd arnoch, neu help gyda phethau fel addasiadau i’ch cartref, efallai y cewch hyn gan eich cyngor lleol neu wasanaeth lles asiantaeth o’r enw Service Personnel and Veterans Agency.
Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r help sydd ar gael gan eich cyngor lleol, rhowch glic ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Yng Nghymru, fe allwch ddarganfod mwy am yr help sydd ar gael i chi trwy’r awdurdod lleol, ar eu gwefan. Mae yna restr o awdurdodau lleol yng Nghymru, a dolenni at eu gwefannau, ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn: cymru.gov.uk.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae mwy o wybodaeth ar gael ynglŷn â’r help sydd ar gael gan asiantaeth o’r enw Service Personnel and Veterans Agency trwy gysylltu â nhw yn:
Llinell Gymorth: 0800 169 22 77
Gwefan: www.veterans-uk.info.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau y gallai’ch awdurdod lleol eu cynnig, a sut i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, gweler Gofal cymunedol.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch chi ddarganfod mwy am y cymorth a ddarperir gan eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol er mwyn i chi fedru aros yn eich cartref eich hun, ar wefan y llywodraeth yn www.nidirect.gov.uk.
Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help gan rhai o’r mudiadau i gyn-filwyr.
Mae yna nifer o gartrefi gofal ar gael sydd ar gyfer cyn-filwyr
oedrannus ac anabl yn unig.
Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael ynglŷn â hyn gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Dyma’u manylion cyswllt:
Llinell y Lleng: 08457 725 725
E-bost: trwy’r wefan www.britishlegion.org.uk.
Gwefan: www.britishlegion.org.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag opsiynau tai i bobl hŷn ac anabl, gweler Cartrefi gofal.
Am fwy o wybodaeth ar addysg, gweler Help gyda hyfforddiant a chymwysterau i bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
Am fwy o wybodaeth ariannol, gweler Budd-daliadau a chonsesiynau i’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Am fwy o wybodaeth ar iechyd, gweler Gofal iechyd i bobl a anafwyd yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
Am fwy o wybodaeth ar bensiynau, gweler Cynlluniau pensiwn ac iawndal ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Am fwy o wybodaeth ar dai, gweler Adran tai y wefan hon.
Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bob cyn-filwr, a’u dibynyddion. Mae gwybodaeth ar gael trwy gysylltu â nhw yn:
Llinell y Lleng: 08457 725 725
E-bost: trwy’r wefan www.britishlegion.org.uk.
Gwefan: www.britishlegion.org.uk.
Mae ganddynt nifer o gartrefi gofal i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Maw mwy o wybodaeth am y rhain ar eu gwefan yn: www.britishlegion.org.uk.
Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd yn darparu rhestr o opsiynau tai eraill sydd ar gael i gyn-filwyr. Mae gwybodaeth bellach am y rhestr ar eu gwefan yn: www.britishlegion.org.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, i gael cymorth gyda budd-daliadau, gan gynnwys help gyda chostau tai, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Arian a Budd-daliadau Cronfa Les Llu Awyr Brenhinol y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Llinell Gymorth: 0845 266 6696
E-bost: rbl.rafbf@citizensadvice.co.uk
Mae’r SPVA (Service Personnel and Veterans Agency) wedi cynhyrchu Map Gwybodaeth. Rydych yn medru ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion mudiadau eraill yn eich ardal sydd efallai’n medru eich helpu.
Rydych yn medru chwilio am fudiadau sy’n helpu gyda:
Mae’r Map Gwybodaeth ar gael ar-lein yn: www.veterans-uk.info.
Neu ffoniwch llinell gymorth yr SPVA ar 0800 169 22 77.
Mae Sefydliad Syr Oswald Stoll yn darparu tai a chefnogaeth i gyn-filwyr sy’n agored i niwed a chyn-filwyr anabl, a’u dibynyddion, yn Lloegr.
Os cewch gynnig lle yn un o’u cartrefi, maen nhw’n darparu cartref am oes os fyddwch chi ei angen, neu help i ddod o hyd i hyfforddiant a gwaith i fynd yn ôl i fyw’n annibynnol.
Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig trwy gysylltu â nhw yn:
Sefydliad Syr Oswald Stoll
446 Fulham Road
London
SW6 1DT
Rhif Ffôn: 0207 385 2110
Gwefan: www.oswaldstoll.org.uk.
Os ydych yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn gyn-filwr neu’n dibynnu ar berson sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr, rydych yn medru cael cyngor rhad ac am ddim ar dai gan Help Lluoedd SSAFA (Soldiers, Sailors, Airmen and Families Association).
Maen nhw’n rhoi cyngor a chymorth i’r rheiny sy’n gymwys i gael help. Maen nhw hefyd yn darparu rhai cyfleusterau tai.
Maen nhw hefyd yn rhoi help i bobl sy’n ddigartref.
Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â’r cynghorydd tai yn:
Rhif Ffôn: 020 7463 9398
E-bost: housing@ssafa.org.uk
Gwefan: www.ssafa.org.uk.
Os ydych yn ddigartref, neu’n debygol o ddod yn ddigartref, mae help ar gael gan Veterans Aid.
Maen nhw’n medru rhoi help uniongyrchol ar unwaith i gyn-filwyr sy’n agored i niwed i ddod o hyd i lety mewn hostel.
Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â nhw yn:
Veterans Aid
40 Buckingham Palace Road
Victoria
London
SW1W 0RE
Llinell Gymorth: 0800 012 68 67
E-bost: info@veterans-aid.net
Gwefan: www.veterans-aid.net
Mae Veterans Scotland yn cynnig mynediad i lety a reolir gan fudiadau sy’n aelodau. Mae amrywiaeth o opsiynau tai ar gael i gyn-filwyr a’u dibynyddion eu rhentu. Mae hyn yn amrywio o lety hostel i bobl sengl, i dai sydd wedi eu haddasu ar gyfer cyn-filwyr anabl. Mae yna lety ar gael ar draws yr Alban.
Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â nhw yn:
Veterans Scotland
New Haig House
Logie Green Road
Edinburgh
EH7 4HR
Rhif ffôn ar gyfer gwybodaeth gyffredinol: 0131 550 1569
Rhif ffôn ar gyfer cyngor ar dai: 0131 550 1595
Ffacs: 0131 557 5819
E-bost ar gyfer gwybodaeth gyffredinol: vsadmin@poppyscotland.org.uk
E-bost ar gyfer cyngor ar dai: enquiries@veteransscotland.org.uk
Gwefan: www.veteransscotland.co.uk.
Aftercare (Gogledd Iwerddon)
Mae Aftercare yn elusen yng Ngogledd Iwerddon sy’n darparu cymorth meddygol, galwedigaethol a lles i gyn-filwyr llawn amser a rhan amser yr UDR a’r Royal Irish (HS) a’u teuluoedd. Mae ganddynt bedwar tîm maes yn Coleraine, Holywood, Portadown ac Enniskillen.
Fe allwch ffonio’r timau maes yn uniongyrchol:
Gogledd (Coleraine) 02892 260615
Dwyrain (Holywood) 02890 420266
Gorllewin (Enniskillen) 02892 260114
De (Portadown) 02892 260044
Gwefan: www.aftercareservice.org