Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae llawer o bobl yn dechrau meddwl mwy am eu cartref wrth iddynt fynd yn hŷn. Efallai y byddwch yn hapus i aros ble’r ydych chi, ond efallai yr hoffech gael rhywfaint o help i wneud bywyd yn haws. Ydych chi angen atgyweiriadau neu addasiadau i’ch cartref er mwyn i chi fedru parhau i fyw yno’n gyffyrddus? Neu efallai eich bod yn meddwl am symud i rywle llai neu’n agosach at eich teulu a’ch ffrindiau. A fyddai symud i fyw at eich teulu’n syniad da? Beth am dŷ gwarchod? Ai cartref gofal fyddai orau i chi?
Yng Nghymru a Lloegr, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar eich opsiynau tai ar gael ar wefan Age UK yn: www.ageuk.org.uk (Lloger), www.ageuk.org.uk (Cymru).
Mae Age UK hefyd yn cynhyrchu gwybodaeth fwy manwl ynglŷn â chartrefi gofal. Fe allwch weld yr wybodaeth hon ar-lein yn: www.ageuk.org.uk.
Mae gan Age UK linell gyngor hefyd. Rydych yn medru cysylltu â nhw ar 0800 169 6565.
Mae yna linell gymorth arall hefyd sy’n rhoi cyngor cyffredinol i bobl hŷn, yn enwedig ynghylch gofal, tai a chyllid. Enw’r llinell gymorth yw FirstStop ac fe allwch gysylltu â nhw ar: 0800 377 7070. Cyfeiriad eu gwefan yw: www.firststopcareadvice.org.uk.
Os ydych chi angen llety wedi’i addasu’n arbennig, fe allwch ofyn am gael eich manylion wedi eu gosod ar un o’r Cofrestrau Tai Hygyrch, neu fwy.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chofrestrau Tai Hygyrch, gweler Dod o hyd i lety.