Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dod o hyd i rywle i fyw

two girls bouncing on the balls outdoors

Os ydych yn chwilio am rywle i fyw, boed yn lety brys neu brynu neu rentu eiddo, fe fydd help a chyngor ar y tudalennau canlynol.

Os ydych ychydig yn iau neu ychydig yn hŷn, mae yna wybodaeth sy’n gallu eich helpu i ddewis yn ddeallus ynghylch eich opsiynau tai.

Dod o hyd i lety

Help i ddod o hyd i lety os ydych yn ddigartref. Gwybodaeth ar rentu ac ar gynlluniau i’ch helpu i brynu eich cartref eich hun. Cyngor ar flaendaliadau; beth i’w wneud os yw’ch landlord yn gwahaniaethu yn eich erbyn, a’ch hawliau fel tenant anabl.

Pobl ifanc a thai

Cyngor a gwybodaeth os ydych dan 18 ac yn chwilio am rywle i fyw. Ble i gael help os ydych yn ddigartref; gwybodaeth ar rentu a dolenni at fudiadau sy’n medru helpu.

Opsiynau tai i bobl hŷn

Wrth i chi heneiddio, mae eich anghenion tai yn medru newid. Dyma gyfle i chi ddarganfod beth yw eich opsiynau tai, gan gynnwys cael help i addasu eich cartref a dolenni at fudiadau sy’n medru helpu.

Rhyddhau ecwiti - codi arian o’ch cartref

Rydych yn medru cael incwm ychwanegol, un swm o arian parod, neu’r ddau, gan ddefnyddio eich cartref fel ecwiti. Dysgwch fwy am gynlluniau rhyddhau ecwiti amrywiol a sut i’w defnyddio.

Cartrefi gofal

Fe fydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i benderfynu ai symud i gartref gofal yw’r dewis iawn i chi. Mae yna gyngor ar gael hefyd ar ddod o hyd i gartref gofal a thalu amdano.

Opsiynau tai i bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd

Ar y dudalen hon, mae gwybodaeth ar fudiadau sy’n medru eich helpu chi, a ble i gael help a chyngor os ydych yn berson hŷn, yn anabl neu’n ddigartref.

Sgwatio

Nid yw sgwatio yn erbyn y gyfraith, ond gellir eich troi chi allan.

Cwestiynau Cyffredin ynglyn â Thai

questionmark symbolYr atebion i'ch cwestiynau mwyaf poblogaidd.

Taflenni ffeithiau Tai

Adobe Acrobat symbolFe fyddwch chi angen Adobe Acrobat Reader i weld y taflenni ffeithiau.