Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Os ydych yn ystyried cael morgais, mae yna sawl opsiwn gwahanol ar gael i chi. Dylech ymchwilio’n ofalus i’r holl opsiynau er mwyn sicrhau eich bod yn dewis yr un iawn i chi. Dyma’r mathau mwyaf cyffredin.
Gyda’r morgais hwn, rydych yn benthyg yr arian cyfalaf ac yn ad-dalu'r swm a fenthyciwyd yn raddol dros gyfnod y benthyciad. Rydych yn talu taliadau misol ynghyd â swm o log bob mis. Mae’r cyfalaf yr ydych yn ei ad-dalu yn cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd tra bod y llog yn gostwng.
Gyda’r math yma o forgais, rydych yn talu llog ar y benthyciad trwy daliadau misol i’r benthyciwr. Yn lle ad-dalu’r benthyciad bob mis, rydych yn talu arian i mewn i gynllun buddsoddi tymor hir neu gynllun cynilo. Dylai’r cynllun gynyddu ddigon i glirio’r benthyciad ar ddiwedd cyfnod y morgais ac, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd arian yn weddill ac y bydd taliad yn dod yn ôl atoch. Fodd bynnag, mae yna berygl hefyd na fydd yn werth digon i dalu’r benthyciad ar ddiwedd cyfnod y morgais. Mae hyn yn golygu y bydd diffyg gennych ac fe fydd angen i feddwl am ffordd o’i dalu.
Mae yna dri phrif fath o forgais llog yn unig, sef:
Gyda morgais Islamaidd, ni fydd unrhyw rai o'r taliadau misol yn cynnwys llog. Yn hytrach, mae’r benthyciwr yn codi tâl am fenthyg yr arian i chi i brynu eich eiddo ac fe fyddwch yn medru ei ad-dalu mewn sawl ffordd, er enghraifft, trwy godi rhent arnoch.
Mae morgais yn medru bod ar gael o nifer o ffynonellau gwahanol. Dyma rai o’r opsiynau sydd ar gael:-
I rai grwpiau o bobl, fel y rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf, a gweithwyr allweddol, efallai y bydd hefyd yn bosib benthyg peth o’r arian sydd ei angen arnoch i brynu cartref o ffynonellau eraill a gefnogir gan y llywodraeth. Fel arfer, fe fydd angen i chi fenthyg gweddill yr arian gan fenthyciwr morgais arferol fel banc neu gymdeithas adeiladu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth i’ch helpu i brynu eich cartref eich hun, yn Lloegr gweler HomeBuy yn Dod o hyd i lety ac, yng Nghymru, gweler HomeswithinReach yn Dod o hyd i lety.
Yn lle mynd yn syth at fenthyciwr fel cymdeithas adeiladu, i gael morgais, mae’n bosib defnyddio brocer. Mae brocer yn medru bod yn gwmni gwerthu tai, neu’n frocer morgais neu yswiriant. Fe fyddan nhw’n gweithredu fel asiant i gyflwyno pobl at ffynhonnell morgais i’w helpu i brynu cartref.
Efallai y byddwch am ddefnyddio brocer os ydych yn ei chael yn anodd cael morgais yn uniongyrchol gan fenthyciwr.
Mae yna reolau ynghylch faint mae brocer yn medru ei godi am ei wasanaethau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch broceriaid morgais, rhowch glic ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch morgeisi, gweler Prynu cartref.
Os ydych yn ystyried cael morgais, dylech sicrhau yn gyntaf eich bod ond yn benthyg y swm y byddwch yn medru fforddio ei ad-dalu. Os nad ydych yn talu’r taliadau a gytunwyd, mae’r cwmni sy’n benthyg i chi yn medru cymryd yr eiddo oddi arnoch.
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol o’r enw 'You can afford your mortgage now, but what if…?'. Fe allwch ddarllen y canllawiau ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Fe allwch ddefnyddio’u cyfrifydd morgais hefyd i’ch helpu i gyfrifo faint fedrwch chi fforddio ei fenthyg. Mae hefyd ar gael ar y wefan yn www.moneyadviceservice.org.uk.
Os oes angen cyngor pellach arnoch ar dalu am eich morgais, efallai yr hoffech siarad â chynghorydd ariannol annibynnol. Os ydych angen help i ddod o hyd i gynghorydd ariannol, rhowch glic ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.